| (1, 0) 13 | Yn tydi, meistres. |
| (1, 0) 15 | Yn ôl i'r rwtîn. |
| (1, 0) 17 | Dim teledu. |
| (1, 0) 20 | A chas. |
| (1, 0) 21 | Mi rydan ni wedi cael amser da ers pan aeth o. |
| (1, 0) 23 | ...âr ôl brecwast yn y gwely. |
| (1, 0) 26 | A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'. |
| (1, 0) 28 | Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol. |
| (1, 0) 34 | Wel, ia. |
| (1, 0) 35 | Mae o wedi prynu hwn yn sbeshial i chi golli pwysa a dach chi ddim wedi bod arno fo yr un waith ers pan aeth o i ffwrdd. |
| (1, 0) 37 | Dyna fi wedi cyffwrdd 30 eto! |
| (1, 0) 38 | Dwi'n fodlon betio pum punt na wnewch chi mo hynna. |
| (1, 0) 43 | Hy! |
| (1, 0) 44 | Dach chi wedi gweld eich pen-ôl yn ddiweddar? |
| (1, 0) 46 | Wel cerwch i jecio ar y glorian. |
| (1, 0) 53 | Hwre! |
| (1, 0) 54 | Rydw i wedi colli pedwar pwys mewn wythnos. |
| (1, 0) 56 | Be dach chi'n feddwl o'n ffigwr i, meistres? |
| (1, 0) 58 | Gofalus, dim lwcus. |
| (1, 0) 60 | Hei, dowch o'na. |
| (1, 0) 61 | Dydach chi ddim yn cael stopio rŵan. |
| (1, 0) 62 | Gamp i chi gyrraedd 30. |
| (1, 0) 65 | Does gynnoch chi ddim clem ─ dach chi ddim wedi cyrraedd pymtheg eto! |
| (1, 0) 67 | Dach chi'n cofio bod gynnoch chi broblem ariannol yn dydach? |
| (1, 0) 71 | Wel yr holl arian dach chi wedi'i wario ers pan aeth o. |
| (1, 0) 72 | Bag lledr £100; pum pâr o esgidiau ugain punt yr un a'r fodrwy 'na yn werth pum cant. |
| (1, 0) 73 | Ac oedd rhaid i chi roi tips mor uchel? |
| (1, 0) 76 | Wel, deg punt i'r hogan fach 'na am ddeud wrthach chi lle roedd y lle chwech, a deg punt i'r waiter 'na jest am i fod o'n debyg i'ch tad. |
| (1, 0) 80 | Do, dros fil o bunnau mewn pythefnos. |
| (1, 0) 82 | Hei, dewch o'na ─ dim slacio! |
| (1, 0) 87 | A dach chi'n gwybod amdano fo. |
| (1, 0) 88 | Mae o'n tjecio'ch cyfri banc chi yn gyson. |
| (1, 0) 90 | Peidiwch ag edrych arna' i. |
| (1, 0) 91 | Dw i ddim wedi cael cyflog ganddo fo ers tri mis. |
| (1, 0) 92 | Ddim ers y diwrnod hwnnw y gwnes i golli sŵp ar ben ei siwt ora fo. |
| (1, 0) 96 | Ew, oedd. |
| (1, 0) 97 | Roedd o'n dawnsio o gwmpas y stafell 'ma fel dyn o'i go' hefyd. |
| (1, 0) 99 | Hei, dim slacio ddeudais i. |
| (1, 0) 104 | Doeddach chi rioed yn meddwl basach chi'n colli owns ar ôl hynna o ymdrech? |
| (1, 0) 105 | Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma. |
| (1, 0) 108 | Dach chi'n meddwl bod honno yn bwll diwaelod. |
| (1, 0) 109 | Faint sydd arnoch chi iddi ers y llynedd? |
| (1, 0) 111 | Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall... |
| (1, 0) 114 | A beth am Tenerife? |
| (1, 0) 118 | Fan'no dach chi yn mynd, meistres... |
| (1, 0) 122 | Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith. |
| (1, 0) 125 | Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi. |
| (1, 0) 127 | Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd. |
| (1, 0) 129 | Mi wnaethoch y diwrnod hwnnw. |
| (1, 0) 130 | Ar ôl cinio yn y Grand, mi aethoch chi'ch dwy i'r "Travel Agent" mewn tacsi i roi blaendal ar wyliau yn Tenerife. |
| (1, 0) 133 | Twt, mi feddyliwn ni am rhywbeth. |
| (1, 0) 134 | Dowch i ni gael dawnsio. |
