| (1, 0) 5 | Mi wyddost na fedr hyn ddim para. |
| (1, 0) 10 | Ffwlbri, frawd bach. |
| (1, 0) 12 | Cysgod y groth! |
| (1, 0) 13 | Cysgod y bedd! |
| (1, 0) 14 | Welaist ti rioed na'r naill na'r llall. |
| (1, 0) 15 | Roedd dy lygaid di wedi'u cau yn y groth, ac mi fyddan wedi'u cau cyn dy fedd. |
| (1, 0) 21 | Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg. |
| (1, 0) 25 | Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb. |
| (1, 0) 28 | Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi. |
| (1, 0) 30 | Craig wedi'i hollti. |
| (1, 0) 33 | Paid â gofyn. |
| (1, 0) 34 | Mi wyddost. |
| (1, 0) 35 | Gan ein gwarth ni. |
| (1, 0) 38 | Rwyt ti'n brifo. |
| (1, 0) 39 | Paid! |
| (1, 0) 42 | Be ddweda i? |
| (1, 0) 44 | Gan ein cariad ni. |
| (1, 0) 46 | Dianc fyddai hynny. |
| (1, 0) 48 | Wn i ddim. |
| (1, 0) 49 | Ti ydy 'mhechod i. |
| (1, 0) 50 | Mae'n well gan i 'mhechod na 'mywyd. |
| (1, 0) 53 | Mi wyddost na fedr hyn ddim para. |
| (1, 0) 56 | Heb feddwl am farw? |
| (1, 0) 59 | Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i. |
| (1, 0) 60 | Yr unig farw sy'n anodd, sy'n boen, ydy'r marw y bydd dyn yn para'n fyw ar ei ôl o. |
| (1, 0) 61 | Dyna'r unig wynebu angau nad ydy o ddim yn gelwydd. |
| (1, 0) 62 | Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny. |
| (1, 0) 64 | Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni. |
| (1, 0) 65 | Ein marw ni fydd tynnu'n cariad ni allan o'n bywyd ni... a mynd ymlaen i fyw ar ôl hynny. |
| (1, 0) 70 | Hanner brawd wyt ti; nid brawd. |
| (1, 0) 75 | Na. |
| (1, 0) 76 | Fi piau fi... |
| (1, 0) 77 | Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti. |
| (1, 0) 81 | Mae dy eiriau fel y gwin. |
| (1, 0) 83 | Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd? |
| (1, 0) 85 | Y brenin. |
| (1, 0) 87 | Go brin. |
| (1, 0) 88 | Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma. |
| (1, 0) 92 | O na bai eto ryfel. |
| (1, 0) 94 | Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni. |
| (1, 0) 95 | Fedr Brân ddim mynd i ryfel hebot ti. |
| (1, 0) 96 | Rwyt ti'n anhepgor. |
| (1, 0) 97 | Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin. |
| (1, 0) 99 | Ti yw fy mhlentyn i. |
| (1, 0) 100 | Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i. |
| (1, 0) 102 | Brawd. |
| (1, 0) 103 | Brawd cyfan. |
| (1, 0) 105 | Ond brenin. |
| (1, 0) 106 | Mae ganddo gariad arall. |
| (1, 0) 109 | Ei deyrnas. |
| (1, 0) 111 | Arno fo. |
| (1, 0) 112 | Arnaf innau. |
| (1, 0) 113 | Nid arno fo mae'r bai mai rhywbeth i'w brynu a'i werthu ym marchnad y gwledydd ydy chwaer y brenin. |
| (1, 0) 114 | I brynu heddwch neu selio cyfamod. |
| (1, 0) 115 | Mae pob merch i frenin yn gwybod hynny'n ddeg oed. |
| (1, 0) 116 | A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad. |
| (1, 0) 119 | Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim. |
| (1, 0) 120 | Yn anghyfrifol fel mellten. |
| (1, 0) 121 | Cyfle i hwyl a miri yw rhyfel iti. |
| (1, 0) 122 | Dyna yw'r llys iti. |
| (1, 0) 123 | Dyna ydw innau iti. |
| (1, 0) 125 | Fel plentyn gyda thegan. |
| (1, 0) 127 | Profiad? |
| (1, 0) 130 | Dwyt ti ddim yn frenin. |
| (1, 0) 132 | Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i. |
| (1, 0) 136 | Act wleidyddol ydy priodi. |
| (1, 0) 137 | Does a wnelo'r peth ddim oll â charu. |
| (1, 0) 138 | Rhaid profi i'r brenin a'i gyngor fod y peth yn fantais i'r llywodraeth. |
| (1, 0) 143 | I hynny y'm magwyd i. |
| (1, 0) 144 | I hynny y'm dysgwyd i a 'ngwisgo a 'nghynefino bob dydd o 'mywyd. |
| (1, 0) 145 | Dydw i ddim yn cofio dim arall... |
| (1, 0) 146 | Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc. |
| (1, 0) 148 | Ydy. |
| (1, 0) 149 | Fe fydd madael... |
| (1, 0) 153 | Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol. |
| (1, 0) 154 | Welaist ti? |
| (1, 0) 156 | Erbyn hyn maen nhw wedi glanio. |
| (1, 0) 158 | O Iwerddon. |
| (1, 0) 164 | Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau. |
| (1, 0) 168 | Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti. |
| (1, 0) 170 | Pwy ŵyr? |
| (1, 0) 172 | A pha les fydd hynny? |
| (1, 0) 175 | Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni. |
| (1, 0) 176 | Rydw i'n gwneud 'y ngore i'th gael dithau i wynebu'r peth. |
| (1, 0) 179 | O'r gore, mi heria i di. |
| (1, 0) 181 | Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i. |
| (1, 0) 184 | Pam? |
| (1, 0) 186 | Fedra innau ddim chwaith. |
| (1, 0) 188 | Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo. |
| (1, 0) 189 | Ond nid dyna fy natur i. |
| (1, 0) 190 | Fedrwn i ddim peidio â syrthio mewn cariad â thi pan ddest ti gynta i'r llys. |
| (1, 0) 191 | Welais i monot ti'n blentyn. |
| (1, 0) 192 | Damwain oedd inni'n dau fod yn yr un groth. |
| (1, 0) 193 | Dydw i'n gofidio dim am hynny. |
| (1, 0) 194 | Ti ydy unig gariad 'y mywyd i. |
| (1, 0) 195 | Ond rydw i'n ferch i frenin; rydw i'n chwaer i frenin. |
| (1, 0) 196 | Fy nhynged i ydy bod yn fam i frenin. |
| (1, 0) 197 | Fedra i ddim wrth y peth. |
| (1, 0) 198 | Mi wyddost fod gwrthod yn ymarferol amhosib. |
| (1, 0) 199 | Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod. |
| (1, 0) 201 | Efnisien, paid â ffraeo. |
| (1, 0) 202 | Bob tro yr ei di i frwydr rwyt tithau'n taflu'n serch ni i'r tân. |
| (1, 0) 203 | Cwlwm nad ydy o ddim yn dal ydy cariad. |
| (1, 0) 204 | Rhaid i gleddyf neu briodas ei dorri o neu ei ddatod. |
| (1, 0) 205 | Mae'n well gen i dorri na datod. |