Cuesheet

Yr Anfarwol Ifan Harris

Lines spoken by Ifan (Total: 269)

 
(1, 0) 56 Hylo, hylo, hylo!
(1, 0) 57 Be' sy'n mynd mlaen yma?
(1, 0) 58 Beth yw'r wynionyn yna sy genti yn dy got?
(1, 0) 59 Wyt ti'n mynd i ferwi cawl?
 
(1, 0) 69 Pam?
(1, 0) 70 Wnes i ddim ond gofyn iddo a oedd e'n mynd i ferwi cawl.
(1, 0) 71 Dere mlaen, dere mlaen.
(1, 0) 72 Gad cael clywed yr adroddiad:
(1, 0) 73 ~
(1, 0) 74 "Os wyt Gymro hoff o'th iaith
(1, 0) 75 A hoff o gawl a sucan,
(1, 0) 76 Stwff genhinen yn dy gap,
(1, 0) 77 A stwff hi yn y sospan".
(1, 0) 78 Come on, boy!
 
(1, 0) 88 Bachgen!
(1, 0) 89 Dere mlaen!
(1, 0) 90 Fe alli di gymryd joc ond alli di?
(1, 0) 91 Adrodd y pennill eto.
 
(1, 0) 98 Wel, wnes i ddim ond gofyn beth oedd pwrpas y geninen yna yn i gap e.
(1, 0) 99 Beth mae e'n wneud, te?
 
(1, 0) 105 Wel?
(1, 0) 106 Idea dda!
(1, 0) 107 Gaiff Bertie anrhydeddu Nhad i, a mi gaf innau anrhydeddu tad Bertie.
 
(1, 0) 109 Be chi'n weyd, Napoleon?
(1, 0) 110 Hoffech chi gael cof-golofn i'ch coffadwriaeth?
 
(1, 0) 116 Ha! Ha! He!
(1, 0) 117 Go lew, Napoleon!
(1, 0) 118 Go lew, Nap!
(1, 0) 119 The outraged step-father, myn diawl i.
(1, 0) 120 Dewch ymlaen, Paterfamilias.
(1, 0) 121 Dewch lawr i'r pentre.
 
(1, 0) 123 Does dim lle i chi a fi fan yma.
 
(1, 0) 140 Wel.
(1, 0) 141 'Doeodd gen i ddim bwriad i stopio'r band, dyna fi'n dweud y gwir.
 
(1, 0) 144 Bertie.
(1, 0) 145 Dere boi bach!
(1, 0) 146 Mae mwy o stwffin ynot ti na hyn.
(1, 0) 147 Wna i ddim sport ar dy ben di.
(1, 0) 148 Dere mlaen!
 
(1, 0) 160 Wel!
(1, 0) 161 Meddwl helpu own i nawr yn onest.
 
(1, 0) 167 Cynghorion tadol, Nap?
(1, 0) 168 Mae heisiau nhw'n dost.
 
(1, 0) 171 Dechreuad da.
 
(1, 0) 179 "That dear old mother of mine".
(1, 0) 180 'Dyw hi'n ffito dim mewn í'r pictiwr, Napoleon.
(1, 0) 181 Mi ddylai fod wedi gwisgo hen shol fagu a bonet, a spectol, nid low neck a short skirts.
(1, 0) 182 Mi adawes i gartre pan own i'n un-ar-bymtheg oed, ac o ran Mam fuodd fawr o awydd arna i ddwad nol byth wedyn.
 
(1, 0) 187 Ry'm ni'n i tharo hi'n go lew, mae'n rhaid dweud.
 
(1, 0) 192 Ddysgodd i fi yfed y gwydraid cyntaf pan oedd Mam yn llywydd Urdd Dirwestol Cymru.
(1, 0) 193 Da ware, Napoleon l
 
(1, 0) 200 Rwy wedi blino ar bethau, Nap.
(1, 0) 201 Y gwisgo cennin yma, a'r bust yma {yn pwyntio at y mur tu ol iddo} i goffadwriaeth y Nhad, a'r ffys a'r bodder.
(1, 0) 202 Pryd mae'r seremoni yma i ddigwydd, a be ma nhw'n mynd I wneud?
 
(1, 0) 204 Rwy'n gwybod hynny.
(1, 0) 205 Rwy wedi clywed hynny nawr rhyw gant o weithiau...
 
(1, 0) 207 Pam na allan' nhw adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd?
 
(1, 0) 214 Dwedwch yna eto!
(1, 0) 215 Dwedwch e eto!
(1, 0) 216 Mae e'n ddywediad mor arswydus o wreiddiol!
 
