| (2, 0) 312 | Ia, be? |
| (2, 0) 315 | Dyna welliant. |
| (2, 0) 317 | Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma. |
| (2, 0) 319 | Paid â deud celwydd. |
| (2, 0) 320 | Mae'n amlwg i mi bod yr ŵy yma wedi bod yn y dŵr am beth bynnag bedwar munud a hanner. |
| (2, 0) 321 | Dos â fo o 'ma a gwna un arall! |
| (2, 0) 329 | Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau. |
| (2, 0) 330 | Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job. |
| (2, 0) 332 | Dwi ddim isio esgusion. |
| (2, 0) 333 | Gewch chi fynd rŵan. |
| (2, 0) 337 | Mae'r te yma yn oer. |
| (2, 0) 338 | Cer i wneud peth ffres! |
| (2, 0) 346 | Mi fydda i isio'r car mewn hanner awr. |
| (2, 0) 354 | Helo David, sut ydach chi? |
| (2, 0) 356 | Wrth gwrs mi wna' i ei ddarllen o'n syth. |
| (2, 0) 357 | Wnewch chi anfon o yma? |
| (2, 0) 359 | Diolch yn fawr. |
| (2, 0) 360 | Hwyl. |
| (2, 0) 365 | Mae yna adroddiad pwysig ar y ffordd. |
| (2, 0) 366 | Tyrd â fo i mi yn syth pan y daw o. |
| (2, 0) 367 | Mi ddyle fod yma mewn tua dau funud. |
| (2, 0) 373 | Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro. |
| (2, 0) 382 | Rargian fawr! |
| (2, 0) 384 | Car mewn pum munud. |
| (2, 0) 388 | 'Rydw i ar frys. |
| (2, 0) 389 | Tyrd â fy sgidie du newydd i mi. |
| (2, 0) 393 | Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd. |
| (2, 0) 397 | Rho nhw ar fy nhraed i. |
| (2, 0) 398 | Rydw isio cario ymlaen i ddarllen. |
| (2, 0) 403 | Rhowch y tei ymlaen. |
| (2, 0) 406 | Dwi ddim yn gallu darllen, Beti. |
| (2, 0) 407 | Mae'ch breichiau chi ymhob man. |
| (2, 0) 414 | Tyrd a fo yma 'ta. |
| (2, 0) 417 | Fedri di ddim gweld, mae 'nwylo i yn llawn! |
| (2, 0) 418 | Bwyda fi! |
| (2, 0) 424 | Bowler! |
| (2, 0) 426 | Yr het bowler. |
| (2, 0) 427 | Estynnwch hi! |
| (2, 0) 430 | Rhowch hi ar fy mhen. |
| (2, 0) 505 | Allan! |
| (2, 0) 507 | Allan ddeudais i. |
| (2, 0) 508 | Doris cliria'r bwrdd. |
| (2, 0) 514 | Reit, cym on ferchaid. |
| (2, 0) 515 | Mae yna ddigon o ystafelloedd eraill yn y tŷ. |
| (2, 0) 516 | (Rhoi eu paneidiau yn eu dwylo a'u hebrwng at y drws. |
| (2, 0) 517 | Beti yn dilyn) |
| (2, 0) 519 | Rydw i yn disgwyl dau ffrind. |
| (2, 0) 520 | Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth. |
| (2, 0) 526 | Hylo, Seimon. |
| (2, 0) 527 | Hylo, Emlyn. |
| (2, 0) 528 | Dowch i eistedd. |
| (2, 0) 531 | Diolch Doris. |
| (2, 0) 533 | Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris. |
| (2, 0) 534 | Halen y ddaear wyddoch chi. |
| (2, 0) 538 | Eisteddwch, gyfeillion. |
| (2, 0) 544 | Diolch, gyfeillion. |
| (2, 0) 546 | O, mi fuaswn i yn deud ─ bod yn garedig wrth bobol. |
| (2, 0) 548 | Reit gyfeillion, beth am drafod busnes. |
| (2, 0) 551 | Dyma blan o'r gwesty newydd, Bryn Awelon, fydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn nesaf ar gyrion y dref. |
| (2, 0) 553 | Tua miliwn a hanner. |
