Cuesheet

Y Llyffantod

Lines spoken by Dionysos (Total: 503)

 
(0, 1) 150 Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill.
 
(0, 1) 152 Ro'n i'n digwydd sefyll ar y gornel yn y fan acw, a'ch clywed chi.
(0, 1) 153 Rhywun wedi sathru'ch corn yn amlwg.
 
(0, 1) 158 Nac ydyn, mae'n debyg!
 
(0, 1) 162 Yn beth?
 
(0, 1) 168 O, rwy'n gweld.
(0, 1) 169 Llongyfarchion.
 
(0, 1) 186 Welais i erioed wlad mor dlos â hon.
(0, 1) 187 Mwynder môr a mynydd.
(0, 1) 188 Mae hi wedi fy swyno'n llwyr.
(0, 1) 189 Rhaid dy fod yn ei charu hi â'th holl galon.
 
(0, 1) 198 Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas?
 
(0, 1) 205 Sothach!
 
(0, 1) 210 Felly maen nhw'n dweud.
(0, 1) 211 Beth ydy d'enw di?
 
(0, 1) 214 Rwy'n gweld.
 
(0, 1) 216 Rwy'n bryderus iawn ynghylch Athen, Nicias.
 
(0, 1) 218 Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath.
 
(0, 1) 224 Ia siwr.
(0, 1) 225 Ond nid at y sefyllfa economaidd yn unig roeddwn i'n cyfeirio.
(0, 1) 226 Beth am y gymdeithas a'i diwylliant enaid y genedl, os mynni di?
 
(0, 1) 231 Felly!
(0, 1) 232 Diddorol.
(0, 1) 233 Mae'n dda gen'i glywed hynna.
 
(0, 1) 236 O'r gora.
(0, 1) 237 Mae o'n drwm, cofia.
(0, 1) 238 Cymer ofal ohono.
 
(0, 1) 273 Wedi blino?
 
(0, 1) 276 Wrth gwrs.
(0, 1) 277 Does dim brys.
(0, 1) 278 Cyfle imi gael gweld dipyn ar y sgwâr.
(0, 1) 279 Mi ddo i'n ôl yn y man.
 
(0, 1) 291 Beth oedd y cyffro yna?
(0, 1) 292 Pwy oedd y dynion?
(0, 1) 293 Wyddost ti?
 
(0, 1) 295 A'r carcharor?
 
(0, 1) 299 Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro?
 
(0, 1) 305 Tybed?
(0, 1) 306 Wn i ddim beth i' feddwl.
 
(0, 1) 308 Mae'n lecsiwn yma rwy'n deall.
 
(0, 1) 313 Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi.
 
(0, 1) 315 Hida befo...
(0, 1) 316 Yn ôl a glywais i mi fydd areithio yma gyda hyn.
(0, 1) 317 Cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn dwad i'r Sgwâr yma i siarad.
 
(0, 1) 347 Felly!
(0, 1) 348 Be fydd ganddo fo i ddweud sgwn i?
 
(0, 1) 373 O?
 
(0, 1) 393 Sut wyddost ti?
 
(0, 1) 414 Denwr dagrau da!
 
(0, 1) 461 Rwy'n gweld.
(0, 1) 462 Diddorol.
 
(0, 1) 516 Wel, beth wyt ti'n i feddwl?
 
(0, 1) 522 Ond beth sydd i ddwad o Athen?
 
(0, 1) 524 Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol?
 
(0, 1) 557 Aros funud.
 
(0, 1) 560 Esgudowch fi, gyfeillion.
(0, 1) 561 Ymwelydd ydw i ar wyliau yn Athen...
 
(0, 1) 563 Ga'i ofyn eich barn, os gwelwch yn dda?...
(0, 1) 564 Y peth yma a'r peth arall...?
(0, 1) 565 Y sefyllfa'n gyffredinol yn Athen ac yn y blaen...?
(0, 1) 566 Eich barn ynonest...?
 
(0, 1) 569 Dyfodol Athen?...
(0, 1) 570 Beth am Socrates?
 
(0, 1) 590 Hanner munud, rhen wraig.
(0, 1) 591 Ga 'i air, os gwelwch yn dda?
 
(0, 1) 594 Beth ydych chi'n 'i feddwl o'r sefyllfa bresennol?
 
(0, 1) 597 Dim o gwbwl —
 
(0, 1) 605 Tewch â dweud —!
 
(0, 1) 610 Cytuno'n llwyr...
(0, 1) 611 Beth ydy'ch barn chi am Socrates?
 
(0, 1) 614 Socrates — mae o yn y Ddalfa.
 
(0, 1) 629 Eich pardwn, Syr.
 
(0, 1) 631 Cwestiwn ne ddau, os gwelwch yn dda.
 
