Cuesheet

Asgre Lân

Lines spoken by Dafydd (Total: 39)

 
(1, 0) 15 "Tri chlo"' ddeydwn ni, yntê?
 
(1, 0) 19 Ia, siwr.
 
(1, 0) 25 Ma gen ti fachgen dan gamp, Gruffydd.
 
(1, 0) 27 Ma'r ddau'n caru, yn tydy nhw?
 
(1, 0) 30 Siort ora; fydd Mari ddim yn i gamol o wrtho ti weithia?
 
(1, 0) 33 Go lew hi; ma gyno ni glamp o feddwl o Mari Huws tua Horeb acw.
 
(1, 0) 37 Mae mwy ym mhen Mari, wel di, na'n hannar ni, a choeliet ti byth mor anodd ydi cael y gora arni hi ar bwnc o ddadl mewn dosbarth rwan─ma'i hatab hi mor barod rywsut bob cynnig.
 
(1, 0) 40 Aros di Gruffydd, rwyt ti wedi rhoi darn go fawr at yr hyn ddywedis i; nid parodrwydd fel yna oedd yn y meddwl i.
 
(1, 0) 43 Mi sonist am yr Ysgol Sul rwan; pam na ddoi di i'r Ysgol, Gruffydd?
(1, 0) 44 Wel, mi ofynna i beth arall i ti: mi rydw i wedi bod yn meddwl i ofyn o iti ar hyd y blynydda.
(1, 0) 45 Rwyt ti'n wrandawr yn Horeb acw erioed; pam na ddoi di'n aelod, rhen ffrind?
(1, 0) 46 Peth digon chwithig, wyddost, ydi gweld Mari mor selog a thitha, i gŵr hi, y tuallan yn y byd.
 
(1, 0) 48 Pa wahaniaeth─be wyt ti'n feddwl?
 
(1, 0) 50 Cwestiwn go gynnil ydi hwnna, achos gofyn rwyt ti mewn ffordd neis be ydw i'n feddwl o dy gymeriad di fel dyn.
 
(1, 0) 53 Ia, wrth gwrs: ond gofala na roi di ddim ystyr bach ysgafn i'r gair "da"; gair mawr iawn ydi'r gair "da," wyddost.
 
(1, 0) 55 Ydi, wrth gwrs, ma daioni yn cynnwys hynny, a rhagor hefyd.
 
(1, 0) 57 Wel, gwarchod pawb! mi ddyla neud hynny bach wrth ddechra crefydda.
 
(1, 0) 59 Ydi, mae o'n flaenor fel finna yn y sêt fawr.
 
(1, 0) 65 Aros funud─
 
(1, 0) 69 Os daru mi dy ddallt ti, yr hen geffyl sy'n dy gadw di rhag bod yn aelod yn Horeb?
 
(1, 0) 73 Tro sâl oedd hwnna, rhaid cyfadda; ond un ydi Huw'r Ffridd; yn eno'r taid annwyl, dwyt ti ddim yn taflu'n bod ni i gyd yn Horeb yn palu celwydd fel y gnath Huw'r tro yna?
 
(1, 0) 84 Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw.
 
(1, 0) 86 Wel ia─
 
(1, 0) 96 Pa gwmni?
 
(1, 0) 98 O! 'r |Auxilary Society|?
 
(1, 0) 101 Mr. Evans, y gweinidog, yn |agent| iddyn nhw?
 
(1, 0) 105 Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn |agent|: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo.
 
(1, 0) 112 Pa deitl roet ti iddo fo?
 
(1, 0) 123 Fedra i yn y myw beidio meddwl am Mr. Evans yn |agent| yr |Auxiliary|.
(1, 0) 124 Gawsoch chi'r newydd o le go saff, Mari Huws?
 
(1, 0) 126 Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw?
 
(1, 0) 130 Paid ag achwyn, Gruffydd, rwyt ti yn yr un manshar a phob tad arall.
(1, 0) 131 Wel, ma'n ddrwg gen i fod Mr. Evans yn mynd i ffwndro 'i ben efo'r cwmni na; ma rhyw gloch bach yn canu'n y nghlust i: gobeithio'r annwyl ma nid rhyw gnafon twyllodrus o gwmpas Llunden na sy'n gwthio'r busnes yn i flaen.
 
(1, 0) 155 Does dim dowt nad oes mynd mawr arni hi ar hyn o bryd; ond, a gadael i hynny fod, ofni rydw i, os ca i ddeyd heb y'ch digio chi, nad ydach chi, Mr. Evans, ddim wedi'ch torri ar gyfar y fath waith.
(1, 0) 156 Fel deydis i rwan jest wrth Gruffydd a Mari Huws, teimlo rydw i bob amser y'ch bod chi'n fwy naturiol o lawar i mi yn y stydi a'r pulpud nag efo rhyw waith fel hyn sy'n gofyn am wybodaeth go helaeth o gylch masnach.
 
(1, 0) 158 Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd.
 
(1, 0) 181 Mi rowch chitha'ch arian yni hi, Mr. Evans?
 
(1, 0) 205 Waeth i mi ddwad hefo chi Mr. Evans, mae'n bryd i minna fynd i glwydo.
(1, 0) 206 Nos dawch.