| (1, 0) 11 | P'nawn da, Amos. |
| (1, 0) 15 | Beth? |
| (1, 0) 16 | O, ydw'... ydw'... |
| (1, 0) 17 | Diolch iti am ofyn. |
| (1, 0) 18 | 'Wyt ti wedi gorffen y 'stafell yma? |
| (1, 0) 20 | Mi gei fynd, felly. |
| (1, 0) 21 | Mae arna'i eisiau llonydd rŵan. |
| (1, 0) 24 | Amos! |
| (1, 0) 27 | Tyrd yma am funud. |
| (1, 0) 30 | Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma? |
| (1, 0) 33 | Hm! |
| (1, 0) 34 | 'Faint ydy' ei hoed hi rŵan? |
| (1, 0) 37 | Felly'n wir... |
| (1, 0) 38 | Beth mae'r meddyg yn 'i ddweud? |
| (1, 0) 44 | Ydy', 'rwy'n deall... |
| (1, 0) 45 | Mae'n ddrwg iawn gen' i glywed, Amos. |
| (1, 0) 46 | Gad imi wybod sut y bydd o dro i dro. |
| (1, 0) 49 | Aros di... |
| (1, 0) 51 | Hwda, dos i brynu tipyn o ffrwythau iddi. |
| (1, 0) 53 | Paid â thrio. |
| (1, 0) 54 | Gwneud dy waith yn ddistaw, — dyna'r diolch gora'. |
| (1, 0) 55 | Paid â dweud am hyn wrth neb, 'wyt ti'n deall? |
| (1, 0) 57 | Dim hyd yn oed wrth Miss Helga... |
| (1, 0) 58 | B'le mae hi, gyda llaw? |
| (1, 0) 63 | Na, na: mi ddaw yma mewn munud... |
| (1, 0) 64 | Mae yma un peth arall, Amos. |
| (1, 0) 66 | 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma. |
| (1, 0) 68 | 'Dydy' o ddim ond tipyn o wendid. |
| (1, 0) 69 | Ond mae hi mor bryderus. |
| (1, 0) 70 | 'Fynnwn i mo'i phoeni heb eisiau. |
| (1, 0) 72 | 'Dwyt ti'n gwybod dim. |
| (1, 0) 73 | Celwydd gola', Amos,— dyw hwnnw ddim yn bechod! |
| (1, 0) 75 | 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di? |
| (1, 0) 77 | 'Rwy' i wedi sylwi arnat ti yn ddiweddar yma. |
| (1, 0) 78 | 'Rwyt ti'n edrych yn anesmwyth. |
| (1, 0) 79 | Fel petai ofn arnat ti. |
| (1, 0) 81 | O, 'rwy'n gweld. |
| (1, 0) 82 | Wel, paid â phoeni. |
| (1, 0) 83 | Fe ddaw dy ferch yn ei blaen yn siŵr iti. |
| (1, 0) 84 | A 'dwy' innau ddim yn barod i farw eto! |
| (1, 0) 85 | Rhaid iti fod yn fwy ffyddiog, wyddost ti. |
| (1, 0) 87 | 'Rwyt ti'n was da a ffyddlon, Amos. |
| (1, 0) 88 | Mi ofala' i na chei di ddim cam. |
| (1, 0) 92 | Ia, Amos? |
| (1, 0) 97 | O'r gora'. |
| (1, 0) 98 | Cymer d'amser. |
| (1, 0) 99 | Mae llefrith mor ddiflas â ffisig imi erbyn hyn... |
| (1, 0) 100 | Cofia ddweud sut y bydd dy ferch fach o bryd i bryd. |
| (1, 0) 104 | Paid â sôn. |
| (1, 0) 105 | 'Ffwrdd â thi, rŵan. |
| (1, 0) 106 | Mae gen' i waith i'w wneud. |
| (1, 0) 113 | Paid â dweud dim, Helga. |
| (1, 0) 114 | Paid â symud am funud! |
| (1, 0) 117 | Na, na. |
| (1, 0) 118 | Gad imi edrych arnat ti, dyna'r cyfan. |
| (1, 0) 120 | 'Rwy' i'n mynd yn hen, 'merch i. |
| (1, 0) 121 | Ond 'dwy' i ddim yn rhy hen i werthfawrogi prydferthwch. |
| (1, 0) 123 | Dim o gwbl. |
| (1, 0) 125 | 'Rwy'n dweud y gwir. |
| (1, 0) 126 | 'Welais i 'rioed monot ti'n edrych yn debycach i'th fam. |
| (1, 0) 128 | Sawl gwaith y gwelais i hi'n dod i mewn o'r ardd, fel hyn, â thusw o flodau ar ei braich!... |
| (1, 0) 129 | Yr ardd oedd ei bywyd, Helga. |
| (1, 0) 130 | Edrych allan yna,—y lawnt felfed, y rhosynnau a'r winwydden. |
| (1, 0) 131 | 'Elli di feddwl amdani'n ddiffeithwch? |
| (1, 0) 133 | Wel, dyna oedd hi pan ddaethom yma gyntaf, dy fam a minnau. |
| (1, 0) 134 | Diffeithwch o chwyn ac ysgall. |
| (1, 0) 135 | Mae'n anodd coelio hynny rŵan... |
| (1, 0) 136 | Mae deugain mlynedd ers hynny. |
