| (1, 0) 2 | Cegin gweithiwr yn y Deheudir. |
| (1, 0) 3 | Lle tân ar y dde, o du'r gynulleidfa, ffenestr yn y pared cefn a drws i'r dde iddi. |
| (1, 0) 4 | Drws i'r llofft ar y chwith. |
| (1, 0) 5 | Pan gwyd y llên, y mae'r tad yn gwisgo'i goler o flaen drych bychan ar y mur. |
| (1, 0) 6 | Daw'r ferch i mewn ar y chwith. |
| (1, 0) 7 | Y mae'r fam yn eistedd wrth y tân. |
| (1, 0) 122 | Saif y tad ar ganol y llawr gan synfyfyrio ac ymhen tipyn edrych ar ei wraig. |
| (1, 0) 136 | Teflir y drws yn agored yn ddisymwth a rhuthra Tom i mewn. |
| (1, 0) 194 | Saif Tomi yn syth wrth y drws. |
| (1, 0) 198 | Â'r Tad i eistedd wrth y tân gan ddisgwyl i Tomi ddychwelyd i'w le. |
| (1, 0) 208 | Syll y gwr a'r wraig ar ei gilydd yn anesmwyth. |
| (1, 0) 264 | Ergyd ar y drws. |
| (1, 0) 265 | Â 'r wraig i'w agor. |
| (1, 0) 305 | Daw Tomi i mewn â choed tân. |
| (1, 0) 308 | Saif y meistr yn syn. |
| (1, 0) 314 | Estyn Tomi y llyfr iddo. |
| (1, 0) 316 | Dengys y frawddeg i'r gwr a daw'r wraig hithau edrych arni. |
| (1, 0) 355 | YSGOLFEISTR yn mynd. |
| (1, 0) 356 | Y mae Tomi yn edrych yn eì lyfr. |
| (1, 0) 360 | Yr HOGYN yn edrych ar ei DAD a cheisio eì ddeall. |
| (1, 0) 368 | Yr HOGYN heb ddeall. |
| (1, 0) 387 | Saif Towr ar ganol y llawr i ganu "Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf", ond cyn iddo allu gorffen y pennill cyntaf dyry'r MAM ysgrech a neidia i ymaflyd ynddo. |
| (1, 0) 394 | Saif y tri am ennyd heb symud. |
| (1, 0) 395 | Yna daw dau ergyd pendant ar y drws. |
| (1, 0) 405 | Symud y FAM yn nes i'r drws gan gadw'r Hogyn tucefn iddi. |
| (1, 0) 414 | Daw'r HEN WRAIG i mewn. |
| (1, 0) 415 | Gwisg fantell fawr a llaes sy'n ei gorchuddio bron yn gyfangwbl o'i choryn i'w thraed. |
| (1, 0) 416 | Nid oes fawr o'i hwyneb i'w weled, oherwydd y mae'r fantell fel bargod dros eì thalcen. |
| (1, 0) 417 | Y mae hynny o wallt sydd i'w weled ganddi yn wyn. |
| (1, 0) 418 | Ymddengys yn hen iawn ac eto y mae yna urddas nodedig yn ei hosgo a'i cherddediad. |
| (1, 0) 419 | Ar y dechrau y mae ei llais yn wan, er yn glir ac yn felus i'r glust—rhywbeth dymunol iawn, ychydig yn uwch na sibrwd. |
| (1, 0) 420 | ~ |
| (1, 0) 421 | Dylid gwneuthur ffigiwr mor urddasol ag sy bosibl o'r wraig hon. |
| (1, 0) 422 | Ni thâl taflu unrhyw fath o glogyn rywsut amdani. |
| (1, 0) 423 | Dylid trefnu'r fantell yn ofalus yn ol y dull clasurol, yn addurnol a syml. |
| (1, 0) 424 | Y mae hyn yn bwysig iawn. |
| (1, 0) 468 | Amneidia ei FAM arno i ganu. |
| (1, 0) 469 | Gwna yntau. |
| (1, 0) 475 | Daw'r FERCH i mewn. |
| (1, 0) 489 | Yntau'n amneidio. |
| (1, 0) 490 | Edrydd Olwen: "Toriad y Dydd". |
| (1, 0) 512 | Cwyd yr hen wraig a chyda hynny, treigla'r fantell a'r gwallt gwyn i'r llawr a datguddio benyw ifanc brydferth iawn yn sefyll ar yr aelwyd, yn llawn nwyf a hoen. |
| (1, 0) 536 | Edrydd gydag arddeliad mawr. |
| (1, 0) 541 | LLEN. |