| (1, 0) 24 | Ewch i molchi, John, a gadwch i'r tân yna. |
| (1, 0) 25 | Mi goleua i o. |
| (1, 0) 27 | O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi. |
| (1, 0) 29 | Beth sy arnoch chi'r bore ma, John? |
| (1, 0) 30 | Rydech chi'n ddistaw iawn. |
| (1, 0) 31 | Oes rhwbeth ar ych meddwl chi, deudwch? |
| (1, 0) 33 | Ych clywed chi'n ochneidio, a'ch gweld chi'n edrych mor syn. |
| (1, 0) 34 | Rhoswch, dowch yma, John; mi wn i bedi'r mater. |
| (1, 0) 36 | Poeni rydech chi fod yr hen fargen yna yn y chwarel wedi mynd mor sâl, ac ofn arnoch chi na chewch chi ddim digon o gyflog y mis yma i dalu'r addewid at ddyled y capel. |
| (1, 0) 37 | Wel, wir, wn i ddim i beth rydech chi'n gneud baich o'ch crefydd fel hyn─tasa bawb yn rhoi cystal at yr achos ag yr yden ni 'n roi, fasa raid poeni dim pan ddaw ambell i fis gwan fel hyn heibio. |
| (1, 0) 39 | Wel, dowch i gael ych brecwast ynte, mae'r y tê yn barod. |
| (1, 0) 40 | Mi gewch molchi wedyn. |
| (1, 0) 43 | John! |
| (1, 0) 44 | Beth ydi'r mater?─ |
| (1, 0) 45 | Deudwch wrtha i; fethis i erioed ych cysuro chi o'r blaen, a fethai ddim y tro yma.─ |
| (1, 0) 46 | Dowch, deudwch wrth ych gwraig. |
| (1, 0) 48 | Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna. |
| (1, 0) 50 | Gwylia? |
| (1, 0) 51 | Beth ydech chi'n feddwl? |
| (1, 0) 52 | Mynd am dro'n bell ydech chi'n feddwl? |
| (1, 0) 54 | Dim ond yr wythnos y bu'ch mam farw, rydw i'n meddwl. |
| (1, 0) 56 | Ydech chi'n meddwl mynd am dro i rywle? |
| (1, 0) 61 | Peidiwch a chyboli, wir─lle cawn arian i gychwyn, ydech chi'n feddwl? |
| (1, 0) 62 | Dydech chi ddim yn hapus yma hefo mi ag Ifan bach, John? |
| (1, 0) 70 | John? |
| (1, 0) 72 | Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi. |
| (1, 0) 75 | Hitiwch chi befo Ifan,─troi'r stori ydi peth fel yna... |
| (1, 0) 76 | Deudwch wrtha i, nghariad i. |
| (1, 0) 78 | Wna i ddim chwerthin, John, mi wyddoch yn iawn. |
| (1, 0) 84 | Wel, mi fydd oddiar ych meddwl chi wedi i chi ddeud o. |
| (1, 0) 85 | Dowch. |
| (1, 0) 87 | Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith. |
| (1, 0) 90 | Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus? |
| (1, 0) 96 | Medru gweld beth? |
| (1, 0) 100 | Fedrai ddim mynd ar ych hol chi yn y fan yna, John; rydech chi'n ormod o sglaig i mi... |
| (1, 0) 101 | Ond deudwch ych breuddwyd. |
| (1, 0) 109 | Na wn i, wir. |
| (1, 0) 113 | Twt, peidiwch â styrbio'ch hunan ddim,─does gen i ddim coel o gwbwl ar freuddwydion. |
| (1, 0) 114 | Dydech chi ddim yn cofio amdanoch ych hunan yn breuddwydio ers talwm, newydd i Ifan gael ei eni, fod rhyw bobol fawr wedi dwad heibio, wedi i gipio fo yn i cerbyd, a chitha {yn gwenu} wedi rhedeg ar i hola, ac wedi taro Ifan oddiar sêt y car hefo'ch esgid? |
| (1, 0) 120 | Peidiwch a gadael imi'ch perswadio chi beth bynnag, y naill ffordd na'r llall. |
| (1, 0) 121 | Gnewch chi fel rydech chi'n meddwl yn ora, John bach. |
| (1, 0) 129 | Hylo, Tomos! |
| (1, 0) 130 | Beth sy wedi d'yrru di yma allan o dy ffordd yr adeg yma o'r dydd, fel hyn? |
| (1, 0) 131 | Eistedd i lawr. |
| (1, 0) 132 | Mae John wrthi hi'n molchi. |
| (1, 0) 134 | Aros funud; mae arna i eisio gofyn rhwbeth i ti, a fynnwn i er dim i John glywed. |
| (1, 0) 136 | Mae hi'n fain iawn arnon ni'r mis yma, ac mae ar Ifan bach eisio lot o betha newydd. |
| (1, 0) 137 | Oes gen ti ddim rhyw chweigien roet ti'n fenthig ini dan ben y mis? |
| (1, 0) 141 | Diolch yn fawr iti. |
| (1, 0) 143 | Dim gair, Tomos, cofia. |
| (1, 0) 159 | Wel, dwad dy reswm, Twm. |
| (1, 0) 174 | Dydi John ddim yn mynd i'r chwarel chwaith, Twm. |
| (1, 0) 183 | Rhybudd gan Ragluniaeth oedd o, yn deud fod damwain i fod yn ych bargen chi heddiw. |
| (1, 0) 184 | Dos yn ol i dy wely, Twm, a chitha hefyd, John. |
| (1, 0) 185 | Nid yn amal y byddwch chi'n cael siawns i gysgu heb ddim yn galw arnoch chi. |
| (1, 0) 192 | Arhoswch chi adre heddiw ych dau beth bynnag, ac mi gewch weld beth ddigwydd yno heddiw. |
| (1, 0) 209 | Sana Ifan bach. |
| (1, 0) 212 | Yn lyb? |
| (1, 0) 219 | Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed. |
| (1, 0) 224 | Dim ond deuswllt dan ben y mis. |