(1, 0) 218 Ofynnes i ddim a oedd 'y nhad yn ddyn mawr.
(1, 0) 219 Rwy'n meddwl mod i wedi cael digon o gyfle i wybod hynny.
(1, 0) 220 'Dwy ddim wedi clywed dim arall oddiar i'r syniad wawrio ar Mam.
(1, 0) 221 Bob man af i...
(1, 0) 222 "O, dyma fab Ifan Harris, aie...
(1, 0) 223 Yr anfarwol Ifan Harris.
(1, 0) 224 Felly wir!
(1, 0) 225 Ydych chwi'n mynd i fod yn ddyn mor fawr a'ch tad, machgen i?"
(1, 0) 226 Fel pe na bai enaid na phersonoliaeth gennyf i fy hun, a fel pe gallwn i lusgo oes allan yn marchogaeth ar gysgod 'y nhad,
 
(1, 0) 228 Wythnos ddwetha mi gwrdded ag un o'r |slugs| hyn.
(1, 0) 229 Yn union wedi iddo gael ei introdìwsio dyma fe'n dechreu, "Ydych chi, machgen i, yn ddyn mor fawr a'ch tad?"
(1, 0) 230 A mi atebais innau, "Dim o'r hanner, neu mi fuaswn wedi'ch llindagu chi cyn hyn", a mi gerddais i ffwrdd...
 
(1, 0) 232 Roedd Mam yn gweld chwith wrth gwrs.
 
(1, 0) 236 Dych chi ddim yn gweld ein bod ni i gyd yn byw mewn museum?
 
(1, 0) 238 le, museum. Dy' ni ddim ond ceidwaid mewn museum, a'r relics oddeutu ì ni er mwyn yr ymwelwyr.
(1, 0) 239 Edrychwch ar y gadair yna oddìtanoch chi.
(1, 0) 240 Paham mae'n cael ei chadw mor barchus?
(1, 0) 241 Er mwyn i chi gael bod yn gyfforddus?
(1, 0) 242 Dim perigl!
(1, 0) 243 Am mai cadair Ifan Harris yw hi!
(1, 0) 244 A'r sofa yne!
(1, 0) 245 Ydi hi wedi cael ei rhoi fanna er ych mwyn chi?
(1, 0) 246 Dim.
(1, 0) 247 Y sofa lle gorweddai'r anfarwol Ifan Harris yw hi!
 
(1, 0) 250 Ond nid chi pia' nhw.
(1, 0) 251 Mae cysgod y marw ar bopeth yn y ty yma.
(1, 0) 252 Hyd yn oed y gwely 'rych chi'n cysgu ynddo.
(1, 0) 253 Dyna lle gorweddodd 'y Nhad...
 
(1, 0) 256 Ond does dim eisiau mynd at y dodrefn.
(1, 0) 257 Beth y'm ni'n dau ond relics?
(1, 0) 258 Pwy wyf i?
(1, 0) 259 Mab i Ifan Harris!
(1, 0) 260 'Does gen i ddim enw fy hun.
(1, 0) 261 Enw nhad sy arna i.
(1, 0) 262 'Dwy i ddim yn bod fy hun...
 
(1, 0) 265 Wel, 'dych |chi| ddim beth bynnag.
 
(1, 0) 267 Ydych chi'n cael eich adnabod fel "Mr Jones, Allt-wen"?
(1, 0) 268 Dim perigl.
(1, 0) 269 "Ail wr gwraig Ifan Harris"!
(1, 0) 270 Dyna pwy ych chi!
 
(1, 0) 274 Pwy gas?
(1, 0) 275 'Dwy ddim casach i chi nag wyf i i mi fy hun.
(1, 0) 276 'Rym ni'n dau yn byw bywydau ail-law.
 
(1, 0) 282 Yr un cyflwr yn hollol!
(1, 0) 283 Bore echdoe rown i'n clywed fod rhywun wedi dweud am dana i, "Mae e'n lwcus dychrynllyd i fod e'n fab i dad".
(1, 0) 284 Mi fyse'n well getyn gen i fod yn fab i Nhadcu... yr hen wr bach oedd yn gwneud coffine.
(1, 0) 285 'Does fawr o son am hwnnw yn y ty hwn.
(1, 0) 286 'Doedd e ddim yn anfarwol, mae'n debyg.
 
(1, 0) 288 Napoleon!
(1, 0) 289 Dwedwch wrthw i'n onest... aiff e ddim pellach... beth yw'ch barn chi am 'y Nhad?
(1, 0) 290 Dych chi ddim yn blino weithe gyda'r holl ffys hyn am 'y Nhad, a chwithe'n... y... ail wr?
 
