| (1, 0) 21 | Hei. |
| (1, 0) 24 | Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd. |
| (1, 0) 26 | M? |
| (1, 0) 29 | O. |
| (1, 0) 31 | Ti'n cadw'n iawn? |
| (1, 0) 34 | Prysur. |
| (1, 0) 35 | Ddim digon o oria mewn wsos. |
| (1, 0) 38 | Do, do, fawr ddim traffig, lori tua Ganllwyd ond o'n i 'di dechra'n ddigon buan. |
| (1, 0) 40 | Sa ti 'di sôn swni 'di cynnig lifft. |
| (1, 0) 43 | Ddoth na griw da do. |
| (1, 0) 45 | Wyddwn i ddim... |
| (1, 0) 47 | Wel, fod o'n nabod cymaint. |
| (1, 0) 50 | Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint. |
| (1, 0) 52 | Wel, ddim dyna o'dd gen i. |
| (1, 0) 55 | Biti am y tywydd. |
| (1, 0) 64 | Aaron. |
| (1, 0) 67 | Ia. |
| (1, 0) 69 | O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn. |
| (1, 0) 71 | Oedd. |
| (1, 0) 72 | Wir. |
| (1, 0) 76 | Felly o'n i'n dallt. |
| (1, 0) 77 | Da o'dd stori'r tedi. |
| (1, 0) 91 | Debyg iawn. |
| (1, 0) 98 | Dwi heb weld un o'r rheina ers blynyddoedd. |
| (1, 0) 112 | Ia, biti am y tywydd! |
| (1, 0) 113 | Aaron dwi. |
| (1, 0) 125 | O, wel, dwnim. |
| (1, 0) 130 | Gwylnos? |
| (1, 0) 132 | Pam? |
| (1, 0) 146 | O'dd o isio ni yma lly? |
| (1, 0) 152 | Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel. |
| (1, 0) 153 | Gweld sut eith hi. |
| (1, 0) 154 | Fydd rhaid mi ffonio i sôn. |
| (1, 0) 157 | Sa signal 'ma? |
| (1, 0) 159 | Foda. |
| (1, 0) 161 | Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio. |
| (1, 0) 207 | /Sori, oddi'n anodd ca'l signal hyd yn oed ar ben y bont. |
| (1, 0) 208 | Mai'n dal i fwrw. |
| (1, 0) 209 | Gymra'i un bach efo chi, er cof. |
| (1, 0) 222 | Sut lly? |
| (1, 0) 230 | Na, ddim yn y ffordd da chi'n feddwl eniwe. |
| (1, 0) 249 | Doni'm yn gwbod fod o/ |
| (1, 0) 265 | A finna. |
| (1, 0) 277 | Shit. |
| (1, 0) 323 | Be ddudodd o? |
| (1, 0) 331 | Waeth ni heb a meddwl fel'na. |
| (1, 0) 356 | Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl. |
| (1, 0) 366 | Pitsa ydi calzone. |
| (1, 0) 377 | Be'dio Goldffish? |
| (1, 0) 397 | Ti'm am ei amddiffyn o? |
| (1, 0) 416 | Waw. |
| (1, 0) 419 | Dwi'm yn gwbod, wel, yndw. |
| (1, 0) 420 | Ti'n ca'l dy fagu mewn lle penodol ac amgylchfyd penodol a ti'n teimlo rhyw gysylltiad hefo pobol dwyt. |
| (1, 0) 421 | A ti'n madda petha fel'na iddyn nhw. |
| (1, 0) 423 | God nagoes, peth cynta nes i odd deud ta-ta wrth rheiny ond 'di pawb ddim. |
| (1, 0) 431 | O'dd o'n rong. |
| (1, 0) 436 | Sa'n shit tasa ni heb, ac ydi'r ni a nhw ma'n helpu? |
| (1, 0) 438 | Dwi'n gwbod na fi a nhw di dy default di. |
| (1, 0) 440 | Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni. |
| (1, 0) 443 | Nacdi. |
| (1, 0) 444 | Meddylia sut dwi'n teimlo ma ta, dwi ofn y byddai mewn rhyw ffycin wicker man cyn bora. |
| (1, 0) 446 | Y, ia. |
| (1, 0) 447 | Ffwcio Nic Cage... |
| (1, 0) 451 | Bydd, mai'i 'di bod yn flynyddoedd. |
| (1, 0) 452 | Mi fasa... |
| (1, 0) 454 | Dio'm 'di hitio fi sti. |
| (1, 0) 455 | Dwi'm yn gwbod pryd neith o. |
| (1, 0) 461 | Nes i 'rioed feddwl lot am lle gath o'i fagu, dodd o'm yn trafod y lle. |
| (1, 0) 462 | Ma'n siwtio fo mewn ffordd, er na faswn i byth 'di meddwl am y lle fel'ma. |
| (1, 0) 464 | Coedan? |
