Cuesheet

Esther

Lines spoken by Esther (Total: 143)

 
(1, 0) 338 Be' sy'n bod, Harbona?
 
(1, 0) 341 Mordecai'r Iddew?
 
(1, 0) 345 Beth ydy' ystyr hyn?
 
(1, 0) 347 Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i.
 
(1, 0) 351 'Rydw' i wedi ei ddarllen o.
 
(1, 0) 353 Fy nghenedl i.
(1, 0) 354 Fy nheulu i.
(1, 0) 355 Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny.
 
(1, 0) 357 Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain?
(1, 0) 358 Ydw', 'rydw' i'n deall.
 
(1, 0) 362 Ein cenedl |ni|?
(1, 0) 363 Dyna wyt ti'n ei feddwl?
 
(1, 0) 367 Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob.
(1, 0) 368 Duw'r addewid.
 
(1, 0) 376 Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i.
(1, 0) 377 Wele, cyfamod tragwyddol a wnaf i â hwynt.
(1, 0) 378 Dyna oedd dy wers di bob Sabath er bod Jerusalem mor bell.
(1, 0) 379 Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny?
 
(1, 0) 382 Mae O'n dibynnu arnon |ni|?
 
(1, 0) 387 Ti sy'n gyfrifol.
 
(1, 0) 389 Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn.
 
(1, 0) 391 Morynion y palas sy'n deud hynny.
(1, 0) 392 Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas.
 
(1, 0) 394 Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin.
 
(1, 0) 397 Prif weinidog y Brenin.
(1, 0) 398 Mae hi'n orchymyn fod pawb o weision y Brenin i ymgrymu iddo.
(1, 0) 399 Fe fu llawer iawn o siarad ers talwm pam nad oeddit ti ddim yn gwneud.
(1, 0) 400 Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn.
 
(1, 0) 406 Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu?
 
(1, 0) 408 Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma.
 
(1, 0) 410 Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin.
 
(1, 0) 412 Cymodi â Haman.
(1, 0) 413 Dangos ewyllys da tuag ato; ymgrymu iddo a gofyn am drugaredd i'r Iddewon.
 
(1, 0) 417 Gwallgo?
(1, 0) 418 Pam?
 
(1, 0) 422 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel?
 
(1, 0) 424 Nid fi sy'n dy gyhuddo di.
 
(1, 0) 426 Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o.
 
(1, 0) 436 Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i.
 
(1, 0) 438 Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny.
(1, 0) 439 Ti ddaru fy rhoi i yng ngwely'r dienwaediad.
(1, 0) 440 Ti ddaru wahardd imi ddeud wrth neb i ba genedl 'rydw i'n perthyn.
(1, 0) 441 Os ydw' i wedi fy nhorri oddi wrth fy mhobl, os ydw' i wedi f'esgymuno o Seion, ufuddhau i ti a wnes i, am mai ti a'm magodd i, ac mi fûm i fel merch iti.
(1, 0) 442 Fel merch ufudd, Mordecai.
 
(1, 0) 444 'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan.
(1, 0) 445 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin.
 
(1, 0) 447 'Welaist ti fi'n falch?
(1, 0) 448 'Welaist ti fi'n ddihitio?
(1, 0) 449 'Oes angen bod yn greulon?
(1, 0) 450 Petaut ti ond yn gwybod mor unig ydw' i yn y palas yma.
(1, 0) 451 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah.
 
(1, 0) 453 Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau.
 
(1, 0) 455 Be' fedra'i ei wneud?
 
(1, 0) 457 Breuddwyd?
(1, 0) 458 A neges ynddi?
(1, 0) 459 O'r gora', dywed dy freuddwyd.
 
(1, 0) 465 'Oes gennyt ti ddawn Joseff?
(1, 0) 466 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd?
 
(1, 0) 470 A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul?
 
(1, 0) 472 Fi?
(1, 0) 473 Fi sy wedi fy nhorri allan o Israel?
(1, 0) 474 Fi sy wedi f'esgymuno yng ngwely'r di-enwaediad?
(1, 0) 475 Sut y gall hynny fyth fod?
 
(1, 0) 479 Na!... Na!
 
(1, 0) 481 Na!
 
(1, 0) 483 Mi wyddost y gyfraith.
(1, 0) 484 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth.
 
(1, 0) 486 Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth.
 
(1, 0) 489 Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant?
(1, 0) 490 Eithriad yw hi.
(1, 0) 491 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd.
 
