|
|
|
|
(1, 2) 140 |
Fy Arglwydd Frenin! tawel ydwyf fi, |
(1, 2) 141 |
A chryf yn nerth fy iawn a'th ffafr di. |
(1, 2) 142 |
Fy iawn rydd imi fuddugoliaeth lwyr |
(1, 2) 143 |
A'th ffafr di, O Frenin! rydd i mi |
(1, 2) 144 |
Y nerth i sefyll ar fy hawl yn dyn. |
|
|
(1, 2) 150 |
Raid i'r bytheuad ofni gwel'd y pryf? |
(1, 2) 151 |
A raid i'r heliwr ofni ei ysglyfaeth? |
|
|
(1, 2) 182 |
Gall eich mawrhydi |
(1, 2) 183 |
Anrhegu 'r gwylltddyn troednoeth, difoes hwn, |
(1, 2) 184 |
A rhyw ychydig eifr. Ofni yr wyf, |
(1, 2) 185 |
Fodd bynag, y bydd i'w amlwg ddiffyg moes, |
(1, 2) 186 |
Ei anadl gan dawch cenin yn dromlwythog, |
(1, 2) 187 |
A rhestr ei gyndeidiau cy'd a barf |
(1, 2) 188 |
Ei wylltion eifr, wneyd i chwi deimlo 'n flin |
(1, 2) 189 |
(Cyn darfod i'ch hynawsedd wneyd y rhodd) |
(1, 2) 190 |
I chwi erioed fwriadu gwneyd y rhodd. |
(1, 2) 191 |
A syn fydd genyf, os na ddengys ef |
(1, 2) 192 |
Ei ddiffyg dysg a moes o fewn y llys. |
|
|
(1, 2) 228 |
Fy Arglwydd Frenin! chwithau 'm cyd arglwyddi: |
(1, 2) 229 |
Fy nghwyn yn fyr yw hyn,—Fy hawl i'r tir |
(1, 2) 230 |
Dan sylw, brofwyd eisioes ddwywaith lawn |
(1, 2) 231 |
Mewn llys cyfreithlawn, yn ol deddf y wlad. |
(1, 2) 232 |
Y cyntaf dro, er profi 'm hawl yn glir, |
(1, 2) 233 |
Fe ddallwyd llygaid tegwch, gwyrwyd barn, |
(1, 2) 234 |
Gan law y teyrn ei hun.—Melldigaid fo |
(1, 2) 235 |
Risiart Plantagenet, yr hwn o ffafr |
(1, 2) 236 |
I'm gwrthwynebydd hwn, yn ddirym wnaeth |
(1, 2) 237 |
Fy nghyfiawn hawl. Ond dan gyfreithiau teg |
(1, 2) 238 |
Fy Arglwydd Frenin Harri y Pedwerydd, |
(1, 2) 239 |
Fy hawl ge's 'nol. Ond darfu i Glyndwr |
(1, 2) 240 |
(Pan y danfonais Swyddog dros y ffin, |
(1, 2) 241 |
I hawlio tir y Croesau, fel y rho'dd |
(1, 2) 242 |
Teg lys y Gyfraith imi berffaith hawl,) |
(1, 2) 243 |
Nacau fy hawl, a gyru'm Swyddog 'nol, |
(1, 2) 244 |
Dan fygwth erch, y gyrai ef a mi |
(1, 2) 245 |
Fel cwn yn ol i'w ffau, os deuem byth |
(1, 2) 246 |
Dros ffin y Croesau. Felly, deddf y wlad |
(1, 2) 247 |
Ddirmygwyd, ac a wawdiwyd ganddo ef. |
(1, 2) 248 |
A minau'n awr wyf yn apelio'n hy, |
(1, 2) 249 |
At deyrn, a phenarglwyddi doeth y tir, |
(1, 2) 250 |
Am anrhydeddu cyfraith deg y wlad, |
(1, 2) 251 |
A rhoddi imi hawl i'r tir yn ol, |
|
|
(1, 2) 276 |
Fy Arglwydd Frenin: |
(1, 2) 277 |
Tybiais i nad oedd un dyn yn bod |
(1, 2) 278 |
A feiddiai yn y presenoldeb hwn |
(1, 2) 279 |
Ddyrchafu mawl a chlod Plantagenet. |
(1, 2) 280 |
Ond aros, mae teyrnfradwr fu yn Flint, |
(1, 2) 281 |
Yn ysgwyd cledd o blaid y trawsfeddianwr, |
(1, 2) 282 |
A daw yn hyf i ysgwyd yma 'i dafod. |
|
|
(1, 2) 300 |
Felly, 'n eofn mae |
(1, 2) 301 |
Y bradwr hwn yn beiddio codi ei lais |
(1, 2) 302 |
Yn ngwydd ei well. |
|
|
(1, 2) 307 |
Tywysogion geifr! |
|
|
(1, 2) 333 |
Urddasol deyrn: |
(1, 2) 334 |
Deisyfaf genad i ofyn cwestiwn teg |
(1, 2) 335 |
I'm gwrthwynebydd. |
|
|
(1, 2) 337 |
Syr Owen do Glendore, A wnei di ddweyd |
(1, 2) 338 |
Pa un a'i Cymro, ynte Sais wyt ti? |
|
|
(1, 2) 343 |
D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais? |
|
|
(1, 2) 345 |
Ie, Sais o waed wyf fi. |
|
|
(1, 2) 347 |
Os felly, mae y prawf yn wir ar ben. |
(1, 2) 348 |
Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, wnewch chwi |
(1, 2) 349 |
Hysbysu'r llys, a ellir derbyn llw |
(1, 2) 350 |
Un Cymro i orbwyso llw un Sais, |
(1, 2) 351 |
'Nol ysbryd a llythyren deddf y wlad. |
|
|
(1, 2) 357 |
Mae de Glendore |
(1, 2) 358 |
Yn hawlio'n hyf mai Cymro ydyw ef: |
(1, 2) 359 |
'Rwyf |fi|'n ymfalchu yn yr enw Sais; |
(1, 2) 360 |
Mae ef yn hawlio'r Croesau ar ei lw; |
(1, 2) 361 |
'Rwyf finau'n hawlio'r Croesau ar fy llw, |
(1, 2) 362 |
Ac yn ol deddf y wlad, 'rwyf fi fel Sais |
(1, 2) 363 |
Yn gwrthwynebu hawl Glyndwr, i ro'i |
(1, 2) 364 |
Ei lw fel Cymro heddyw, ger eich bron. |
|
|
(1, 2) 387 |
Ond nid anghofiaf i! |
|
|
(1, 2) 392 |
Fy Arglwydd Frenin doeth, apelio 'rwyf |
(1, 2) 393 |
Am ddedryd i'w chyhoeddi o fy mhlaid. |