(0, 1) 633 Wna i mo'ch cadw chi'n hir.
(0, 1) 634 Rwy'i yma ar ymweliad, ac yn awyddus i gasglu hynny o wybodaeth ag sy bosib am Athen.
 
(0, 1) 636 Beth yw eich barn am y sefyllfa'n gyffredinol?
 
(0, 1) 642 Mae Socrates yn y Ddalfa.
 
(0, 1) 652 Maddeuwch i mi, ga' i ofyn sut mae hi ar y gweithwyr yn Athen y dyddia yma?
 
(0, 1) 656 Rydych chi'n lwcus, yn amlwg?
 
(0, 1) 659 Mae Socrates yn y Carchar.
 
(0, 1) 666 Maddeuwch i mi, os gwelwch yn dda.
 
(0, 1) 669 Ga i ofyn eich barn am y sefyllfa yn Athen?
 
(0, 1) 676 Na, dim, diolch yn fawr ichi.
 
(0, 1) 682 Ia?
 
(0, 1) 691 Ga' i air bach, os gwelwch yn dda?
(0, 1) 692 Beth ydy barn yr ifanc?
 
(0, 1) 697 Atheniaid!
 
(0, 1) 728 Na, siomedig braidd...
(0, 1) 729 Dwed i mi, beth wyt ti'n 'i feddwl o'r sefyllfa yn Athen?
 
(0, 1) 732 Ond rwy i wedi gofyn y cwestiwn yna i ti o'r blaen, on'do.
(0, 1) 733 A siomedig oedd d'ateb dithau hefyd, os wy'n cofio.
 
(0, 1) 735 Fy marn i ydy mai tipyn o wag wyt tl.
(0, 1) 736 Tipyn o walch.
(0, 1) 737 Does yna fawr o ddim yn dy boeni os cei di lond dy fol o fwyd, a digon o win, ac amrywiol bleserau dy wely.
 
(0, 1) 744 Tyrd yma am funud.
 
(0, 1) 746 Pwy wyt ti'n 'i feddwl ydw i?
 
(0, 1) 748 Celwydd!
 
(0, 1) 750 Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna.
 
(0, 1) 752 Nicias!
 
(0, 1) 755 Wnawn ni ddim hollti blew yn 'i gylch.
(0, 1) 756 Wel, pwy wyt ti'n 'i feddwl rydw i?
 
(0, 1) 759 Ia?
 
(0, 1) 764 Dim yn hollol.
(0, 1) 765 Ond mae yna rywfaint o gysylltiad.
 
(0, 1) 767 Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti.
 
(0, 1) 771 Na, nid hynny chwaith.
(0, 1) 772 Ond mae yna gysylltiad eto...
 
(0, 1) 774 Rwyt ti wedi tyngu yn f'enw i lawer tro.
(0, 1) 775 A'i sibrwd yn awchus-ddiolchgar wrth agor potel o win...
(0, 1) 776 Edrych ar honna sydd yn dy boced.
 
(0, 1) 779 Be ydy'r enw sydd arni?
 
(0, 1) 786 A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias.
 
(0, 1) 790 Does dim angen y sioe ymgreinio yna.
(0, 1) 791 Fe ddylet wybod mai fi yw'r lleiaf deddfol o'r duwiau.
(0, 1) 792 Y mwyaf eangfrydig.
(0, 1) 793 A'r parotaf i ddeall amrywiol wendidau'r natur-ddynol.
 
(0, 1) 795 Gad inni ddeall ein gilydd.
(0, 1) 796 Dwyt ti ddim i sôn am hyn wrth neb.
(0, 1) 797 Mi gadwn ni'r gyfrinach i ni'n dau.
(0, 1) 798 Gwas a meistr fyddwn ni o hyd.
(0, 1) 799 Ydy hynna'n glir?
 
(0, 1) 802 O'r gorau...
(0, 1) 803 Eto i gyd, fel y dwedais i o'r blaen, mae gen i achos pryder.
 
(0, 1) 805 Ia.
(0, 1) 806 Fel y gwyddost ti cymeriad digon cellweirus ydw i, ac yn draddodiadol siriol.
(0, 1) 807 Serch hynny, mae yna un peth yn fy mhoeni.
 
(0, 1) 809 Tynged Athen, Nicias.
 
(0, 1) 811 Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya.
 
(0, 1) 815 Sytha!
 
(0, 1) 817 Mae dy ymddygiad di'n nodweddiadol o Athen.
(0, 1) 818 Llipa, difater a di-asgwrn cefn.
(0, 1) 819 Dyna'r peryg mwya, nid y Sbartiaid.
(0, 1) 820 Ond mae'r difrawder yna fel afiechyd drwy'r Ddinas...
(0, 1) 821 Yr unig lygedyn o obaith a welais i oedd protest yr ifainc.
 
(0, 1) 824 Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di?
 
(0, 1) 827 Esgus da am beidio â gwneud dim!
 
(0, 1) 830 Yn anffodus, fedra i ddim ymyrryd yn uniongyrchol, Nicias.
(0, 1) 831 Rhyw dduw bach digon od ydw i.
(0, 1) 832 A mae yna derfyn pendant ar f'awdurdod a'm dylanwad.
 
(0, 1) 835 Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i.
 
(0, 1) 837 Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus.
 
(0, 1) 840 I Hades.
 
(0, 1) 843 Fedra i ddim datguddio'r cynllun ar hyn o bryd.
(0, 1) 844 Ond dyna'r unig obaith, hyd y gwelaf, i achub Athen.
(0, 1) 845 Ddoi di efo fi, Nicias?
 
(0, 1) 847 I gario hwnna.
 
(0, 1) 851 Rwy'n credu bod modd trefnu hynny.
(0, 1) 852 Ystumio'r rheolau ryw chydig...
(0, 1) 853 Wel, ddoi di?
 
(0, 1) 856 Wrth gwrs, rwy'n deall...
(0, 1) 857 Edrych yma, rwy 'i am d'adael di am ychydig.
(0, 1) 858 Rhaid imi roi dillad gweddus i ymweld â Hades.
(0, 1) 859 Hwyrach y byddi di wedi penderfynu erbyn y dof yn ôl.
 
(0, 1) 861 Da iawn...
(0, 1) 862 Fydda i ddim yn hir.
 
(0, 2) 992 Cael tipyn o hwyl?
 
(0, 2) 994 Wel, Nicias, dyma fi wedi dwad yn f'ôl.
(0, 2) 995 Wyt ti wedi penderfynu?
 
(0, 2) 1004 Mae'n bur ddrwg gen innau hefyd, Nicias.
(0, 2) 1005 Wyt ti'n siwr nad oes arnat ti ddim ofn?
(0, 2) 1006 Mi allaf dy sicrhau di —
 
(0, 2) 1011 Iris?
 
(0, 2) 1013 O!
 
(0, 2) 1022 Hon ydy hi?
 
(0, 2) 1029 Esgusodwch fi, rwy' i wedi cynnig gwaith i'ch gŵr.
(0, 2) 1030 Ond chwarae teg iddo, mae ei ofal o gymaint amdanoch chi.
(0, 2) 1031 Ac mor awyddus i osgoi pryder ichi —
 
(0, 2) 1034 Wel roeddwn i am ei gyflogi fel gwas imi ar fy siwrna.
(0, 2) 1035 Ond wrth gwrs os ydych chi'n gwrthwynebu —
 
(0, 2) 1045 O, oes, rwy'n gwarantu hynny.
(0, 2) 1046 Yn berffaith ddiogel.
 
(0, 2) 1054 Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias.
(0, 2) 1055 Rwy'n siwr dy fod yn falch iddi dy berswadio i ddod efo fi!...
(0, 2) 1056 Barod?
(0, 2) 1057 Gora po gynta inni gychwyn...
(0, 2) 1058 Tyrd ar f'ôl i.
(0, 2) 1059 A chymer ofal o'r cas yna.
 
(0, 2) 1068 Dim llathen, Nicias.
(0, 2) 1069 Rydan ni wedi cyrraedd.
 
(0, 2) 1071 Weli di?
(0, 2) 1072 Hon ydy'r Afon Stycs.
 
(0, 2) 1080 Fe'i gweli hi, toc.
 
(0, 2) 1082 Ar ôl inni ei chroesi hi.
 
(0, 2) 1084 Twt, twt, paid â dweud nad wyt ti'n gwybod am chwedloniaeth dy genedl dy hun!
(0, 2) 1085 Hon ydy'r Afon Stycs — reit?
 
(0, 2) 1087 Ac y mae Hades yr ochr arall, reit?
 
(0, 2) 1089 Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit?
 
(0, 2) 1091 Ond cyn y medrwn ni wneud hynny —
 
(0, 2) 1093 Rwyt ti yn gwybod felly!
 
(0, 2) 1098 Gad ti hynna i mi.
(0, 2) 1099 Rwy'n credu y medra i berswadio'r hen gyfaill i gau ei lygaid am y tro.
(0, 2) 1100 Ei gael o yma fydd y broblem fwya.
 
(0, 2) 1102 Mae o'n bur gysact ynglŷn â'r amser.
(0, 2) 1103 A mae hi wedi mynd braidd yn hwyr.
(0, 2) 1104 Yr unig ffordd fydd gwneud galwad arbennig.
(0, 2) 1105 Fydd yna ddim tymer rhy dda arno fo am inni wneud.
(0, 2) 1106 Ond rhaid inni wynebu hynny...
(0, 2) 1107 Wyt ti'n chwibannwr go lew?
 