(1, 0) 494 Mi all beidio â digwydd.
 
(1, 0) 496 Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf.
 
(1, 0) 499 Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i.
 
(1, 0) 502 Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall.
(1, 0) 503 Nid mwy na phawb arall.
 
(1, 0) 506 lddew ydw' i.
 
(1, 0) 509 Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti.
 
(1, 0) 516 Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw.
 
(1, 0) 518 Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato?
(1, 0) 519 Er pan welais i o?
(1, 0) 520 Deng noson ar hugain.
 
(1, 0) 522 Ydw', yn eu cyfri nhw.
(1, 0) 523 Fel unrhyw wraig briod.
 
(1, 0) 526 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely.
 
(1, 0) 528 'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas.
(1, 0) 529 Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi.
 
(1, 0) 531 Ond fi yw ei wraig briod o.
 
(1, 0) 533 A siawns, siawns arswydus, iddo beidio.
 
(1, 0) 535 Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti.
 
(1, 0) 538 Nid dyna'r pwynt o gwbwl.
(1, 0) 539 Mi allwn i ddiodde hynny.
 
(1, 0) 542 Oes rhaid deud wrthyt ti?
(1, 0) 543 Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm.
 
(1, 0) 546 Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
 
(1, 0) 548 Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin.
(1, 0) 549 Ti ddaru fy nhorri i allan o Israel.
(1, 0) 550 Fe fu misoedd o baratoi, wyt ti'n cofio?
(1, 0) 551 'Roeddwn i'n dychryn ac yn ffieiddio.
(1, 0) 552 A dyma fy nhro i'n dwad, ac mi es i mewn ato fo.
(1, 0) 553 A'r funud yr edrych'on ni ar ein gilydd, wel, yr oedd popeth yn iawn.
(1, 0) 554 Mi wyddwn i'r funud honno nad mater o un noson fyddai hi.
(1, 0) 555 Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau.
 
(1, 0) 557 Mae mis o nosweithiau er pan welais i o.
(1, 0) 558 'Ddaeth dim un gair oddi wrtho fo.
(1, 0) 559 Dim neges.
(1, 0) 560 Dim arwydd.
(1, 0) 561 A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr.
 
(1, 0) 563 Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid.
(1, 0) 564 Rydw i'n cerdded y palas, yn cerdded y gerddi, rhwng y rhos lle y cerddais i gynt gydag yntau, 'rydw i'n cadw fy mhen yn uchel ymhlith y merched, ac yn dal fy nhafod pan wela' i nhw'n cilwenu arna' i.
(1, 0) 565 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll.
 
(1, 0) 567 'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll.
(1, 0) 568 Ar goll o Israel.
(1, 0) 569 Ar goll ym mhalas Persia.
(1, 0) 570 Wyt ti'n gweld?
(1, 0) 571 Mi 'rydw i'n ei garu o.
(1, 0) 572 Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi.
 
(1, 0) 575 Nid ofni angau yr ydw' i.
(1, 0) 576 Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
 
(1, 0) 578 Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'.
(1, 0) 579 Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio.
 
(1, 0) 581 'Oes gen' i help?
 
(1, 0) 583 Mordecai, paid â bod mor ddwl.
(1, 0) 584 Mi wn i gan gwell na thi am balas y merched.
(1, 0) 585 'Waeth gen'i flewyn amdanyn' nhw.
(1, 0) 586 Pa ots, pa ots o gwbwl, ond iddyn' nhw fynd a dwad.
(1, 0) 587 'Rydw i'n aros.
(1, 0) 588 Fi mae o'n caru.
 
(1, 0) 592 Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o.
(1, 0) 593 Mae o'n wir.
(1, 0) 594 Rhaid iddo fod yn wir.
(1, 0) 595 Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir.
 
(1, 0) 598 Mae o'n fy ngharu i.
(1, 0) 599 'Does dim modd profi peth fel yna.
(1, 0) 600 Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o.
 
(1, 0) 605 Angau yw'r ddeddf.
 
(1, 0) 608 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o.
 
(1, 0) 613 Taw, y blagard gen' ti.
(1, 0) 614 Paid â'th gablu.
(1, 0) 615 Mi af ato.
(1, 0) 616 Mi dafla'i mywyd wrth ei draed o.
(1, 0) 617 Mi ddweda' i wrtho bopeth, fy nheulu, fy nghenedl, a thithau.
(1, 0) 618 Ac os derfydd amdanaf, darfydded!