|
|
|
|
(1, 0) 9 |
Rhif lluosog─be wyt ti'n feddwl? |
|
|
(1, 0) 12 |
Dyna ti'n siarad yn blaen rwan; waeth gen i glywad dyn yn tyngu a rhegi na'i glywad o'n siarad fel llyfr mewn trowsus. |
|
|
(1, 0) 14 |
Dafydd, be di'r llif rhuosog (be gebyst ydi'r enw?) o'r gair clo? |
|
|
(1, 0) 16 |
Diain i, un ciwt wyt ti'r hen law! |
(1, 0) 17 |
Ond er hynny, sciam wael ydi peth fel yna i sgoi anhawstar. |
(1, 0) 18 |
Llo─lloiau, yntê? |
|
|
(1, 0) 20 |
Dyn o'i go─dynion o'u coiau | os felly, clo─cloiau: rho fo i lawr Morus, achos ma'r ironmonger na'n bry gramadegol ofnadwy. |
|
|
(1, 0) 24 |
Cofia di bostio fo yn y Post Offis ac nid yn nhŷ Mr. Evans y gweinidog. |
|
|
(1, 0) 26 |
Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog. |
|
|
(1, 0) 28 |
Felly ma pobol yn deyd, os oes rhyw goel arnyn nhw. |
(1, 0) 29 |
Gyda llaw, Dafydd, ma Mr. Evans y gweinidog yn mynd yn hen hwsmon efo chi yn Horeb acw bellach; sut mae o'n dal i dir, dywad? |
|
|
(1, 0) 31 |
Bydd, debig iawn; ond mi gamoli'th Mari ni bob pregethwr; chaiff neb ddeyd gair bach am yr un enaid byw bedyddiol ohonyn nhw os bydd hi wrth ymyl. |
(1, 0) 32 |
Mi fydda'n i phlagio hi amball dro drwy redag dipyn ar bregethwrs; ond welis di rioed mor fuan y bydd hi'n codi'r pastwn i gadw'i plaid nhw. |
|
|
(1, 0) 34 |
Rwan, Dafydd, deyda'r gwir rhwng dau frawd─be di'r farn gyffredin am Mari ni yn Horeb? |
(1, 0) 35 |
Ofynnis i rioed o'r blaen iti. |
(1, 0) 36 |
Tipyn o ddoctor a difein ydi hi, yntê, yng ngolwg rhai ohonoch chi? |
|
|
(1, 0) 38 |
Dyna ti i'r blewyn─"atab parod bob cynnig"; pe dasa ti wedi byw efo hi fel fi am yn agos i ddeugain mlynedd, fasa ti ddim yn tynnu gwell llun ohoni na hwnna─"atab parod"; yn ddistaw bach yn dy glust fel hen ffrind, rhy barod o lawar, wyddost, i mhlesio i, achos mi fydda i'n leicio clywad y cloc yn rhuo dipyn yn i gorn cyn taro; dda gen i mo'r clocia ma sy'n taro'n ddirybudd fel bwlat o wn. |
|
|
(1, 0) 41 |
Na, na, mi rydw i'n dy ddallt di'n burion─sôn yr oedda ti am i pharodrwydd hi ar bwnc o ddadl. |
(1, 0) 42 |
Fum i rioed mewn dosbarth efo hi yn yr Ysgol Sul; ond mi wranta mai'r fan yma ar yr aelwyd wrth bracteisio arna i y dysgodd hi sut i drin i harfau. |
|
|
(1, 0) 47 |
Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud. |
|
|
(1, 0) 49 |
Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan? |
|
|
(1, 0) 51 |
O'r gora; fasa dwad yn aelod o Horeb yn y ngneud i fymryn yn fwy geirwir a gonest nag ydw i ar hyn o bryd. |
(1, 0) 52 |
Gneud dynion da, decini, ydi amcan aelodaeth eglwysig? |
|
|
(1, 0) 54 |
Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda? |
|
|
(1, 0) 56 |
Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest? |
|
|
(1, 0) 58 |
