| (1, 1) 3 | Golygfa 1 | 
| (1, 1) 4 | ~ | 
| (1, 1) 5 | Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn cyntaf... | 
| (1, 1) 36 | Yn ystod yr emyn, araf-ddiffoddir y golau. | 
| (1, 1) 37 | O oleuni llachar yr 21ain ganrif dychwelwn at oleuni sy'n gydnaws â lampau olew ddechrau'r 20fed ganrif. | 
| (1, 1) 38 | Atgyfnerthir y siwrne hon yn ôl mewn amser wrth i organ gyfoes y cyfeiliant droi'n harmoniwm neu'n biano. | 
| (1, 1) 39 | ~ | 
| (1, 1) 40 | Yn ystod yr ail bennill, daw gwraig (Mrs. Jones) i'r sêt fawr. | 
| (1, 1) 41 | Mae hi'n bresennol yn y capel ond nid yw'n ymddangos pe bai'n rhan o bresenoldeb y gynulleidfa. | 
| (1, 1) 42 | Mae parsel yn ei llaw. | 
| (1, 1) 43 | Yn ei phwysau, mae'n datod y parsel ac yn gwisgo'r dilladach sydd ynddo amdani. | 
| (1, 1) 44 | Dillad galar ydynt. | 
| (1, 1) 45 | Eto, yn ei phwysau, mae'n dringo i'r pwlpud. | 
| (1, 1) 46 | Yn araf, mae'n codi ac yn ymestyn ei breichiau tuag at holl blant colledig ei bro. | 
| (1, 1) 47 | Wrth fôn ei hystym y mae galar am ei phlentyn ei hun. | 
| (1, 1) 48 | Ei hunig blentyn. | 
| (1, 1) 49 | ~ | 
| (1, 1) 50 | Wrth i'r emyn bennu dal i dyfu a chryfhau y mae ymestyniad y fam. | 
| (1, 2) 52 | Golygfa 2 | 
| (1, 2) 53 | ~ | 
| (1, 2) 54 | Ar ddiwedd yr emyn darllenir... | 
| (1, 2) 81 | Yn ystod y darlleniad datblygir cyfeiliant tympani. | 
| (1, 2) 82 | Wrth i'r cyfeiliant gryfhau, cryfhau hefyd a wna goslef y darllenwr. | 
| (1, 2) 83 | Yn y pen draw, nid darllenydd gwrthrychol mohono ond cennad 'dial cyfiawn'. | 
| (1, 2) 84 | ~ | 
| (1, 2) 85 | Trwy gydol y darlleniad mae'r fam yn cynnal ei hystym gan wrthweithio pob ymgais ar ran y lladmerydd i'w gorchfygu. | 
| (1, 3) 86 | Golygfa 3 | 
| (1, 3) 87 | ~ | 
| (1, 3) 88 | Mae drws y capel yn agor. | 
| (1, 3) 89 | ~ | 
| (1, 3) 90 | Clywir, o bell, pump o wŷr ifainc uchel eu hysbryd, os nad lled-feddw, yn agosau. | 
| (1, 3) 91 | Wrth iddynt ddod mewn trwy'r drws gwelir – o'u gwisg a'u hyder - mai boneddigions ydynt. | 
| (1, 3) 92 | Golygfa fyrfyfyr fydd hon i'w phrifio o'r hadau canlynol... | 
| (1, 3) 93 | ~ | 
| (1, 3) 94 | Mae bob yr un ohonynt â photel siampên yn ei law. | 
| (1, 3) 95 | ~ | 
| (1, 3) 96 | Mae pob potel wedi'i lapio â baner ymerodraethol, sef... Awstro-Hwngari, Rwsia, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain. | 
| (1, 3) 97 | ~ | 
| (1, 3) 98 | Eu hymateb cyntaf wrth 'ddarganfod' y gofod newydd yw hawlio eu cyfran yn enw eu hymerodraeth. cyflawnir hyn pe byddent yn chwarae gêm. | 
| (1, 3) 99 | ~ | 
