|
|
|
|
(1, 0) 52 |
Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory? |
|
|
(1, 0) 91 |
Sut hynny? |
|
|
(1, 0) 95 |
Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus. |
|
|
(1, 0) 101 |
Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê? |
|
|
(1, 0) 103 |
Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti. |
|
|
(1, 0) 106 |
Run peth yn hollol ydi'r ddau. |
(1, 0) 107 |
Ac mae gen i damaid bach i titha i'w gnoi, Jared. |
(1, 0) 108 |
Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i Ŵr y Plas, yn dwyt ti? |
|
|
(1, 0) 110 |
Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio. |
|
|
(1, 0) 112 |
Ddwedais i mo hynny, Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch. |
(1, 0) 113 |
Y ffaith ydi hyn, os chwiliwch i mewn yn fanwl i betha, mae pawb, fwy neu lai, yn gorfod bod yn anghyson. |
(1, 0) 114 |
Cymer dy hunan fel enghraifft, Dafydd; rwyt ti'n cario bwndeli o bapurau Toriaidd i Ŵr y Plas sy'n lledaenu Toriaeth er dy fod dithau'n galw dy hun yn Rhyddfrydwr mawr, a chi'ch tri sy'n fy nghael i'n brin o gysondeb. |
(1, 0) 115 |
Sgubwch yn lân o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i. |
|
|
(1, 0) 119 |
Ydw. |
|
|
(1, 0) 121 |
Dos ymlaen â'th ymresymiad. |
|
|
(1, 0) 125 |
Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr. |
(1, 0) 126 |
Blackwell? |
|
|
(1, 0) 128 |
Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bâr o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod? |
|
|
(1, 0) 130 |
A! cwiblo rwyt ti rwan. |
|
|
(1, 0) 132 |
Ia, achos rwyn siwr na fasa'r Apostol Paul ddím yn gneud |tent|─gneud tentia oedd i grefft o─fasa fo byth yn gneud |tent| i anffyddiwr ac i gablwr. |
|
|
(1, 0) 138 |
Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog? |
|
|
(1, 0) 140 |
Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni. |
|
|
(1, 0) 161 |
Ond fasa Paul yn gneud |tent| i un o elynion y Brenin Mawr? |
|
|
(1, 0) 177 |
Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris. |
|
|
(1, 0) 180 |
Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am |goods|. |
|
|
(1, 0) 189 |
Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg─cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglas. |
(1, 0) 190 |
Richard Davis ydi enw'r dyn, ond fel Dic Betsi y bydd pawb yn i nabod o. |
(1, 0) 191 |
Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag. |
|
|
(1, 0) 197 |
Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon, druan, wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad─rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys─mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn. |
(1, 0) 198 |
Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gornchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol. |
|
|
(3, 0) 769 |
Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi. |
|
|
(3, 0) 785 |
Rho nhw'n ol ar y bwrdd, Dafydd, mae sŵn troed rhywun yn dod. |
(3, 0) 786 |
Rwan am fod yn ddoeth; peidiwn a rhuthro fel teirw gwyllt. |
|
|
(3, 0) 789 |
Beth yw'r rheswm i fod o yma hefo chi? |
|
|
(3, 0) 800 |
Yn wir, Mr. Harris, rhaid i chi roi pardwn i ni am fod mor ysgafn a'r dyn yna'n marw am y pared â ni, ond does neb yn yr ardal yn malio run botwm corn am dano; chyll neb run deigryn ar ei ol. |
|
|
(3, 0) 802 |
Cyfeirio'r ydach chi wrth gwrs at ei ferch o. |
|
|
(3, 0) 819 |
Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw, |
|
|
(3, 0) 822 |
Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis? |
|
|
(3, 0) 824 |
Beth bynnag fydd y canlyniadau? |
|
|
(3, 0) 826 |
Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi Eglwys Seilo am neud hynny? |
|
|
(3, 0) 828 |
Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl? |
|
|
(3, 0) 830 |
Felly'n wir, dyna newydd i mi. |
(3, 0) 831 |
Byddwch gystal ag esbonio'r gwahaniaeth i ni. |
|
|
(3, 0) 833 |
Eglurwch eich hun i bawb ohonom gael deall eich safle. |
|
|
(3, 0) 836 |
Rhagfarn? |
|
|
(3, 0) 840 |
Nac oes, dim un blotyn i mi wybod, ond nid cwestiwn o gymeriad yr eneth sydd mewn dadl. |
(3, 0) 841 |
Rŷm yn credu digon ynoch i wybod na fuasech byth yn priodi merch ddi-gymeriad. |
(3, 0) 842 |
Y pwnc ydi hwn, nid a ydi Nel Davis yn bur ei chymeriad, ond ydi hi'n ddigon cymwys i fod yn wraig i weinidog Seilo. |
(3, 0) 843 |
Wyr hi ddim am gapel nac eglwys, mae'i phen hi'n llawn o ryw syniadau gwyllt ac ofergoelus, a hon yw'r eneth sydd i fod yn wraig i'n gweinidog. |
|
|
(3, 0) 845 |
Nid mor fuan, achos mae aelwyd Dic Betsi wedi nwydo a lefeinio gormod arni. |
|
|
(3, 0) 848 |
Wel, ofer yw i ni siarad dim yn rhagor. |
(3, 0) 849 |
Dyma ni fel swyddogion Seilo wedi gneud ein dyletswydd, ac fe wyddom rwan ymhle mae'r naill a'r llall ohonom yn sefyll pan ddaw'r pwnc i fyny, os byth y daw, ger bron yr eglwys. |
(3, 0) 850 |
Dyma ni'n mynd, Mr. Harris. |
(3, 0) 851 |
Nos dawch. |
|
|
(4, 0) 995 |
Sut mae Jared rwan, Doctor? |
|
|
(4, 0) 1003 |
Mi rydw inna'n cael y drafferth fwya'n y byd i beidio crio fel babi. |
(4, 0) 1004 |
Mi fydd hanner y pentre ma wedi mynd os aiff Jared. |
|
|
(4, 0) 1006 |
Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo. |
|
|
(4, 0) 1009 |
Mwy na go lew—ardderchog! |
|
|
(4, 0) 1015 |
Nac aiff, gobeithio'r annwyl. |
|
|
(4, 0) 1017 |
Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis? |
|
|
(4, 0) 1019 |
Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno. |
|
|
(4, 0) 1025 |
Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell. |
|
|
(4, 0) 1027 |
Oedd, nenor tad. |
(4, 0) 1028 |
Ymhle yn Llunden mae hi, Doctor? |
(4, 0) 1029 |
Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion. |
|
|
(4, 0) 1036 |
Cellwar â ni rydach chi, fel arfar? |
|
|
(4, 0) 1041 |
Wel, a deyd y gwir, mi fydda inna'n swil hefyd i gyfarfod â hi. |
(4, 0) 1042 |
Ond diolch i'r trugaredd, mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o, |
|
|
(4, 0) 1044 |
Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol. |
|
|
(4, 0) 1052 |
Na, ti ydi'r hyna, Ifan. |
|
|
(4, 0) 1154 |
Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan? |
|
|
(4, 0) 1157 |
le'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael. |
|
|
(4, 0) 1173 |
O, Nyrs Davis, newch chi ddim cau'r drws yn yr un dull dymunol efo Ifan a finna? |
|
|
(4, 0) 1175 |
A dyma un arall y gwn i'n sicr fasa'n leicio yn i galon i chi gau'r drws ar y gorffennol run ffordd ag y gwnaethoch chi â Miss Marged Harris rwan. |
(4, 0) 1176 |
Dyma Nyrs Davis sydd wedi dod o Lundain i dendio ar yr hen Jared. |
(4, 0) 1177 |
Mi sgydwch law â fo, yn newch chi? |
|
|
(4, 0) 1186 |
Un peth sy'n torri ar lawenydd y cymodi ma, a hwnnw ydi na fasa Jared yma. |
|
|
(4, 0) 1194 |
Tyrd i'r tŷ i dy wely, Jared bach, mi awn a thi rwan. |
|
|
(4, 0) 1225 |
Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw. |
(4, 0) 1226 |
Wyddech chi am y tric, Mr. Harris? |