|
|
|
|
(1, 1) 5 |
Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud? |
|
|
(1, 1) 7 |
Mi ydw' i'n gweld hynny'n iawn. |
(1, 1) 8 |
Dim rhaid i chi bwysleisio peth sy'n hollol amlwg. |
|
|
(1, 1) 11 |
Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus. |
|
|
(1, 1) 14 |
Peidiwch â thrio edrych yn ddiniwed, Tomos. |
(1, 1) 15 |
'Rydych chi'n gollwng y gath o'r cwd bob tro. |
(1, 1) 16 |
Mae yna rywbeth yn euog o'ch cwmpas chi'n ddiweddar yma. |
|
|
(1, 1) 18 |
Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma! |
|
|
(1, 1) 20 |
Faint o seibiant 'rydw' i'n ei gael? |
(1, 1) 21 |
Dim munud awr o fore tan nos. |
(1, 1) 22 |
Gweithio fy mysedd i'r esgyrn, ac ar alwad pawb yn ddibaid. |
(1, 1) 23 |
Ia, a hynny heb rwgnach hefyd, fel 'rydw' i wiriona'— |
|
|
(1, 1) 25 |
Peidiwch â dadla', Tomos. |
(1, 1) 26 |
Rydych chi'n gwybod yn iawn 'mod i'n dweud y gwir. |
(1, 1) 27 |
Os ydych chi am gadw gwesty heddiw, mae'n rhaid i chi fodloni ar fod yn gaethwas. |
|
|
(1, 1) 29 |
Wel edrychwch arnoch eich hun, yn llybindian a chlertian o gwmpas fel hyn. |
(1, 1) 30 |
Ac yn smocio fel corn simdde'. |
(1, 1) 31 |
Ydych chi'n fy ngweld i'n gwneud? |
|
|
(1, 1) 33 |
Peidiwch â chellwair. |
(1, 1) 34 |
'Rydych chi'n gwybod be' 'rydw i'n ei feddwl yn iawn. |
(1, 1) 35 |
Bob faint fyddwch chi'n fy ngweld i'n segura? |
|
|
(1, 1) 37 |
Rhag eich c'wilydd chi, Tomos! |
(1, 1) 38 |
Hi ydy' un o'n cwsmeriaid gora' ni. |
(1, 1) 39 |
Ac yn aelod blaenllaw o Gyngor y Dre. |
(1, 1) 40 |
Ydach chi'n gwarafun munud o sgwrs dros banned o de? |
|
|
(1, 1) 43 |
Straeona, ddwedsoch chi? |
(1, 1) 44 |
Straeona? |
(1, 1) 45 |
Heblaw ei fod o'n gyhuddiad creulon, mae o'n gelwydd noeth. |
|
|
(1, 1) 48 |
'Does gennych chi ddim amser i ddarllen. |
(1, 1) 49 |
Mi wyddoch y bydd yma lond y lle i ginio. |
(1, 1) 50 |
Mae yna ddwy bwcedaid o datws yn y gegin eisio cael eu plicio. |
(1, 1) 51 |
Mi fydda' i'n disgwyl y byddan' nhw'n barod pan ddo' i'n ôl. |
(1, 1) 52 |
Fydda' i ddim yn hir. |
|
|
(1, 1) 54 |
Rasal? |
(1, 1) 55 |
I be 'rydach chi eisio honno? |
|
|
(1, 1) 57 |
Edrychwch yma, Tomos, 'dydw i ddim mewn tymer i'ch ffraethineb chi heddiw o bob diwrnod. |
(1, 1) 58 |
Da chi, triwch gysidro. |
|
|
(1, 1) 60 |
Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du? |
|
|
(1, 1) 63 |
Cynhebrwng? |
(1, 1) 64 |
Prin y medrech chi ddweud dim creulonach, 'taech chi'n sylweddoli hynny. |
|
|
(1, 1) 68 |
Da chi, peidiwch â rhwbio halen i'r briw. |
(1, 1) 69 |
Ddeng mlynedd i heddiw y collais i William annwyl. {Eistedd i lawr.} |
|
|
(1, 1) 71 |
Gofalwch be' rydach chi'n 'i ddweud, Tomos. |