(0, 2) 1109 Wel chwibanna rwan er mwyn Athen.
(0, 2) 1110 Un hir a dwy fer... rwan!
 
(0, 2) 1113 Eto!
 
(0, 2) 1115 Unwaith eto.
(0, 2) 1116 Yn gryfach os medri di.
(0, 2) 1117 Yn uwch!
 
(0, 2) 1122 Dyma fo'n dwad.
 
(0, 2) 1128 Amgylchiadau arbennig, Charon.
 
(0, 2) 1133 Popeth yn iawn.
(0, 2) 1134 Prysur?
 
(0, 2) 1141 Felly wir!
 
(0, 2) 1143 Argyfwng Charon.
(0, 2) 1144 Creisis.
(0, 2) 1145 Mae Athen yn mynd â'i phen iddi.
 
(0, 2) 1150 Nicias.
(0, 2) 1151 Mae o yn yr argyfwng efo fi.
(0, 2) 1152 Cymorth fel tae.
 
(0, 2) 1158 Cywir.
 
(0, 2) 1160 Cywir.
 
(0, 2) 1162 Cywir.
 
(0, 2) 1164 Beth?
 
(0, 2) 1166 Tybed?
 
(0, 2) 1170 Aros funud.
 
(0, 2) 1184 Na, mae hynny'n amhosib.
 
(0, 2) 1186 Am ei fod o'n dwad yn ôl.
 
(0, 2) 1190 Rwy' i o ddifri calon.
(0, 2) 1191 Mae'n rhaid inni'n dau fynd drosodd, Charon.
 
(0, 2) 1199 Dim o gwbwl.
(0, 2) 1200 Rwyt ti wedi 'i gweld hi, Charon!
 
(0, 2) 1224 lawn.
 
(0, 2) 1230 Syniad da.
(0, 2) 1231 Diolch iti, Charon.
 
(0, 2) 1235 Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon!
 
(0, 2) 1248 Ydw, diolch.
 
(0, 2) 1253 Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu.
 
(0, 2) 1373 Diolch iti, Charon...
(0, 2) 1374 Gair bach yn dy glust.
 
(0, 2) 1381 Na fydd siwr.
 
(0, 2) 1384 Ia?
 
(0, 2) 1386 O beth?
 
(0, 2) 1388 Doeddwn i ddim wedi anghofio, Charon.
 
(0, 2) 1401 Hwyl iti, Charon.
(0, 2) 1402 A diolch!
 
(0, 2) 1406 Wel, dyma ni.
(0, 2) 1407 Ydy'r cas yna'n ddiogel?
 
(0, 2) 1411 Ia?
 
(0, 2) 1413 Ceidwad Porth Hades.
(0, 2) 1414 Rhaid inni ei ddisgwyl yma.
(0, 2) 1415 Fydd o ddim yn hir.
(0, 2) 1416 Ond cystal inni eistedd nes y daw o.
 
(0, 2) 1418 Ofn?
 
(0, 2) 1420 Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell.
 
(0, 2) 1422 Wn i ddim faint o sylw a rydd o i hynny!
(0, 2) 1423 Tyrd â'r cas yna i mi.
 
(0, 2) 1428 Mi wnaiff les iti.
(0, 2) 1429 Rhoi tipyn o ddewrder inni'n dau.
(0, 2) 1430 Eistedd.
 
(0, 2) 1433 Be sy'n bod?
(0, 2) 1434 Y gwin gorau yn y byd, mi alla i dy sicrhau di o hynny.
 
(0, 2) 1438 Beth wyt ti'n 'i feddwl?
 
(0, 2) 1441 Porth Hades ydy hwn, Nicias.
(0, 2) 1442 Mae Hades 'i hun draw i'r cyfeiriad yna.
 
(0, 2) 1444 A chyn y byddwn ni'n cyrraedd Pencadlys Plwton —
 
(0, 2) 1447 Plwton, pennaeth Hades.
 
(0, 2) 1449 Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws.
 
(0, 2) 1451 Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto.
 
(0, 2) 1456 Ond paid â chymryd mwy.
(0, 2) 1457 Mae yna gic fel mul ynddo fo...
(0, 2) 1458 Teimlo'n well?
 
(0, 2) 1462 Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed?
 
(0, 2) 1468 Wn i ddim beth am dri phen, na chynffon draig a'r nadrodd.
(0, 2) 1469 Ond llais fel taran yn sicr.
(0, 2) 1470 A llygaid yn melltennu tân.
 
(0, 2) 1472 Do.
 
(0, 2) 1474 Ydy.
(0, 2) 1475 Gwaeth os rhywbeth.
 
(0, 2) 1477 Ond rwy'n credu y medrwn ni ddelio ag o.
(0, 2) 1478 Dim ond inni gadw'n pennau.
(0, 2) 1479 Na, paid ag yfed dim mwy.
(0, 2) 1480 A chofia, pan ddaw o, paid ti â dweud dim nes bydd rhaid iti.
(0, 2) 1481 Wyt ti'n deall?
 