| (1, 0) 137 | 'Roedd hi'n frwydr galed, Helga. |
| (1, 0) 138 | Ar brydiau bu bron inni a digalonni ac ildio. |
| (1, 0) 139 | Ond diolch i Dduw, fe gawsom nerth a dyfal-barhad. |
| (1, 0) 141 | Symbol ydy'r ardd yna, Helga. |
| (1, 0) 142 | Symbol o wareiddiad a diwylliant. |
| (1, 0) 143 | Trefn o anhrefn. |
| (1, 0) 144 | 'Roedd yn werth y chwys a'r llafur a'r siomiant... |
| (1, 0) 145 | Ond mae hynny i gyd y tu ôl inni, rŵan. |
| (1, 0) 146 | Mae'r seiliau wedi eu gosod. |
| (1, 0) 147 | Mae'r wlad yn dangos cynnydd. |
| (1, 0) 148 | Mae'r dyfodol yn ddiogel. |
| (1, 0) 149 | Ond rhaid wrth wyliadwriaeth barhaus, Helga, neu fe ddaw'r chwyn yn ôl. |
| (1, 0) 150 | Fe ddônt yn ôl i hagru a difetha popeth. |
| (1, 0) 152 | Edrych Helga arno am ennyd, yna daw ymlaen.} |
| (1, 0) 154 | Beth?... |
| (1, 0) 155 | O, ia, — syniad reit dda. |
| (1, 0) 156 | Mae arna' i angen tipyn o ffresni. |
| (1, 0) 161 | Gwych, gwych. |
| (1, 0) 162 | Rhaid iti ddod â rhai yma bod dydd o hyn ymlaen. |
| (1, 0) 165 | Ydw', am 'wn i, ydw'. |
| (1, 0) 167 | Ia, rwy'n cyfadde'. |
| (1, 0) 169 | 'Rwy' i'n gohirio'r pleser hwnnw o fwriad. |
| (1, 0) 171 | Fe ddaw'r amser pan fydda' i'n berffaith rydd i'w mwynhau hi. |
| (1, 0) 176 | Nac ydw', Helga: 'dyw fy ngwaith i ddim wedi ei orffen eto. |
| (1, 0) 178 | Dyletswydd yn gyntaf. |
| (1, 0) 179 | Anghenion y wlad o flaen f'anghenion i. |
| (1, 0) 182 | Beth? |
| (1, 0) 185 | Ia, Helga, 'rwy'n gwybod. |
| (1, 0) 186 | Ond ─ |
| (1, 0) 189 | Gwn yn iawn. |
| (1, 0) 190 | Pennyd o segurdod bara a dŵr. |
| (1, 0) 191 | Fe fyddai hynny'n fy lladd yn gynt na dim. |
| (1, 0) 193 | Fel mater o ffaith, 'does ganddo fo fawr o syniad be' sy'n bod arna' i. |
| (1, 0) 194 | Bai mawr Hoffman erioed ydy' ei fod o mor boenus o ffwdanus. |
| (1, 0) 195 | Pe bawn i'n greadur o weithiwr, fe fyddai potelaid o ffisig a cherydd yn gwneud y tro imi. |
| (1, 0) 196 | Yn lle hynny 'rwy'n Seneddwr ac yn berchen mwynglawdd aur. |
| (1, 0) 197 | Rhaid gorliwio'r clefyd i siwtio fy safle! |
| (1, 0) 200 | Ychydig o annwyd, dyna'r cyfan. |
| (1, 0) 204 | Na ddylwn, Helga. |
| (1, 0) 205 | Rhaid i mi fynd ymlaen tra medra' i. |
| (1, 0) 207 | Does dim rhaid cywilyddio oherwydd hynny. |
| (1, 0) 210 | Er mewn delfryd, Helga. |
| (1, 0) 211 | Ydw', 'rwy'n barod i wneud hynny... |
| (1, 0) 212 | Ond 'does dim achos iti bryderu. |
| (1, 0) 213 | 'Rwy' i bron wedi gorffen. |
| (1, 0) 214 | Yr wythnos nesa' mi fyddaf yn traddodi'r araith yma o flaen y Senedd ─ |
| (1, 0) 216 | Nid er mwyn un araith. |
| (1, 0) 217 | Er mwyn dyfodol a hapusrwydd y genedl, Helga. |
| (1, 0) 218 | Beth yw fy iechyd i o'i gymharu â hynny? |
| (1, 0) 219 | 'Rwy' i'n barod i farw drosti os bydd rhaid. |
| (1, 0) 222 | Botha... Pwy?... O, Malán... Be'sy'nbod?... |
| (1, 0) 223 | Beth? |
| (1, 0) 224 | Dŵr? |
| (1, 0) 227 | Ond mae hyn yn ddifrifol! |
| (1, 0) 228 | Pa siafft dd'wedsoch chi? |
| (1, 0) 229 | O, 'dyw hynny ddim mor ddrwg... |
| (1, 0) 230 | Wrth gwrs, fe wnaethoch yn iawn... |
| (1, 0) 231 | 'Oes yna lawer o ddifrod?... |
| (1, 0) 232 | O, rwy'n gweld... |
| (1, 0) 233 | Ond y gweithwyr, Malán, beth am y gweithwyr?... |
| (1, 0) 234 | Dau? |
| (1, 0) 235 | Rhaid eu cael allan, doed a ddelo... |
