| (1, 1) 103 | Ha! Pwy yma sy'n ymguddio! |
| (1, 1) 105 | Y duwiau drugarhaont! Genwissa yw! |
| (1, 1) 106 | Rhaid imi ffugio fel na'm hadwaen i! |
| (1, 1) 108 | Wel! Dyma 'sglyfaeth ryfel, onide! |
| (1, 1) 115 | Cawn weled yn y man. {Yn troi oddiwrthi at Venutius.} |
| (1, 1) 117 | Rwy'n diolch iti am yr hyn a wnest. |
| (1, 1) 118 | Caradog ga ro'i diolch gwell iti. |
| (1, 1) 121 | A gwnaethost hynny heddyw'n ddewr fel cynt. |
| (1, 1) 122 | Urddasol gennad ddylai fyn'd ar frys |
| (1, 1) 123 | A'r newydd i Caradog ddarfod i |
| (1, 1) 124 | Ni heddyw daro llengoedd Cesar falch |
| (1, 1) 125 | Yn glîn a borddwyd. Yntau wedi ffoi. |
| (1, 1) 127 | Fod Cesar yn ei wersyll yn ddiogel. |
| (1, 1) 143 | 'Rwyt ti'n anghofìo mai carchares wyt! |
| (1, 1) 145 | Na ddwed y gair! Nid oes 'run pennaeth mwyn |
| (1, 1) 146 | Ymhlith penaethiad Prydain heddyw! |
| (1, 1) 147 | Mae gormes creulawn Rhufain wedi gwneud |
| (1, 1) 148 | I fwynder ffoi o galon pob Prydeiniwr! |
| (1, 1) 151 | Yn fwyn i ti! Rufeines! Gelyn Prydain! |
| (1, 1) 153 | Na! Na wnaf byth! Rhy werthfawr wyt imi. |
| (1, 1) 156 | Beth am fy mreichiau i? {Yn dal ei freichiau allan ati; hithau'n cilio'n ol.} |
| (1, 1) 157 | Yw Cesar yn gyfoethog? Mi yn fwy! |
| (1, 1) 158 | Rhy fach holl gyfoeth Rhufain i dy brynu di. |
| (1, 1) 162 | 'Run Cesar sydd ym Mhrydain heddyw. |
| (1, 1) 165 | Pwy ydyw ef, atolwg? |
| (1, 1) 168 | Afarwy? Twt! Nid wyf yn malio clec fy mawd {yn clecian ei fysedd} |
| (1, 1) 169 | Am dano ef! Rhyw goegyn llys, a llwfryn gwael—— |
| (1, 1) 174 | Iti'th ddymuniad! Gwel! Edrych ar Afarwy. {Yn gwthio ei helm yn ol oddiar ei ben.} |
| (1, 1) 176 | A b'le, atolwg, oedd dy lygaid di |
| (1, 1) 177 | Na fuaset yn fy adwaen? Neu, a yw |
| (1, 1) 178 | Afarwy wedi mynd yn llwyr o'th gof? |
| (1, 1) 183 | A minnau'n anystyriol yn parhau |
| (1, 1) 184 | Dy ofn mor hir! O maddeu im'! {Yn estyn ei ddwylaw allan yn ymbilgar tuag ati; ymaflyd yn, a chusanu ei llaw.} |
| (1, 1) 189 | Yn fwy difrifol nag yw Afarwy—bob amser. |
| (1, 1) 191 | Wel, ïe'n siwr! A fynnet imi fod yn rhywun arall? |
| (1, 1) 194 | A gaf fì ddweyd? |
| (1, 1) 198 | Eto? ïe, ac eto ddengwaith wed'yn! |
| (1, 1) 199 | Ddoe, heddyw, foru, eleni, a'r flwyddyn nesaf, |
| (1, 1) 200 | A phob ryw awr, a dydd, a blwydd o'm hoes! |
| (1, 1) 209 | Yn ol i wersyll Cesar. |
| (1, 1) 211 | Rhaid! Rhaid! Er mwyn anrhydedd Prydain rhaid im' wneud! |
| (1, 1) 218 | Mor oludog Rhufain, nis gallai'r ddau yn un |
| (1, 1) 219 | Ro'i pris cyfartal im' am danat ti! |
| (1, 1) 221 | F'anrhydedd a'm gorfoda i wneud hyn. |
| (1, 1) 222 | Cha'r un Rhufeiniwr balch droi bys mewn gwawd |
| (1, 1) 223 | At frawd Caradog! Ond y rhyfel sydd |
| (1, 1) 224 | Yn gwneud im' dynnu cledd yn erbyn Cesar |
| (1, 1) 225 | A glodd fy nhafod rhag i hwnnw ddweyd |
| (1, 1) 226 | Yr hyn a leinw'm calon 'nawr a byth, |
| (1, 1) 227 | A'r peth na weddai im' ei ddweyd tra mi |
| (1, 1) 228 | Yn ymladd fel yr wyf, ac fel y gwnaf, |
| (1, 1) 229 | Yn erbyn Cesar. Tyr'd, Dywysoges fwyn. |
| (1, 1) 230 | Genwissa anwyl gynt—Merch Cesar 'nawr, |
| (1, 1) 231 | Dy arwain wnaf yn ol i law dy dad. |
| (1, 1) 232 | Merch Cesar farna 'rhyn ddymunwn ddweyd, |
| (1, 1) 233 | A'r hyn a ddywedaswn, ïe'n hyf |
| (1, 1) 234 | Ynghlust Genwissa, ac i'w chalon hi, |
| (1, 1) 235 | Pe na bae'r rhyfel yn ei chadw hi |
| (1, 1) 236 | Yngwersyll gelyn Prydain. |
| (1, 1) 246 | Wel, tyred! Awn i wersyll Cesar! |