| (1, 0) 14 | Mi fyddwch chi'n sefyll yn rh'wla arall os na fyddwch chi'n byhafio. | 
| (1, 0) 15 | Rwan, gawn ni dipyn o drefn. | 
| (1, 0) 17 | Byddwch ddistaw neu fe fyddwch chi'n gorfod gadael. | 
| (1, 0) 19 | 'Does gennoch chi ddim hawl i godi trwbwl. | 
| (1, 0) 21 | Tŷ cyfiawnder ydi llys barn, nid syrcas i bobol fel chi. | 
| (1, 0) 22 | Does gennoch chi'r bobol ifanc 'ma ddim parch at ddim byd. | 
| (1, 0) 24 | Mi rwyt ti'n dipyn o lanc yn 'dwyt? ─ | 
| (1, 0) 25 | Wel, gwranda di ar hyn, o leia' mi roeddan ni'n dangos parch at rywun arall... | 
| (1, 0) 30 | Trefn! | 
| (1, 0) 31 | Dipyn o drefn yn y llys os gwelwch yn dda. | 
| (1, 0) 32 | Sefwch... | 
| (1, 0) 34 | Sefwch i'r fainc... | 
| (1, 0) 37 | Gawn ni DREFN yn y lle 'ma... | 
| (1, 0) 43 | Barchus Ynadon? | 
| (1, 0) 45 | Wnaiff y diffynydd sefyll? | 
| (1, 0) 52 | Tawelwch! | 
| (1, 0) 53 | Pa achos sy'n dod nesa' offisar? | 
| (1, 0) 59 | Os bydd 'na fwy o drwbwl, mi fydda i'n clirio'r cyfleusterau cyhoeddus... | 
| (1, 0) 61 | Dewch a'r diffynydd i'r llys. | 
| (1, 0) 66 | Rhowch o i eistedd yn fanna wrth Ben Little, Offisar. | 
| (1, 0) 71 | Cyn cychwyn ar yr achos hwn mi garwn i chi, barchus ynadon, wrando ar dystiolaeth seicolegydd am gyflwr meddyliol y diffynnydd. | 
| (1, 0) 73 | Doctor? | 
| (1, 0) 95 | Mae hynny'n golygu na chaiff o bledio na thyngu llw, na gofyn nac ateb unrhyw gwestiwn na'i gael yn euog na chael ei gosbi chwaith. | 
| (1, 0) 96 | Mi fydd y cyfreithiwr Ben Little yn ymddangos ar ei ran. | 
| (1, 0) 100 | Cyhuddir Samuel Jones o ddwyn côt fawr ar y degfed o Awst y flwyddyn hon, côt o eiddo David Howells. | 
| (1, 0) 101 | P.C. Davies? | 
| (1, 0) 104 | Ben Little! | 
| (1, 0) 105 | Wnewch chi gadw eich cleiant dan reolaeth? | 
| (1, 0) 106 | Does ganddo fo ddim hawl i ddeud dim byd ─ mae hynny er ei les ei hun. | 
| (1, 0) 108 | P.C. Davies? | 
| (1, 0) 116 | Gawn ni fynd yn ôl at yr achos dan sylw, P.C. Davies? | 
| (1, 0) 120 | Beth yn union rwan cwnstabl? | 
| (1, 0) 129 | Ai hon oedd y gôt? | 
| (1, 0) 131 | Ewch ymlaen. | 
| (1, 0) 134 | Mi roeddach chi'n ei nabod felly? | 
| (1, 0) 139 | Oedd o'n anystywallt y tro yma? | 
| (1, 0) 142 | 'Lwyddoch chi i'w gael o i ddeud rhywbeth? | 
| (1, 0) 144 | Peidiwch â thorri ar draws o hyd. | 
| (1, 0) 146 | Dim byd? | 
| (1, 0) 148 | Am be'? | 
| (1, 0) 150 | Beth yn union 'rwan? | 
| (1, 0) 152 | A sut dywydd oedd hi? | 
| (1, 0) 154 | Dwi'n gweld...diddorol iawn. | 
| (1, 0) 168 | Brysiwch, brysiwch ─ mae hi'n dod. | 
| (1, 0) 169 | Hei, rho'r gadair na'n fanna yli. | 
| (1, 0) 171 | Na, tro hi rownd fel arall. | 
| (1, 0) 173 | ... Ia, dyna chi. | 
| (1, 0) 174 | Brysiwch rwan ─ i ffwrdd oddi wrthi ─ mae Annie Pi-Pi'n trwsus yn dod. | 
| (1, 0) 186 | O cê hogia, gadwch lonydd iddi am rwan i ni gael mynd ymlaen efo'r gêm. | 
| (1, 0) 187 | Cym on Annie ti'n oer, oer ar hyn o bryd... | 
| (1, 0) 198 | Ty'd o'na Annie, tria rhwla arall... | 
| (1, 0) 203 | Dal ati, Annie ─ mi rwyt ti bron â bod yno. | 
| (1, 0) 211 | Reit, tro pwy ydi hi rwan? | 
| (1, 0) 218 | O hist, hist! | 
| (1, 0) 219 | Mi wna i ddewis 'ta am ych bod chi mor anhrefnus. | 
| (1, 0) 221 | Fi 'di boss y gêm ─ mi wna i ddewis... | 
| (1, 0) 223 | Gadewch i mi weld rwan. | 
| (1, 0) 226 | Nage ddim. | 
| (1, 0) 228 | Hei, dwi'n gw'bod pwy fydd nesa' ─ sbiwch pwy sy'n fan'na! | 
| (1, 0) 230 | Sbiwch wir. | 
