| (1, 0) 1 | Prynhawn tua dechrau'r haf yw hi. |
| (1, 0) 2 | Y mae MARI wrthi yn glanhau esgidiau. |
| (1, 0) 3 | Benyw ganol oed yw, wedi gweld llawer tro ar fyd a'i gwallt wedi gwynnu. |
| (1, 0) 4 | Er hynny, y mae'n eithaf heini, ac nid yw wedi rhoi i fyny'r ysbryd. |
| (1, 0) 5 | Eistedd ar stôl isel rhwng y bwrdd a'r lle tân. |
| (1, 0) 6 | O'i hamgylch y mae dau neu dri phâr o esgidiau. |
| (1, 0) 7 | Ar ôl ennyd, egyr y drws, a gesyd IFAN er ben i mewn. |
| (1, 0) 8 | Dyn canol oed yw yntau hefyd, ond nid yw'r byd a'i ofidiau wedi menu cymaint arno ef ag ar MARI. |
| (1, 0) 9 | Dyn o gymeriad gwan yw ef. |
| (1, 0) 10 | Gwêl MARI, ac y mae yn diflannu pan gyfyd hi ei phen i'w weld ef. |
| (1, 0) 11 | Sieryd MARI ar unwaith. |
| (1, 0) 75 | Allan i'r dde. |
| (1, 0) 76 | Daw IFAN ymlaen yn araf at y bwrdd; gwisg y ffedog; eistedd a dechrau i lanhau'r esgidiau. |
| (1, 0) 77 | Erys. |
| (1, 0) 78 | Tynn ei bib o'i logell, gwthia'r tipyn lludw sydd ynddi i mewn â'i fawd, a cheisia ei chynnau. |
| (1, 0) 79 | Cnoc ar y ffenestr; pen WAT i'w weled yno. |
| (1, 0) 80 | Amneidia IFAN arno i ddod i mewn trwy'r cefn. |
| (1, 0) 81 | Â ymlaen â'r glanhau sgidiau wedi i WAT ddod i mewn. |
| (1, 0) 82 | Dyn canol oed yw WAT; bu unwaith yn weithiwr caled, ond ar filgwn a betio y mae ei fryd yn awr. |
| (1, 0) 83 | Arbenigion ei wisg yw cap ar ochr ei ben, a mwffler gwyn, mwy neu lai. |
| (1, 0) 155 | Daw MARI i mewn, ac y mae IFAN yn ailgydio yn yr esgidiau. |
| (1, 0) 167 | Daw GWILYM i mewn yn frysiog o'r dde. |
| (1, 0) 168 | Tua dwy neu dair-ar-hugain yw ei oed, ac y mae yn fachgen digon lluniaidd ei olwg a'i osgo; eithr arwynebol yw ei wybodaeth am bopeth ar wahân i bleser a gamblo. |
| (1, 0) 169 | Gesyd bapurau o'i law ar y dreser.) |
| (1, 0) 190 | Cydia yn ei ysgwydd, a thywys ef at y drws de. |
| (1, 0) 191 | Ânt allan, a MARI yn edrych ar eu hôl. |
| (1, 0) 215 | Cnoc ar y drws, a daw MORFUDD i mewn. |
| (1, 0) 216 | Merch ifanc brydferth wedi gwisgo'n ddeniadol. |
| (1, 0) 234 | Exit IFAN. |
| (1, 0) 239 | Daw Gwilym i mewn yn frysiog. |