(0, 2) 1494 Mi gei di fynd.
(0, 2) 1495 Rwy'n addo hynny iti.
(0, 2) 1496 O leia, mi wnaf fy ngorau i sicrhau hynny.
 
(0, 2) 1498 Siawns na fydd o'n ymddangos yn wahanol iti bryd hynny, wyddost ti...
(0, 2) 1499 Ust!
 
(0, 2) 1502 Gofal rwan.
(0, 2) 1503 A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti!
 
(0, 2) 1509 Cyfarchion, Cerberws.
 
(0, 2) 1513 Ymweliad arbennig.
 
(0, 2) 1521 Diferyn o win i oeri dipyn?
 
(0, 2) 1531 Gwan fel dŵr.
 
(0, 2) 1536 Ia.
 
(0, 2) 1543 Ond rwyt ti'n 'i wybod yn barod!
 
(0, 2) 1547 Ond pam?
 
(0, 2) 1552 Dionysos.
 
(0, 2) 1555 O, wel, Aelod o'r Sefydliad Nefol, am wn i.
 
(0, 2) 1566 O, rwy'n gweld.
 
(0, 2) 1568 Ymweld â Phlwton.
 
(0, 2) 1570 Achub Athen.
 
(0, 2) 1574 Dyna'r ateb i'r cwestiwn.
(0, 2) 1575 Rho fo i lawr.
 
(0, 2) 1578 Amhenodol.
 
(0, 2) 1583 Cyfnod gweddol fyr, ynte.
 
(0, 2) 1590 Ia, mi ddylwn i egluro, Cerberws —
 
(0, 2) 1594 Os goddefi imi egluro —
 
(0, 2) 1598 Ond fel dywedais i eisoes, mae yna amgylchiadau arbennig.
 
(0, 2) 1604 Mi fydda i'n warantydd drosto fo.
 
(0, 2) 1606 Dim os ystumi di rywfaint bach ar y Gyfraith.
 
(0, 2) 1625 Dim un?
 
(0, 2) 1628 Ond roeddwn i'n meddwl —!
 
(0, 2) 1636 Orffiws.
 
(0, 2) 1641 Tybed?
 
(0, 2) 1645 Ewridice.
 
(0, 2) 1647 Ewridice — dyna oedd ei henw hi.
 
(0, 2) 1659 Pecyn brechdanau.
 
(0, 2) 1670 Anghwrtais.
 
(0, 2) 1688 Dyna ni, rwy'n credu, Nicias!
 
(0, 2) 1691 Amau?
 
(0, 2) 1693 Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus!
 
(0, 2) 1695 Dim os byddwn ni'n ofalus.
(0, 2) 1696 Tyrd ar flaenau dy draed rwan...
(0, 2) 1697 Mae gennym siwrna go faith o'n blaenau eto.
(0, 2) 1698 Oofia am y cas, beth bynnag.
 
(0, 2) 1701 Y ffordd yma.
(0, 2) 1702 Ac ar boen dy fywyd paid â cholli golwg arna i.
 
(0, 2) 1704 Ymlaen â ni felly.
 
(0, 3) 1710 Wedi blino?
 
(0, 3) 1712 Gorffwys yma am ychydig.
(0, 3) 1713 Nicias
 
(0, 3) 1715 Dyna welliant!
(0, 3) 1716 Oes yna lawer o ffordd eto?
(0, 3) 1717 Na, dim llawer...
 
(0, 3) 1719 Nicias, pan welais i di gyntaf yn Athen, mi ofynnais iti beth a wyddet amdanaf.
 
(0, 3) 1721 Ond os wy'n cofio, d'oedd d'ateb ddim yn rhyw foddhaol iawn.
 
(0, 3) 1729 Rwyt ti wedi gwneud dy waith-cartre yn amlwg!
(0, 3) 1730 Dos ymlaen.
 
(0, 3) 1732 At hynna roedd arna i eisio dwad.
(0, 3) 1733 Mi wyddost fod yna ddwy brif ffurf i'r Ddrama, Nicias, sef Comedi a Thrasiedi.
(0, 3) 1734 Gan amlaf, Masg y Gomedi a roddir imi.
(0, 3) 1735 Ac fe'm portreadir — nid heb achos, rwy'n cyfaddef — fel un pur ddoniol, gwamal a chellweirus.
 
(0, 3) 1737 Mae'n dda gen' i glywed!
(0, 3) 1738 Y ffaith yw fod yna ochr arall i'm natur.
(0, 3) 1739 Mi wn i beth yw hoen nwydwyllt ac asbri ysgafala bywyd.
(0, 3) 1740 Mi wn i hefyd beth yw ei greulondeb, ei ing, a'i dristwch....
(0, 3) 1741 Mae'r amser wedi dwad imi wisgo Masg Trasiedi — dros dro, beth bynnag.
 