| (1, 3) 100 | Mae'r gêm yn datblygu yn ei sbri wrth i'r pump ruthro i 'feddiannu' mwy a mwy o 'diroedd'. | 
| (1, 3) 101 | ~ | 
| (1, 3) 102 | Digwydd rhyw fath o anffawd. | 
| (1, 3) 103 | Ond nid yw'r sawl a anafwyd yn fodlon derbyn mai damwain ydoedd. | 
| (1, 3) 104 | Mae'r chwarae yn troi'n chwerw wrth i'r cwmni meddw ymrannu'n garfannau cecrus (yr Almaen ac Awstria-Hwngari yn erbyn Ffrainc, Prydain a Rwsia). | 
| (1, 3) 105 | ~ | 
| (1, 3) 106 | Mae cyfeiliant y tympani yn dychwelyd. | 
| (1, 3) 107 | Yn frawychus o gyflym mae'r cyfeiliant hwn yn troi'r ymgecru yn ffieidd-dra gwirioneddol brawychus. | 
| (1, 3) 108 | Clywir y geiriau 'this means war'/ 'this is war'/ 'war' drosodd a throsodd. | 
| (1, 3) 109 | ~ | 
| (1, 3) 110 | Wedi cyrraedd ei ben llanw... | 
| (1, 3) 111 | ~ | 
| (1, 3) 112 | Tywyllwch dudew a thawelwch llethol am funud gyfan. | 
| (1, 4) 113 | Golygfa 4 | 
| (1, 4) 114 | ~ | 
| (1, 4) 115 | Clywir llais merch ifanc... | 
| (1, 5) 125 | Golygfa 5 | 
| (1, 5) 126 | ~ | 
| (1, 5) 127 | Cyhoeddir a chyd-gennir yr ail emyn. | 
| (1, 6) 152 | Golygfa 6 | 
| (1, 6) 153 | ~ | 
| (1, 6) 154 | Mae'r wraig yn dod i mewn. | 
| (1, 6) 155 | ~ | 
| (1, 6) 156 | Mae'n gosod y lamp wrth ei hymyl cyn mynd ati i bolisio gwaith coed y sêt fawr. | 
| (1, 6) 157 | Gwelwn ei bod yn rhoi o'i nerth i'r gwaith. | 
| (1, 6) 158 | ~ | 
| (1, 6) 159 | Ymhen hir a hwyr mae'n syrthio i'w phengliniau er mwyn dechrau ar y gwaith o bolisio'r pwlpud. | 
| (1, 6) 160 | ~ | 
| (1, 6) 161 | Gyda hyn, mae drws y capel yn agor – ei mab, Ifan-John, yn chwilio amdani. | 
| (1, 6) 188 | Ifan-John yn cnoi ei dafod. | 
| (1, 6) 243 | Ifan-John yn ymadael. | 
| (1, 7) 246 | Golygfa 7 | 
| (1, 7) 247 | ~ | 
| (1, 7) 248 | Canwr Gwerin... | 
| (1, 8) 277 | Golygfa 8 | 
| (1, 8) 278 | ~ | 
| (1, 8) 279 | daw pump person i eistedd yn y sêt fawr. | 
| (1, 8) 299 | Yr arweinydd yn esgyn i'r pwlpud... | 
| (1, 8) 305 | Gŵr y Plas yn eistedd mewn cadair seml-urddasol. Yr Arweinydd, y Mistir, y Gwas Mawr a'r Gwas Bach yn ei godi yn ei gadair i'w hysgwyddau. | 
| (1, 9) 312 | Golygfa 9 | 
| (1, 9) 313 | ~ | 
| (1, 9) 314 | Daw Ifan-John i bwyso ar flaen y sêt fawr – pe bai'n pwyso ar glwyd, neu fonyn coeden. | 
| (1, 9) 315 | Ar yr un pryd, mae'r pedwarawd yn gostwng gŵr y plas yn ofalus i'r llawr. | 
| (1, 9) 316 | Â'r Pedwar i gyfeiriadau gwahanol cyn sefyll a loetran, megis Ifan-John. | 
| (1, 9) 326 | Amnaid sydyn a chynnil gan un o'r bechgyn. Bachgen 3 yn deall. | 
| (1, 9) 336 | Dim ymateb gan Ifan-John. | 
| (1, 9) 337 | ~ | 