| (1, 0) 236 | Costied a gostio, Malán, 'rydych chi'n deall?... |
| (1, 0) 237 | Pwy? |
| (1, 0) 238 | Hendricks? |
| (1, 0) 240 | Mae'n dda gen' i glywed... |
| (1, 0) 241 | Ia, 'rwy'n dibynnu arnoch chi... |
| (1, 0) 242 | O'r gora', Malán, gadewch imi wybod sut y bydd petha. |
| (1, 0) 245 | Dŵr wedi torri i mewn i un o'r siafftau yn y pwll. |
| (1, 0) 247 | Paid â phryderu. |
| (1, 0) 248 | Mae Karl yn ddiogel. |
| (1, 0) 251 | Dau negro ar goll. |
| (1, 0) 252 | Ond mae Karl yn ceisio'u hachub. |
| (1, 0) 253 | 'Roedd Malán yn swnio'n eitha' ffyddiog. |
| (1, 0) 255 | Paid â phoeni, 'merch i. |
| (1, 0) 256 | 'Ddaw dim niwed iddo fo. |
| (1, 0) 257 | Mae'r gwaetha' drosodd erbyn hyn. |
| (1, 0) 258 | Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg. |
| (1, 0) 263 | Do, Hoffman. |
| (1, 0) 264 | Mae Malán newydd fod ar y teliffôn. |
| (1, 0) 266 | Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud. |
| (1, 0) 268 | Dau, Hoffman, dau negro. |
| (1, 0) 269 | A'r rheini ar fin cael eu hachub erbyn hyn, mae'n debyg. |
| (1, 0) 271 | Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg! |
| (1, 0) 281 | Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman. |
| (1, 0) 282 | 'Does yna fawr o aur ar ôl yn y rhan yna o'r pwll. |
| (1, 0) 283 | Buom yn sôn am ei gau fwy nag unwaith, ac agor siafft newydd. |
| (1, 0) 296 | Rwy'n deall, rŵan, pam y daethost yma ar gymaint o frys, Hoffman. |
| (1, 0) 298 | Ia, — ond y brys anarferol! |
| (1, 0) 299 | Nid meddwl am fy nghyflwr i barodd iti ddod â'th wynt yn dy ddwrn. |
| (1, 0) 302 | Ariangarwch: poeni ynghylch dy siâr! |
| (1, 0) 307 | 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman! |
| (1, 0) 311 | Da ti, paid â throi i'r llais angladdol yna! |
| (1, 0) 312 | Dy ddyletswydd fel cyfaill ydy' sirioli, nid codi bwganod. |
| (1, 0) 316 | Styfnigrwydd wyt ti'n galw peidio â ffwdanu? |
| (1, 0) 317 | Wyddost ti be', petawn i wedi gwrando arnat ti, mi fyddwn i fel hen ferch yn yfed te yn fy ngwely! |
| (1, 0) 324 | 'Wyddost ti pam? |
| (1, 0) 325 | Mae'r ddrama fach yma wedi digwydd inni'n dau o'r blaen. |
| (1, 0) 326 | Ugain mlynedd yn ôl, 'wyt ti ddim yn cofio? |
| (1, 0) 330 | Dim o gwbl. |
| (1, 0) 332 | Rhyw chwech oed oeddit ti ar y pryd. |
| (1, 0) 333 | Fe ddaeth rhyw haint i'r dre yma, a channoedd yn cael eu taro'n bur wael. |
| (1, 0) 334 | 'Roeddit ti'n meddwl ar y dechrau mai'r Pla Du oedd o, Hoffman. |
| (1, 0) 336 | Wel, mewn un ystyr 'roeddit ti'n iawn. |
| (1, 0) 337 | Pla'r negrod oedd o, yn codi o fudreddi'r Dre-Sianti. |
| (1, 0) 338 | P'run bynnag, mi ge's i'r salwch. |
| (1, 0) 339 | A dyma titha' Hoffman, yn fy siarsio i fynd i'r gwely'n syth. |
| (1, 0) 341 | Ond y jôc ydy' na fum i ddim yn fy ngwely am fwy na dwyawr ar hyd yr amser! |
| (1, 0) 342 | A thithau wedi bygwth marwolaeth arswydus imi petawn i'n beiddio codi o fewn pythefnos! |
| (1, 0) 345 | Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd. |
| (1, 0) 349 | Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw! |
| (1, 0) 352 | Ac yr wy'n dal i fod yma er dy waetha'! |
| (1, 0) 356 | 'Dwyt ti ddim yn deall, 'rhen gyfaill. |
| (1, 0) 357 | Mae gen' i waith i'w wneud. |
| (1, 0) 360 | Heb achos, yn siŵr iti. |
| (1, 0) 366 | Pam yfory? |
| (1, 0) 368 | Ydw. |