| (1, 0) 136 | Dewch, meistres. |
| (1, 0) 140 | Cym on. |
| (1, 0) 141 | Anghofiwch o. |
| (1, 0) 142 | Mi gawn ni boeni amdano fo yfory. |
| (1, 0) 144 | Wel, am wyneb hir. |
| (1, 0) 146 | Beth am dipyn o wên? |
| (1, 0) 149 | Ben! |
| (1, 0) 150 | Tyrd, joinia i mewn. |
| (1, 0) 156 | Faint o'r gloch mae o'n cyrraedd yfory? |
| (1, 0) 166 | O, chefaist ti mohoni? |
| (1, 0) 172 | Meddyliwch am y meistr yn dawnsio i fiwsig fel yna. |
| (1, 0) 177 | Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud? |
| (1, 0) 187 | Mi ddechreua i gyda'r llestri 'ma. |
| (1, 0) 202 | 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma. |
| (1, 0) 208 | Sori, meistres. |
| (1, 0) 219 | Rhaid i mi roi y jwg yma yn ôl. |
| (1, 0) 228 | Nac oes, sgen i ddim math o'i ofn o. |
| (1, 0) 231 | Na rydw i'n iawn. |
| (1, 0) 245 | Ew, rydw i wedi blino ar yr hen glirio 'ma. |
| (1, 0) 246 | Beth am gêm arall o tidli wincs? |
| (1, 0) 250 | Ddaw o ddim tan yfory ─ peidiwch â phoeni. |
| (1, 0) 252 | Ofn cael cweir 'dach chi 'te? |
| (1, 0) 255 | Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma. |
| (1, 0) 263 | Dach chi'n hopless Meistres. |
| (1, 0) 264 | Methu bob tro. |
| (1, 0) 269 | Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben? |
| (1, 0) 274 | 'Does gennoch chi ddim llawer o glem meistres. |
| (1, 0) 275 | Rydw i yn ffansio gêm bach o snwcer. |
| (1, 0) 284 | Cadw dy hen ddwylo i ti dy hun. |
| (1, 0) 285 | Mi wna i yn iawn fy hun. |
| (1, 0) 289 | Wel, mae rhaid i mi drio curo hynna. |
| (2, 0) 311 | Ia? |
| (2, 0) 314 | Ia, meistr? |
| (2, 0) 316 | Be dach chi isio? |
| (2, 0) 318 | Dyna wnes i. |
| (2, 0) 322 | O-ce. |
| (2, 0) 336 | Dim ond dwy funud mae o wedi bod! |
| (2, 0) 339 | Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.} |
| (2, 0) 340 | 'Di hwn byth yn fodlon. |
| (2, 0) 372 | Ydi hwnna'n well! |
| (2, 0) 376 | Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn. |
| (2, 0) 390 | Iawn. |
| (2, 0) 399 | Be nesa! |
| (2, 0) 413 | 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr. |
| (2, 0) 419 | Wel, agorwch eich ceg 'ta. |
| (2, 0) 438 | Cofio? |
| (2, 0) 439 | Wrth gwrs. |
| (2, 0) 440 | A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw. |
| (2, 0) 442 | Iawn. |
| (2, 0) 447 | Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw? |
| (2, 0) 455 | Sut maen nhw'n dod? |
| (2, 0) 462 | Mi a' i i'w ateb o. |
| (2, 0) 466 | Na, peidiwch â phoeni. |
| (2, 0) 467 | Dydi o ddim yma. |
| (2, 0) 470 | Hei, beth am eich cotiau chi. |
| (2, 0) 471 | Dowch â nhw i mi. |
| (2, 0) 485 | Sut mae'r darten yn plesio? |
| (2, 0) 489 | Pam? |
| (2, 0) 495 | Da iawn, meistres. |
| (2, 0) 496 | Mae'n bryd i rywun ddal ei dir yn ei erbyn. |
| (2, 0) 511 | Oedd Hitler yn waeth na hyn deudwch? |
| (2, 0) 536 | 'Welodd rywun un mor ddau wynebog â hwn. |
| (2, 0) 621 | Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei. |
| (2, 0) 624 | Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly. |
| (2, 0) 629 | Mae o wedi gadael ei blan ar ôl. |
| (2, 0) 631 | Hwn fan hyn. |
| (2, 0) 634 | Sut wyt ti'n gwybod am hwnnw? |