| (1, 9) 338 | Mae'r pedwar yn dechrau cau yn lled-fygythiol amdano. | 
| (1, 9) 342 | Â'r Pedwar ar ei war. | 
| (1, 9) 344 | Y Pedwar yn rhannu gwên fuddugoliaethus wedi tynnu ymateb oddi wrtho. | 
| (1, 9) 359 | Y Pedwar yn torri o fod yn berfformwyr coeglyd i fod yn bedwar ffrind, go iawn. | 
| (1, 9) 362 | Y perfformio'n dechrau ail-adeiladu... | 
| (1, 9) 369 | Tawelwch. | 
| (1, 9) 370 | ~ | 
| (1, 9) 371 | Yn y pen draw... | 
| (1, 9) 376 | Yn ei amser ei hun. | 
| (1, 9) 383 | Yn ei amser ei hun, eto. | 
| (1, 9) 400 | Ifan-John yn dechrau cerdded bant. | 
| (1, 9) 405 | Ifan-John wedi sefyll â'u hwynebu eto. | 
| (1, 9) 407 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 413 | Golygfa 10 | 
| (1, 10) 414 | ~ | 
| (1, 10) 415 | Yn torri ar draws yr olygfa flaenorol... | 
| (1, 10) 417 | Mae'r pedwar milwr yn diflannu. | 
| (1, 10) 433 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 442 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 453 | Amnaid yn unig gan Dafydd. | 
| (1, 10) 500 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 503 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 511 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 522 | Ar ei draws... | 
| (1, 10) 526 | Ifan-John yn syllu'n ofalus arno. Wedi'r archwiliad... | 
| (1, 10) 529 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 533 | Amnaid yn unig o ddealltwriaeth gan Ifan-John. | 
| (1, 10) 546 | Ar ei draws. | 
| (1, 10) 557 | Ar ei draws... | 
| (1, 10) 570 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 575 | Ysbaid. | 
| (1, 10) 576 | ~ | 
| (1, 10) 577 | Ei lygaid yn codi ac yn edrych ar Dafydd. | 
| (1, 10) 579 | Dim symudiad o ran Dafydd ac amnaid yn unig gan Ifan-John. | 
| (1, 11) 580 | Golygfa 11 | 
| (1, 11) 581 | ~ | 
| (1, 11) 582 | Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn... | 
| (1, 11) 604 | Tra fod yr emyn yn cael ei ganu dechreua'r fam hulio'r ford swper. | 
| (1, 12) 605 | Golygfa 12 | 
| (1, 12) 606 | ~ | 
| (1, 12) 607 | Ar ddiwedd yr emyn clywir y drws mas yn agor a chau. Mae'r fam 'yn y gegin'. | 
| (1, 12) 629 | Y fam yn dod i'r amlwg. | 
| (1, 12) 632 | Ymhen ennyd. | 
| (1, 12) 633 | ~ | 
| (1, 12) 634 | Yn dawel, yn y cefndir, cenir yr hwiangerdd... | 
| (1, 12) 643 | Mae'r golau'n araf wanhau nes ildio'r adeilad i dywyllwch llethol. | 
| (1, 13) 644 | Golygfa 13 | 
| (1, 13) 645 | ~ | 
| (1, 13) 646 | Wrth i'r golau ail-gynnau agorir drws y capel. | 
| (1, 13) 647 | ~ | 
| (1, 13) 648 | Mae'r fam yn y capel, wrth y gwaith o olchi'r lloriau. | 
| (1, 13) 649 | ~ | 
| (1, 13) 650 | Yn betrusgar braidd, daw merch ifanc i'r amlwg. | 
| (1, 13) 664 | Mati'n oedi cyn ymateb. | 
| (1, 13) 687 | Ysbaid. | 
| (1, 13) 725 | Ysbaid. | 
| (1, 13) 730 | Ysbaid. | 
| (1, 14) 734 | Golygfa 14 | 
| (1, 14) 735 | ~ | 
| (1, 14) 736 | Yn y sêt fawr, mae gweinidog yn ymarfer wrth ymwisgo. | 
| (1, 14) 737 | Mae ei goler gron yn amlwg, ond dim ond wrth eu gwisgo gwelwn mai siaced a chapan cyrnol sydd ganddo. | 
| (1, 14) 738 | ~ | 
| (1, 14) 739 | Wrth i'r ymwisgo fynd rhagddo try'r ymarfer yn berfformiad – yn bererasiwn didwyll a dilyffethair. | 
| (1, 15) 761 | Golygfa 15 | 
| (1, 15) 762 | ~ | 
| (1, 15) 763 | Digwydd chwarae'r olygfa hon mewn dau le ar yr un pryd. | 
| (1, 15) 764 | Nid oes perthynas uniongyrchol rhwng y naill a'r llall. | 
| (1, 15) 765 | ~ | 
| (1, 15) 766 | Yn y naill le, Mae kitty ifanc yn eistedd gan fagu plentyn yn ei chôl. | 
| (1, 15) 767 | ~ | 
| (1, 15) 768 | Yn y llall mae Ifan-John yn gosod y pethau olaf yn ei fag teithio... | 
| (1, 15) 783 | Wedi'r cam petrus cyntaf, Mae Ifan-John yn troi ac yn brasgamu o'r adeilad. | 
| (1, 15) 784 | Nid yw'n mentro nag oedi na throi yn ei ôl o gwbl. | 
| (1, 15) 785 | ~ | 
| (1, 15) 786 | Rai eiliadau'n ddiweddarach, daw rhywun/rhywrai at Kitty gan fynd a'r plentyn o'i gafael ac o'n golwg. | 
| (1, 15) 787 | ~ | 
| (1, 15) 788 | O'r cysgodion daw ail bennill yr hwiangerdd... | 
| (1, 16) 797 | Golygfa 16 | 
| (1, 16) 798 | ~ | 
| (1, 16) 799 | Offrymir gweddi gyfoes o'r frest. | 
| (1, 16) 800 | ~ | 
| (1, 16) 801 | Ar ddiwedd y weddi, gwahoddir pawb i gydadrodd gweddi'r arglwydd... | 
| (1, 17) 820 | Golygfa 17 | 
| (1, 17) 821 | ~ | 
| (1, 17) 822 | Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf... | 
| (1, 17) 847 | Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd... | 
| (1, 17) 848 | Gras ein Harglwydd Iesu Grist | 
| (1, 17) 849 | a chariad Duw | 
| (1, 17) 850 | a chymdeithas yr Ysbryd Glân | 
| (1, 17) 851 | a fyddo gyda ni oll. | 
| (1, 17) 852 | Amen. | 
| (1, 17) 853 | Diwedd Act 1. | 
| (2, 1) 854 | Act II | 
| (2, 1) 855 | Golygfa 1 | 
| (2, 1) 856 | ~ | 
| (2, 1) 857 | Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn cyntaf... | 
| (2, 2) 881 | Golygfa 2 | 
| (2, 2) 882 | ~ | 
| (2, 2) 883 | Wrth i'r gynulleidfa eistedd ar ddiwedd yr emyn daw dau berson i'r capel o'r tu fas. | 
| (2, 2) 884 | Mae'r naill yn ymwelydd o loegr. | 
| (2, 2) 885 | Cymro lleol yw'r llall. | 
| (2, 2) 886 | ~ | 
| (2, 2) 887 | Mae'r ymwelydd yn gyfarwydd â phensaerniaeth eglwys. | 
| (2, 2) 888 | Mae pensaerniaeth capel yn gwbl ddieithr iddo. | 
