Cuesheet

Glyndwr, Tywysog Cymru

Lines spoken by Glyndwr (Total: 56)

 
(1, 1) 31 Dyma Dir y Croesau y soniais am dano neithiwr.
(1, 1) 32 Tir yw a ddylasai fod yn ffrwythlon o ran ei fod wedi ei fwydo â gwaed dewrion dwy wlad gyfa.
 
(1, 1) 57 Gwell colli arian na gwaed─ond mi golla'm gwaed cyn colli'm tir.
 
(1, 1) 61 Cofia dithau hynny, Gruff.
(1, 1) 62 Mae'r Sais, a'i drais, a'i draha yn Grey o'r Castell Coch yn bygwth helynt newydd.
(1, 1) 63 Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto.
 
(1, 1) 70 Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir.
(1, 1) 71 Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes.
 
(1, 1) 76 Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach!
(1, 1) 77 Cof byr yw cof cymwynas, ond hir yw atgo digter.
 
(1, 1) 165 Pa beth yw hyn?
(1, 1) 166 Ha!
 
(1, 1) 168 Lifre Grey o Ruthyn!
(1, 1) 169 Pam y troseddwch ar dir Glyndwr?
 
(1, 1) 173 Myn fy einioes!
(1, 1) 174 Oni bae fod gennyf fwy o barch i mi fy hun nag i ti a'th feistr, mi dy grogwn y funud hon, tydi a'th wyr, am y sarhad a wnest.
(1, 1) 175 Pa le mae fy manner?
 
(1, 1) 178 Yn ol a hi i'w lle!
(1, 1) 179 I lawr â lluman Grey!
 
(1, 1) 181 Na!
(1, 1) 182 Ca'r dwylaw a daflasant laid ar luman Cymru ei olchi eto i ffwrdd!
(1, 1) 183 Chwi filwyr Grey, â'ch dwylaw eich hun gwnewch hyn!
 
(1, 1) 186 Yn ol a chwi i'ch ffau!
(1, 1) 187 A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna.
 
(1, 1) 190 Pa beth yw hynny?
 
(1, 1) 195 Wel, dyna ddechreu'r storm.
 
(1, 2) 229 Diolch i'ch Huchelder Brenhinol.
(1, 2) 230 Mae eich croesaw yn anrhydedd a'ch cwmni yn ddywenydd bob amser i Gymro tlawd fel myfi!
 
(1, 2) 295 Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed.
(1, 2) 296 Ond, p'run a fydd Glyndwr yn 'sglyfaeth iddo sy'n gwestiwn arall!
 
(1, 2) 306 Ei well!
(1, 2) 307 P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru?
 
(1, 2) 310 Myn bedd fy nhad, cei lyncu'th air dy hun neu'm cleddyf i!
(1, 2) 311 Rhof her iti!
(1, 2) 312 A dyna'm maneg i lawr!
 
(1, 2) 316 Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny.
 
(1, 2) 333 Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl.
(1, 2) 334 Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda.
 
(1, 2) 336 Pa beth wyt ti, De Grey?
 
(1, 2) 338 Wel dyna ddigon!
(1, 2) 339 Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais.
 
(1, 2) 376 Fy Arglwydd Frenin.
(1, 2) 377 Mi ddeuthym yma i geisio'r hyn oedd gyfiawn imi fel dyn, a pherchen tir.
(1, 2) 378 Dim mwy na llai na hynny.
(1, 2) 379 Gwrthodwyd hyn i mi, nid am nad oedd fy hawl yn deg a chyfiawn, ond am fy mod yn Gymro.
(1, 2) 380 Cymhellir fi i'w geisio 'nawr fel Sais.
(1, 2) 381 Ond os gwrthodir cyfiawnder i mi fel Cymro, ni fyn olynydd syth y Brenin Arthur Fawr ei gael trwy ddweyd ei fod yn Sais!
(1, 2) 382 Na!
(1, 2) 383 Pe bai'r Croesau'n Gymru, a phe bai Cymru'n fyd!
(1, 2) 384 Ond gwae i'r wlad a wnelo gam mewn llys!
(1, 2) 385 A gwae i'r teyrn a wyro farn ar sedd!
 
(1, 2) 390 Tydi!
(1, 2) 391 Y gwron gwych sy'n llechu'n nghysgod teyrn.
(1, 2) 392 Gwel fy maneg!
(1, 2) 393 Mae honno eto ar lawr!
(1, 2) 394 Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud!