| (1, 0) 50 | Shwt mae heddi? |
| (1, 0) 51 | Rarswyd mawr, chi yn edrych fel 'sech chi newydd ddod adre o angladd. |
| (1, 0) 54 | Beth sydd, bachan? |
| (1, 0) 58 | O, ma'n ddrwg gen i glywed, Martha. |
| (1, 0) 59 | Odi hi yn serious? |
| (1, 0) 63 | Wel, dim ond un llythyr i chi heddi. |
| (1, 0) 64 | Ysgrifen Mari weden i, Martha. |
| (1, 0) 66 | O, ma hi bant lawr y dre 'na heddi. |
| (1, 0) 69 | O, achos o 'hit and run'. |
| (1, 0) 70 | Rhyw idiot wedi mynd mas o gontrol ar dop Rhiw Fach. |
| (1, 0) 71 | Buodd e bron lladd Huws Siop a bwrw polyn ffôn a wedi dianc. |
| (1, 0) 72 | Rial dou idiot o'n nhw yn gweud. |
| (1, 0) 73 | Ma Huws y Siop mewn stâd ofnadŵ, yn crynu fel jeli. |
| (1, 0) 76 | Wel, 'na'r unig beth wedodd Dai Nymbar 2 wrtha i odd bod car glas Escort gyda nhw ac odd e yn meddwl mai menyw odd yn dreifo. |
| (1, 0) 79 | O na, odd e ddim yn siŵr ond greda i mai menyw odd yn dreifo. |
| (1, 0) 80 | Fi yn gweud eriôd dyw menywod ddim fod i ddreifo. |
| (1, 0) 81 | Dos gyda nhw ddim o'r beth ma'r sais yn i alw yn 'mental stability' fel ni y dynion. |
| (1, 0) 84 | Wrth gwrs bo' fi. |
| (1, 0) 85 | Gwed ti, pan welith menyw lygoden ma hi yn panico a sgrechen a jwmpo i ben stôl, ond fydden i yn mynd ar 'i hôl hi a rhoi cwpwl o gics iddi. |
| (1, 0) 86 | 'Na beth yw 'mental stability'. |
| (1, 0) 90 | O, paid becso. |
| (1, 0) 91 | Jyst y peth ma student yn moyn. |
| (1, 0) 92 | O'n i yn darllen yn rhywle pwy ddiwrnod bod students heddi yn byw ar ffish an' chips a chwrw, ac rwyn credu mai dyna beth sydd yn hela lot o nhw yn |extremists|. |
| (1, 0) 93 | Ma'n nhw wedi profi ers blynydde cyn gallu di fod yn |balanced lan top| ma rhaid i ti fyta |balanced diet| lawr fan hyn 'twel. |
| (1, 0) 96 | Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd. |
| (1, 0) 108 | Gwneud ymholiadau 'ife? |
| (1, 0) 111 | Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi. |
| (1, 0) 113 | Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd. |
| (1, 0) 116 | Peidwch gweud mai un chi ych hunan yw e. |
| (1, 0) 117 | Ha ha. |
| (1, 0) 118 | Dim ond jôc fach, PC. |
| (1, 0) 122 | Jiw, Jiw. |
| (1, 0) 123 | Chi yn eitha reit. |
| (1, 0) 124 | Ych car chi yw e. |
| (1, 0) 125 | Pam na 'sech chi wedi gweud wrtho i. |
| (1, 0) 126 | Ond ma'n rhaid i chi gofio un peth. |
| (1, 0) 127 | Mae cnither i Martha 'ma wedi cael 'heart attack' yn Llunden, bore 'ma, a ma'n nhw wedi cael sioc ofnadŵ. |
| (1, 0) 137 | Ie, ne allech chi fod wedi lando yn cawl rhywun. |
| (1, 0) 138 | Ha ha ha. |
| (1, 0) 140 | Ie, reit te. |
| (1, 0) 141 | Jiw erbyn meddwl falle gymrech chi, PC, ych llythyron nawr i arbed i fi fynd heibio, chi'n gwbod. |
| (1, 0) 145 | O, fel'na ych chi yn edrych ar bethe, ife? |
| (1, 0) 146 | Chi'n gweld, PC, 'yn ni wedi arfer helpu 'yn gilydd ffordd hyn. |
| (1, 0) 147 | Cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gan dy Nain i tithe. |
| (1, 0) 148 | Fel'na 'yn ni yn gweithio ffordd hyn erioed. |
| (1, 0) 152 | Mae hi wedi marw llynedd, PC. |
| (1, 0) 153 | Ha ha ha. |
| (1, 0) 154 | Eitha da, e, beth ych chi'n 'weud? |