(1, 0) 294 Ie, mlaen a chwì!
 
(1, 0) 296 O ie, dyna beth arall oeddwn i am ofyn...
(1, 0) 297 Faint o'r bobol yma sy'n cadw'r holl swn yn awr oedd yn cydnabod mawredd 'y Nhad pan oedd e byw?
 
(1, 0) 299 Ond y teip, rwy'n feddwl.
(1, 0) 300 'Roedd yr un hen deip yng Nghymru ers oed Adda...
(1, 0) 301 Pobol y marwnadau!
(1, 0) 302 Beth oedd barn rheiny am 'y nhad?
 
(1, 0) 306 Wel, pobol o deip Gwilym Reynolds, sy'n dadorchuddio'r |bust| yma, a Walter Bevan, Llywydd Urdd y Dinasyddion bychain, a Rice Roberts, a Mrs Eurallt Morris, sy wedi gwasanaethu ar gymaint o bwyllgorau fel na phrynith hi ddim "pork chops" i ginio heb i'r mwyafrif o'r plant godi dwylo o blaid y peth.
(1, 0) 307 'Rych chi'n gwybod pwy wy'n feddwl... boys y Pwyllgorau a hen wlad y menyg gwynion.
 
(1, 0) 309 A mam? Beth am mam?
 
(1, 0) 312 Y peth wyf fi am wybod yw... a oedd Mam yn ystyried 'y Nhad yn ddyn mawr pan oedd e yma?
 
(1, 0) 315 Pam?
(1, 0) 316 Oedd ofn 'y Nhad arnoch chi?
 
(1, 0) 325 Naddo?
 
(1, 0) 328 Ond 'rych chi'n gadael y pwynt.
(1, 0) 329 Pryd dechreuodd Mam edrych arno fel dyn mawr?
 
(1, 0) 339 Ym mha ffordd?
 
(1, 0) 342 O, peidiwch a dweud felna o hyd!
(1, 0) 343 Mlaen a chi!
 
(1, 0) 357 Ydych chi?
 
(1, 0) 365 Fel y banc, Nap.
(1, 0) 366 Go on!
 
(1, 0) 371 Rw i'n deall yn burion...
(1, 0) 372 Rhaid i bod hi'n fwy cysurus arnoch chi cyn i'r idea yma wawrio ar Mam.
 
(1, 0) 380 Wel, Mussolini!
(1, 0) 381 Ddysgest ti dy "bisyn"?
 
(1, 0) 383 Gwell i ti shapo!
(1, 0) 384 Mae'r llo aur yna {yn pwyntio at y gorchudd} yn cael ei ddadorchuddio y dìwmod ar ol fory,
 
(1, 0) 386 Fi?
(1, 0) 387 Pwna di arni, boy.
(1, 0) 388 Mae Mam wrth y gwaith ond yw hi?
 
(1, 0) 390 Dim, dim.
(1, 0) 391 Os yw Mrs Harris-Jones wedi dechreu ar y gwaith wnaiff hi ddim o'r tro i fi roi mhig i mewn.
 
(1, 0) 393 Mam ddywedodd wrthyt ti am ofyn?
 
(1, 0) 395 Be sy'n bod, te?
 
(1, 0) 397 Beth yw'r game?
 
(1, 0) 401 Wel, mae hynny'n eitha gwir...
(1, 0) 402 Na, na.
(1, 0) 403 Gwna di fel mae hi'n dweud.
 
(1, 0) 405 Does gen i ddim o'r sel gwladgarol sydd gyda hi...
(1, 0) 406 Be wnest ti a'r genhinen?
(1, 0) 407 Roddest ti hi'n cawl?
 
(1, 0) 414 'Dwyt ti ddim yn foneddigaidd iawn i dy fam.
 
(1, 0) 421 Beth ar ddaear sy'n bod nawr te?
(1, 0) 422 Gynnau fach chawswn i ddim rhoi 'mhig i mewn.
 
(1, 0) 427 Wel yn enw popeth!
(1, 0) 428 Pam nad ewch chi mlaen a'r gwaith wedi i chi ddechreu?
 
(1, 0) 430 'Wn 'im.
(1, 0) 431 Chi sy a'r cennin yma a phethe ar hyd y ty.
(1, 0) 432 Mi ddylsech Cymraeg chi fod yn ddigon da.
 
(1, 0) 435 Do.
(1, 0) 436 Fe gawsoch fwy.
 
(1, 0) 445 Gaf i ddewis y darn?
 
(1, 0) 450 Pryd mae e'n adrodd... o flaen y seremoni?
 
