| (0, 11) 952 | Chwerddaist am fy mhen ar hyd dy oes, a bernaist air Duw yn oferedd; bellach, yn dy awr olaf, a ddaw amgen lleferydd o'th enau di? |
| (0, 11) 954 | Truan o leferydd! |
| (0, 11) 959 | Darn go druan o Ffydd yw hynny. |
| (0, 11) 960 | Ni chyfyd hynny iti bont i groesi drosodd. |
| (0, 11) 961 | Oni wyddost ti am beth gwell? |
| (0, 11) 963 | [{Gan gymryd cam yn nes ato.} |
| (0, 11) 964 | A drochwyd di mor llwyr mewn chwant, a'th suddo cyn ddyfned mewn nwyd, fel na ddaw dros dy wefus mo'r peth a ryddhai d'enaid yn dragywydd?] |
| (0, 11) 966 | A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw? |
| (0, 11) 971 | Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw? |
| (0, 11) 973 | Fe faddau Duw'n ddifesur! |
| (0, 11) 975 | Na, aberthodd Ei unig fab i boen y byd o orsedd y goleuni, megis y genid Ef fel dyn, ac nad ai neb mwy'n golledig, dim un, nid y gwaethaf, na, [ond cael ohono fywyd tragwyddol. |
| (0, 11) 976 | "Er mwyn Pechadur y deuthum i, nid rhaid i'r iach wrth feddyg"; daeth y geiriau o'r genau na allai ddywedyd celwydd.] |
| (0, 11) 977 | Os credi di ynteu yn y bywyd hwn, yna maddeuir i ti dy bechodau, a dofir llid Duw. |
| (0, 11) 980 | Daeth yr awr. |
| (0, 11) 981 | Bellach, dos i'th olchi'n lân oddi wrth dy bechodau. |
| (0, 11) 984 | [Mae cymorth da yn disgwyl amdanat. |
| (0, 11) 985 | Drwy ei wasanaeth ef bydd d'enaid yn lân. |
| (0, 11) 986 | Dyred yn ôl mewn gwisg wen, yna ti ei draw yn fy llaw i, ac i'th ganlyn di, bydd hefyd i'th weithredoedd rym a nerth.] |
| (0, 13) 1014 | Pobun, Duw gyda thi! |
| (0, 13) 1015 | A phan orchmynnaf di, yn awr ac yma, i ddwylaw dy Waredwr, felly boed dy gyfrif heb wall. |
| (0, 13) 1017 | Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr. |
| (0, 13) 1020 | [Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.] |
| (0, 13) 1036 | [Saf yna!] |
| (0, 13) 1039 | [Nid yma!] |
| (0, 13) 1041 | ['Does yma ddim lle i'th debyg di.] |
| (0, 13) 1046 | Nid oes yma ffordd! |
| (0, 13) 1048 | Nid ymddiddanaf â thi. |
| (0, 13) 1062 | A fynni di setlo'r peth â'th ddyrnau a thorri ar draws ein gweddi? |
| (0, 13) 1063 | Gwêl pwy sydd yn dyfod yn gyfnerth inni! |
| (0, 13) 1078 | Nid oes lawer o'th blaid di, ac yr wyt eisoes wedi colli 'r chwarae. |
| (0, 13) 1079 | Bwriodd Duw i'r glorian ei aberth ei hun a'i angau loes, a thrwy hynny dilewyd dyledion Pobun dros byth. |
| (0, 13) 1085 | [Try, drwy ddwfn edifeirwch, sydd fel tân yn puro'r enaid oll.] |
| (0, 13) 1093 | Gerbron y farn y mae ef yn ei wynebu, ni saif dy hawliau di ddim—[gorffwysant ar ymddangosiad a thwyll, ar y fan yma a'r awr hon a'r byd hwn, y maent oll yn rhwym mewn amser, wedi eu cau oddi mewn i'w derfynau..] |
| (0, 13) 1096 | Pan glywer y clychau hyn yn canu, bydd tragwyddoldeb wedi dechrau. |
| (0, 14) 1127 | Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus. |
| (0, 14) 1134 | Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di. |
| (0, 14) 1142 | Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith. |
| (0, 14) 1143 | Saif yntau gerbron ei Farnwr yn llwm a noeth a'i weithredoedd yn unig gydag ef, a hwythau'n gyfnerth iddo ac yn eiriol drosto. |
| (0, 14) 1144 | Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau. |