| (2, 0) 641 | Sut wyt ti'n gallu deud? |
| (2, 0) 643 | Ia. |
| (2, 0) 651 | Wel, y coblyn tywyllodrus. |
| (2, 0) 654 | Reit ─ dyma'n cyfle ni. |
| (2, 0) 656 | Ein cyfle ni i dalu'n ôl. |
| (2, 0) 658 | Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni. |
| (2, 0) 660 | Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser. |
| (2, 0) 662 | Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo. |
| (2, 0) 663 | Reit meistres, beth am bractis bach. |
| (2, 0) 665 | Beth i'w ddweud wrth y meistr. |
| (2, 0) 669 | 'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres. |
| (2, 0) 670 | Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus. |
| (2, 0) 673 | Gwych, meistres. |
| (2, 0) 674 | Reit, deudwch ar fy ôl i ─ Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
| (2, 0) 677 | Twt, twt, meistres. |
| (2, 0) 678 | Fuasech chi ddim yn dychryn robin goch fel yna. |
| (2, 0) 679 | Brest allan, ysgwyddau'n ôl. |
| (2, 0) 680 | Triwch eto. |
| (2, 0) 681 | Codwch eich llais. |
| (2, 0) 684 | Peidiwch â gweiddi gormod. |
| (2, 0) 685 | Unwaith eto. |
| (2, 0) 688 | Da iawn. |
| (2, 0) 693 | Yn y swyddfa? |
| (2, 0) 695 | Dyna fo wedi'i brofi. |
| (2, 0) 696 | Mi fedrwn ni gario ymlaen rŵan. |
| (2, 0) 698 | Ei gyhuddo fo o dwyll. |
| (2, 0) 699 | Ac os nad ydi o yn newid ei ffordd, mi rydan ni am ei riportio fo. |
| (2, 0) 702 | Reit, pawb allan. |
| (2, 0) 703 | Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo. |
| (2, 0) 717 | Lle mae o? |
| (2, 0) 720 | Ar ei ôl o meistres. |
| (2, 0) 723 | Nac ydych, siŵr. |
| (2, 0) 724 | Mi wnewch chi'n iawn. |
| (2, 0) 725 | Pob lwc. |
| (2, 0) 731 | Pwy sydd 'na? |
| (2, 0) 734 | Be sydd arnat ti dwad? |
| (2, 0) 735 | Mae yna amser a lle i bopeth. |
| (2, 0) 736 | Be wyt ti isio? |
| (2, 0) 738 | Ddim yn fan hyn gwboi. |
| (2, 0) 740 | Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres. |
| (2, 0) 745 | Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo. |
| (2, 0) 747 | Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o. |
| (2, 0) 748 | Ac ar ben hynny, mae o'n ddyn papur newydd. |
| (2, 0) 754 | Paid. |
| (2, 0) 755 | Mae rhywun yn dod. |
| (2, 0) 759 | Hy, be ydi cyflog? |
| (2, 0) 771 | Mae o newydd fod yma yn gofyn amdanoch chi meistres. |
| (2, 0) 775 | Ffordd hyn. |
| (2, 0) 802 | Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na. |
| (2, 0) 804 | Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar. |
| (2, 0) 811 | Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr. |
| (2, 0) 814 | Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni. |
| (2, 0) 822 | 'Dach chi'n lwcus meistres. |
| (2, 0) 825 | Ia, mae hi isio canslo y gwyliau. |
| (2, 0) 826 | Gofyn os dach chi'n meindio. |
| (2, 0) 829 | Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro. |
| (2, 0) 836 | Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis. |
| (2, 0) 838 | Tro cynta ers naintin-sicsti! |
| (2, 0) 845 | Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm. |
| (2, 0) 847 | Beth am i ni gyd fynd allan i ginio. |
| (2, 0) 855 | Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union. |