| (1, 0) 37 | Bendigedig, Harbona! |
| (1, 0) 38 | Campus! |
| (1, 0) 39 | Campus! |
| (1, 0) 40 | Tyrd yma i gael cwpanaid o win. |
| (1, 0) 41 | 'Rwyt ti'n ei haeddu o. |
| (1, 0) 45 | Gwaith sych? |
| (1, 0) 46 | Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i. |
| (1, 0) 52 | Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i. |
| (1, 0) 55 | Beth yw ystyr hynny? |
| (1, 0) 59 | 'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i. |
| (1, 0) 60 | Iddew piau'r geiriau. |
| (1, 0) 62 | Ïe, Iddew. |
| (1, 0) 63 | Teigr gwaedlyd o'r enw Samuel. |
| (1, 0) 64 | Un o'u proffwydi nhw. |
| (1, 0) 66 | Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi. |
| (1, 0) 67 | Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron. |
| (1, 0) 69 | Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas. |
| (1, 0) 70 | Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc. |
| (1, 0) 72 | Fe gaiff pob Iddew byw dalu! |
| (1, 0) 74 | Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag. |
| (1, 0) 77 | Na, doeddwn i ddim yno. |
| (1, 0) 78 | Ar |ryw| ystyr. |
| (1, 0) 80 | Pum canrif yn ôl. |
| (1, 0) 82 | Pum canrif yn ôl. |
| (1, 0) 88 | 'Roedd Agag yn bod. |
| (1, 0) 89 | 'Roedd Samuel yn bod. |
| (1, 0) 90 | Mae'r Iddew'n bod heddiw. |
| (1, 0) 91 | 'Rwyf innau'n bod. |
| (1, 0) 93 | Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau. |
| (1, 0) 94 | Ydyn', mae'r Iddewon yn cofio. |
| (1, 0) 95 | Pan glywan' nhw f'enw i, Haman yr Agagiad, yn y proclamasiwn, fe gofian'. |
| (1, 0) 96 | Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog. |
| (1, 0) 98 | Mae'r Iddewon yn fyw. |
| (1, 0) 99 | 'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw? |
| (1, 0) 102 | Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma. |
| (1, 0) 103 | 'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal. |
| (1, 0) 107 | Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i. |
| (1, 0) 113 | Dyna fo, Harbona, ar y gair. |
| (1, 0) 114 | 'Wyt ti'n ei weld o?... |
| (1, 0) 115 | Hwnna!... |
| (1, 0) 116 | Hwnna! |
| (1, 0) 119 | 'Wyt ti'n ei nabod o? |
| (1, 0) 122 | 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno? |
| (1, 0) 124 | Dau was ystafell hanner pan. |
| (1, 0) 127 | Dan artaith y cyffesodd y ddau. |
| (1, 0) 129 | 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu. |
| (1, 0) 131 | Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw. |
| (1, 0) 134 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 135 | 'Roedd yr achos yn glir. |
| (1, 0) 137 | Ie, wedyn, yn swyddogol. |
| (1, 0) 138 | Ond fe drefnwyd hynny ers talwm. |
| (1, 0) 140 | Mordecai'n brif weinidog? |
| (1, 0) 141 | Y mochyn yna ar y grisiau? |
| (1, 0) 143 | 'Rwyf i o waed brenhinoedd. |
| (1, 0) 145 | Iddew ym mhorth y Palas. |
| (1, 0) 146 | Mae'r peth yn warth. |
| (1, 0) 148 | 'Doedd dim cyfrinach. |
| (1, 0) 149 | 'Does arna'i ddim o'i ofn o. |
| (1, 0) 151 | 'Anghofiais i mono fo. |
| (1, 0) 152 | Rydyn ni'n cofio'n gilydd, Mordecai a minnau. |
| (1, 0) 153 | Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd. |
| (1, 0) 157 | Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr. |
| (1, 0) 158 | Fy nghosb i ar Mordecai. |
| (1, 0) 159 | Fe gaiff grogi gydag Israel gyfan. |
| (1, 0) 160 | Fo a'i deulu, os oes ganddo fo deulu, a holl genedl yr Iddewon, fe gân' dalu imi bris ei ddirmyg. |
| (1, 0) 165 | 'Glywaist ti am ddewines Endor? |
| (1, 0) 168 | Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul. |
| (1, 0) 169 | Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses. |
| (1, 0) 171 | Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol! |
| (1, 0) 173 | 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona? |
| (1, 0) 175 | Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau. |
| (1, 0) 178 | Pam? |
| (1, 0) 181 | Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti. |
| (1, 0) 183 | 'Ystyriais i ddim. |
| (1, 0) 184 | Ar ôl gyrru Fasti o'r palas fe gasglwyd y llancesi glana o bob rhan o'r ymerodraeth i'r Brenin i gael dewis ei gariad. |
| (1, 0) 185 | A'r llances yma enillodd. |
| (1, 0) 187 | Beth wn i? |
| (1, 0) 188 | Mae ganddo gariadon eraill. |
| (1, 0) 189 | 'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis. |
