|
|
|
|
(2, 0) 250 |
Wel, dydw i ddim am fynd allan eto, beth bynnag, waeth gen i beth fo'n galw arna i. |
(2, 0) 251 |
Rydw i am eistedd. |
|
|
(2, 0) 256 |
Diolch. |
|
|
(2, 0) 258 |
Welsoch chi'r |Genedl| hyd y fan yma'n rhywle, deudwch? |
|
|
(2, 0) 261 |
Ydi, debig: does dim perig i mam anghofio'i gyrru hi. |
(2, 0) 262 |
Bobol annwyl, dasa ddigwydd iddi hi anghofio, mi ddoe yma'i hunan bob cam o Gymru a'r papur yn i llaw─neu hwyrach y basa hi'n gyrru Tomos. |
|
|
(2, 0) 264 |
Wel, lle ar y ddaear y mae hi? |
|
|
(2, 0) 270 |
Rhaid imi chael hi─dyna'r unig gyfle sy genni i wybod beth sy'n digwydd yn yr hen wlad. Mae'n ddigon hawdd i chi chwerthin, ond wyddoch chi beth? |
(2, 0) 271 |
Mi fuasa'n well genni golli hanes holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant, na methu gwybod pwy gafodd i ffeinio'r Sadwrn yn Nghaernarfon am feddwi, neu pa hogyn o'r dre sy wedi cael ei godi ar y Cyngor Plwy yn Timbuctoo─"dyrchafiad arall i Gymro!"... |
(2, 0) 272 |
Wel, fedra i ddim cael hyd iddi hi. |
|
|
(2, 0) 277 |
le, dyna hi, ngeneth i, dyna hi, dydi dyn rhesymol byth yn gyson a fo'i hunan. |
(2, 0) 278 |
Mi fydd rhai o bobol fawr y Senedd yn chwerthin am ben bychander bywyd Cymru,─ond waeth am danyn nhw, pobol felna yden ni. |
(2, 0) 279 |
Ryden ni heb ddysgu eto y gelfyddyd fawr Seisnig o edrych galla pan fyddwn ni fwya o ffyliaid. |
(2, 0) 280 |
Pan fyddwn ni'n gneud petha fasa'n ddigon i yrru Sais ar ei ben i Colney Hatch, dyna'r pryd y byddwn ni galla, fel rheol. |
(2, 0) 281 |
Ac heblaw hynny, faint gwaeth ydi mynnu gwybod pwy enillodd y râs redig yn Llandinadman nag ymdrabaeddu yn y papura Saesneg i wybod pa sut |gostume| newydd sy gan y frenhines, neu pa ŵr newydd sy gan rhyw dipyn o actress?... |
(2, 0) 282 |
Beth ydech chi'n ddarllen? |
|
|
(2, 0) 284 |
Ceiriog! |
(2, 0) 285 |
Dyna lle'r ydech chi o hyd? |
(2, 0) 286 |
Rydw i wedi diflasu arno fo ers blynyddoedd─fedra i mo'i ddarllen o─yr hen greadur meddal iddo fo, hefo'i |sentiment|, a'i ddagrau a'i garu, a'i gusanu. |
|
|
(2, 0) 288 |
Mewn geiriau ereill, rydech chi am droi dagrau Ceiriog at ych melin ych hun. |
(2, 0) 289 |
Wel, mae hynny'n eitha tra bo digon o ddŵr ynddyn nhw i throi hi. |
(2, 0) 290 |
Mae fy melin i yn rhy drom, dyna'r gwir,─neu mae ar y treulia eisio'i hiro. |
|
|
(2, 0) 292 |
Mae'r hen soffa yma wedi cledu hefyd er pan mae yma. |
|
|
(2, 0) 294 |
Neno'r tad, fedrai yn fy myw osod fy hun yn esmwyth. |
|
|
(2, 0) 296 |
Hylo! bedi hwn? |
|
|
(2, 0) 298 |
Wel, dyma hi'r |Genedl|. |
(2, 0) 299 |
Doedd ryfedd fod y soffa'n bigog─ond doeddwn i'n eistedd ar holl gyfarfodydd misol Gogledd Cymru─heb sôn am |wit| y Cwrt bach. |
(2, 0) 300 |