(1, 0) 453 Mae darn tarawiadol iawn gan Parry-Williams... rhywbeth am esgym y meirw.
 
(1, 0) 459 Beth ych chi eisiau?
 
(1, 0) 462 Wel?
 
(1, 0) 465 Wel, beth ych chi moyn codi rhyw stunt fel yma?
 
(1, 0) 468 Parch be damned,...!
 
(1, 0) 472 O'r goreu!
(1, 0) 473 Paid ti a rhoi dy drwyn i fewn!
 
(1, 0) 481 Wel, beth ych chi am i mi wneud?
 
(1, 0) 485 Oedd e?
 
(1, 0) 490 Beth oedd i syniade fe?
 
(1, 0) 492 Gwn.
(1, 0) 493 Fe wn |i|.
(1, 0) 494 Ond ydych |chi|'n i gwybod nhw? I
(1, 0) 495 syniade cyhoeddus e...
(1, 0) 496 Syniadau a gyhoeddodd e yn y pamphledi a wrthodwyd gan bob cyhoeddwr yng Nghymru ond un?
(1, 0) 497 A oes un o'r gang fydd yn dwad yma Dydd Mercher i frolio yn i gylch e wedi dangos unrhyw barch i syniade fe yn i gweithredoedd?
(1, 0) 498 A feiddiai un ohonyn nhw?
 
(1, 0) 508 Mi ddwedes i'n ddigon plaun ar y dechreu nad own i ddim yn mynd i gymryd unrhyw ran...
 
(1, 0) 510 ... dim un ran o gwbwl.
 
(1, 0) 515 Dw...
 
(1, 0) 518 Dim ffafr a chi yw'r pwynt.
(1, 0) 519 Dwi ddim yn mynd i sefyll i fyny fanna a'r |bust| hyll yna tu ol i mhen i, a rhyw ddynion samllyd yn gwenu ama i, a brolio rhyw blatitiwds am 'y nhad... dwy ddim yn mynd i wneud e!
 
(1, 0) 524 Pwy?
(1, 0) 525 Naroleon?
 
(1, 0) 541 Hal Ha! Ha!
(1, 0) 542 Leicwn i weld Napoleon wrthi.
 
(1, 0) 547 'Dwy ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni.
 
(1, 0) 549 Nagw.
 
(1, 0) 551 'Dwn i ddim ymhle mae mharch i nhad, ond os na ddaeth e i'r golwg cyn hyn, 'dyw e ddim yn mynd i godi nawr i swn band y pentre ac areithiau Gwilym Reynolds,
 
(1, 0) 555 Gobeithio i fod e.
(1, 0) 556 Mae e'n cadw digon o stwr yr ochr hyn i'r mor.
 
(1, 0) 558 Mae pobol lwcus yn America.
(1, 0) 559 |Speech| yr |unveiling| yw honna, mam?
 
(1, 0) 569 Beth yw'ch ideals chi, Mam?
 
(1, 0) 573 Roeddech chi'n son gynne am barch.
(1, 0) 574 Ydych chi'n parchu coffadwriaeth 'y Nhad?
 
(1, 0) 576 Ydych chi mewn gwirionedd?
(1, 0) 577 Ydych chi'n siwr nad cadw i enw e'n fyw er mwyn dwad ag enwogrwydd i'ch ty chi, ych chi?
(1, 0) 578 Er mwyn i chwi gael cadw mewn cyffyrddiad a'r bobol fawr yma...
 
(1, 0) 580 Ydw.
(1, 0) 581 Ond rwy'n dweud llawer o wir.
(1, 0) 582 Mi ofynnes i i chi gynne beth oedd syniade Nhad.
(1, 0) 583 Ydych chi wedi darllen y cwbwl y gyhoeddodd ef... heb son am ysgrifau yn y ty hwn na welodd neb arall erioed?
(1, 0) 584 Dyma her i chwi!
(1, 0) 585 Treiwch hi roi rhai o syniade yr anfarwol Ifan Harris mewn gweithred a mi ddweda inne beth yn y byd a fynnoch chi yn y seremoni!
 
(1, 0) 588 Pam ych chi'n codi stunt fel yma?
 
(1, 0) 590 Wel, os ych chi am i fi siarad yn yr unveiling... mi wnaf.
 
(1, 0) 598 Gadewch chi hynny i fi.
 
(1, 0) 602 Gaf i ddweud y gwirionedd am dano, mam?
 
(1, 0) 605 Wnaiff hi ddim o'r tro i ddweud y gwir am ddyn marw, mam!
 