| (2, 0) 556 | Wel, mae'n rhaid iddyn nhw dalu am y gorau. |
| (2, 0) 559 | Wrth gwrs, wrth gwrs. |
| (2, 0) 560 | Dyna pam fy mod i wedi eich gwadd chi yma heddiw. |
| (2, 0) 561 | Dach chi'n gwerthu dodrefn da, Emlyn, a chitha garpedi gwych, Seimon. |
| (2, 0) 563 | Wrth gwrs, ond mae yna un broblem bach. |
| (2, 0) 565 | Meddwl bod hi'n bryd i ni feddwl am newid y dodrefn a'r carpedi yn yr hen dŷ yma. |
| (2, 0) 568 | Rydw i'n falch ein bod yn deall ein gilydd ffrindiau. |
| (2, 0) 569 | Rŵan, rwy'n cynnig ein bod yn cael ychydig o fy ngwin cartref i ddathlu, |
| (2, 0) 571 | Rydw i wedi cael hwyl ar wneud hwn. |
| (2, 0) 572 | Fy un gorau i ers talwm. |
| (2, 0) 575 | 'Dych chi ddim wedi cyfarfod y wraig yn naddo? |
| (2, 0) 576 | Mi af i'w nôl hi, mi fydd wrth ei bodd eich cyfarfod chi. |
| (2, 0) 585 | Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad. |
| (2, 0) 586 | Gyfeillion, dyma fy annwyl wraig, Beti. |
| (2, 0) 587 | Beti, dyma Emlyn Prytherch a Seimon Pyrs. |
| (2, 0) 590 | Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd. |
| (2, 0) 591 | Pob un ohonyn nhw y tu hwnt o hapus. |
| (2, 0) 592 | Yntê, cariad? |
| (2, 0) 595 | Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag. |
| (2, 0) 596 | Rhaid i chi gael mwy. |
| (2, 0) 599 | Twt lol, mae gennych chi ddigon o amser am wydriad bach arall. |
| (2, 0) 604 | Wel, lawr â fo gyfeillion. |
| (2, 0) 605 | Fe awn ni rŵan i weld perchennog y gwesty. |
| (2, 0) 608 | Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi. |
| (2, 0) 609 | Mae yna lot o win ar ôl yn eich gwydrau. |
| (2, 0) 610 | Dewch rŵan, dach chi ddim yn mynd i wastraffu gwin da! |
| (2, 0) 616 | Dewch gyfeillion. |
| (2, 0) 618 | Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr. |
| (2, 0) 709 | Lle gebyst mae pawb? |
| (2, 0) 711 | Lle mae'r merchaid 'ma? |
| (2, 0) 757 | A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn. |
| (2, 0) 758 | Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig. |
| (2, 0) 760 | Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl. |
| (2, 0) 763 | A lle mae fy ngwraig i wedi mynd? |
| (2, 0) 764 | Rydw i isio gair ymhellach gyda hi. |
| (2, 0) 765 | Mae isio dysgu gwers iddi. |
| (2, 0) 767 | Pan ddaw hi'n ôl, dwedwch wrthi fy mod isio ei gweld hi yn syth. |
| (2, 0) 833 | Beti, Doris, Ben. |
| (2, 0) 834 | Sut ydych chi erbyn hyn? |
| (2, 0) 837 | Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw. |
| (2, 0) 839 | Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir. |
| (2, 0) 840 | Na, fel mae Mr Davies y Gweinidog yn ei ddweud, rhaid maddau yn yr hen fyd 'ma. |
| (2, 0) 841 | Felly dyma anrhegion i chi'ch tri. |
| (2, 0) 842 | I chi, Beti ─ côt ffyr. |
| (2, 0) 843 | I ti, Doris ─ cyflog tri mis a bonws o gan punt. |
| (2, 0) 844 | Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur. |
| (2, 0) 850 | Ardderchog. |
| (2, 0) 851 | Mi ddo' i gyda chi. |