Cuesheet

Glyndwr, Tywysog Cymru

Lines spoken by Brenin (Total: 24)

 
(1, 2) 288 Arglwyddi Lloegr!
(1, 2) 289 Gwysiais chwi i'r llys i glywed achos Arglwydd Grey yn erbyn Syr Owen de Glendore.
(1, 2) 290 Ein doeth Brif Farnwr Gascoigne!
(1, 2) 291 Y chwi raid ddweyd sut saif y gyfraith o'r naill du a'r llall.
(1, 2) 292 Fy Arglwydd Grey, a ydych chwi'n barod i wynebu Syr Owen de Glendore?
 
(1, 2) 301 Fy mab!
(1, 2) 302 Gwnaf fi amddiffyn fy anrhydedd a'm llys pan welaf raid!
(1, 2) 303 Ymlaen, fy Arglwydd
 
(1, 2) 314 Beth!
(1, 2) 315 A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys?
 
(1, 2) 318 Beth a ddwedaist ti?
(1, 2) 319 Wyt ti'n dannod imi yr hyn a wnes flynyddoedd maith yn ol?
 
(1, 2) 327 Ymlaen, De Grey!
 
(1, 2) 330 Dos yn dy flaen, De Grey!
 
(1, 2) 346 Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn?
 
(1, 2) 374 Aed y prawf felly ymlaen.
(1, 2) 375 Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di?
 
(1, 2) 387 Adgofiaist fi iti ymladd wrth fy ystlys gynt mewn cad; gwna'r atgo hwnnw imi anghofio'r geiriau gwyllt a lefarwyd heddyw gennyt ger fy mron mewn llys.
 
(1, 2) 408 Fy Arglwydd Esgob!
(1, 2) 409 Mae dy wisg a'th swydd yn esgus dros i ti ddadleu heddwch yn fy llys.
(1, 2) 410 Ond nid yw bygwth Cymru arnaf, fel y gwnei, yn debyg o fy nhroi o'i phlaid.
(1, 2) 411 Ac, wedi'r cwbl, deddf yw deddf, a rhaid i'r neb a drosedda hon, ddwyn ei chosb.
(1, 2) 412 Ac yn ol deddf y tir, fel y'i dehonglwyd yma'n glir, nid oes un llw yn erbyn hawl De Grey.
(1, 2) 413 Rhaid i mi felly gyhoeddi fod tir y Croesau yn eiddo Arglwydd Grey.