|
|
|
|
(1, 0) 16 |
Dim ond lawr i'r sgwâr |
|
|
(1, 0) 22 |
Ble arall y gallaf i fynd? |
(1, 0) 23 |
Wyt ti'n meddwl yr awn i yno petai gen i rywle arall i fynd iddo? |
|
|
(1, 0) 27 |
O gad hi, Mari! |
(1, 0) 28 |
Gad hi nawr! |
|
|
(1, 0) 30 |
'Chei di ddim gwaith i fi wrth ddefnyddio dy dafod ac edliw hen bethau fel hyn drosodd a throsodd; nid arna i mae'r bai fy mod i allan o waith. |
|
|
(1, 0) 36 |
Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely. |
|
|
(1, 0) 42 |
Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma. |
|
|
(1, 0) 46 |
A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna? |
|
|
(1, 0) 50 |
Fe wyddost cystal â minnau nad oes dim gwaith i'w gael yn y lle yma. |
(1, 0) 51 |
Mae yma gannoedd yr un peth â mi─'rydw i'n cael y dôl, ond ydw i? |
|
|
(1, 0) 54 |
Nawr, Mari. |
(1, 0) 55 |
'Dwyt ti ddim i fod i ddechrau ar fusnes y cŵn yna eto. |
(1, 0) 56 |
Mae hawl gan ddyn i gael tipyn o bleser yn ei fywyd, ac os ydw i'n ei gael wrth roi ambell swllt ar y cŵn... |
(1, 0) 57 |
Oni enillais i goron yr wythnos cyn y diwetha? |
|
|
(1, 0) 59 |
Fe gaf rheini'n ôl i gyd nos yfory. |
(1, 0) 60 |
Dyna pam yr wyf am weld Wat. |
|
|
(1, 0) 64 |
O, 'rydw i'n mynd 'nôl i'r sgwâr, allan o'r cintach tragwyddol yma... |
|
|
(1, 0) 70 |
Beth gwell wyt ti o daflu hynny i'm hwyneb i o hyd? |
(1, 0) 71 |
Petai gwaith yn dod i'r Cwm yma eto, fe wellai pethau ar unwaith... |
|
|
(1, 0) 84 |
Paid â siarad yn uchel. |
(1, 0) 85 |
Mae Mari ar y llofft─yn un o'i hwyliau. |
(1, 0) 86 |
Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld. |
|
|
(1, 0) 89 |
'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de. |
|
|
(1, 0) 91 |
Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e. |
(1, 0) 92 |
I beth wyt ti am ei weld e? |
|
|
(1, 0) 96 |
Beth sy'n bod? |
|
|
(1, 0) 99 |
Gwyddwn. |
(1, 0) 100 |
'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno. |
|
|
(1, 0) 104 |
Beth alla i wneud? |
|
|
(1, 0) 111 |
Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny. |
|
|
(1, 0) 114 |
Rhaid i ti ei weld dy hunan. |
(1, 0) 115 |
Efallai y gwnaiff e hyn os gofynni di iddo; {yn cerdded i'r chwith} fentra i ddim... |
|
|
(1, 0) 117 |
Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith? |
|
|
(1, 0) 121 |
Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw. |
(1, 0) 122 |
Dere â blewyn os oes peth gen ti? |
(1, 0) 123 |
Fentra i ddim gofyn i Mari pan fydd yn ei hwyliau. |
|
|
(1, 0) 125 |
Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory. |
|
|
(1, 0) 131 |
Pum punt! |
(1, 0) 132 |
Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt? |
|
|
(1, 0) 135 |
Ust! |
(1, 0) 136 |
Paid â chodi dy lais! |
(1, 0) 137 |
Fe glyw Mari. |
|
|
(1, 0) 141 |
Ond beth os na wnaiff e? |
|
|
(1, 0) 148 |
'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat. |
(1, 0) 149 |
Wedi'r cwbl... |
|
|
(1, 0) 193 |
'Wn i ddim. |
|
|
(1, 0) 196 |
Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari... |
|
|
(1, 0) 198 |
'Dydy e'n gwneud dim... |
|
|
(1, 0) 202 |
Paid â dweud dim am Hopkins... |
|
|
(1, 0) 205 |
Beth am fy nôl i? |
|
|
(1, 0) 211 |
'Rwyt ti'n mynd ormod i'r pictiwrs, Mari─dyna beth sy'n bod arnat ti. |
(1, 0) 212 |
Maen' nhw'n cynhyrfu dy ddychymyg di. |