| (2, 1) 1318 | Henffych well i'r Brenin! |
| (2, 1) 1319 | Gras a gwrogaeth oddi wrth fy nhad Sadoc. |
| (2, 1) 1322 | Gweld Joab ar y ffordd |
| (2, 1) 1323 | A chlywed braint ein tŷ gan y Cadfridog. |
| (2, 1) 1324 | A phan aeth yntau rhagddo i dŷ fy nhad |
| (2, 1) 1325 | I lonni ei galon hen â'r fath newyddion, |
| (2, 1) 1326 | Fod Brenin Israel heddiw am anrhydeddu |
| (2, 1) 1327 | Ein cronglwyd ac ymweliad, rhedais yma |
| (2, 1) 1328 | O wir lawenydd i'th hebrwng ar ran Sadoc. |
| (2, 1) 1329 | Croeso, O Frenin mawr, i dŷ fy nhad. |
| (2, 1) 1334 | Dwfr, deg arglwyddes;—yr wyf tan ddisgyblaeth. |
| (2, 1) 1343 | Ie, Dywysog. |
| (2, 1) 1347 | Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf. |
| (2, 1) 1350 | Diau, f'arglwydd. |
| (2, 1) 1351 | Cŵsi yw'r rhedwr gorau yng Nghaersalem. |
| (2, 1) 1353 | Naddo, syr, ddim eto. |
| (2, 1) 1356 | 'Rwyf |
| (2, 1) 1357 | Ar gwrs ymarfer, ac ni phrofaf win |
| (2, 1) 1358 | Nes trechu'r campwr Cŵsi, caethwas Joab. |
| (2, 1) 1375 | Yn ffydd fy mrenin fyth ni allaf fethu. |
| (2, 1) 1380 | A'th ymddiriedaeth di, arglwyddes fwyn. |
| (2, 2) 1727 | Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc, |
| (2, 2) 1728 | Sydd newydd glywed. Archodd fi ar frys |
| (2, 2) 1729 | I redeg yma o'r Cysegr â'r neges hon: |
| (2, 2) 1730 | "Os myn y Brenin weled Arch yr Arglwydd |
| (2, 2) 1731 | Yn arwain allan heddiw ar flaen y llu |
| (2, 2) 1732 | I'r anial gyda'th osgordd, dweded y gair..." |
| (2, 2) 1733 | Mae chwech ohonom a'i cyfrifai'n fraint |
| (2, 2) 1734 | Cael rhoi ein hysgwydd tani, a chario'i bendith |
| (2, 2) 1735 | A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych. |
| (2, 2) 1740 | Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych. |
| (2, 2) 1743 | Dyro imi'r fraint. |
| (2, 2) 1750 | Fy Mrenin grasol! |
| (2, 2) 1803 | Onid oes fantell gennyt erbyn heno? |
| (2, 2) 1807 | Cymer hon, |
| (2, 2) 1808 | Mae min ar nos yr anial. |
| (3, 1) 2400 | Diolch, Frenin da. |
| (3, 1) 2413 | Abisâg! |
| (3, 2) 2596 | Heddwch, fy Arglwydd Frenin! Bendigedig |
| (3, 2) 2597 | A fyddo Duw, a ddaeth i'n cymorth heddiw |
| (3, 2) 2598 | Yn erbyn dy elynion. Nid i ni |
| (3, 2) 2599 | Eithr i'w enw Ef y byddo clod |
| (3, 2) 2600 | Y fuddugoliaeth. Acw, yn nrysle'r coed, |
| (3, 2) 2601 | Fe'u lladdwyd wrth y miloedd, ac mae'r gweddill |
| (3, 2) 2602 | Yn rhedeg am eu heinioes rhag meirch Itai |
| (3, 2) 2604 | Duw a fendithiodd faner Dafydd heddiw. |
| (3, 2) 2605 | Rhagor... |
| (3, 2) 2609 | Ar awr y fuddugoliaeth, 'roedd cythrwfl |
| (3, 2) 2610 | Ymhlith ein milwyr—bloeddio a chroes-floeddio. |
| (3, 2) 2612 | Ni allwn aros dim i weld beth oedd. |
| (3, 2) 2613 | Fe waeddodd y Cadfridog arnaf: "Rhed; |
| (3, 2) 2614 | Brysia â'r fuddugoliaeth at y Brenin!" |
| (3, 2) 2623 | Fy Mrenin grasol a haelionus, rho |
| (3, 2) 2624 | Dy delynores fwyn yn briod im. |