| (1, 0) 370 | Hertz? |
| (1, 0) 371 | Pwy ydy' Hertz? |
| (1, 0) 373 | A'i fil yn gymesur â'i fri, mwya' tebyg. |
| (1, 0) 374 | Peth costus yw tipyn o salwch i ddyn cyfoethog! |
| (1, 0) 377 | O? |
| (1, 0) 378 | Wel, allan â fo. |
| (1, 0) 379 | Paid â chelu dim. |
| (1, 0) 382 | 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau? |
| (1, 0) 384 | A! |
| (1, 0) 389 | Pam? |
| (1, 0) 392 | 'Rwy' i'n rhoi fy hun yn dy ddwylo, Hoffman. |
| (1, 0) 393 | Ond rho imi'r pleser o dynnu tipyn ar dy goes weithiau! |
| (1, 0) 396 | Newydd drwg? |
| (1, 0) 399 | Beth ydy' o? |
| (1, 0) 402 | Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin! |
| (1, 0) 405 | Pwy ydy'r dyn anrhydeddus? |
| (1, 0) 407 | A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus! |
| (1, 0) 409 | Wel? |
| (1, 0) 411 | Druan o ddynol-ryw! |
| (1, 0) 417 | Yfory? |
| (1, 0) 421 | Wel ─ |
| (1, 0) 426 | Na, ma' hi'n dwad yn weddol hawdd imi rŵan, Hoffman. |
| (1, 0) 427 | Rywfodd neu'i gilydd 'rwy'n gweld pethau'n gliriach yn ddiweddar yma. |
| (1, 0) 428 | Mae f'argyhoeddiad yn gryfach nag erioed. |
| (1, 0) 429 | 'Rwy'n hollol sicr fod cyfiawnder o'm plaid. |
| (1, 0) 430 | O'm rhan i, mae'r Ddeddf Addysg newydd eisoes ar y Llyfr Statud. |
| (1, 0) 431 | Mae'r araith i'w chyflwyno i'r Senedd yn barod gen' i yma. |
| (1, 0) 432 | Ac os ca'i ddweud, 'rwy'n meddwl cryn dipyn ohoni. |
| (1, 0) 433 | 'Hoffit ti ei chlywed? |
| (1, 0) 436 | Wel, hwyrach y goddefi imi ddarllen y diweddglo, ynte". |
| (1, 0) 437 | Aros di... |
| (1, 0) 439 | Ia, dyma ni. |
| (1, 0) 441 | ~ |
| (1, 0) 442 | "Foneddigion: |
| (1, 0) 443 | ~ |
| (1, 0) 444 | Braint ac anrhydedd i mi, yw rhoi'r Ddeddf Addysg newydd ger eich bron. |
| (1, 0) 445 | Yn ddiamau fe fydd yn garreg filltir nodedig yn hanes ein cenedl. |
| (1, 0) 446 | Fe'i cyflwynaf i chwi yn llawn hyder gwladgarwch diffuant. |
| (1, 0) 447 | Dichon y gwelwch yn ddoeth i newid rhai o'r manylion: ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu hynny. |
| (1, 0) 448 | Ond ni oddefir unrhyw ymyrryd â'r egwyddor fawr sy'n sylfaen iddi: egwyddor sy'n hanfodol i ddiogelwch ein gwlad a ffyniant ein cenedl." |
| (1, 0) 452 | "Foneddigion: |
| (1, 0) 453 | ~ |
| (1, 0) 454 | Cyfnod o argyfwng yw hwn: cyfnod o brawf. |
| (1, 0) 455 | Rhaid wrth weledigaeth glir ac argyhoeddiad pendant. |
| (1, 0) 456 | Mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i'n plant ac i blant ein plant. |
| (1, 0) 457 | Na ato Duw inni eu bradychu! |
| (1, 0) 458 | Pwy sydd yma nad yw enw De Affrig yn gysegredig iddo? |
| (1, 0) 459 | Pwy sydd yma na wêl reidrwydd aberth a ffydd ddigyfaddawd? |
| (1, 0) 460 | Cas gŵr na charo'r wlad a'i maco! |
| (1, 0) 461 | Gwladgarwch, Foneddigion, gwladgarwch angerddol yw Apartheid, — a'i unig gyfiawnhad. |
| (1, 0) 462 | Apartheid, — fe welodd ddyddiau tywyll: cafodd ei feirniadu'n llym. |
| (1, 0) 463 | Onid dyna dynged pob egwyddor chwyldroadol ymhob oes? |
| (1, 0) 464 | Ond aros y mae er gwaethaf dichell a chenfigen. |
| (1, 0) 465 | Ac nid oes raid ymddiheuro drosti: mae Deddf Duw o'n plaid, — dau liw a dwy gymdeithas. |
| (1, 0) 466 | Awn ymlaen yn hyderus, felly, a golau fflam newydd yn ein hysgolion a'n colegau. |
