Cuesheet

Ei Seren Tan Gwmwl

Lines spoken by Foster (Total: 105)

 
(1, 0) 235 Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 240 Diolch.
 
(1, 0) 243 Ydyw.
 
(1, 0) 246 Efallai ei bod, yn wir, Mrs. Huw.
 
(1, 0) 250 Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno.
 
(1, 0) 253 Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor.
 
(1, 0) 257 Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw.
 
(1, 0) 259 Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin.
(1, 0) 260 Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn...
 
(1, 0) 262 Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi...
 
(1, 0) 266 Ie, os mynnwch.
 
(1, 0) 269 Cydwybod, ai e?
(1, 0) 270 Wel, wel!
 
(1, 0) 273 O? A beth ydyw?
 
(1, 0) 277 Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol.
 
(1, 0) 279 Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau.
 
(1, 0) 281 Chwarae teg iddo, yn wir.
(1, 0) 282 Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd.
 
(1, 0) 284 Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd.
(1, 0) 285 Daeth ataf y dydd o'r blaen i ddweud y carai ymuno â'r Milishia.
 
(1, 0) 288 Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol...
 
(1, 0) 291 Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder...
 
(1, 0) 298 Dynion dewr, gwlatgarol.
 
(1, 0) 300 Syr!
 
(1, 0) 302 Mr. Huw, ystyriwch eich...
 
(1, 0) 305 Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen...
 
(1, 0) 308 Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc...
 
(1, 0) 315 Y mae'n ein galw i Grwsâd Sanctaidd yn erbyn gelynion ein crefydd a'n treftadaeth.
 
(1, 0) 321 Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw.
 
(1, 0) 323 Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors.
 
(1, 0) 328 |Seren tan Gwmwl|.
(1, 0) 329 Yr wyf wedi ei ddarllen...
 
(1, 0) 331 ... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors.
 
(1, 0) 335 A rhaid mynd ati cyn bo hir i ail ysgrifennu Llyfrau'r Proffwydi.
(1, 0) 336 Er enghraifft... "A Duw a lefarodd wrth ei was Tom Paine"...
 
(1, 0) 338 Nid dau broffwyd mohonynt, ond dau fradwr!
 
(1, 0) 341 Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad.
 
(1, 0) 346 Dyna ddigon, Mr. Huw.
(1, 0) 347 Gwn yn union lle y sefwch yn yr argyfwng presennol.
(1, 0) 348 Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad...
 
(1, 0) 350 O'r gorau.
 
(1, 0) 352 Noson dda i chwi, Mrs. Huw.
 
(1, 0) 354 A chofiwch, Mr. Huw, fod gan Dduw ei ddamnedigaeth... ie, yn y byd hwn... i'r neb a feiddia wrthsefyll awdurdod Ei Eglwys Ef!
 
(1, 0) 840 Gwaith y Brenin.
 
(1, 0) 842 Hwn yw eich dyn, Capten Rogers.
 
(1, 0) 849 A llawenydd yw canfod mai un o'r plwyf hwn a fu'n gyfrwng i ddal y bradwr.
 
(1, 0) 852 Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw.
(1, 0) 853 Rhoes ar ddeall inni ei fod yma.
(1, 0) 854 Gwelodd ef yn ceisio cyfle i lithro'i mewn.
(1, 0) 855 Yn unol â'm dyletswydd, deuthum â Capten Rogers a'i wŷr yma ar unwaith.
 
(1, 0) 871 'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy.
(1, 0) 872 Ac o'r herwydd, caiff Ifor glod a mawredd...
 
(1, 0) 878 Dyletswydd pob un ohonom heddiw ydyw rhoi ei wlad o flaen popeth arall... hyd yn oed ei deulu...
 
(1, 0) 880 Dyna ddigon.
(1, 0) 881 Eich tynged chwi fydd mynd i Ruthun yng nghwmni'r Milishia.
 
(1, 0) 884 Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw.
(1, 0) 885 Y mae rhoi lloches i elyn y wladwriaeth ar adeg rhyfel yn drosedd.
(1, 0) 886 Gall fod yn gyfyng arnoch...
 
(1, 0) 890 A oes raid imi dderbyn cyngor gan fradwr ac anffyddiwr?
(1, 0) 891 Y mae'n amser symud, Capten Rogers...
 
(1, 0) 898 Beth yw hyn, Janet?
(1, 0) 899 Nid oes a wnelo...
 
(1, 0) 904 Gwaith y Brenin.
 
(1, 0) 907 Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 915 Dyna'm dyletswydd.
 
(1, 0) 918 Nid bradychu, Janet, ond gwneud ei ran dros ei wlad a'i Dduw.
(1, 0) 919 Am hynny, fe genir clod Ifor...
 
(1, 0) 936 Gweithred nobl ydoedd, Ifor.
 
(1, 0) 949 Capten Roger s...
 
(1, 0) 953 Wel... beth sy'n bod?
 
(1, 0) 955 Ewch ymlaen.
 
(1, 0) 957 Pam hynny?
 
(1, 0) 960 O'r gorau, Janet.
(1, 0) 961 Capten Rogers?
 
(1, 0) 963 Wel, fy merch i, beth ydyw?
 
(1, 0) 967 Nid ydych o ddifrif...
 
(1, 0) 970 Yn enw rheswm, pam?
 
(1, 0) 973 Janet!
(1, 0) 974 Mae hyn yn beth difrifol.
(1, 0) 975 Bradychu eich |teulu|!
 
(1, 0) 978 Cydwybod!
(1, 0) 979 Ffolineb merch ddi-brofiad wedi ei swyno gan syniadau rhigymwr cefn gwlad!
 
(1, 0) 981 Disgybl i |hwn|, yn wir!
 
(1, 0) 987 Ie... wel... y...
 
(1, 0) 992 Fy merch i fy hun yn fy herio!
(1, 0) 993 Yn troi'n fradwr!
 
(1, 0) 997 Ffolineb yw hyn!
 
(1, 0) 1005 Janet, yn enw Duw peidiwch â rhoi'r dewis hwn i mi.
 
(1, 0) 1008 Fy merch i... er mwyn popeth...
 
(1, 0) 1011 Dewis ofnadwy yw hwn.
(1, 0) 1012 Yr ydych yn gofyn llawer gennyf, mwy nag a ofynnwyd imi erioed.
(1, 0) 1013 Ni wyddwn eich bod yn coleddu'r syniadau newydd hyn.
(1, 0) 1014 Mae hi'n anodd... yn anodd gweithredu'n groes i'm hargyhoeddiad.
(1, 0) 1015 Ond...
 
(1, 0) 1017 Ni allaf byth eich gweld yn mynd i afael...
 
(1, 0) 1020 Bydded felly.
(1, 0) 1021 Ond beth a ddywedaf wrth Capten Rogers?
 
(1, 0) 1025 O'r gorau, Janet.
(1, 0) 1026 Mr. Huw, carwn i chwi ddod allan gyda mi i siarad â'r swyddog...
 
(1, 0) 1028 Mr. Jones, y mae... y... wel... yr amgylchiadau yn caniatâu i chwi fod yn rhydd... i adael y plwyf hwn heb oedi.
(1, 0) 1029 Ond cofiwch, nid oes gennyf unrhyw awdurdod o'r tu allan i'm plwyf fy hun.
(1, 0) 1030 Dyna'r... telerau.
 
(1, 0) 1033 O'r gorau.
 
(1, 0) 1035 Noson dda i chwi, Mr. Jones.
(1, 0) 1036 A gawn ni fynd, Mr. Huw?