Cuesheet

Cyfyng-Gyngor

Lines spoken by Awdur (Total: 131)

 
(1, 0) 8 Pwy ar y ddaear...?
 
(1, 0) 11 Esgusodwch fi, ond beth ydy' ystyr hyn?
(1, 0) 12 'Chlywais i monoch chi'n cnocio.
(1, 0) 13 Pwy ydych chi?
 
(1, 0) 15 Wel?...
(1, 0) 16 Edrychwch yma.
(1, 0) 17 'Does gen' i ddim amser nac amynedd i wastraffu.
(1, 0) 18 Mae arna' i eisiau eglurhad.
 
(1, 0) 20 Fi?
(1, 0) 21 Beth ydych yn 'i feddwl?
(1, 0) 22 'Wn i yn y byd─
 
(1, 0) 24 O dowch, dowch!
(1, 0) 25 Llai o'r chware plant yma!
 
(1, 0) 28 O'r gora'.
(1, 0) 29 Mae yna ryw gamgymeriad yn amlwg.
 
(1, 0) 31 Yna'n enw rheswm, 'wnewch chi esbonio'r dirgelwch i mi?
(1, 0) 32 Beth ydy'ch meddwl chi'n dwad i'r tŷ yma mor ddiseremoni?
 
(1, 0) 35 Ond—!
 
(1, 0) 37 Am y tro d'wetha', pwy ydych chi?
 
(1, 0) 40 Beth!
(1, 0) 41 'Welais i 'rioed monoch chi o'r blaen.
 
(1, 0) 47 Ydw'... rydych yn hollol ddieithr i mi.
 
(1, 0) 50 O, hwyrach i mi eich gweld yn rhywle, rywdro─yn un o'r dorf.
 
(1, 0) 52 Ond 'wn i ddim pwy ydych chi.
(1, 0) 53 'Ydy' hynna'n glir?
 
(1, 0) 57 'Rydych chi'n siarad mewn damhegion.
(1, 0) 58 'Dydw'i ddim yn eich deall.
 
(1, 0) 62 Ydy'.
 
(1, 0) 65 Sut y gwyddech chi hynna?
 
(1, 0) 74 Na, 'dydy' o ddim yn bosibl!
 
(1, 0) 81 Beth... dd'wedsoch chi?
 
(1, 0) 83 Ann!
 
(1, 0) 88 Arhoswch!
(1, 0) 89 P'le dd'wedsoch chi mae'r hen ŵr yn byw?
 
(1, 0) 91 Dyna ben ar eich chwedl!
(1, 0) 92 Ai hen blas 'rydych chi'n galw'r byngalo-brics yma?
(1, 0) 93 Edrychwch arno fo,—yn dŷ newydd sbon â'r cyfleustera modern i gyd; a'i rent, gwaetha'r modd, yn ddeuddeg punt y mis!
(1, 0) 94 Ewch yn ôl i fyd breuddwydion, Ann Morgan.
(1, 0) 95 Yno mae eich lle, nid yma...
(1, 0) 96 Ewch, ewch i mi gael deffro!
 
(1, 0) 107 Y... lleill?
 
(1, 0) 117 Y presennol sy'n bwysig i mi.
(1, 0) 118 'Dydych chi ddim yn sôn am hwnnw.
(1, 0) 119 Feiddiwch chi ddim.
(1, 0) 120 Does gennych chi na bywyd na bodolaeth y tu allan i'm dychymyg i!
(1, 0) 121 SETH
 
(1, 0) 123 Celwydd!
 
(1, 0) 129 Ia, 'rwy'n eich herio!
 
(1, 0) 134 Poen creu ydy' hwnnw.
(1, 0) 135 'Does yna 'run genedigaeth heb ei wewyr.
 
(1, 0) 158 Doctor Morus!
 
(1, 0) 180 'Rwy'n dal i'w wadu.
(1, 0) 181 Beth bynnag sydd i' gyfri' am yr hunlle yma, mi ddaliaf fy ngafael ar reswm a synnwyr cyffredin.
 
(1, 0) 186 Mae o'n ddigon i mi.
 
(1, 0) 189 Mae hynna'n wir.
 
(1, 0) 193 Colli'r Awen dros dro, dyna'r cyfan.
 
(1, 0) 195 Wel, ysbrydoliaeth,—yr ysfa i greu os mynnwch chi.
(1, 0) 196 'Fedrwch chi mo'i ddadansoddi.
 
(1, 0) 199 Beth ydych yn 'i feddwl?
 
(1, 0) 205 Dyna'r ora' eto!
(1, 0) 206 'Ydy'r ffasiwn o fynd ar streic wedi cyrraedd byd y cysgodion hefyd?
(1, 0) 207 Wel! Wel!
 
(1, 0) 210 Gwaith hawdd fydd datrys y broblem, felly.
(1, 0) 211 Dim ond cytuno ar gyflog,—yr un hen gân!
(1, 0) 212 Faint ga'i gynnig i chi—saith a chwech yr awr?
 
(1, 0) 225 Wel, mae hi'n ddiddorol dros ben, rhaid cyfadde'!
(1, 0) 226 Yn wahanol iawn i'r helyw o freuddwydion.
(1, 0) 227 Ond am hwyl, gadewch i ni fynd ymlaen efo'r sgwrs.
(1, 0) 228 'Ydych chi'n beiddio dweud na fedrwn i eich denu ar fy ôl?
 