| (2, 2) 893 | Amnaid gan y tywysydd. | 
| (2, 2) 916 | Yr ymwelydd i'w weld mewn dryswch eto. | 
| (2, 2) 982 | Y tywysydd yn pwyntio at y pwlpud. | 
| (2, 2) 990 | Ysbaid. | 
| (2, 2) 1008 | Ennyd. | 
| (2, 2) 1019 | Cwyd ysbryd bardd o ganol y gynulleidfa. | 
| (2, 2) 1037 | Mae ysbryd y bardd yn troi at y gynulleidfa... | 
| (2, 2) 1039 | Mae'r bardd yn ymadael â'r adeilad. | 
| (2, 2) 1040 | ~ | 
| (2, 2) 1041 | Wedi i'r drws mas gau... | 
| (2, 3) 1048 | Golygfa 3 | 
| (2, 3) 1049 | ~ | 
| (2, 3) 1050 | Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn... | 
| (2, 3) 1094 | Yn ystod y pennill olaf gwelir y fam yn ail-afael yn ei theclynnau glanhau. | 
| (2, 4) 1095 | Golygfa 4 | 
| (2, 4) 1096 | ~ | 
| (2, 4) 1097 | Tra fod y fam wrth ei gwaith daw'r bardd (Mr. Jones) i'r capel. | 
| (2, 4) 1098 | Heb ei gwled, â tua'r sêt fawr i chwilio am rywbeth. | 
| (2, 4) 1099 | ~ | 
| (2, 4) 1100 | Wedi'i wylio am eiliad neu ddwy... | 
| (2, 4) 1120 | Yn sylweddoli iddo anghofio am ei gofid. | 
| (2, 4) 1125 | Ennyd. | 
| (2, 4) 1132 | Eiliad letwhith. | 
| (2, 4) 1133 | Dim rhagor i'w ddweud. | 
| (2, 4) 1134 | Yn y pen draw... | 
| (2, 4) 1137 | Mr. Jones yn troi i fynd. | 
| (2, 4) 1139 | Yn cynnig ei nodiadau iddo. | 
| (2, 4) 1145 | Kitty'n oedi, yna'n galw ar ei ôl... | 
| (2, 5) 1165 | Golygfa 5 | 
| (2, 5) 1166 | ~ | 
| (2, 5) 1167 | Ffilm: | 
| (2, 5) 1168 | Caledfryn Evans, Tal-y-bont, yn siarad am ei brofiadau yn filwr yn y rhyfel byd cyntaf. | 
| (2, 6) 1169 | Golygfa 6 | 
| (2, 6) 1170 | ~ | 
| (2, 6) 1171 | Ar ddiwedd y ffilm, darganfyddir Mati yn y pwlpud... | 
| (2, 6) 1196 | Yn ystod y gân dechreua Kitty hulio'r bwrdd ar gyfer swper. | 
| (2, 6) 1197 | Mae'n gosod cyllyll a ffyrc ar gyfer dau. | 
| (2, 7) 1198 | Golygfa 7 | 
| (2, 7) 1199 | Ar ddiwedd y gân, daw Mati o'r pwlpud. | 
| (2, 7) 1200 | Caiff Kitty rywfaint o sioc o'i gweld. | 
| (2, 7) 1213 | Ysbaid fer. | 
| (2, 7) 1216 | Y sôn am dato yn ei hatgoffa... | 
| (2, 7) 1229 | Ennyd fer. | 
| (2, 7) 1253 | Ennyd. | 
| (2, 7) 1260 | Ennyd. | 
| (2, 7) 1272 | Wrth iddi ddechrau ei ddweud, mae Kitty'n sylweddoli mai bwriad Mati yw mynd bant. | 
| (2, 7) 1273 | ~ | 
| (2, 7) 1274 | Mati yn gweld y realiti yn taro kitty ac yn edrych yn ymddiheuriol tuag ati. | 
| (2, 7) 1287 | Kitty'n edrych arni'n syn. | 
| (2, 7) 1290 | Ennyd. | 
| (2, 7) 1293 | Ennyd. | 
| (2, 7) 1305 | Ennyd. | 
| (2, 7) 1322 | Edrychiad gan Kitty. | 
| (2, 7) 1323 | Mati'n ateb yr edrychiad... | 