| (1, 0) 467 | Fe rydd y Ddeddf Addysg hon holl fanteision Apartheid i ieuenctid ein gwlad, — y du a'r gwyn fel ei gilydd. |
| (1, 0) 468 | Y du a'r gwyn, yn rhydd i ddilyn ffydd a thraddodiad eu tadau: yn rhydd i feithrin eu talentau fel y gallont. |
| (1, 0) 469 | O anhrefn daeth trefn: o'r diffeithwch daeth gardd flodau. |
| (1, 0) 470 | Apartheid yw'r unig iechydwriaeth i'n gwlad: onibai fy mod yn credu hynny o waelod fy enaid ni fyddwn yn rhoi'r Ddeddf yma ger eich bron. |
| (1, 0) 471 | Mae llygaid y byd arnom, Foneddigion: fe fyddwn yn esiampl iddo o genedl ranedig, gytûn." |
| (1, 0) 474 | Wel, Hoffman? |
| (1, 0) 478 | Diolch iti. |
| (1, 0) 479 | Mae gen' i barch i'th farn. |
| (1, 0) 488 | Druan ohonot ti, Hoffman. |
| (1, 0) 489 | 'Rwyt ti mor ffwdanus â hen ferch, weithia'!... |
| (1, 0) 490 | O'r gora', dim pwt o waith eto heddiw. |
| (1, 0) 491 | 'Rwy'n rhoi fy ngair iti. |
| (1, 0) 497 | P'nawn da, Hoffman. |
| (1, 0) 498 | A diolch iti. |
| (1, 0) 505 | O wel, dyna hynna drosodd. |
| (1, 0) 507 | Ia... tan yfory. |
| (1, 0) 510 | Ydy'... alla' i mo'i yfed o rŵan: nid ar ôl y gwin yna... |
| (1, 0) 511 | Beth wyt ti'n ei feddwl o'r araith yma? |
| (1, 0) 515 | Ond? |
| (1, 0) 518 | Wel, gad imi geisio egluro iti. |
| (1, 0) 519 | Beth yn hollol wyt ti ddim yn 'i ddeall? |
| (1, 0) 521 | Beth amdanyn' nhw? |
| (1, 0) 523 | Wrth gwrs y byddan' nhw. |
| (1, 0) 524 | Fe gânt gyd-ymffurfio neu gau eu drysau. |
| (1, 0) 527 | Nac wyt ti? |
| (1, 0) 528 | Buan iawn y gwelan' nhw eu camsyniad. |
| (1, 0) 529 | Fedrwn ni ddim cyfaddawdu yn y mater yma, Helga: 'feiddiwn ni ddim. |
| (1, 0) 530 | A pheth arall, rydym yn gwneud hyn oll yn enw Duw, ac yn unol â'i ddoethineb. |
| (1, 0) 531 | Fe wnaeth yr Eglwys hynna'n berffaith eglur y llynedd. |
| (1, 0) 533 | 'Rwy'n cydnabod hynny. |
| (1, 0) 534 | Ond un peth ydy' lledaenu'r Efengyl: myfi fyddai'r olaf i wahardd cymwynas o'r fath. |
| (1, 0) 535 | Ond pan ddaw llechgwn o estroniaid i'r wlad yma i greu anghydfod yn enw crefydd, rhaid eu ffrwyno. |
| (1, 0) 537 | 'Rwy'n gwybod ei fod yn digwydd. |
| (1, 0) 538 | Mae gen' i ddigon o brawf. |
| (1, 0) 539 | 'Fydda' i byth yn cyhuddo heb fod yn berffaith siŵr o'r ffeithiau. |
| (1, 0) 541 | Fe fydd yn gymwynas i'r mwyafrif. |
| (1, 0) 542 | Rhaid wrth drefn cyn daw cynnydd. |
| (1, 0) 546 | Na, 'sylwais i ddim. |
| (1, 0) 547 | Beth oedd yna? |
| (1, 0) 549 | 'Oes yna rywbeth yn od yn hynny? |
| (1, 0) 552 | Mae'r brain, pan gânt gyfle, yn ymlid y gwylanod. |
| (1, 0) 553 | Cofia hynna, 'wnei di? |
| (1, 0) 554 | Mae'n beth hollol naturiol. |
| (1, 0) 560 | Mae gen' ti natur deimladol a dychymyg rhamantus, 'merch i. |
| (1, 0) 561 | Ac 'rwy'n dy edmygu am hynny: mae'n beth da. |
| (1, 0) 562 | Ond rhaid iti ddysgu wynebu ffeithia', wyddost ti. |
| (1, 0) 563 | Oni wnei di, 'rwyt ti'n siŵr o gael dy frifo. |
| (1, 0) 564 | 'Rwy'n siarad o hir brofiad. |
| (1, 0) 565 | 'Dwyt ti ond ifanc eto. |
| (1, 0) 566 | Coelia fi, mi weli di'n wahanol ryw ddiwrnod. |
| (1, 0) 568 | 'Wyt ti'n sylweddoli beth wyt ti'n ei ddweud? |
| (1, 0) 571 | Helga! |
| (1, 0) 573 | 'Dwy'i ddim yn dy ddeall. |
| (1, 0) 574 | 'Wyt ti ddim yn gweld mai cenedl ifanc ydym ni? |
| (1, 0) 575 | Cenedl ifanc yn ceisio sefyll ar ei thraed ei hun? |