| (1, 0) 466 | Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir. |
| (1, 0) 474 | Ma'i 'di bod yn wsos anodd. |
| (1, 0) 479 | Ma'n naturiol siŵr. |
| (1, 0) 519 | So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o? |
| (1, 0) 536 | God. |
| (1, 0) 545 | Be 'da ni, plant? |
| (1, 0) 556 | O'dd o'n chwara twister? |
| (1, 0) 561 | Fydda fo'n cicio'n nhin i ar Cluedo. |
| (1, 0) 565 | Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd. |
| (1, 0) 569 | Jesd lwc ydi hon de. |
| (1, 0) 578 | Ma'n gneud sens. |
| (1, 0) 596 | Pam fod gan chimps ddim cynffona? |
| (1, 0) 600 | Hen dinna' hyll sgynyn nhw de. |
| (1, 0) 611 | Fedrai goelio hynna deud gwir. |
| (1, 0) 619 | Ma nhw'n llai, ac yn blasu'n wahanol. |
| (1, 0) 632 | Wel, di hynny'm yn/ |
| (1, 0) 638 | Doni'm yn gwbod. |
| (1, 0) 651 | O'dd pawb yn meddwl bo chi efo'ch gilydd. |
| (1, 0) 689 | Sa ti di gallu sôn... |
| (1, 0) 700 | Dwnim. |
| (1, 0) 702 | Wel, nath o'm golchi'i lestri am fisoedd yn y tŷ oedd ganddo fo a mi dyfodd na fyshrwms arnyn nhw. |
| (1, 0) 703 | Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd. |
| (1, 0) 706 | Brifysgol. |
| (1, 0) 707 | O'n i ddwy flynadd yn hŷn na fo, cyfarfod pan odda ni allan. |
| (1, 0) 710 | Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/ |
| (1, 0) 712 | /y? |
| (1, 0) 714 | Ia, wedyn yfad yn y fflat cyn mynd allan... |
| (1, 0) 715 | Sori dwi'm yn dda iawn am siarad am betha fel'ma. |
| (1, 0) 716 | Cnebrwng cynta i mi fynd iddo fo rili, ac i feddwl na rhywun tua'r un oed a fi o'dd o. |
| (1, 0) 717 | Mond un nain sgin i a ma hi dal yn fyw, rhyw fath, mewn cartra ochra Deganwy. |
| (1, 0) 718 | O'dd lleill 'di marw cyn mi gal fy ngeni. |
| (1, 0) 719 | Cansar a hartan. |
| (1, 0) 720 | A da ni'm i fod i farw nacdan? |
| (1, 0) 721 | Ti'n disgwl pobol yn priodi dwyt, a ca'l plant. |
| (1, 0) 722 | Ond ddim marw, wbath at nes mlaen di hwnnw de. |
| (1, 0) 723 | Lot o'n ffrindia fi 'di dechra priodi fyd, pawb yn setlo rwan, rhaid chdi cyn ti'n thyrti bydd. |
| (1, 0) 724 | Ffendio rhywun, cal tŷ, cal morgej, plant ella, ne gi os di plant yn ormod o gommitment. |
| (1, 0) 725 | Ma' 'na ogla panic mewn pybs a clybia rŵan pan dwi yna efo criw r'un oed a fi sti, beioleg dio, ogla hormons o'dd o ddeg mlynadd nol. |
| (1, 0) 728 | Oia? |
| (1, 0) 733 | Poeni? |
| (1, 0) 754 | Be 'di enw'r cariad? |
| (1, 0) 756 | Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi. |
| (1, 0) 761 | Pam? |
| (1, 0) 764 | Dwi'n weld o'n annifyr, fydda fo sti yn deud rhyw betha weithia, petha annifyr mond fod o 'di newid pitj y frawddeg fel bo hi'n jôc. |
| (1, 0) 765 | Dwi 'di bod o gwmpas llefydd fel fama o'r blaen, 'di ca'l fy magu mewn lle tebyg a dachi'n deud jôcs ac yn chwerthin ond dachi'n casáu'ch gilydd go iawn. |
| (1, 0) 766 | Casáu'ch hunan fyd. |
| (1, 0) 767 | Nes i drio helpu fo efo hynny. |
| (1, 0) 769 | Odda ni efo'n gilydd, Arwel, am ddwy flynadd. |
| (1, 0) 770 | Dwi'm yn synnu fod o heb sôn. |
| (1, 0) 773 | M. |
| (1, 0) 775 | Sut galla fo? |
| (1, 0) 777 | Sut galla fo sôn wrtha chdi, a'r cefndar 'na a gweddill criw pen yma. |
| (1, 0) 778 | Mewn ardal lle ma gê yn rwbath ma plant ysgol yn ddeud fatha insult? |
