| (1, 0) 213 | 'Rwy'n teimlo'n ddigon cynnes. |
| (1, 0) 217 | "O paid â dweud fod ieuenctid wedi darfod." |
| (1, 0) 220 | 'Rwy'n bymtheg a deugain. |
| (1, 0) 223 | Ond be fynnwch chi? |
| (1, 0) 226 | "O'th flaen 'rwy'n dyfod eto." |
| (1, 0) 227 | Os ydi artist yn plesio'r byd yn fwy na siopwr, er enghraifft, wel fel yna y dylia hi fod, tipyn o |idealism|, ynte? |
| (1, 0) 231 | Wel, mi oeddwn yn boblogaidd ymhlith y merched, ond y doctor medrus oedden nhw yn ei garu, nid y dyn. |
| (1, 0) 232 | Fel y cofiwch, fi oedd y fydwraig orau yn yr ardal ryw bymtheng mlynedd yn ôl. |
| (1, 0) 233 | Ac 'rydw i wedi bod yn ddyn gonest drwy f'oes. |
| (1, 0) 236 | Sh-t, mae nhw'n dwad. |
| (1, 0) 249 | Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn. |
| (1, 0) 329 | "Yr wyt yn ffromi, dad y duwiau." |
| (1, 0) 381 | Mae'n bryd iddyn nhw godi'r cyrten. |
| (1, 0) 382 | Mae ei olwg o yn gneud i ryw ias oer fynd drwydda i. |
| (1, 0) 397 | Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan. |
| (1, 0) 419 | Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag. |
| (1, 0) 437 | Digon tebyg nad ydw i ddim yn dallt neu mod i wedi mynd o ngho; ond mi gefais i flas ar y ddrama. |
| (1, 0) 438 | Mae na rywbeth yni hi; pan soniodd yr hogan am unigedd a phan welwyd llygaid cochion y diafol, roedd fy nulo i'n crynu a minnau wedi cynhyrfu. |
| (1, 0) 439 | Ffres, diniwed, diddichell... ond dyma fo; mi dduda i air mwyn wrtho fo. |
| (1, 0) 442 | 'Rydw i yma. |
| (1, 0) 445 | Constantin Gafrilofits, hoffais eich drama yn fawr; drama ryfedd ydi hi, chlywsom ni mo'r diwedd, ond gnaeth argraff dda iawn arnom. |
| (1, 0) 446 | Rydych yn ŵr talentog, rhaid ichi fynd ymlaen. |
| (1, 0) 448 | Ow, 'rydych chi'n nerfau i gyd. |
| (1, 0) 449 | Dagrau yn eich llygaid ─ |
| (1, 0) 450 | Dyma sydd gin i i'w ddweud; dewis testun o faes yr idea haniaethol, da iawn; mi ddylai pob gwaith celfyddyd fynegi meddwl o ryw fath neu'i gilydd. |
| (1, 0) 451 | Nid oes dim yn brydferth ond yr hyn sy'n ddifrifol. |
| (1, 0) 452 | 'Rydych chi'n llwyd iawn! |
| (1, 0) 454 | Ie; ond rhaid ichi fynegi rhywbeth pwysig a thragwyddol. |
| (1, 0) 455 | Fel y gwyddoch, mi welais lawer tro ar fy myd, ac yr wy'n berffaith fodlon ar fy mywyd; ond pe cawn i deimlo f'enaid yn esgyn i'r uchelder, fel y caiff yr artist wedi creu, mi ddirmygwn f'amdo cnawdol a phopeth a berthyn iddo ac esgynnwn o'r ddaear i'r goruchleoedd. |
| (1, 0) 457 | Mae hi wedi mynd adre. |
| (1, 0) 462 | Byddwch dawel, gyfaill. |
| (1, 0) 468 | Rwan, rwan, thâl hyna ddim, nid fel yna y dylid... |
| (1, 0) 473 | Ieuenctid, ieuenctid! |
| (1, 0) 478 | Wel? |
| (1, 0) 483 | Ond sut medra i'ch helpu chi? |
| (1, 0) 487 | Mae pawb yn nerfau i gyd; o'r fath gariad! |
| (1, 0) 488 | O, 'r llun hudol. |
| (1, 0) 490 | Be fedra i neud, mhlentyn i, be fedra i neud, be fedra i neud? |
| (2, 0) 500 | Chi, debyg iawn. |
| (2, 0) 510 | 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.' |
| (2, 0) 517 | Ie, ond beth am y llyfr yma? |
| (2, 0) 518 | 'Roedden ni'n darllen am y masnachwr a'r llygod mawr. |
| (2, 0) 564 | Nos dawch. |
| (2, 0) 572 | Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed! |
| (2, 0) 575 | O'r gorau ta, cymwch Valerian drops. |
| (2, 0) 577 | Mi all fynd, mi all beidio. |
| (2, 0) 579 | 'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen. |
| (2, 0) 583 | Na, nid lol, mae'r ddiod a baco yn lladd personoliaeth dyn. |
| (2, 0) 584 | Wedi smocio sigar neu yfed glasiad o frandi, nid Piotr Nicolaiefits ydych chi mwyach, ond Piotr Nicolaiefits plus rhywun arall. |
| (2, 0) 585 | Ma na rwyg yn eich personoliaeth, yn eich fi chi, ac mae yna ddau ohonoch chi, chi a rhywun arall. |
| (2, 0) 591 | Rhaid edrych ar fywyd yn fwy difrifol, a gwamalrwydd rhonc ydi cymyd ffisig a chithau'n drigain oed, a chwyno am na chawsoch fwy o hwyl pan oeddych yn ŵr ifanc. |
