|
|
|
|
(0, 2) 66 |
Y mae aur y Tylwyth Teg yn dy law di, felly bydd popeth yn iawn, fe gei'r peth a fynni—fydd dyn ddim yn hir cyn cwpla'r peth fo wrth ei fodd. |
(0, 2) 67 |
Y mae'r moddion gennyt, felly dyna ben. |
|
|
(0, 2) 71 |
le, fel y dywedwyd, rhaid i ni frysio, nid gwiw i ni oedi'n hwy. |
|
|
(0, 2) 75 |
A adwaenost ti'r creadur yna? |
|
|
(0, 2) 95 |
Mae'r gŵr drwg yn ei groen! |
(0, 2) 96 |
Byddai miloedd o fegeriaid ar dy warthaf di—beth, miloedd? |
(0, 2) 97 |
Cannoedd o filoedd! |
|
|
(0, 2) 102 |
O'm rhan fy hun, byddai'n gywilydd gennyf ofyn y fath beth! |
|
|
(0, 2) 122 |
Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth. |
(0, 2) 123 |
Wir Dduw! a fo goludog a fydd doeth! |
|
|
(0, 2) 126 |
Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes? |
(0, 2) 127 |
Mynd ag ef i garchar am ei ddyled, ond odid. |
(0, 2) 128 |
Buasai well iddo edrych ati'n amgenach. |
(0, 2) 129 |
Rhaid iddo bellach feddwl am fara a dŵr, neu ymgrogi wrth ryw hoel neu gilydd. |
(0, 2) 130 |
Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion! |
|
|
(0, 2) 139 |
Beth? |
|
|
(0, 2) 141 |
Beth! |
|
|
(0, 2) 148 |
Beth! |
|
|
(0, 2) 167 |
Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen. |
|
|
(0, 2) 176 |
[Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.] |
|
|
(0, 2) 206 |
Honno y caf i dy weled gyda hi heno? |
(0, 2) 207 |
Mi ddof â'r dangosiad am y tâl iti yno, wedi ei gwpla yn ôl d'ewyllys. |
|
|
(0, 2) 210 |
Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull? |
|
|
(0, 2) 214 |
Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg. |
|
|
(0, 2) 216 |
Mi welaf dy fam yn dyfod draw. |
(0, 2) 217 |
Afynni di gyfarfod â hi yma? |
|
|
(0, 4) 498 |
Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw, |
|
|
(0, 4) 517 |
Dy dwyllo y mae dy glust. |
(0, 4) 518 |
Y mae golwg drwg arnat. |
(0, 4) 519 |
A gaf i d'arwain di i'r tŷ. |
|
|
(0, 6) 591 |
Gwn. |
(0, 6) 592 |
[Nid oeddwn bum cam oddi wrthyt, pan ddaeth Angau tuag atat, Pobun, ac fe glywais yr ymddiddan oll. |
(0, 6) 593 |
Yr oedd fy nghalon yn neidio i'm gwddf! |
(0, 6) 594 |
Dyn llawen, cyn iached â'r gneuen, oeddit ti hyd yr awr hon.] |
(0, 6) 595 |
Bellach, daw'r dagrau i'm llygaid wrth edrych arnat, Pobun, fy nghydymaith. |
|
|
(0, 6) 597 |
Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen. |
|
|
(0, 6) 599 |
[Ac felly y'm cei bob amser hefyd. |
(0, 6) 600 |
A choelia fi, pe bai dy daith yn union ar ei phen i uffern, fe'm ceit i'n gydymaith hyd y fan.] |
|
|
(0, 6) 602 |
[Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.] |
|
|
(0, 6) 604 |
Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da. |
|
|
(0, 6) 606 |
Y mae dy drueni yn gwasgu'n drwm arnaf. |
(0, 6) 607 |
Pa beth bynnag o faterion y byd hwn sy'n poeni dy galon di, mi edrychaf atynt ar dy ran yn ffyddlon. |
(0, 6) 608 |
[Dywed, a wnaeth rhywun gam dro â thi? |
(0, 6) 609 |
Cânt eu cosb o'm llaw i fy hun â'r dur miniog, pe bai raid i mi lyfu'r llwch am hynny.] |
|
|
(0, 6) 611 |
'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd. |
|
|
(0, 6) 613 |
[Nid rhaid wrth lawer o eiriau—fe saif d'ymddiried ynof fi. |
(0, 6) 614 |
Mae'r weithred brynu'r tir hwnnw'n ddigon diogel; tebyg mai d'ewyllys fyddai fynd dy gyfoeth i'th feistres serchog, gymaint ag a fo teg, dros byth.] |
|
|
(0, 6) 616 |
[Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.] |
|
|
(0, 6) 618 |
[Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.] |
|
|
(0, 6) 620 |
[Onid egluri di i mi? |
(0, 6) 621 |
Efallai nad erys i ti lawer o amser.] |
|
|
(0, 6) 623 |
[Dywed imi'r peth! ar unwaith, Pobun. |
(0, 6) 624 |
Pa beth a dâl cyfeillgarwch onid hynny?] |
|
|
(0, 6) 626 |
[Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.] |
|
|
(0, 6) 632 |
Ie, ie. |
(0, 6) 633 |
[Dyna'r peth. |
(0, 6) 634 |
Addo, a gwrthod wedyn, cywilydd i mi fyddai hynny—mae meddwl am hynny'n fy ngyrru'n boeth. |
|
|
(0, 6) 636 |
Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da. |
|
|
(0, 6) 639 |
Do, dyna oedd fy ngeiriau, yn gywir! |
(0, 6) 640 |
Ond, a dywedyd y gwir, nid dyma'r amser i ysmalio felly. |
(0, 6) 641 |
Pe cychwynnem ar y daith, pa bryd y deuem drachefn yma? |
(0, 6) 642 |
Ha, dyro ateb? |
|
|
(0, 6) 645 |
Yna, myn crog Crist, mi arosaf yma. |
(0, 6) 646 |
Os dyna ystyr yr alwad, yna, dyma fel y saif pethau—nid af i ddim i'r daith. |
|
|
(0, 6) 648 |
Nid af. |
(0, 6) 649 |
Os felly y saif, arosaf yma. |
(0, 6) 650 |
[Dywedaf wrthyt beth sydd yn fy meddwl. |
(0, 6) 651 |
Gwyddost fy mod i yn agored bob pryd, bid fel y bo, dyma fonid af i ddim i'r daith, er mwyn un enaid byw, yn wir; ie, nid awn er mwyn fy nhad fy hun,—rhoed Duw iddo heddwch tragywydd er hynny.] |
|
|
(0, 6) 654 |
Da gwn. |
(0, 6) 655 |
Ac addewais yn eithaf cywir. |
(0, 6) 656 |
A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif. |
|
|
(0, 6) 659 |
Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi. |
|
|
(0, 6) 662 |
Ni ddof ddim, [ni rof droed o flaen y llall am bris yn y byd. |
(0, 6) 663 |
Pe bai gennyf ychydig amser, ni adawn iti fod ar dy ben dy hun, ond yn awr ni allaf aros gyda thi. |
|
|
(0, 6) 665 |
Rhoed Duw iti daith ysgafn a hwylus hyd yno, rhaid i mi brysuro ar fy ffordd. |
|
|
(0, 6) 669 |
[Yn llwyr, lwyr. |
(0, 6) 670 |
Cymered Duw drugaredd ar d'enaid.] |
|
|
(0, 6) 673 |
Da boch dithau, Pobun, da boch. |
(0, 6) 674 |
Dyro i mi dy law. |
(0, 6) 675 |
Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr. |