(0, 3) 1743 Rwyt ti'n cofio imi sôn am bwll Tartarws.
(0, 3) 1744 Wel rhaid inni fynd heibio'i ymyl o rwan.
 
(0, 3) 1747 Dydy Tartarws yn ddim ond adlewyrchiad o hanfod pob ing a galar a thristwch dynolryw yn ei thrueni eitha, Nicias.
(0, 3) 1748 Mi welwn beth ohono gyda hyn.
(0, 3) 1749 Fe glywaist Cerberws yn sôn mewn cyswllt hanner-digri am effaith cyffuriau.
(0, 3) 1750 Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf:
 
(0, 3) 1754 Aros, dwyt ti ddim wedi gweld y cyfan eto....
(0, 3) 1755 Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun:
 
(0, 3) 1815 Pwll anobaith ydy Tartarws fel roeddwn i'n dweud wrthyt ti.
(0, 3) 1816 A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon.
 
(0, 3) 1820 O, mae gobaith o hyd, Nicias.
 
(0, 3) 1822 Ydw, debyg iawn.
(0, 3) 1823 Onide, beth ydy diben ein hymweliad ni yma â Hades?
 
(0, 3) 1825 Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw.
 
(0, 3) 1828 Egluro beth?
 
(0, 3) 1830 Mi gei di'r eglurhad cyn bo hir.
(0, 3) 1831 Wrth gwrs, 'does dim sicrwydd.
 
(0, 3) 1833 Y bydd y cynllun yn gweithio.
 
(0, 3) 1836 Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori?
 
(0, 3) 1839 Ia, wel, 'roedd o'n berffaith iawn.
(0, 3) 1840 Duw bach cymharol ddi-nod ydw i.
(0, 3) 1841 Ac fel y dywedais wrthyt o'r blaen, mae terfyn pendant ar fy ngallu.
(0, 3) 1842 Na, Nicias, wn i ddim fydd fy nghynllun i'n llwyddo ai peidio.
(0, 3) 1843 Ond mi gawn weld gyda hyn.
(0, 3) 1844 Fyddwn ni ddim yn hir, rwan, yn cyrraedd Pencadlys Plwton...
(0, 3) 1845 Tyrd!
 
(0, 3) 1848 Wel!
 
(0, 3) 1850 Mi gei di weld hynny, hefyd, drosot dy hun.
(0, 3) 1851 A hynny cyn bo hir...
(0, 3) 1852 Rhaid inni fynd....
(0, 3) 1853 Dilyn fi, a chymer ofal.
 
(0, 3) 1896 Diolch iti, Plwton.
 
(0, 3) 1898 Ac amcan arbennig.
 
(0, 3) 1902 Yn llwyr.
(0, 3) 1903 Fe gei'r eglurhad yn y man.
 
(0, 3) 1907 Rwy'n syrthio ar fy mai, Plwton.
(0, 3) 1908 Ond teimlo roeddwn i y byddai hynny'n cymhlethu pethau'n ormodol a dianghenraid.
 
(0, 3) 1912 Purion.
 
(0, 3) 1941 Plwton a Chynghorwyr Hades.
(0, 3) 1942 Diolch am eich derbyniad cwrtais, a'ch parodrwydd i wrando cais a fydd, rwŷn siwr, yn swnio'n haerllug neu yn wallgo ichi.
(0, 3) 1943 Neu efallai'n gyfuniad o'r ddau!
(0, 3) 1944 Gwyddoch, erbyn hyn mae'n debyg, imi — a'm cydymaith — ddwad yma'n syth o Athen.
(0, 3) 1945 A sefyllfa'r hen Ddinas honno a barodd imi ymgymryd â'r fath siwrna anturus.
(0, 3) 1946 Wna i mo'ch blino chi â'r manylion: digon yw dweud bod Athen mewn cyflwr pur ddifrifol.
(0, 3) 1947 Dinas wedi'i rhwygo ydy hi.
(0, 3) 1948 Mae ei harweinwyr yn styfnig benben.
(0, 3) 1949 Rhai o'i dynion gorau yn y carchar.
(0, 3) 1950 Delfrydau'r ifainc yn cael eu dirmygu.
(0, 3) 1951 Y gymdeithas yn faterol a chystadleuol — farus.
(0, 3) 1952 A'r bobol yn ymbalfalu mewn penbleth a difaterwch.
(0, 3) 1953 Y gelyn oddi mewn sy'n bygwth fwya, nid y Sbartiaid oddi allan.
(0, 3) 1954 Mewn gair, mae hi'n draed-moch yno.
(0, 3) 1955 Ac oni wneir rhywbeth yn bur sydyn, mi fydd hi ar ben ar yr hen Ddinas annwyl.
(0, 3) 1956 ~
(0, 3) 1957 Daw hyn â fi at gnewyllyn fy neges.
(0, 3) 1958 Fel y gwyddoch mae cewri Athen yn y dyddiau gynt yma, yn Hades, mewn teilwng Stâd o Anrhydedd.
(0, 3) 1959 Fy nghynllun, yn syml, ydy hyn: gwneud apêl i'r cyfryw arwyr fynd yn ôl i Athen, i adfer asgwrn-cefn a hunan-barch y genedl.
(0, 3) 1960 Dyna'r unig obaith, bellach, hyd y gwelaf i.
(0, 3) 1961 A dyna'n fyr, y cyfan sy gennyf i ddweud wrthych chi.
(0, 3) 1962 Diolch eto am eich gwrandawiad astud.
 