| (1, 0) 779 | Lle os wti fymryn yn wahanol ma'n iawn i bobol dynnu arna chdi a dy fwlio di. |
| (1, 0) 780 | Os tisio ffendio lle ddechreuodd hyn dos yn ôl i'r ysgol na lle odda chi gyd. |
| (1, 0) 782 | Deud ti. |
| (1, 0) 791 | Dio'm ots gen i, dio'm ots gen i am ddim byd heno ma. |
| (1, 0) 792 | Ffyc it. |
| (1, 0) 794 | Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel? |
| (1, 0) 800 | Ydi. |
| (1, 0) 808 | Shit. |
| (1, 0) 809 | Nes di ddeud sa chdi'n dod yn ôl fel ysbryd do. |
| (1, 0) 810 | A ma'r tŷ 'ma'n llawn ohonna chdi. |
| (1, 0) 811 | Tisio clywad ni'n deud bo ni'n drist wyt? |
| (1, 0) 812 | Bo ni'n dy fethu di? |
| (1, 0) 813 | Wel dwi yn, a mi o'n i cynt, a wedyn do'n i ddim, a dyna sy'n normal, dyna sut ma' pobol fod. |
| (1, 0) 815 | Os na rhywun heblaw fi yn y stafall 'ma yn gwbod sut odda chdi go iawn? |
| (1, 0) 816 | O'dd 'na rywun yn y capal 'na? |
| (1, 0) 817 | Sut odda chdi'n gallu bod yn oriog ac annifyr a pwdlyd ac yn ffycin gas heb fod isio ond yn hollol briliant hefyd? |
| (1, 0) 818 | A gallu'n ngwylltio fi i'r ffasiwn radda... |
| (1, 0) 819 | Nes i drio. |
| (1, 0) 820 | Wir i chdi mi nes, ond ma' 'na ddiwadd ar drio ac ar allu hefyd a dwi'n sori am hynny. |
| (1, 0) 821 | Dwi'n gwbod na fi o'dd yn wan masiwr. |
| (1, 0) 824 | Dwi'm yn gwbod pam nes i'm atab. |
| (1, 0) 825 | Dduda i mod i'n brysur, ne 'di blino, ne fod o'm yn gyfleus. |
| (1, 0) 826 | Dduda i mod i heb glywad y ffycin ffôn na'n canu ac yn canu. |
| (1, 0) 827 | Fydd na neb callach. |
| (1, 0) 828 | Ond dwi'm yn gwbod pam. |
| (1, 0) 829 | O'n i'n gwbod bo chdi yna. |
| (1, 0) 830 | Ond... odda ni 'di ffraeo ers blynyddoedd! |
| (1, 0) 831 | Odda chdi di dod yn ôl i'r shithol yma at dy fam a'r josgins ma' ers hynny. |
| (1, 0) 832 | Mond pan odda chdi'n pisd odda chdi'n tecstio a choelia ne beidio dydi llun sgi wiff o goc llipa ddim yn mynd i neud i neb ddisgyn yn ôl mewn cariad efo chdi. |
| (1, 0) 833 | Oni'n gwbod na ddim dyna o'dd y tro dwytha na ond, dwnim. |
| (1, 0) 834 | Do'n i'm isio chdi farw. |
| (1, 0) 835 | Ond oni isio llonydd. |
| (1, 0) 836 | Brêc. |
| (1, 0) 837 | Ac o'n i 'di symud mlaen, 'di ffendio rhywun arall, a, dwnim, odda ti'n fwy o hasyl na dim byd arall. |
| (1, 0) 838 | Ond dwi'n dy ffycin fethu di fyd. |
| (1, 0) 842 | Fi, sori i dy ddeffro di. |
| (1, 0) 845 | Cyfieithu ti ia? |
| (1, 0) 847 | Ffonia fewn, gei di gymyd amsar off efo galar sti, dwi'n gyfreithiwr, ddylia mod i'n gwbod. |
| (1, 0) 850 | Be, o'dd o'n sôn am danai? |
| (1, 0) 852 | Am be lly? |
| (1, 0) 856 | O, wel, oce. |
| (1, 0) 859 | Dwi'm yn gwbod, dwni'm pam fod o isio neb yma o gwbwl. |
| (1, 0) 863 | I ddechra cychwyn ia, ond fedri di dal gal ffrindia gwaith. |
| (1, 0) 865 | Crwner sy'n saethu ar y wicends ydi un a dynas yn ei ffifftis sy'n byta sardins o gan wrth ei desg 'di'r llall so nagoes, ond ddim dyna ydi'r point. |
| (1, 0) 867 | Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna. |
| (1, 0) 870 | Cysylltiada? |
| (1, 0) 871 | Dwnim, doddna'm llythyr nagoedd ond o'dd 'na wbath. |
| (1, 0) 881 | Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn. |
| (1, 0) 889 | Swni'n lecio gwbod fyd. |
| (1, 0) 901 | Naddo... |