(1, 0) 230 Yna, fe fydd rhaid eich gorfodi.
 
(1, 0) 232 Peidiwch â bod yn rhy siwr.
(1, 0) 233 Hwyrach i mi anelu'n rhy uchel.
(1, 0) 234 Ond mae un peth yn sicr; mi fedrwn eich llusgo gerfydd eich gwalltiau i unrhyw gyfeiriad a fynwyf.
 
(1, 0) 244 Peidiwch â dweud ein bod am gael dagrau!
(1, 0) 245 Wel, mae pethau'n gwella bob munud.
 
(1, 0) 262 A 'dydy' hynny, gysgodion annwyl, ddim yn debygol iawn o ddigwydd!
 
(1, 0) 284 Hanner munud, Abram Morgan.
 
(1, 0) 287 'Fyddwch chi gystal ag ateb un cwestiwn?
(1, 0) 288 Ym mhle dybiwch chi 'rydy' ni rwan?
 
(1, 0) 306 Ond beth am y tu allan yna?
(1, 0) 307 Welwch chi mo'r stryd a'r ysgol a'r eglwys a'r ffatri?
 
(1, 0) 313 Beth!
 
(1, 0) 327 Beth wyddoch chi am wirionedd?
 
(1, 0) 331 'Dydych chi ddim yn unigolion.
(1, 0) 332 'Does gennych chi ddim profiad ar wahan i mi, eich crewr!
 
(1, 0) 341 Ewch o'r ffordd.
 
(1, 0) 343 Gadewch i mi fynd heibio!
 
(1, 0) 345 Mae yna rywun y tu allan i'r drws yna.
(1, 0) 346 A mi fynna'i wybod pwy ydy' o.
 
(1, 0) 349 Wrth gwrs 'rydych yn ofni'n eich calon!
(1, 0) 350 Realiti ydy'r drws yna: man deffro.
(1, 0) 351 Cyn gynted ag yr agora'i o, fe fydd ar ben arnoch.
(1, 0) 352 Ewch o'r neilltu!
 
(1, 0) 363 Mae'r AWDUR yn agor y drws yn sydyn, a daw MABLI i mewn.
(1, 0) 364 Mae ei chot etc. amdani, a charia gas yn ei llaw fel petai wedi teithio o bell..
(1, 0) 365 Dengys SETH yn amlwg ei fod yn ei hadnabod, ond nid oes ryw lawer o groeso yn ei edrychiad.
 
(1, 0) 371 Beth ydy'ch neges chi?
 
(1, 0) 373 Wel 'rwy'n cymryd yn ganiataol mai i'm gweld i y daethoch chi yma.
 
(1, 0) 375 Oddi wrth y cyhoeddwyr efallai?
 
(1, 0) 377 Ond 'rydych yma i ryw bwrpas.
(1, 0) 378 Beth ydy' o?
 
(1, 0) 382 Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi!
 
(1, 0) 385 'Dwy' i ddim yn deall.
 
(1, 0) 390 Mabli?
(1, 0) 391 Mabli... ond mae hyn yn wrthun!
(1, 0) 392 'Wnes i ddim ond ei chrybwyll ar ddechrau'r ddrama.
(1, 0) 393 'Doeddwn i ddim yn bwriadu datblygu ei chymeriad.
 
(1, 0) 405 'Dydych chi ddim yn sylweddoli.
(1, 0) 406 Yn enw popeth, ewch odd' yma rwan cyn iddi fynd yn rhy hwyr!
 
(1, 0) 432 'Does dim rhaid i chi.
(1, 0) 433 Roedd eich sefyllfa'n un digon cyffredin—
 
(1, 0) 443 'Roedd o'n ddigon i bwrpas y plot.
(1, 0) 444 Nid chi'ch dau oedd y prif gymeriadau.
 
(1, 0) 453 O, pa ddiben dadla'!
 
(1, 0) 459 Cyn i mi ateb hynna, 'rwyf am awgrymu ffordd arall o'r dryswch.
(1, 0) 460 Rydych yn honni na allaf eich gwthio ymlaen yn erbyn eich ewyllys.
(1, 0) 461 O'r gora'.
(1, 0) 462 Ond pe bawn yn cynnig eich arwain, er eich lles, a fyddech chi'n fodlon fy nilyn?
 
(1, 0) 466 Er eich lles, ddywedais i.
(1, 0) 467 Da chi gwrandewch arna'i.
(1, 0) 468 'Ydych chi wedi meddwl beth all fod o'ch blaen?
(1, 0) 469 Nid gardd flodau ydy' bywyd, ond maes brwydr, â'i ofid a'i drallod a'i siomedigaeth.
(1, 0) 470 Rydych yn hawlio rhyddid heb sylweddoli ei bris.
(1, 0) 471 Rwy'n dweud hyn o dosturi ac o gariad tuag atoch.
(1, 0) 472 Ystyriwch eto, 'rwy'n erfyn arnoch.
 
(1, 0) 476 'Fedrwch chi ddim gwneud hebof fi.
(1, 0) 477 Yn enw trugaredd, Abram Morgan, ceisiwch chi eu darbwyllo!
 
(1, 0) 485 O'r gora.
(1, 0) 486 Cymrwch yr awenau yn eich dwylo, ac ewch y ffordd a fynnoch.
 
(1, 0) 488 Ond os digwydd i chi syrthio i'r gors, peidiwch â gweld bai arnaf fi...
(1, 0) 489 Duw a'ch helpo!