| (1, 0) 231 | Dowch yma. | 
| (1, 0) 233 | Sami-babi-mami! | 
| (1, 0) 234 | Wyt ti isho gem Sami? | 
| (1, 0) 235 | Wyt ti isho sgarff rownd dy lygaid? | 
| (1, 0) 239 | Pam? | 
| (1, 0) 240 | E? | 
| (1, 0) 241 | Be wyt ti'n mynd i'w wneud 'ta? | 
| (1, 0) 250 | Ho! mi wn i ─ dwi'n ei dallt hi rwan. | 
| (1, 0) 251 | Hen gena slei wyt ti ynte Sami? | 
| (1, 0) 252 | Sam slei... | 
| (1, 0) 254 | Wyddoch chi be mae |o| am wneud? | 
| (1, 0) 256 | Mae |o|... yn mynd i'r clastrwm... i lyfu Miss Robyts. | 
| (1, 0) 257 | Titsiars pet ─ dyna be ydi o. | 
| (1, 0) 258 | Titsiars pet ynte Sami? | 
| (1, 0) 260 | Dal bag i Miss Robyts, agor drws i Miss Robyts, rhoi llyfra allan i Miss Robyts, hel llyfra fewn i Miss Robyts, dod a bloda i Miss Robyts. | 
| (1, 0) 261 | Titsiars pet! | 
| (1, 0) 267 | Na, dwi'n gw'bod. | 
| (1, 0) 268 | Dwyt ti ddim yn pet siŵr iawn. | 
| (1, 0) 269 | A deud y gwir, dydi Miss Robyts ddim dy lecio dy di o gwbwl. | 
| (1, 0) 276 | Na, mae o'n llawar iawn gwaeth. | 
| (1, 0) 278 | Ia, fel hyn... | 
| (1, 0) 280 | Ow! | 
| (1, 0) 281 | Beth ar wyneb y ddaear ydi'r ogla 'ma? | 
| (1, 0) 282 | Ow! | 
| (1, 0) 283 | Pwy wnaeth yr ogla drwg 'ma? | 
| (1, 0) 285 | Ow, yr hen hogyn bach drwg. | 
| (1, 0) 286 | Samuel, dowch ata i'r funud hon. | 
| (1, 0) 287 | Dewch yma, Samuel Jones. | 
| (1, 0) 289 | Chi wnaeth yr hen ogla drwg ych-a-fi yna eto Samuel Jones? | 
| (1, 0) 291 | Atebwch fi! | 
| (1, 0) 293 | Gadewch i mi weld. | 
| (1, 0) 295 | Ow, dear me! | 
| (1, 0) 296 | YCH-A-FI! | 
| (1, 0) 297 | Yr hen fochyn bach budur, budur, budur. | 
| (1, 0) 299 | Samuel Jones, pam ych bod chi'n baeddu'ch trowsus o hyd ac o hyd ac o HYD! | 
| (1, 0) 300 | Does gennoch chi ddim ofn codi'ch llaw yn nagoes? | 
| (1, 0) 303 | Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach? | 
| (1, 0) 305 | Wel, pam 'ta? | 
| (1, 0) 307 | Wir, dydi'r ddynas 'na ddim ffit i edrach ar ôl ci heb sôn am hogyn bach. | 
| (1, 0) 309 | Nain wir. | 
| (1, 0) 310 | Hen ddynas wyllt o'r coed fasa'n nes ati. | 
| (1, 0) 311 | Mi fydd yn rhaid i mi ei riportio hi a mynd a thi i'r cartra' lle cei di ofal go iawn. | 
| (1, 0) 318 | Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di... | 
| (1, 0) 320 | (Gan droi at P.C. Davies) | 
| (1, 0) 321 | Wel? | 
| (1, 0) 323 | Dydi plant da ddim yn deud clwydda. | 
| (1, 0) 325 | Dim ond plant drwg sy'n gneud hynny. | 
| (1, 0) 326 | Dos i sefyll yn y gornal tra bydda i yn dysgu'r plant da i sgwennu. | 
| (1, 0) 327 | Dim ond plant da sy'n cael dysgu sgwennu a gneud syms. | 
| (1, 0) 328 | Plant da sy'n cael dysgu darllen. | 
| (1, 0) 329 | Plant da sy'n cael testimonial i gael job dda. | 
| (1, 0) 330 | Ond mae plant drwg yn mynd i drwbwl. | 
| (1, 0) 331 | Rwan dos i'r gornal... | 
| (1, 0) 341 | Ia, chwilia am y gadair Sami. | 
| (1, 0) 343 | Fan hyn yli ─ fan hyn Sami. | 
| (1, 0) 352 | Ha! ha! | 
| (1, 0) 353 | Dydi o ddim mor hawdd a hynny, Sami bach. | 
| (1, 0) 354 | Fan hyn mae hi yli. | 
| (1, 0) 712 | Trefn! | 
| (1, 0) 713 | Gawn ni drefn yn y llys. | 
| (1, 0) 717 | Cyfiawnder sydd yn y lle yma nid carnifal. | 
| (1, 0) 719 | Ewch 'mlaen efo'ch adroddiad, doctor. | 
| (1, 0) 726 | Wnewch chi gadw'ch cleiant dan reolaeth Ben Little ─ dydw i ddim eisiau dweud hynny eto. | 
| (1, 0) 729 | Daliwch ati, doctor. | 
| (1, 0) 733 | Barchus ynadon? | 
| (1, 0) 755 | Pa achos sy nesa'? |