| (2, 7) 1329 | Kitty yn edrych yn ddwys-ymchwilgar arni, unwaith eto. | 
| (2, 7) 1330 | Yn y pen draw, Mati'n ateb yr edrychiad... | 
| (2, 7) 1333 | Amnaid gan Kitty tra'i bod yn rhagdybio'r hyn sydd gan Mati i ddweud nesaf, sef... | 
| (2, 7) 1337 | Ennyd. | 
| (2, 7) 1345 | Kitty yn edrych arni. | 
| (2, 7) 1346 | Mati'n ateb yr edrychiad... | 
| (2, 7) 1355 | Mae Kitty'n fud am ba bynnag amser y cymer i ddarnau olaf ei breuddwyd gwympo a chwalu'n deilchion. | 
| (2, 7) 1356 | ~ | 
| (2, 7) 1357 | Yn y pen draw... | 
| (2, 8) 1361 | Golygfa 8 | 
| (2, 8) 1362 | ~ | 
| (2, 8) 1363 | Cyhoeddir a chyd-gennir y trydydd emyn... | 
| (2, 8) 1397 | Yn ystod ail hanner yr emyn dechreua Kitty ar ei gwaith glanhau, unwaith eto. | 
| (2, 9) 1398 | Golygfa 9 | 
| (2, 9) 1399 | ~ | 
| (2, 9) 1400 | Wrth i Kitty weithio, gwelwn fod blinder mawr yn gwasgu arni. | 
| (2, 9) 1401 | Gwelwn hefyd ei bod yn gweithio â phenderfyniad i beidio ildio. | 
| (2, 9) 1402 | ~ | 
| (2, 9) 1403 | Am gyfnod da, y tyndra mewnol hwn yw canolbwynt y ddrama. | 
| (2, 9) 1404 | ~ | 
| (2, 9) 1405 | Yna, clywir darllenwr nad ydym yn ei weld, er ei fod yn bresennol (nid tâp) yn darllen... | 
| (2, 9) 1430 | Ennyd. | 
| (2, 9) 1433 | Ennyd. | 
| (2, 10) 1439 | Golygfa 10 | 
| (2, 10) 1440 | ~ | 
| (2, 10) 1441 | Daw'r ymwelydd yn ei ôl. | 
| (2, 10) 1442 | Mae ganddo gamera neu ffôn-gamera yn ei law ac â ati i dynnu lluniau'r capel. | 
| (2, 10) 1443 | ~ | 
| (2, 10) 1444 | Wedi ysbaid daw'r tywysydd o'i ôl. | 
| (2, 10) 1461 | Ennyd. | 
| (2, 10) 1468 | Ennyd. | 
| (2, 10) 1524 | Ennyd. | 
| (2, 10) 1530 | Ennyd. | 
| (2, 10) 1536 | Y ddau yn symud i fynd. | 
| (2, 10) 1537 | ~ | 
| (2, 10) 1538 | Yn ymyl y drws, mae'r ymwelydd yn sefyll yn sydyn. | 
| (2, 10) 1545 | Y ddau yn ymadael. | 
| (2, 11) 1546 | Golygfa 11 | 
| (2, 11) 1547 | ~ | 
| (2, 11) 1548 | Offrymir gweddi gyfoes o'r frest. | 
| (2, 11) 1549 | ~ | 
| (2, 11) 1550 | Ar ddiwedd y weddi, gwahoddir pawb i gydadrodd gweddi'r arglwydd... | 
| (2, 12) 1569 | Golygfa 12 | 
| (2, 12) 1570 | ~ | 
| (2, 12) 1571 | Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf... | 
| (2, 12) 1595 | Yn ystod y canu gwelir ar y sgrîn ddyfyniadau archif Hansard / newyddion... | 
| (2, 12) 1596 | ~ | 
| (2, 12) 1597 | Gwleidyddion Senedd Prydain yn cyfiawnhau mynd i ryfel, 1914 | 
| (2, 12) 1598 | ~ | 
| (2, 12) 1599 | Gwleidyddion senedd prydain yn cyfiawnhau rhyfel Irac, 2003, a chyrchoedd awyr, 2014 | 
| (2, 12) 1600 | ~ | 
| (2, 12) 1601 | Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd... | 
| (2, 12) 1606 | Y Diwedd |