Rwan am dipyn o adloniant. |
|
|
(2, 0) 306 |
Wel! Wel! |
|
|
(2, 0) 309 |
Dim. |
|
|
(2, 0) 311 |
Os oes arnoch chi eisio tipyn o syniad y |Genedl| am ych gŵr, dyma fo i chi yn blwmp ac yn blaen. |
(2, 0) 312 |
Ga i ddarllen o i chi? |
|
|
(2, 0) 314 |
Gwrandewch. |
(2, 0) 315 |
Dyma ran o'r brif erthygl:- |
(2, 0) 316 |
~ |
(2, 0) 317 |
"Fel y gŵyr pawb o'n darllenwyr, fe ddaeth Mr. Morris â bil o flaen y Senedd i godi safon cyflog y chwarelwyr,─y bobl o bob dosbarth o weithwyr sy'n cael eu talu salaf, ac nid oedd gan neb yr amheuaeth leiaf nad âi'r bil yn llwyddiannus drwy'r Ty. |
(2, 0) 318 |
Cynheswyd llawer aelwyd, a llonnwyd aml galon drist wrth feddwl bod yr hen bryder a'r hen ofal o'r diwedd i orffen am byth; bod siawns i'r plant gael digon o fwyd eto, ac i'r gruddiau gwelwon adennill gwaed. |
(2, 0) 319 |
Ond fel y digwyddodd yn rhy aml yng Nghymru cyn heddiw, llin yn mygu oedd ein gobeithion, a chorsen ysig oedd yr un y pwysem arno. |
(2, 0) 320 |
Os ydyw'r sibrydion yn wir bod Mr. Morris yn bwriadu cefnu ar y bil, rhaid inni ddywedyd yn ddifloesgni fod Mr. Morris wedi bradychu y bobl a'i gyrrodd i'r Senedd. |
(2, 0) 321 |
Pa faint fydd y wobr a gaiff Judas y tro yma, nis gwyddom, ond byddwn yn gwylio'r penodiadau nesaf i'r Cabinet yn bryderus. |
(2, 0) 322 |
Fe fu amser pan feddyliem fod Cymru o'r diwedd wedi cael yn Mr. Morris ddyn oedd yn gosod y wlad a'r werin y cododd ohoni o flaen manteision personol ac elw, ond gwelwn erbyn hyn yn amlwg nad yw yntau, er disgleiried ei allu, yn amgen na'r rhelyw o'r aelodau Cymreig. |
(2, 0) 323 |
Diwedd y gân ydyw'r geiniog." |
(2, 0) 324 |
~ |
|
|
(2, 0) 326 |
... Wel, dyna i chi beth ydi gwenwyn golygyddol. |
(2, 0) 327 |
Mi leiciwn i gael o o flaen y nhroed am funud! |
|
|
(2, 0) 329 |
Beth? |
(2, 0) 330 |
Ydech chi am ail ddechra eto? |
|
|
(2, 0) 336 |
Twt, twt. |
(2, 0) 337 |
Pa iws ydi ail-ddechra'r hen ymdderu yma eto? |
(2, 0) 338 |
Dyma hi'n naw o'r gloch ac mi addewis y cai'r Prif-weinidog fy atebiad i cyn hanner awr wedi naw. |
(2, 0) 339 |
Rydw i yn i ddisgwyl o yma bob munud rwan. |
(2, 0) 340 |
Rydw i'n ddigon tawel fy nghydwybod. |
|
|
(2, 0) 342 |
Dydi o ddim gwahaniaeth genni o gwbl beth mae nhw'n feddwl, tra byddan nhw'n meddwl mor niwlog ag y mae nhw. |
(2, 0) 343 |
Pan ddysg yr arweinwyr─y pregethwyr a'u ffryndiau─wneud tipyn o aberth eu hunain, mi fydd ganddyn nhw le i ofyn aberth gan rai fel finna... |
(2, 0) 344 |
Welsoch chi bregethwr erioed wrthododd adael i bwlpud er mwyn tipyn rhagor o arian yn rhywle arall? |
|
|
(2, 0) 346 |
Na fydd, rydech chi yn ych lle. |
(2, 0) 347 |
Ond pan wela i yn y |Genedl Gymreig| a'r papura ereill o dan y pennawd "Dyrchafiad arall i Gymro" fod rhywun wedi gwrthod mwy o arian er mwyn i egwyddor, mi ddechreua inna aberthu wedyn. |