| (1, 0) 192 | Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall. |
| (1, 0) 193 | 'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith. |
| (1, 0) 196 | 'Welaist ti Fasti? |
| (1, 0) 198 | Dyna dy farn di? |
| (1, 0) 199 | Edrychais i 'rioed arni lawer. |
| (1, 0) 202 | 'Rwyt ti'n edrych yn uchel? |
| (1, 0) 206 | Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti? |
| (1, 0) 208 | I mi pethau i'w defnyddio yw merched. |
| (1, 0) 209 | 'Fedrwn ni ddim cael meibion hebddyn' nhw. |
| (1, 0) 210 | Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus. |
| (1, 0) 212 | Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin. |
| (1, 0) 213 | Mae hynny'n bleser, pleser dwfn. |
| (1, 0) 214 | Mi ddois i Bersia yn estron, yn filwr heb neb yn fy 'nabod i. |
| (1, 0) 215 | Heddiw, fi yw prif weinidog yr ymerodraeth. |
| (1, 0) 216 | Mi fydd fy meibion i ar fy ôl i'n dywysogion. |
| (1, 0) 217 | Cenedl Agag. |
| (1, 0) 218 | 'Rydw i wedi herio tynged. |
| (1, 0) 219 | Mae pob grym yn bleser. |
| (1, 0) 222 | Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen. |
| (1, 0) 224 | Cenfigennu wrth Ahasferus? |
| (1, 0) 227 | Dim oll. |
| (1, 0) 228 | Dim iot. |
| (1, 0) 229 | 'Dydw' i'n hitio fawr ddim am rwysg ynddo'i hun. |
| (1, 0) 230 | Ac am awdurdod Ahasferus, fi piau'i awdurdod o. |
| (1, 0) 231 | Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn. |
| (1, 0) 233 | 'Does fawr o berig'. |
| (1, 0) 234 | Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall. |
| (1, 0) 236 | Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld. |
| (1, 0) 238 | Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin. |
| (1, 0) 240 | Be wyt ti'n ei awgrymu? |
| (1, 0) 243 | Cenfigen yw clep y palas. |
| (1, 0) 245 | 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall. |
| (1, 0) 247 | Wrth y Duwiau, Harbona. |
| (1, 0) 248 | Wrth y Duw sy'n rheoli angau. |
| (1, 0) 251 | Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw. |
| (1, 0) 252 | Angau ydy allwedd y gyfrinach. |
| (1, 0) 253 | Medru defnyddio angau, gorchymyn angau, gwneud angau'n ufudd, yn offeryn yn y llaw, dyna wynfyd y gwleidydd. |
| (1, 0) 254 | 'Rydw i heddiw yn Dduw i holl genedl yr Iddewon. |
| (1, 0) 255 | Rydw i'n cyhoeddi drwy'r Proclamasiwn hwn farwolaeth y genedl gyfan, ac fe ddaw hynny'n drefnus i ben. |
| (1, 0) 256 | Dyna sy'n meddwi dyn mewn gwleidyddiaeth. |
| (1, 0) 257 | Mi fedra' i ddychmygu y daw dydd rywbryd y gall rhyw un dyn, prif weinidog neu gadfridog, gymryd pelen o dân yn ei ddwylo ac yna, o'i thaflu hi, ddifa'r ddynoliaeth i gyd, rhoi'r byd ar dân. |
| (1, 0) 258 | Pan ddaw hynny, Harbona, dyna ddiwedd y byd. |
| (1, 0) 259 | Oblegid 'fedrai neb dyn wrthod y demtasiwn. |
| (1, 0) 260 | 'Fedrai neb, a thynged pawb byw yn ei law ac yn ei ewyllys, wrthod y profiad, y profiad o fod yn Dduw. |
| (1, 0) 261 | Dyna bêr-lesmair gwleidyddiaeth. |
| (1, 0) 262 | 'Rydw i heddiw yn Dduw i Mordecai, i holl genedl Mordecai, i Moses a Samuel a'u hil. |
| (1, 0) 263 | Mae'r gorchymyn wedi mynd allan i gyrrau eithaf yr Ymerodraeth. |
| (1, 0) 264 | Mae gobaith Abraham wedi diffodd. |
| (1, 0) 265 | Mae'r cyfamod tragwyddol wedi ei ddileu. |
| (1, 0) 266 | Mae'r Iddewon yn mynd gyda'i gilydd i wersyll-garchar y nos dragwyddol, y nos a benodais i iddyn nhw. |
| (1, 0) 267 | Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth. |
| (1, 0) 271 | 'Dydw i ddim wedi drysu. |
| (1, 0) 272 | Mi dd'wedais mai |cenfigennu| wrth Dduw yr oeddwn i. |
| (1, 0) 273 | Nid fy mod i wedi cyrraedd. |
| (1, 0) 275 | Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o. |
| (1, 0) 277 | Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis. |
| (1, 0) 279 | Mi wrandawaf yn astud a phwyso. |
| (1, 0) 281 | Hyd y galla' i farnu, dim oll. |
| (1, 0) 283 | Cyn crogi'r Iddewon? |
| (1, 0) 289 | Crogi Mordecai? |
| (1, 0) 291 | Sut mae perswadio'r Brenin? |
| (1, 0) 292 | Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol. |
| (1, 0) 294 | Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd. |
| (1, 0) 296 | Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd. |
| (1, 0) 298 | A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn.... |
| (1, 0) 299 | Dyro dy law imi, fachgen, mi ofala' i am dy yrfa di. |
| (1, 0) 300 | Mi af am y seiri rhag blaen. |