| (0, 1) 26 | Hollalluog Arglwydd, wele fi yma, wrth dy ewyllys yr af fel dy gennad. |
| (0, 1) 29 | Arglwydd, af drwy'r holl fyd ac ymwelaf â hwy, fawr a mân, y sawl nid adwaeno gyfraith Dduw ac a syrthiodd yn is na'r bwystfilod. |
| (0, 1) 30 | Y sawl a droes ei galon at bethau daearol, mi a roddaf iddo ergyd fel y pylo ei lygaid ac na chaffo hyd i borth y Nef, oni bo elusen a thosturi o'i du ac yn barod i'w gymorth. |
| (0, 5) 533 | Pobun, a wyt ti mor llawen dy fryd? |
| (0, 5) 534 | A lwyr anghofiaist ti dy grewr? |
| (0, 5) 539 | Oddi wrth Fawrhydi dy luniwr y'm danfonwyd atat ti, a hynny ar frys; o'r herwydd, yma y safaf. |
| (0, 5) 547 | Er na roi di iddo Ef ond ychydig barch, yn ei nefoedd fry fe'th gofia Ef, ym mha wedd, gwneir hynny'n hysbys iti yn y man. |
| (0, 5) 550 | Mi ddywedaf iti. |
| (0, 5) 551 | Cyfrif, dyna a fynn gennyt, heb oedi! |
| (0, 5) 555 | Dyma fì, Angau! |
| (0, 5) 556 | Nid ofnaf undyn. |
| (0, 5) 557 | Dof at bawb. |
| (0, 5) 558 | Nid arbedaf neb. |
| (0, 5) 566 | [Ni thâl na dagrau na gweddi yma, rhaid cychwyn ar y daith rhag blaen.] |
| (0, 5) 570 | Dyma ben ar bob cymdeithas, ni waeth i ti heb wasgu dwylaw'n ofer. |
| (0, 5) 571 | Brysia, rhaid i ti'n awr fynd o flaen gorsedd Dduw, yno, fe gei dy gyflog. |
| (0, 5) 572 | [Ai tybio'r oeddit yn d'ynfydrwydd mai at dy wasanaeth di dy hun y rhoed iti dda'r byd hwn, yn gystal a'th einioes dy hun?] |
| (0, 5) 574 | [Nid felly; nid oedd y cwbl ond echwyn i ti; wedi dy fynd ti ymaith, eiddo arall fydd y cwbl, ac wedi ennyd, tery ei awr yntau yn ei dro, a rhaid iddo adael y cwbl a mynd.] |
| (0, 5) 575 | Chwyrn y byddaf i'n dyfod. |
| (0, 5) 577 | [Ni allaf i ganiatáu mo hynny. |
| (0, 5) 578 | Pan fyddaf i'n dyfod wyneb yn wyneb â dyn, rhof ergyd chwyrn i'w galon, ac ni bydd rybudd ymlaen llaw.] |
| (0, 5) 580 | Ni bydd wylo ond gwastraffu amser. |
| (0, 5) 583 | Ai tybio'r wyt ti y gellit ddyfod o hyd i rywun o'r fath? |
| (0, 5) 584 | O'm rhan fy hun, rhof iti fy ngair mai gwrthod y gymwynas a wnai pawb. |
| (0, 5) 587 | O'r gorau, mi af o'r golwg; eto, cymer ofal rhag ofera'r oediad hwn, ond ei ddefnyddio'n gall fel Cristion. |
| (0, 8) 785 | Ti ynfyd, buan yr aeth dy awr drosodd, ac ni ddysgaist tithau eto ddim doethineb. |
| (0, 8) 786 | Ni wyddost sut i geisio cydymaith cymwys, a buan y byddi heb un gobaith ac yn dy felltithio dy hun. |