(1, 0) 610 Rwy'n folon dwad yna a rhoi eglurhad am y tro cyntaf yn i hoes i rai o'r bobol barchus yna beth oedd syniade Nhad mewn gwirionedd.
(1, 0) 611 Hyd y gwn i does neb arall yn i deall nw, a dw inne ddim yn honni mod i'n i credu nhw i gyd.
 
(1, 0) 615 Gaf i wneud araith i Napoleon, te?
 
(1, 0) 626 Pam fues i mor ffol a dweud wrthi?
(1, 0) 627 Mi |wnawn| i araith pe bawn i'n cael cyfle!...
(1, 0) 628 Napoleon, peidiwch a gofidio!
(1, 0) 629 Fe wna i araith i chi!
 
(1, 0) 633 Dewch allan am dro, Nap.
 
(1, 0) 635 O diawch!
(1, 0) 636 Mae un o'r cigfrain wrth y drws eto.
(1, 0) 637 Dewch i mewn i'r rwm gefen.
(1, 0) 638 Fe gawn siarad fan honno.
(1, 0) 639 Bertie, dwed wrth Ann y forwyn fod rhywun wrth y drws.
 
(1, 0) 803 Hylo, hylo!
 
(1, 0) 806 Wel, chi ddylai fod yn gwybod.
 
(1, 0) 811 Ie.
 
(1, 0) 817 Ie siwr.
(1, 0) 818 Fi yw e, Mam ddywedodd wrthw i'ch bod chwi yma.
(1, 0) 819 Mi ddywedodd wrthw i'ch bod chwi wedi gweld y gadair a'r ysgrifbin.
(1, 0) 820 Rown i'n meddwl i bod hi'n drueni na chawsech chi ngweld innau... un o'r relics goreu adawodd 'y Nhad ar ei ol.
 
(1, 0) 824 Dyma fe.
 
(1, 0) 827 Wel, ambell waith rwy'n cael y cyfle o glywed i enw e, ond pan fydd digwydd i rywun, ar siawns weithiau, wneud rhyw gyfeiriad ato rwy'n pefreiddio drwyddo i gyd a pharchedig ofn!
 
(1, 0) 832 Fydda i'n siwr o wneud, Mr Inskip, gan mai chwi sydd yn gofyn...
(1, 0) 833 Nawr, Mr Inskip, a ydyw Mam wedi dangos y relics i gyd i chwi?
 
(1, 0) 835 Twt! Twt, twt, twt!
 
(1, 0) 837 Twh! Twt, twt!
(1, 0) 838 A welsoch chwi'r warming-pan?
 
(1, 0) 840 le, waming-pan 'y Nhad.
(1, 0) 841 Y warming-pan a fu'n twymno 'i draed e am yr holl flynyddau?
 
(1, 0) 844 O dier, dier.
(1, 0) 845 Mae Mam yn esgeulus.
(1, 0) 846 Mi ddylsai fod wedi dangos y warming-pan i chwi.
(1, 0) 847 Y relic mwyaf gwerthfawr adawodd 'y Nhad ar ei ol.
(1, 0) 848 Ond mae arna i ofn i fod e yn yr iws ar hyn o bryd.
 
(1, 0) 851 Ond fe gewch chi weld yr aser, beth bynnag.
 
(1, 0) 854 Dyna aser 'y Nhad, Mr Inskip.
(1, 0) 855 Mae cyfeiriad at hwn yn un o'i weithie fe, Mr Inskip.
(1, 0) 856 Rych chi wedi darllen i weithiau fe i gyd.
 
(1, 0) 859 "Llyfr y tri aderyn", Mr Inskip!
 
(1, 0) 861 "Theomemphus", Mr Inskip?
 
(1, 0) 863 A Chofiant Dic Aberdaron,
 
(1, 0) 866 A "Drych y Prif Oesoedd", Mr Inskip.
 
(1, 0) 871 Ychydig iawn sydd wedi cael gweld yr aser yna.
 
(1, 0) 875 Eillio!
(1, 0) 876 Eillio!, weddsoch chi?
 
(1, 0) 879 Ni chyfarfu hon erioed ag wyneb 'y Nhad!
 
(1, 0) 882 Hon oedd ganddo yn torri 'i gyrn.
 
(1, 0) 893 Pwy Fister Harris?
 
(1, 0) 897 Wel, nage!
(1, 0) 898 Rych chi wedi dwad i'r ty wrong!
 
(1, 0) 900 Jonathan Thomas.
 
(1, 0) 902 Y trafaeliwr pop.
 
(1, 0) 905 le.
(1, 0) 906 Roedd e'n gwerthu ginger beer dros yr Hopkin Breweries...