|
|
|
|
(2, 0) 255 |
Does dim ods i ti pryd do i'n ol; mi ddo'n ol ar ol gorffen fy ngwaith. |
|
|
(2, 0) 258 |
Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi, mechan i, o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed. |
(2, 0) 259 |
Mi gei godi, |my lady|, i ddawnsio tendans arna i. |
|
|
(2, 0) 262 |
Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep. |
|
|
(2, 0) 265 |
Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig. |
|
|
(2, 0) 272 |
Be nei di, sgwn i? |
(2, 0) 273 |
Seuthi di fi neu roi di wenwyn yn y mwyd i? |
(2, 0) 274 |
Hwyrach y dywedi di wrth y plisman? |
|
|
(2, 0) 277 |
Arf! Pa arf wyt ti'n gario? |
|
|
(2, 0) 280 |
Y faeden sosi! |
(2, 0) 281 |
Enwa'r arf sy gen ti'r funud ma ne mi gei weld miloedd o sers ar un trawiad. |
(2, 0) 282 |
Mi ro un siawns iti, a dim ond un. |
(2, 0) 283 |
Ddeydi di? |
|
|
(2, 0) 287 |
Myn cebyst, mae mwy o frid ynot ti nag oeddwn yn feddwl, |
|
|
(2, 0) 290 |
Wyddwn i ddim tan heno mod i'n magu rhyw greadur mentrus fel ti. |
|
|
(2, 0) 294 |
Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na? |
(2, 0) 295 |
Beth ydi o? |
|
|
(2, 0) 298 |
Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma. |
|
|
(2, 0) 301 |
Dyna'r arf ai ê? |
|
|
(2, 0) 303 |
Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl. |
|
|
(2, 0) 305 |
Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm. |
|
|
(2, 0) 307 |
Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys. |
|
|
(2, 0) 309 |
Mae'n reit y rhan amla, a chofia di hynny. |
(2, 0) 310 |
Wel, estyn y gwn na i lawr oddiar y pared i mi, mae hi'n bryd i mi gychwyn. |
|
|
(2, 0) 313 |
Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly? |
|
|
(2, 0) 316 |
Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i. |
|
|
(2, 0) 320 |
Rwyt ti yn un o dy strancia'n siwr ddigon heno. |
(2, 0) 321 |
Cofia be ddeydais i am groesi f'wyllys. |
(2, 0) 322 |
Gillwng d'afael! |
|
|
(2, 0) 326 |
Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i. |
(2, 0) 327 |
Ydi bys Nel bach yn brifo? |
(2, 0) 328 |
Gaiff dadi bach neis roi tws iddo? |
(2, 0) 329 |
Dos o ngolwg i; rwyt bron wedi ngneud i'n sâl rhwng popeth. |
(2, 0) 330 |
Be sy'n dy gorddi di heno, sgwni? |
(2, 0) 331 |
Rwyt fel ceiliog y gwynt—yn fy nyffeio rwan jest, y funud nesa yn gweld cannwyll corff yn rhedeg ar hyd baril y gwn yma, a dyma ti rwan yn mewian fel cath fanyw. |
|
|
(2, 0) 333 |
Peidiwch mynd allan heno, Nhad. |
(2, 0) 334 |
Wyt ti'n clywed? |
(2, 0) 335 |
Gillwng d'afael! |
|
|
(2, 0) 344 |
Oedd. |
|
|
(2, 0) 348 |
Oedd, am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig. |
|
|
(2, 0) 351 |
Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan. |
|
|
(2, 0) 354 |
Ydi hi gyd yno! |
(2, 0) 355 |
Be wyt ti'n feddwl? |
|
|
(2, 0) 358 |
I hyspryd hi wyt ti'n feddwl? |
(2, 0) 359 |
Welaist ti hyspryd hi rhywdro? |
|
|
(2, 0) 362 |
Ia, ond welaist ti hi, Nel? |
|
|
(2, 0) 365 |
Oes i hofn hi arnat ti? |
|
|
(2, 0) 371 |
Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan. |
|
|
(2, 0) 375 |
Rwyt ti fel sguthan yn sgrechian yr un peth o hyd. |
(2, 0) 376 |
Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos? |
|
|
(2, 0) 378 |
Pwy pia nhw ynte? |
(2, 0) 379 |
Pwy nath y samons sydd yn yr afon? |
|
|
(2, 0) 382 |
Ia, ond mae'r afon a'r awyr a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod. |
|
|
(2, 0) 384 |
Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon? |
(2, 0) 385 |
Mi rydw i'n perthyn o bell i'r corgi sgwâr, er na fyn o ddim arddel y berthynas, a dydw inna rioed wedi arddel y berthynas, a wna i byth. |
(2, 0) 386 |
Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew. |
|
|
(2, 0) 389 |
Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor. |
|
|
(2, 0) 394 |
Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith. |
|
|
(2, 0) 527 |
Be felltith ydi rhyw gamocs fel hyn? |
(2, 0) 528 |
Be ydi'r antarliwd sy'n mynd ymlaen yma? |
(2, 0) 529 |
Nel, wyt ti wedi mynd yn hollol o dy |sense|? |
(2, 0) 530 |
Pwy gebyst ydi'r dyn ma sy'n llewys ei grys? |
|
|
(2, 0) 533 |
Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgyrn di. |
|
|
(2, 0) 535 |
Tyn y tacla na oddiamdanat mewn dau funud. |
|
|
(2, 0) 537 |
Rhowch rhein amdanoch mewn amrantiad a dacw'r drws, ac os nad ewch trwyddo cyn i mi gyfri tri, mi'ch dyrnaf chi drwyddo. |
|
|
(2, 0) 547 |
Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd. |
(2, 0) 548 |
Be ddeydodd hi oedd eich enw chi? |
|
|
(2, 0) 550 |
Ga i deimlo bôn eich braich? |
|
|
(2, 0) 554 |
Tawn i byth yn symud, ma nhw mor dyn a chroen drwm a chyn gleted a chwipcord. |
|
|
(2, 0) 556 |
Mae dyn hefo braich fel yna'n rhy dda i bwlpud. |
(2, 0) 557 |
Nos dawch, Syr. |
|
|
(2, 0) 559 |
Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn â braich fel chi, ond ddo i ddim, |
|
|
(2, 0) 564 |
Dyna lun ei mam. |
(2, 0) 565 |
Nos dawch. |
|
|
(2, 0) 570 |
Wn i ddim; ond mi fuost yn cyboli cymaint â'r llun yna nes y ngneud i'n anesmwyth braidd. |
(2, 0) 571 |
Tawn i'n llwgu'r funud ma, wn i ddim o ble y doist ti hefo dy sbrydion a dy freuddwydion a dy godl. |