Cuesheet

Cyfyng-Gyngor

Lines spoken by Abram (Total: 51)

 
(1, 0) 272 Mae'n ddrwg gen' i eich cadw.
(1, 0) 273 Ond fel y gwyddoch 'dydw' i ddim mor sionc ag y bum i...
(1, 0) 274 Ydy' pawb yma?... Lewis?
 
(1, 0) 277 Na, mi ydw' i'n iawn 'rwan, Sioned.
(1, 0) 278 'Rwyn gwybod am bob modfedd yn 'rhen dŷ yma.
 
(1, 0) 280 Wel, dyma ni o'r diwedd.
(1, 0) 281 Mae'n dda gen' i'ch cyfarfod yn y cnawd.
 
(1, 0) 286 Ia?
 
(1, 0) 289 'Does yna ddim amheuaeth ynglŷn â hynny.
(1, 0) 290 Hen blasty-fferm "Llwyn Bedw" ydy' hwn.
(1, 0) 291 Yma y ce's i fy ngeni a 'magu.
(1, 0) 292 Pam 'rydych chi'n gofyn?
 
(1, 0) 294 O? Wel, 'rydych yn camsynied yn siŵr i chi.
(1, 0) 295 Mae'r hen blasty yma'n y teulu ers amser y Tuduriaid.
(1, 0) 296 Edrychwch ar yr arfbais uwchben y drws acw.
(1, 0) 297 A dyma i chi'r hen simdde fawr: 'welwch chi'r enwau wedi'u cerfio ar y pren?
(1, 0) 298 Cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o fechgyn y teulu,─ma' nhw i gyd yma.
(1, 0) 299 A minnau rywle yn eu plith.
 
(1, 0) 301 Ia, dyma fo...
(1, 0) 302 Naw oed oeddwn i ar y pryd, ond 'rwy'n ei gofio fel petai ddoe.
 
(1, 0) 309 Yn anffodus 'rwy' bron yn ddall.
(1, 0) 310 Ond petai fy ngolwg gen' i, mi wn yn iawn be' welwn i allan acw.
(1, 0) 311 Y llwyn bedw-arian yn y pant, a'r cae yd yn ymestyn at odre'r bryn.
(1, 0) 312 A'r Cnicht yn codi fel dagr ar y gorwel.
 
(1, 0) 314 Clywch!...
(1, 0) 315 Dyna i chwi goch-y-berllan yn switian wrth y ffynnon... a phibydd-y-waun yn ei ateb yn y pellter.
 
(1, 0) 317 'Rwy' wedi gwrando ar eu deuawd ganwaith yng nghwrs y blynyddoedd.
 
(1, 0) 355 Gad iddo fynd, Seth.
 
(1, 0) 357 Ydw' 'machgen i, 'rwy'n deall.
(1, 0) 358 Ond 'fynna' i ddim i ti ei rwystro.
 
(1, 0) 397 Croeso i chi yma, merch i.
(1, 0) 398 Mi wyddwn na fyddech chi ddim yn hir.
 
(1, 0) 414 Diolch, Sioned.
 
(1, 0) 478 Mae'n ddrwg gen' i, 'alla' i ddim ymyrryd rwan.
(1, 0) 479 Rhaid i bethau gymryd eu cwrs bellach.
(1, 0) 480 Ma' nhw'n benderfynol o fynd eu ffordd eu hunain.
(1, 0) 481 'Rwyf fi wedi byw fy mywyd a chyrraedd oed yr addewid.
(1, 0) 482 Mae'r gorffennol yn golygu mwy i mi na'r ychydig amser sydd o'm blaen.
(1, 0) 483 Ond mae pethau'n wahanol iddyn' nhw: 'rwy'n deall eu dyhead am ryddid a hunan fynegiant.
(1, 0) 484 'Does gen'i ddim hawl i'w rhwystro.
 
(1, 0) 499 Gellwch fod yn dawel eich meddwl.
(1, 0) 500 Mae o wedi mynd.
(1, 0) 501 'Ddaw o ddim yn ôl heb i ni alw arno.
 
(1, 0) 562 'Does gen' i ddim ond hyn i'ddweud: ymddiriedaeth cysegredig ydy' Rhyddid.
(1, 0) 563 Gobeithio y byddwn ni'n deilwng ohono.
(1, 0) 564 Ac os ca' fi gynnig gair o gyngor, fe dâl i ni ofalu bod gennym angor yn ein bywyd newydd.
(1, 0) 565 Mae peryg' mawr i ni fynd ar ddisberod hebddo...
(1, 0) 566 Dyna'r cyfan am wn i.
 
(1, 0) 568 Rwan, mae'n amser i mi fynd.
 
(1, 0) 571 O, o'r gora', Doctor.
(1, 0) 572 Diolch i chi.