| 113 | O mam... |
| 115 | Tadcu, mae Rofer wedi marw. |
| 116 | Mae Ifan yn torri bedd iddo fe yn y cae. |
| 117 | Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu? |
| 120 | Ond pam, mam? |
| 122 | Dydw i ddim am gi arall—eisiau Rofer sydd arna i. |
| 124 | Pam mae Rofer wedi marw, tadcu? |
| 125 | A fuodd e'n gwneud drwg? |
| 128 | Pam mae e wedi marw, ynte? |
| 130 | Ond rydw i am gael gwybod nawr. |
| 131 | Roedd e'n iawn pan es i i'r ysgol bore heddiw. |
| 132 | Fe ddaeth gyda mi i ben draw'r cae. |
| 133 | Ac mae Ifan yn pallu dweud beth a ddigwyddodd. |
| 134 | Roedd ei'n dweud wrthyf am ofyn i chi. |
| 138 | Chi laddodd Rofer, tadcu! |
| 139 | Dyna pam na ddwedwch chi. |
| 142 | Pam na ddwedwch chi ynte? |
| 146 | Na! |
| 147 | Rydw i am gael gwybod. |
| 148 | Pwy saethodd e, tadcu? |
| 156 | Dwedwch, tadcu! |
| 162 | Dwedwch, tadcu. |
| 163 | Pwy saethodd Rofer? |
| 166 | Ond pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud? |
| 168 | Pam ynte? |
| 169 | Pam ynte? |
| 171 | Ond doedden ni ddim wedi gwneud un drwg i'w ci nhw. |
| 172 | Ydych chi ddim yn mynd i gosbi pobol Rhydyfran, tadcu? |
| 173 | Ydych chi ddim yn mynd i saethu eu ci nhw? |
| 176 | Ydych chi ddim, tadcu? |
| 177 | Os na wnewch chi, fe wna i pan fydda i wedi tyfu i fyny. |
| 181 | Ond fy nghi i oedd Rofer. |
| 182 | Doedd ganddyn nhw ddim hawl i'w saethu e. |
| 184 | Dydw i ddim eisiau ci arall. |
| 185 | Fe gofia i am hyn pan fydda i... pan fydda i wedi tyfu i fyny. |
| 187 | Faint sy'n raid i mi dyfu eto, tadcu, cyn bydda i'n ddigon mawr i handlo dryll? |