| (2, 0) 597 | Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio. |
| (2, 0) 599 | Lol botas, anrhydeddus syr. |
| (2, 0) 609 | 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.' |
| (2, 0) 663 | Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld. |
| (2, 0) 672 | 'Rydw i'n bymtheg a deugain, mae'n rhy hwyr imi newid fy ffordd o fyw. |
| (2, 0) 677 | Na, mae popeth yn iawn. |
| (2, 0) 682 | Sut y maen nhw draw acw? |
| (2, 0) 686 | Rhaid imi roi Valerian drops i'r ddau. |
| (2, 0) 690 | Thank you very much. |
| (4, 0) 1319 | Go gyfyng, yntê. |
| (4, 0) 1321 | Arian wir! |
| (4, 0) 1322 | Wedi bod wrthi hi'n bustachu ddydd a nos am ddeng mlynedd ar hugain, mi grafais ddeugant, ac mi wariais bob dimai ohonyn nhw mewn gwlad bell. |
| (4, 0) 1323 | 'Does gin i ddim ar f'elw. |
| (4, 0) 1330 | Wel, mae yna dipyn o newid; mae'n nhw wedi troi'r parlwr yn stydi. |
| (4, 0) 1335 | Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn. |
| (4, 0) 1339 | Be liciech chi gael? |
| (4, 0) 1340 | Valerian drops, soda, quinine? |
| (4, 0) 1347 | 'Mae'r lloer yn nofio'r nefoedd yn y nos.' |
| (4, 0) 1349 | Breuddwydiwn am fod yn J.P. a dyma fi wedi llwyddo. |
| (4, 0) 1352 | Cwyno a lladd ar fywyd, a chithau'n drigain oed. |
| (4, 0) 1353 | Dydi hyna ddim yn deg, ydi o? |
| (4, 0) 1356 | Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd. |
| (4, 0) 1359 | Anifail yn unig sydd yn ofn marw, rhaid i ddyn fod yn drech na'r ofn na. |
| (4, 0) 1360 | Ddylai neb rhesymol ofni marw ond y sawl sy'n credu fod byd arall, byd tragwyddol, ac yn teimlo ei fod yn bechadur euog: yn gyntaf, 'dydych chi ddim yn credu, yn ail, ble mae'ch pechodau chi? |
| (4, 0) 1361 | Buoch yn J.P. am bum mlynedd ar hugain, dyna'r cwbwl. |
| (4, 0) 1365 | Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur. |
| (4, 0) 1369 | Genoa. |
| (4, 0) 1371 | Mae bywyd y stryd mor ardderchog yno. |
| (4, 0) 1372 | Ewch allan o'ch hotel gyda'r hwyr ac mae'r stryd yn llawn dop dyn o bobol a chithau'n stelcian ar hyd ac ar draws yn y dorf, igam ogam, ac yn teimlo eich bod yn rhan o'r dorf, yn llifo'n un â hi; ac yn dehrau credu fod y fath beth ag ysbryd y byd fel y clywsom pan oedd Nina Zaretsnaia yn actio'ch drama chi; gyda llaw, ble mae hi, ydi hi'n fyw? |
| (4, 0) 1374 | Mi glywais nad oedd fawr o lun ar ei bywyd hi, wyddoch chi dipyn yn bethma; be sy'n bod? |
| (4, 0) 1376 | Gnewch chi stori fer ohoni. |
| (4, 0) 1378 | Gwn. |
| (4, 0) 1382 | Beth am ei bywyd ar y stage? |
| (4, 0) 1388 | Ond mae gynni hi dalent, debyg? |
| (4, 0) 1398 | Tewch â sôn, yma? |
| (4, 0) 1410 | Be? |
| (4, 0) 1414 | Yr Hen Ddon Juan! |
| (4, 0) 1491 | Gna, mym. |
| (4, 0) 1496 | Ie. |
| (4, 0) 1511 | Hanner cant yn union? |
| (4, 0) 1524 | Mae'r J.P. yn cysgu. |
| (4, 0) 1531 | Mae gin i feddwl mawr o Constantin Gafrilits. |
| (4, 0) 1532 | Mae gynno fo ddawn, oes wir. |
| (4, 0) 1533 | Mae o'n meddwl mewn ffigurau, mae ei straeon o'n wych ac yn glir ac yn cyrraedd at fy nghalon. |
| (4, 0) 1534 | Ond gresyn nad oes gynno fo nod amlwg o'i flaen. |
| (4, 0) 1535 | Gall osod ei argraff ar y darllenwyr a dyna'r cwbwl, a dewch chi ddim ymhell heb rywbeth amgenach na hyna. |
| (4, 0) 1536 | Irina Nicolaiefna, ydych chi'n falch fod eich mab yn llenor? |
| (4, 0) 1721 | Peth rhyfedd! |
| (4, 0) 1722 | Mae'r drws yn cau agor. |
| (4, 0) 1724 | Obstacle race! |
| (4, 0) 1743 | Dim o bwys, rhywbeth wedi ffrwydro yn fy mag doctor debyg. |
| (4, 0) 1744 | Peidiwch â bod yn anesmwyth. |
| (4, 0) 1746 | Ie, potel o ether wedi ffrwydro. |
| (4, 0) 1748 | 'Fe'm hudwyd eto ger dy fron.' |
| (4, 0) 1755 | Mi wn eich bod yn teimlo diddordeb yn y cwestiwn. |
| (4, 0) 1757 | Ewch ag Irina Nicolaiefna i rywle o'r ffordd... mae Constantin Gafrilofits wedi saethu ei hun. |