O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o? |
|
|
(1, 0) 61 |
Ah, ie, y sêt fawr, sêt bwysig ydi honno, yntê? |
(1, 0) 62 |
Edrach ar y weathar glas ma. |
(1, 0) 63 |
Y sêt fawr, wyddost, ydi'r |very dry| ac weddar glas yr eglwys: ond fel rwyt ti'n nesu oddiwrth y sêt fawr at y seti wrth y drws rwyt ti'n dwad at |Fair| a |Change|; y tuallan i'r capel, wrth gwrs, rwyt ti yn y |Rain| a'r |Very Stormy|. |
(1, 0) 64 |
Mi rydw i, Gruffydd Huws y Berthlwyd, yn y |very stormy|, ac ma Huw'r Ffridd yn |very dry| y sêt fawr. |
|
|
(1, 0) 66 |
Gad lonydd i mi orffen. |
(1, 0) 67 |
Chydig bach yn ol, fe werthodd Huw'r Ffridd geffyl i mi, ac fe aeth ar i lw nad oedd dim anghaffael na chastia drwg yn perthyn iddo fo. |
(1, 0) 68 |
Mi cymrais o ar i air, am i fod o'n gymydog agos, ac yn un o bobol y sêt fawr; ond cyn sicred a dy fod yn eista yn y fan na, cyn pen yr wsnos mi ddalltis fod gan y ceffyl gast ne ddau mor gas fel nad oedd o'n dda i ddim ond i'w seuthu, a'i grogi hefyd ran hynny. |
|
|
(1, 0) 71 |
Nage, meistar yr hen geffyl─ |
(1, 0) 72 |
Huw gastiog efo'i sêt fawr a'i gybôl ffug-dduwiol: a dyna ydw i'n ddeyd, os petha fel Huw sy'n uchel i cloch yn y capel, dydy nhw ddim yn haeddu papur aelodaeth i ddwad i berthyn i'r byd heb son am yr eglwys, yn siwr i ti. |
|
|
(1, 0) 74 |
O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw. |
|
|
(1, 0) 80 |
Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i. |
|
|
(1, 0) 83 |
Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag. |
|
|
(1, 0) 90 |
Hannar munud, Mari: ma dy wir cyffredin di'n ddigon crafog, os doi di a dy wir plaen allan, mi mlingi fi i'r asgwrn. |
|
|
(1, 0) 92 |
Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr? |
|
|
(1, 0) 106 |
Hynny ydi, Dafydd, dy syniad di ydi fod Mr. Evans yn ormod o freuddwydiwr i drin busnes arian? |
(1, 0) 107 |
Mae fel pe baet ti'n meddwl am Williams, Pantycelyn, yn cyfri arian y tu ol i'r cowntar! |
(1, 0) 108 |
Grym annwyl, mae o'n syniad digri hefyd i feddwl am yr hen Evans yn canu mawl yr |Auxiliary Society| ac yn dosbarthu |prospectuses| ar hyd y wlad ma. |
(1, 0) 109 |
Diaist i, rwan y basa shar o ddawn busnes Huw'r Ffridd yn dod yn handi iddo fo. |
(1, 0) 110 |
Mi ddyla'r hen Huwcyn ddod a llyfr allan, mi ro i deitl iddo fo'n rhad ac am ddim. |
|
|
(1, 0) 113 |
Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari? |
|
|
(1, 0) 115 |
Dyna fo. |
(1, 0) 116 |
Wel, dyma deitl i lyfr Huw─"Pa fodd y ces i'r goreu ar y byd hwn," sef, arna i, Gruffydd Huws, wyddost. |
|
|
(1, 0) 119 |
Pam gebyst ynta rydach chi yn Horeb yn gadael iddo fo dyfu yn y gwely gora sydd yn y capal? |
(1, 0) 120 |
Rhyw bwnsh o ddalan poethion fel fo yn y sêt fawr! |