(0, 3) 2009 Rwy'n cytuno'n llwyr.
(0, 3) 2010 Diolch yn fawr am dy gydweithrediad.
 
(0, 3) 2014 Rwy'n deall yn berffaith.
 
(0, 3) 2090 Pa ddiben?
(0, 3) 2091 Hyd yn oed yn Hades, rhaid gweithredu'n ddemocrataidd.
(0, 3) 2092 Rhaid derbyn eu penderfyniad.
(0, 3) 2093 "Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi eu hun!"
(0, 3) 2094 Mae hynna'n hollol wir, wrth gwrs.
(0, 3) 2095 I fod yn onest, roeddwn i'n ei sylweddoli cyn cychwyn yma, ond fy mod i'n ofni.
 
(0, 3) 2097 Na fyddai Athen ddim yn fodlon — neu ddim yn abl i'w wynebu.
 
(0, 3) 2100 Fy mwriad oedd iddo fo fynd â'r cewri yn ôl i Athen — petaen nhw wedi cytuno.
 
(0, 3) 2102 Rhaid iddo fo fynd yn ôl ei hun.
(0, 3) 2103 'Alla i ddim mynd efo fo.
(0, 3) 2104 Dyletswydd bwysig arall.
 
(0, 3) 2108 Beth petawn i'n dweud na fyddai'n cofio dim oll o'i ymweliad â Hades?
 
(0, 3) 2110 Rwy' i wedi cymryd yr hyfdra i ystumio un arall o'r mân-reolau.
 
(0, 3) 2113 Mi ydw i wedi rhoi diferyn o ddŵr Afon Lethe yn y botel win sy ganddo yn ei boced.
(0, 3) 2114 Un dracht, fel y gwyddost, a mi fydd y cyfan yn angof iddo fo.
(0, 3) 2115 Yn ebargofiant llwyr.
 
(0, 3) 2119 Byddaf, wrth gwrs.
(0, 3) 2120 Rhaid iddo osgoi Cerberws ar bob cyfri!
 
(0, 3) 2122 Popeth yn iawn, rwy'n credu.
(0, 3) 2123 Mi wnes i drefniant amodol efo Charon ar y ffordd yma.
 
(0, 3) 2145 Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad.
 
(0, 3) 2148 I ti fynd yn ôl.
(0, 3) 2149 Fydda i ddim yn dwad efot ti.
 
(0, 3) 2152 Fedra i ddim egluro pam.
(0, 3) 2153 Dyletswydd bwysig arall.
(0, 3) 2154 Fydda i ddim angen dy gymorth di i honno.
 
(0, 3) 2156 Nid dy fai di oedd hynny.
(0, 3) 2157 'Roedd y parodrwydd a'r bwriad yna.
 
(0, 3) 2161 Rwyt ti'n iawn, Nicias.
(0, 3) 2162 Ond fel y dywedais wrthyt fwy nag unwaith, doedd yna ddim sicrwydd y byddai'r cynllun yn llwyddo.
(0, 3) 2163 Ac y mae hyd yn oed un fel fi yn gorfod sylweddoli ffolineb cymhlethu cymhellion yn ddianghenraid.
 
(0, 3) 2166 Beth wy'n 'i feddwl ydy fod y Gwirionedd weithiau o flaen ein trwynau.
(0, 3) 2167 Yn rhy agos inni 'i weld.
 
(0, 3) 2170 A hwnnw?
 
(0, 3) 2178 Nicias, mi addewais iti y byddet yn mynd yn ôl at Iris dy wraig yn ddiogel a dianaf.
(0, 3) 2179 Ac os gwrandewi ar fy nghyngor, fe lwyddi.
(0, 3) 2180 Ond rhaid bod yn ofalus tu hwnt...
(0, 3) 2181 Tyrd, mi egluraf y cynllun wrthyt wrth inni fynd...
(0, 3) 2182 Gyda llaw, mi gei gadw'r cas mawr yma...
(0, 3) 2183 Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di.
 
(0, 3) 2186 Ond rwy i am iti addo peidio ag yfed ohoni nes byddi wedi croesi'r Stycs.
(0, 3) 2187 Wyt ti'n addo?
 
(0, 3) 2191 Gorau po gynta inni gychwyn felly...
(0, 3) 2192 Tyrd.
 
(0, 4) 2199 Seibiant, Nicias.
(0, 4) 2200 Eistedd yma am funud.
 
(0, 4) 2204 Rydyn ni yn ei "diriogaeth" o fel rwyt ti'n dweud.
(0, 4) 2205 Dyna pam mae'n rhaid inni benderfynu ar dacteg.
 
(0, 4) 2207 Gwell peidio â meddwl am hynny.
(0, 4) 2208 Rhaid inni ganolbwyntio rwan ar sut i'w sgoi o eto.
(0, 4) 2209 Rydan ni'n siwr o'i gyfarfod o.
(0, 4) 2210 Felly gwranda'n astud.
(0, 4) 2211 Pan glywn ni o'n dwad, dos di o'r golwg y tu ôl i hwnna.
 
(0, 4) 2213 Wedyn mi geisia i ddal ei sylw am ychydig mewn sgwrs.
(0, 4) 2214 Dyna dy gyfle di i sleifio i'r cyfeiriad acw ar flaena dy draed.
(0, 4) 2215 Rhaid iti fod yn ddistaw fel llygoden.
(0, 4) 2216 Mae o'n llygadog fel barcut fel y gwyddost ti.
(0, 4) 2217 Os gwêl o di, gwadna hi am dy hoedl at y Stycs.
 
(0, 4) 2219 Popeth wedi'i drefnu.
(0, 4) 2220 Weli di mono fo o gwbwl.
(0, 4) 2221 Ond mi fydd cwch wedi cael ei adael yn barod iti yno.
(0, 4) 2222 Neidia iddo fo, a fedr Cerberws wneud dim oll iti.
 
(0, 4) 2224 Wedyn, pwnia'r cwch dros y Stycs i'r ochor arall, i'th fyd a'th ddimensiwn di dy hun.
(0, 4) 2225 Popeth yn glir?
 
(0, 4) 2228 Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch!
 
(0, 4) 2230 Does yna run creadur dibwys, Nicias.
(0, 4) 2231 Mae dyfodol Athen yn nwylo miloedd o'th debyg — y mwyafrif cib-ddall mud, difater.
 
(0, 4) 2236 Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias.
 
(0, 4) 2239 Yn nhermau tragwyddoldeb beth yw modfedd, neu funud, neu filltir neu ganrif?
(0, 4) 2240 Dydyn nhw ddim yn bod.
 
(0, 4) 2242 All dy reswm di wneud dim oll ond mesur a phwyso a chymharu, Nicias.
(0, 4) 2243 Mae hynny'n angenrheidiol, wrth gwrs, o fewn terfynau bodolaeth faterol.
(0, 4) 2244 Ond paid â meddwl y gall rheswm egluro popeth.
(0, 4) 2245 Does yna ddim rheswm, fel y cyfryw, i dosturi na hunan-aberth na dyhead anniwall enaid dyn am brydferthwch a chelfyddyd.
 
(0, 4) 2249 O? Ar ba achlysur?
 
(0, 4) 2257 Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau!
 
(0, 4) 2261 Brysia — y tu ôl i hwnna.
(0, 4) 2262 Gwylia fi'n fanwl, a phan roi'r arwydd iti, hegla hi ar flaena dy draed.
(0, 4) 2263 A phaid â cymryd dy wynt, bron, nes y doi di at y Stycs.
 
(0, 4) 2266 O, a Nicias?
 
(0, 4) 2268 Pob lwc iti... a diolch.
(0, 4) 2269 Dos, brysia!
 
(0, 4) 2273 Hoi Cerberws!
(0, 4) 2274 Hanner munud os gweli'n dda.
 
(0, 4) 2279 Wna i ddim dy gadw di'n hir.
(0, 4) 2280 Ond mae arna i eisio dy help di os oes modd.
(0, 4) 2281 Mater pwysig tu hwnt.
 
(0, 4) 2285 Hwnnw oedd gen' i dan sylw.
(0, 4) 2286 Welaist ti o yn rhywle?
 
(0, 4) 2292 Mi ydw i'n meddwl mai anelu at y Stycs mae o, y munud yma!
 
(0, 4) 2298 O?
 
(0, 4) 2300 A hwnnw?
 
(0, 4) 2304 Â chroeso...
(0, 4) 2305 Gad inni fynd.
(0, 4) 2306 Mae gen i bob cyd-ymdeimlad â thi, Cerberws.
(0, 4) 2307 Mae'r creadur yna'n beryg bywyd.