(1, 1) 72 |
Mae'n ddyletswydd anrhydeddus arna'i i barchu co' fy ngŵr cynta'. |
(1, 1) 73 |
Heddwch i'w lwch! |
|
|
(1, 1) 75 |
Beth ydach chi'n 'i feddwl? |
|
|
(1, 1) 79 |
Ia, mae hynna'n llythrennol wir. |
(1, 1) 80 |
Yn y storm ofnadwy honno ddeng mlynedd yn ôl, yr aeth ei long o i'r gwaelod. {Codi a mynd at y ffenestr.} |
(1, 1) 81 |
Ac er y dydd hwnnw, mae'r hen fôr milain, creulon acw'n atgas gen' i. |
(1, 1) 82 |
'Dydw i byth yn clywed swn ei donnau heb glywed hefyd chwerthiniad iach fy nghariad cyntaf. |
(1, 1) 83 |
Fedra' i byth edrych ar y tywod heb feddwl am ei esgyrn annwyl yn gymysg â'r gwmon. |
(1, 1) 84 |
Ddaw'r llanw byth i mewn heb lenwi fy nghalon â hiraeth dwys. |
(1, 1) 85 |
Mae cri'r wylan ar adennydd y gwynt yn dennu deigryn o'm llygaid. |
|
|
(1, 1) 87 |
Sut fedrwch chi fod mor ddideimlad, Tomos? |
(1, 1) 88 |
Ond beth arall sydd 'i ddisgwyl? |
(1, 1) 89 |
'Does gennych chi ddim mwy o ramant na chwningan! |
|
|
(1, 1) 94 |
Mi fydda' i bob amser yn meistroli fy nheimlada', fe ddylech wybod hynny. |
(1, 1) 95 |
Hyd yn oed mewn trallod, mi fydda' i'n trio meddwl am eraill. |
(1, 1) 96 |
Ac os oes arnoch chi eisio gwybod, nionod-picl fydd yna i ginio heddiw. |
(1, 1) 97 |
Felly mi gewch sbario'ch trafferth. |
|
|
(1, 1) 102 |
Mae gen' i eisio mynd allan ar negas, Lewis. |
(1, 1) 103 |
Wnei di gadw dy lygaid yn agored rhag ofn i rywun alw? |
(1, 1) 104 |
Mi fydd dy dad yn brysur yn y gegin. |
|
|
(1, 1) 110 |
Wel, mi ydw' i wedi gwneud fy ngora' iddo fo, Tomos. |
(1, 1) 111 |
'Tawn i'n fam iddo fo, fedrwn i wneud dim mwy. |
(1, 1) 112 |
Ond 'dwn i ddim ydy' f'ymdrechion i'n cael eu gwerthfawrogi. |
|
|
(1, 1) 116 |
A be ydy' hwnnw? |
|
|
(1, 1) 118 |
'Does arna' i ddim eisio trafod hynny rwan, Tomos. |
(1, 1) 119 |
Mi fydda' i'n ddiolchgar os gwnewch chi barchu fy nheimladau. {Troi oddiwrtho.} |
(1, 1) 120 |
William annwyl! |
(1, 1) 121 |
Deng mlynedd—! |
|
|
(1, 1) 123 |
Ia? |
|
|
(1, 1) 125 |
Wel? |
|
|
(1, 1) 127 |
'Tae ni wedi cael plentyn? |
(1, 1) 128 |
Tomos, peidiwch â siarad mor anweddus, wnewch chi! |
(1, 1) 129 |
Ewch i'r cefn at y tatws yna, cyn i mi anghofio fy hun. |
|
|
(1, 1) 131 |
Yn dweud y fath beth heddiw o bob diwrnod! |
(1, 1) 132 |
Mae'r dyn o'i go'n lân. |
|
|
(1, 1) 483 |
Tomos! |
|
|
(1, 1) 485 |
Beth ydy'r bocs yma? |
|
|
(1, 1) 489 |
Beth sydd ynddo fo? |
|
|
(1, 1) 491 |
Be! |
|
|
(1, 1) 493 |
Beth ydy'ch meddwl chi d'wedwch? |
(1, 1) 494 |
I be' mae nhw'n dda? |
|
|
(1, 1) 496 |
Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota! |
|
|
(1, 1) 499 |
Felly wir. |
(1, 1) 500 |
Ond mae yna glo arno fo! |