(1, 0) 121 |
Mi fasa'n harddach i chi i garthu o allan i'r |lobby| o lawer. |
|
|
(1, 0) 129 |
Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd. |
|
|
(1, 0) 136 |
Wyt ti dy hun, Mari, yn peidio bod yn |agent| ar y slei dywad? |
(1, 0) 137 |
Rwyt ti'n siarad run ffunud a |phrospectus| y gymdeithas. |
(1, 0) 138 |
Da i byth o'r fan ma, nid peth dwl fasa cael plat melyn ar y lidiart o flaen y tŷ: "|Mari Huws, Agent for the Auxiliary Society|." |
|
|
(1, 0) 143 |
I ba enwad, sgwn i, ma Francis yn perthyn, achos ma'n bwysig i ni wybod yng Nghymru prun ai Sentar ne Fethodis ne Fatist ydi o cyn ymddiried yn harian iddo fo. |
|
|
(1, 0) 145 |
Dyma'r dyn fedar sponio'r dirgelwch i ni; Mr. Evans, i ba enwad ma Francis, pen manijar yr |Auxiliary Society| yn perthyn? |
|
|
(1, 0) 148 |
Y nghyfarthiad i ydi'r gwaetha, ia, Mr. Evans? |
(1, 0) 149 |
Eitha gwir: roedd gen i gi defaid amsar yn ol a chena drwg oedd hwnnw─roedd o'n brathu heb gyfarth, a thacla melltigedig ydi rheini. |
(1, 0) 150 |
Mi ddyla pob ci respectabl gyfarth unwaith beth bynnag cyn brathu. |
(1, 0) 151 |
Ond be ydi'r si ma sy ar led, Mr. Evans, y'ch bod chi'n |agent| i'r |Auxiliary|? |
|
|
(1, 0) 157 |
Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|. |
|
|
(1, 0) 160 |
Dyma ti eto, Mari, yn taflu dy gribin i mewn o mlaen i. |
(1, 0) 161 |
Mr. Evans, gofyn y marn i roedd Dafydd rwan, ac i ddeyd y gwir yn onest, mi rydw inna'n ofni'ch gweld chi'n gafael yn y swydd ma. |
|
|
(1, 0) 167 |
Dau'n barod! |
(1, 0) 168 |
Go lew wir. |
(1, 0) 169 |
Oes drwg gofyn pwy ydy nhw? |
|
|
(1, 0) 171 |
Rhen Birs yn |shareholder|! |
(1, 0) 172 |
Pirs sydd wedi cadw'i arian yn i sana drwy'r blynyddoedd, rhag ofn i'r bancia dorri! |
(1, 0) 173 |
Da i byth o'r fan ma. |
|
|
(1, 0) 176 |
Ar f'engoch i, Huw ffals wedi mentro! |
(1, 0) 177 |
Wel, myn cebyst, dydi dydd y gwyrthia ddim ar ben. |
(1, 0) 178 |
Huwcyn wedi credu yn sicrwydd y |six per cents|; mi fasa'n mynd i'r nefoedd yn i grynswrth tasa gyno fo chwarter cymin o grêd yn i grefydd, y lluman cyfrwys. |
|
|
(1, 0) 180 |
Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced. |
|
|
(1, 0) 189 |
Wn i ddim yn iawn beth i ddeyd ar ol yr araith na─prun ai "Amen,'' ne "Clywch, clywch"; ond myn gafr, un dda oedd hi. |
|
|
(1, 0) 194 |
Neno'r tad, dowch i mewn, Miss Evans, fytwn i mono chi, er ych bod chi'n ddigon da i'ch byta unrhyw ddiwrnod o'r wsnos. |
|
|
(1, 0) 209 |
Miss Evans, os gwelwch chi Morus ni ar y ffordd yn rhywle, gofynnwch iddo fo be ydi'r rhif lluosog o'r gair bygêjmant─bygêjmynt, ne bygêjmantiau. |
|
|
(1, 0) 215 |
Ma'r gloch bach yn canu yn y nghlust inna fel Dafydd, gresyn fod Mr. Evans yn codlo efo'r Gymdeithas ma. |