| (1, 0) 576 | Mae'r frwydr yn un fawr: rhaid inni ymdrechu'n barhaus. |
| (1, 0) 577 | Ac nid ar chwarae bach y llwyddwn ni. |
| (1, 0) 578 | Wrth gwrs fod yna anghyfiawnder: wrth gwrs fod yna galedi. |
| (1, 0) 579 | Mae hynny'n anochel. |
| (1, 0) 580 | Ond allwn ni ddim troi'n ôl. |
| (1, 0) 581 | Ffolineb fyddai gwangalonni, rŵan, wedi inni fynd mor bell. |
| (1, 0) 583 | 'Rwyt ti'n ystumio fy ngeiriau, Helga. |
| (1, 0) 584 | Nid dyna 'roeddwn i'n 'i feddwl. |
| (1, 0) 585 | Ond na hidia: amser a ddengys. |
| (1, 0) 586 | Hyd yma 'dwyt ti erioed wedi gorfod wynebu'r broblem yn dy fywyd dy hun. |
| (1, 0) 587 | Dyna'r prawf wedi'r cyfan. |
| (1, 0) 588 | Rhagfarn a chasineb ddywedaist ti? |
| (1, 0) 589 | Paid â chamsynio, 'merch i! |
| (1, 0) 590 | Wyt ti'n meddwl am foment y bradychwn i fy nghydwybod fy hun? |
| (1, 0) 594 | 'Rwyt ti'n siarad yn ynfyd. |
| (1, 0) 599 | 'Chei di ddim dweud hynna, Helga. |
| (1, 0) 602 | Yn ymladd yr un frwydr ─ |
| (1, 0) 605 | Helga fach, 'rwyt ti'n mwydro dy ben pert yn ofer. |
| (1, 0) 606 | Nid â'r galon y mae gwleidydda. |
| (1, 0) 607 | 'Dwyt ti ddim yn deall y pethau yma, 'wyddost ti. |
| (1, 0) 609 | Rhaid iti gael mwy o ffydd ynof i, 'merch i. |
| (1, 0) 610 | Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau. |
| (1, 0) 619 | Hendricks!... |
| (1, 0) 620 | Be' sy'n bod? |
| (1, 0) 623 | Y dynion, Hendricks? |
| (1, 0) 634 | Gwn, 'machgen i, gwn. |
| (1, 0) 637 | Paid â dweud hynna, Hendricks, paid â dweud hynna. |
| (1, 0) 638 | Nid dy fai di oedd o. |
| (1, 0) 650 | Gwn, 'machgen i. |
| (1, 0) 651 | Mae'n arswydus... |
| (1, 0) 652 | Ond fe aeth y dŵr i lawr? |
| (1, 0) 665 | Profiad dychrynllyd, Hendricks. |
| (1, 0) 666 | Ond mae gen' ti un cysur, — fe wnest dy orau. |
| (1, 0) 673 | Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar. |
| (1, 0) 676 | Fel yna mae'n digwydd weithia'. |
| (1, 0) 681 | 'Rwy'n deall. |
| (1, 0) 694 | Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti. |
| (1, 0) 696 | 'Dd'wedais i ddim dy fod ti, Hendricks. |
| (1, 0) 697 | Mae gan Malán berffaith hawl i'w ddaliadau, beth bynnag ydyn' nhw. |
| (1, 0) 698 | Ond mae o'n gyfrifol i mi am ddiogelwch pob gweithiwr yn y pwll, y du a'r gwyn fel ei gilydd. |
| (1, 0) 699 | Os gwelaf fod ei ddaliadau'n peryglu bywyd un ohonynt, — fe ŵyr y canlyniadau. |
| (1, 0) 700 | Hyd yma 'dyw hynny ddim wedi digwydd. |
| (1, 0) 701 | 'Does gen' i ond y gair gora' i Malán fel gwas ffyddlon a gweithgar i'r Cwmni... |
| (1, 0) 702 | Ond mae Helga'n iawn: 'rwyt ti'n ffôl i deimlo'n euog am ddamwain anochel. |
| (1, 0) 703 | Noson o gwsg sydd arnat ti 'i eisiau. |
| (1, 0) 704 | Mi weli di bethau'n gliriach yfory, â chydwybod tawel. |
| (1, 0) 705 | Peth da yw tosturi, Hendricks, ond cymer gyngor gen' i: paid â'i gario fel pwn ar dy gefn beunydd. |
| (1, 0) 706 | Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, wyddost ti... |
| (1, 0) 707 | Ond mae'n ddigon hawdd siarad: 'rwy'n cofio'r ddamwain gynta' erioed yn yr hen waith yna, pan laddwyd fy ffrind penna'... |
| (1, 0) 708 | Mae hyn yn dod â'r cyfan yn ôl imi. |
| (1, 0) 709 | 'Rwy'n cofio, fel petai ddoe, y distawrwydd syfrdan, a dieithrwch angau a fferdod gofid... |
| (1, 0) 710 | Mi wn i'n iawn sut yr wyt ti'n teimlo... |
| (1, 0) 711 | "Chafodd yna neb arall ei anafu? |
| (1, 0) 714 | Fe ddoi di drosto fo, 'machgen i. |
| (1, 0) 715 | Ond paid â gweld bai arnat dy hun... |
| (1, 0) 716 | 'Gymeri di lymaid o rywbeth? |
| (1, 0) 725 | Wrth gwrs! |
| (1, 0) 726 | Rho fenthyg un o'm siwtiau i iddo fo. |
| (1, 0) 729 | 'Fyddi di ddim yn iawn yn y dillad gwlyb yna. |
| (1, 0) 730 | 'Allwn ni ddim fforddio dy gael dithau'n wael hefyd, 'wyddost ti. |
| (1, 0) 733 | Hendricks, — y ddau ddyn anffodus yna, 'oes ganddyn' nhw deulu? |
| (1, 0) 736 | Trueni... |
| (1, 0) 737 | Rhaid imi feddwl am y peth. |
| (1, 0) 740 | Ia, Hendricks? |
| (1, 0) 742 | Gofyn. |
| (1, 0) 744 | Beth wyt ti'n 'i feddwl? |
| (1, 0) 746 | Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna. |
| (1, 0) 751 | Nac ydy', — yn swyddogol. |
| (1, 0) 752 | Ond unwaith eto, 'rwy' i am ofyn iti adael hynna i'm doethineb i. |
| (1, 0) 760 | Wrth gwrs, wrth gwrs. |
| (1, 0) 761 | Ond nid dyma'r amser i'w drafod, 'machgen i. |
| (1, 0) 762 | Dos i ymolchi a newid, rŵan. |
| (1, 0) 763 | Gorffwys am ychydig wedyn, os mynni. |
| (1, 0) 765 | Ia, ia, paid â dadla'! |
| (1, 0) 766 | Mi gawn ni sgwrs nos yfory. |
| (1, 0) 767 | 'Wyt ti'n meddwl y medri di wneud y plania'n barod? |
| (1, 0) 772 | 'Alla' i ddim peidio â meddwl am y ddau negro yna... |
| (1, 0) 773 | Ddwy awr yn ôl 'roeddyn' nhw'n fyw ac iach. |
| (1, 0) 774 | A rŵan ─ |
| (1, 0) 777 | Beth dd'wedaist ti? |
| (1, 0) 780 | Mae meddwl dy fod yn coleddu syniadau ffôl yn fy mlino'n fwy na dim. |
| (1, 0) 782 | 'Wyt ti ddim yn gweld y perygl? |
| (1, 0) 783 | 'Wyddost ti ddim fod y gelyn yn cynllwynio yn ein herbyn? |
| (1, 0) 784 | A hynny dan rith crefydd? |
| (1, 0) 785 | 'Rwy'n siŵr fod yn rhaid rhoi terfyn ar hynny? |
| (1, 0) 787 | Mae'r Cymrodyr yn archwilio pob achos yn ofalus. |
| (1, 0) 789 | I sicrhau bod egwyddorion Apartheid yn cael eu cadw. |
| (1, 0) 791 | Drwy wyliadwriaeth a chyngor ac esiampl. |
| (1, 0) 793 | 'Gaf i d'atgoffa 'mod i'n un o sefydlwyr y Gymdeithas? |
| (1, 0) 795 | Ers rhyw dair blynedd. |
| (1, 0) 796 | Beth am hynny? |
| (1, 0) 801 | Am beth wyt ti'n sôn? |
| (1, 0) 808 | Helga —! |
| (1, 0) 811 | Helga, rhaid iti beidio â siarad fel yna, 'wyt ti'n deall? |
| (1, 0) 812 | 'Wyt ti'n mynnu mynd ar dy ben i drybini? |
| (1, 0) 813 | A minnau i'th ganlyn? |
| (1, 0) 814 | Mae'r pamffledi felltith yna wedi troi dy ben, yn amlwg. |
| (1, 0) 815 | Adnodau o'r Ysgrythur ar un ochr, a phropaganda ffiaidd y Comiwnyddion ar yr ochr arall. |
| (1, 0) 817 | "Salvadór," ia... |
| (1, 0) 818 | Sut y gwyddit ti yr enw? |
| (1, 0) 820 | Fe'i rhoddais iti i'w losgi, nid ei ddysgu. |
| (1, 0) 821 | A'i daflu'n ôl yn fy wyneb wedyn! |
| (1, 0) 823 | 'Rwyt ti'n rhy ifanc a dibrofiad i ddeall y pethau yma. |
| (1, 0) 824 | Dyna pam 'rwy' mor amyneddgar â thi. |
| (1, 0) 825 | Ar y llaw arall 'rwyt ti'n rhy hen i wneud gwaith y Comiwnyddion iddyn' nhw, yn rhad ac am ddim. |
| (1, 0) 826 | Mae'n ffiaidd, Helga, mae'n ffiaidd ac yn sâl. |
| (1, 0) 828 | Wel? |
| (1, 0) 834 | Ac fe'i gwelaist â'th lygaid dy hun? |
| (1, 0) 836 | Aha —! |
| (1, 0) 843 | 'Rwy'n gweld, rŵan, be' sy'n dy boeni... |
| (1, 0) 844 | Tyrd, 'merch i, paid â bod mor galon-feddal. |
| (1, 0) 845 | Fe fydd rhywun yn siŵr o ofalu am y bychan. |
| (1, 0) 846 | Mae'n ddrwg gen' i am ei dad. |
| (1, 0) 847 | Ond nid dyna'r negro cyntaf i syrthio mewn ffrwgwd rhwng hwliganiaid. |
| (1, 0) 853 | Gwrando arna' i, Helga. |
| (1, 0) 854 | 'Dyw'r wlad yma ddim yn berffaith o lawer, Duw a ŵyr. |
| (1, 0) 855 | A 'dydy' ni, y dynion sy'n ei harwain ddim yn berffaith 'chwaith. |
| (1, 0) 856 | Ond rydym yn gwneud ein gorau glas i wella pethau, yn ôl ein hychydig ddoethineb. |
| (1, 0) 857 | Ond 'does 'run ohonom yn anffaeledig... |
| (1, 0) 858 | 'Rydym yn gwneud hyn oll i chwi, ein plant. |
| (1, 0) 859 | 'Wyt ti ddim yn credu ein bod yn haeddu eich cefnogaeth? |
| (1, 0) 860 | Yn lle hynny, be' sy'n digwydd? |
| (1, 0) 861 | Amheuaeth, crach-feirniadu a sarhâd. |
| (1, 0) 862 | O, mae'n ddigon hawdd i ti fod yn deimladol a ffroen-uchel ynghylch Apartheid! |
| (1, 0) 863 | Aros nes y doi di wyneb yn wyneb â'r broblem yn dy fywyd dy hun. |
| (1, 0) 864 | Fel y dywedais i, — dyna'r prawf. |
| (1, 0) 865 | Mae'r broblem yn ddigon anodd fel y mae, heb i ti ei chymhlethu'n fwy. |
| (1, 0) 866 | O, 'rwy'n edmygu dy ysbryd a'th frwdfrydedd. |
| (1, 0) 867 | Rhinweddau ieuenctid ydy'r rheini ym mhob oes. |
| (1, 0) 868 | Ond oni ddefnyddi di nhw'n adeiladol fe'u llygri... |
| (1, 0) 869 | 'Rŵan, gad lonydd imi. |
| (1, 0) 870 | 'Rwy' i wedi blino... |
| (1, 0) 874 | Edrych, dyma un arall ohonyn' nhw. |
| (1, 0) 875 | Mi hoffwn i wybod sut y ma' nhw'n dod i'r tŷ yma... |
| (1, 0) 876 | Darllen o. |
| (1, 0) 879 | Edrych ar y sorod gwenwynig yr ochr arall. |
| (1, 0) 880 | A'r enw ar y gwaelod, — "Salvadór" — Gwaredwr! |
| (1, 0) 881 | Penboethyn hanner-pan, mae'n debyg. |
| (1, 0) 882 | Llechgi o Gomiwnydd! |
| (1, 0) 883 | Hwn a'i siort sy'n creu anghydfod a chwerwedd rhwng Du a Gwyn. |
| (1, 0) 884 | Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo! |
| (1, 0) 890 | Hidia befo'r llefrith, Amos. |
| (1, 0) 891 | Tyrd yma. |
| (1, 0) 894 | Beth a wyddost ti am hwn? |
| (1, 0) 897 | O, paid â bod mor hurt! |
| (1, 0) 898 | Mae arna' i eisiau gwybod sut y daeth ar fy nesg. |
| (1, 0) 899 | Edrych arno. |
| (1, 0) 901 | Ys gwn i!... |
| (1, 0) 902 | Welaist ti o o'r blaen? |
| (1, 0) 904 | Edrych ym myw fy llygaid, Amos. |
| (1, 0) 905 | 'Wyt ti'n dweud y gwir? |
| (1, 0) 909 | O'r gora'. |
| (1, 0) 910 | 'Che's i erioed achos, hyd yma, i amau d'air. |
| (1, 0) 911 | Ond os gweli di sothach maleisus fel hwn eto, dan enw "Salvadór," rho fo yn y tân. |
| (1, 0) 912 | 'Wyt ti'n deall? |
| (1, 0) 915 | Ia. |
| (1, 0) 916 | 'Wyddost ti pwy ydy' o? |
| (1, 0) 918 | Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o? |
| (1, 0) 923 | 'Wyt ti'n siŵr, rŵan? |
| (1, 0) 927 | O'r gora', 'rwy'n dy goelio. |
| (1, 0) 928 | Ond deall hyn: os byth y caf allan dy fod yn celu rhywbeth, fe fydd yn edifar gan dy enaid. |
| (1, 0) 929 | 'Ydy' hynna'n glir? |
| (1, 0) 932 | Na, dyna'r cyfan. |
| (1, 0) 933 | Cei fynd rŵan. |
| (1, 0) 939 | Beth?... |
| (1, 0) 940 | Cei, wrth gwrs. |
| (1, 0) 941 | Syniad rhagorol... |
| (1, 0) 942 | Dos i'r ardd ì nôl tusw iddo fo. |
| (1, 0) 953 | Yn ddig? |
| (1, 0) 954 | Am beth? |
| (1, 0) 956 | Dim o gwbl, Helga... |
| (1, 0) 957 | Os edrychwn ni ar ôl yr ardd, gall fod o fudd i eraill hefyd... |
| (1, 0) 958 | 'Wyt ti'n deall beth wy'n ei feddwl? |