|
|
(2, 0) 349 |
Rydw i fel y graig. |
(2, 0) 350 |
Rhaid imi feddwl am y dyfodol... ac yn y |Cabinet|, mi gai siawns i wneud rhywbeth dros yr hen wlad. |
|
|
(2, 0) 361 |
F'ewyrth Tomos! |
|
|
(2, 0) 371 |
Sut mae pawb yng Nghymru? |
|
|
(2, 0) 374 |
Wel wir, mae'n rhaid fod gynnoch chi rywbeth pwysig iawn i ddeud. |
(2, 0) 375 |
Does na ddim ffortiwn, debig gen i, wedi dwad i'r un o'n teulu ni? |
|
|
(2, 0) 379 |
Dydw i ddim yn deall damhegion, f'ewyrth, rwan. |
(2, 0) 380 |
Mae pawb yn y senedd, wyddoch chi, yn siarad mor blaen. |
(2, 0) 381 |
Seiat Bethlehem acw sy wedi'ch gyrru chi yma i chwilio i gyflwr y nghrefydd i? |
|
|
(2, 0) 387 |
le, reit siwr─ |
(2, 0) 388 |
Aberth hefo A fawr yntê? |
(2, 0) 389 |
Rydw i wedi sylwi, f'ewyrth, fod mwy o gynnig nag o dderbyn ar y ffortiwn honno. |
|
|
(2, 0) 393 |
Rydech chi'n rhy hwyr, yn rhy hwyr o dipyn. |
(2, 0) 394 |
Rydw i'n disgwyl y Prif-weinidog yma bob munud i ddwedyd wrtho fo y mod i yn mynd i dynnu'r bil yn ol. |
|
|
(2, 0) 399 |
Tewch, tewch, fedrai mo'ch gwrando chi; rydw i wedi gneud y meddwl i fyny. |
|
|
(2, 0) 403 |
Fewyrth, tasech chitha'n deall ac yn sylweddoli'r cwbwl, fasech chi ddim mor greulon wrtha i─wyddoch chi ddim y mod i'n gorfod crafu a chynilo, ac ymwadu oddiwrth bopeth i dreio byw yn Llundain yma yn agos i fy safle─a dyna'r plant i'w haddysgu. |
|
|
(2, 0) 407 |
Wel, gwn. |
|
|
(2, 0) 410 |
F'ewyrth─rydw i'n deud wrthoch chi fod y peth wedi ei wneud─does dim dadwneud arno fo. |
|
|
(2, 0) 412 |
Dyna'r gair ola, ac os ydech chi yn mynd i siarad ymhellach rydw i'n mynd allan. |
|
|
(2, 0) 419 |
Y prif-weinidog! |
|
|
(2, 0) 425 |
Wel, rydw i wedi cael f'ysgwyd, dipyn. |
(2, 0) 426 |
Roeddwn i'r bore yma wedi penderfynu rhoi'r bil ì fyny, a derbyn ych cynnig, ond heno,─wel, wn i ddim wir. |
|
|
(2, 0) 430 |
Wel, syr, y mae un atgo bach yn y nghadw i rhag addo ar unwaith, a phe basa 'r hen ŵr yna sy newydd fynd allan wedi aros munud yn hwy i orffen i stori, hwyrach mai yn ych gwrthod chi y buaswn i. |
(2, 0) 431 |
Ond... {yn eistedd yn sydyn yn ei gadair}... rydw i'n derbyn ych cynnig chi. |
|
|
(2, 0) 449 |
Syr Henry, rydech chi'n iawn─mae fy mebyd i wedi dyfod yn ol, ond bu bron iddo ddyfod yn rhy hwyr. |
(2, 0) 450 |
Welwch chi'r esgidiau a'r hosanau yma? |
(2, 0) 451 |
Mae rhain wedi eu prynu a gwaed, a fedrai i mo'u gwerthu nhw er mwyn lle yn y Cabinet. |
|
|
(2, 0) 453 |
Nos da, Syr Henry─Y mae'r bil i fynd ymlaen, pa bawn i'n rhwygo'ch pleidiau pydron chi bob un, a phob |Cabinet| yn Ewrop yn mynd i golledigaeth. |
|
|
(2, 0) 455 |
Dyna "Ddyrchafiad arall i Gymro," yntê? |