Ciw-restr

Yr Unig Fab

Llinellau gan Griffith (Cyfanswm: 55)

 
(1, 0) 6 Tipin chwanag o'r llaeth 'na, Gwen.
 
(1, 0) 8 Wela' i ddim, ond mae o'n haws i weld na'r menyn ar y frechdan yma.
(1, 0) 9 (Gwen yn tywallt y llaeth).
 
(1, 0) 11 'Roedd gofyn reit dda ar y gwarthaig.
 
(1, 0) 13 Mi ges bris go lew, ond fydd o ddim llawar ar gyfar y rhent.
 
(1, 0) 17 Mi grefis i ddigon arno fo aros adra i ffarmio, ond 'doedd dim yn tycio.
 
(1, 0) 19 'Rodd i lythyr o'n bur galonnog.
(1, 0) 20 Ond mae misoedd ar hynny.
 
(1, 0) 25 Tybad i fod o wedi tyfu llawar?
 
(1, 0) 29 Lle mae Jane?
(1, 0) 30 Wyr hi 'mod ì wedi dwad adra o'r ffair?
 
(1, 0) 41 Flinis i ddim gormod i anghofio fy negas, 'ngenath i.
 
(1, 0) 43 Dyma fo, y ruban glas neisia oedd yn London Hows.
 
(1, 0) 50 'Does neb yn gwisgo mor smart, nag oes, 'ngeneth i?
 
(1, 0) 57 Peidiwch a bod mor siarp hefo'r lodas.
 
(1, 0) 59 'Roeddach chi'n wahanol iawn hefo John.
 
(1, 0) 61 'Chydig fudd geir drwy agor hen friwia.
 
(1, 0) 63 O'r gora, tawad y calla.
 
(1, 0) 66 Do.
 
(1, 0) 69 Mi wrthododd yn bendant yn helpu ni efo'r rhent, er i fod o wedi cael pris ucha'r ffair am i fustych.
 
(1, 0) 72 Mynd ar ofyn gŵr y siop am wn i.
 
(1, 0) 74 Rhaid i cael nhw o rwla.
(1, 0) 75 Does yma mo'r hannar.
 
(1, 0) 77 Dwad rwsut bydd y rhent bob blwyddyn.
 
(1, 0) 79 Gofid sydd i gael o hyd.
 
(1, 0) 81 Gweld mab y Fron Ganol yn feddw yn y ffair.
 
(1, 0) 83 Dim.
(1, 0) 84 Ond y fi geith y gwaith o'i geryddu o—y peth anhowsa yn y byd gin i neud.
 
(1, 0) 87 Cofiwch am i dad a'i fam o.
 
(1, 0) 90 Peth bychan iawn ydi peth fel'na.
(1, 0) 91 Ond peth mawr fydda cychwyn y bachgan ar y ffordd lydan.
 
(1, 0) 94 Cofiwn am i rieni o hefyd.
 
(1, 0) 97 Peidiwch a bod yn wamal hefo petha difrifol, Gwen.
(1, 0) 98 Be pe basa un o'n plant ni wedi cychwyn i'r cyfeiriad chwith?
 
(1, 0) 105 Pwy sy 'na?
(1, 0) 106 Dowch i miawn o'r drws!
 
(1, 0) 112 Tramp wela i, budur a charpiog.
 
(1, 0) 114 Cheith dim tramp fod yn fab i mi.
(1, 0) 115 Dos allan i'r ffosydd, grwydryn!
 
(1, 0) 122 Fy mab yn droseddwr! yn ffoi rhag cosp cyfraith i wlad!
 
(1, 0) 125 Be sy i neud?
(1, 0) 126 Y Nefoedd i hunan wyr.
 
(1, 0) 136 Rwan, distewch, gael imi i glywad o.
(1, 0) 137 Ma'n debig fod gynno fo stori reit ddel.
 
(1, 0) 143 Fy mab yn feddwyn a chrwydryn!
(1, 0) 144 Ergid drom i galon tad ydi dy stori di, John.
 
(1, 0) 152 Am feddwi ma'r heddgeidwaid ar d'ol di?
 
(1, 0) 166 Ydi dy stori di'n berffaith wir?
 
(1, 0) 172 Chweilith y cwnstabl byth mo'r stori.
 
(1, 0) 177 Os, Gwen, nes mae o bron a fy llethu, ond sut cysona i fy nheimlad fel tad a 'nledswydd fel dyn?
(1, 0) 178 Mi welaf o 'mlaen f'unig fab, mi wela hefyd droseddwr cyfraith 'y ngwlad.
(1, 0) 179 Plentyn yn gofyn tosturi a lleidar yn erfyn help dyn gonast i guddio 'i weithredodd.
 
(1, 0) 183 Ydw, John; ond be na' i?
 
(1, 0) 191 Dowch i miawn, Mr. Brown.
 
(1, 0) 202 Ydach chi'n i nabod o, Mr. Brown?