| (1, 0) 157 | O cer, yr hen asyn gwyntog. |
| (1, 0) 160 | Y... y... o... m... gweud wrth John bod hi yn wyntog neithiwr. |
| (1, 0) 161 | Odd gwyntog iawn. |
| (1, 0) 163 | Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl. |
| (1, 0) 165 | Mrs. Wilkins 'na sydd yn byw yn Terrace Road. |
| (1, 0) 166 | Ma gwr honna yn |night watchman| yn y ffatri 'na yng ngwaelod y dre tair nosweth bob wythnos, a ma fe PC yn cwato'i fan yn yr hen gwar 'na ac yn mynd at 'i wraig e. |
| (1, 0) 167 | Rwy wedi'i weld e a'm llyged 'yn hunan. |
| (1, 0) 168 | Ma fe yn mynd lan ysgol a mewn i'r box room. |
| (1, 0) 169 | |Fancy woman|, chi'n gweld. |
| (1, 0) 170 | Nawr ma'i wraig e yn nervous wreck ─ cael pwle o sterics a ma fe yn cael amser caled 'da hi, a'r peth diwetha fydde fe moyn yw bod hi yn dod i wybod hyna. |
| (1, 0) 171 | Nawr, Jack, rho di Mrs. Wilkins ar 'i blat, a chlywi di ddim rhagor am y trwbwl yma heddi. |
| (1, 0) 174 | Dim blacmel yw e, bachan. |
| (1, 0) 175 | Ffeithie. |
| (1, 0) 176 | Ffeithie. |
| (1, 0) 177 | Rhoi ffeithie ar 'i blât e a chi ych dau mewn trwbwl lan i fanna nawr. |
| (1, 0) 178 | Run man i chi fynd yr holl ffordd, rhagor. |
| (1, 0) 179 | Gwna di fel fi'n gweud a fyddi di yn ddyn rhydd mewn deng munud. |
| (1, 0) 180 | Rwy'n mynd nawr. |
| (1, 0) 181 | Alwa i nôl nes ymlaen. |
| (1, 0) 535 | Odi'r coast yn glir. |
| (1, 0) 536 | Ti yn edrych yn wath nawr nag o't ti bore 'ma. |
| (1, 0) 537 | Wel, ollyngodd e'i charges gwed? |
| (1, 0) 542 | Na fe, wedes i wrthot ti. |
| (1, 0) 543 | Todde fe fel jelly. |
| (1, 0) 544 | Dim ond i ti roi Mrs. Wilkins ar 'i blat e. |
| (1, 0) 545 | Wel, wyt ti'n ddyn rhydd nawr te. |
| (1, 0) 547 | Wel, a gweud y gwir wrthot ti, o'n i ddim wedi'i weld e 'yn hunan. |
| (1, 0) 550 | Wel, Dai No. 2 wedodd wrtho i, ond odd e ddim wedi'i weld e'i hunan. |
| (1, 0) 551 | Wil Mecanic odd wedi gweud wrtho fe, a gwraig hwnnw odd wedi digwydd 'i weld e wrth ddod adre o'r W.I. |
| (1, 0) 556 | Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn. |
| (1, 0) 559 | Bachan, paid becso rhagor. |
| (1, 0) 560 | Mae e wedi dangos 'i bod hi yn gweud y gwir. |
| (1, 0) 561 | Fuest ti yn lwcus ohona i heddi. |
| (1, 0) 563 | Wel, Martha, ti siŵr o fod yn teimlo'n well nawr na gynne, fach. |
| (1, 0) 564 | Lwcus i fi roi yr hint fach 'na i chi. |
| (1, 0) 574 | Ho, ho... o... jiw, jiw... |
| (1, 0) 575 | Hei, Martha, bydd hi off 'ma os ddaw y diwrnod mowr a bod nhw yn priodi. |
| (1, 0) 576 | Bydd werth gweld John a PC Thomas yn yfed shampers gyda'i gilydd, e? |
| (1, 0) 593 | Mae e wedi cael shwgfa, siŵr o fod. |
| (1, 0) 594 | Datod 'i grys e, Martha. |
| (1, 0) 595 | Bachan, ddylet ti ddim fod wedi gweud mor ddisymwyth. |
| (1, 0) 596 | Af i moyn dŵr nawr. |
| (1, 0) 597 | Treia 'i gal e rownd. |
| (1, 0) 605 | Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr. |
| (1, 0) 623 | Pwy fynd ar moped, bachan. |
| (1, 0) 624 | Na, ma'r fan bost gyda fi, af i lawr â chi, Martha fach. |
| (1, 0) 625 | Gwisgwch got gloi. |
| (1, 0) 628 | Reit te, barod, Martha. |
| (1, 0) 631 | Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud. |