| (1, 0) 18 | A shwt ych-chi heddy, Nathanial? |
| (1, 0) 21 | Beth sy'n bod nawr? |
| (1, 0) 25 | Wel, beth sy 'ta? |
| (1, 0) 26 | Dyw Marged Ann ddim yn teimlo'n dda? |
| (1, 0) 29 | Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon? |
| (1, 0) 32 | Wel, 'rych-chi'n tynnu gwep ofnatw. |
| (1, 0) 33 | Beth gynllwn sy'n bod? |
| (1, 0) 35 | Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan? |
| (1, 0) 37 | O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol. |
| (1, 0) 39 | Beth sy arni? |
| (1, 0) 41 | Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi? |
| (1, 0) 44 | 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial. |
| (1, 0) 47 | Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath. |
| (1, 0) 49 | Wel, pitwch a gofitio Nathanial; 'ryn-ni i gyd yn llaw Ragluniath, a dyna fel ôdd hi i fod. |
| (1, 0) 50 | Ma-hi wedi bod yn fuwch dda i chi. |
| (1, 0) 52 | A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi. |
| (1, 0) 54 | A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn? |
| (1, 0) 56 | Wel pam andras ych-chi'n cwyno cymant! |
| (1, 0) 57 | Welas-i eriod o'ch bath chi: fe allsach ffwrdo colli deg buwch y funad 'ma yn well na allsa llawar i ffarmwr golli cyw giar, a dyma chi, a'ch wynab c'yd â 'mraich i, am fod cratur dicyn yn anhwylus yn 'i henant. |
| (1, 0) 58 | 'Rwy'n synnu atoch-chi, Nathanial, a chitha'n meddwl sefyll lecshwn fel |Rural District Councillor|. |
| (1, 0) 62 | Na wn-i. |
| (1, 0) 64 | O, 'dych-chi ddim am fod yn |Councillor| nawr, o herwydd ychytig o bunna raid i chi wario. |
| (1, 0) 65 | 'Rych-chi'n folon i Siencyn Bifan i gâl hewl glir ar ol i chi dyngu y bysach-chi yn 'i faeddu-fa? |
| (1, 0) 68 | Petar punt, saith swllt, a thair cinog, a chitha'n werth ych pwysa! |
| (1, 0) 69 | Dishgwlwch 'ma, os na faeddwch-chi Siencyn, fe fyddwn yn destun sport i gôr Carmel tra bo canu'n bod. |
| (1, 0) 71 | Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr. |
| (1, 0) 74 | Naddo; ond 'rwy wedi bod yn meddwl. |
| (1, 0) 75 | 'Dych-chi damad gwell o fod miwn brys gita'r |address|, Nathanial. |
| (1, 0) 76 | Ma'n rhaid i chi feddwl a meddwl. |
| (1, 0) 77 | 'Rwy wedi gofyn i Rhys Pritchard, Tomos Jones, a Dafydd Peters i ddod yma i'ch helpu chi, dynon o ddylanwad, bob un o honyn nhw. |
| (1, 0) 78 | O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro. |
| (1, 0) 86 | Gadewch y côr yn llonydd ar hyn o bryd, Nathanial. |
| (1, 0) 87 | |Politics| yw-hi nawr, cofiwch, a nid cerddoriath. |
| (1, 0) 88 | Ma'n rhaid i chi gisho meddwl fel fi. |
| (1, 0) 89 | Fe fuas-i wrthi nithwr, ar asgwrn 'y ngefan yn y gwely, yn pondro a phondro, heb gysgu llygetyn nes bo'r wawr yn torri, a ma-hi'n dod i hyn: dôs 'na ddim llawar ynddi rhyngto chi a Siencyn yn y petwar capal, a felny, os gallwch-chi ennill fôts gwŷr yr Eclws, fe faeddwch Siencyn yn yffion. |
| (1, 0) 91 | Ma'n rhaid iddyn nhw foto drosto-chi, ryw-shap ne'i gilydd. |
| (1, 0) 92 | Os, ma'n rhaid i ni gâl fôts yr Eclws. |
| (1, 0) 94 | Wel, 'rw-i wedi câl dicon o draffarth gita'r Eclws y bora 'ma, ta pun. |
| (1, 0) 95 | Rwy wedi bod dros ddwy awr yn cisho cwiro hwn. |
| (1, 0) 97 | O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy. |
| (1, 0) 99 | Ma-fa wedi bod yn sawl brelo odd'ar hynny; 'dôs 'na ddim o'r hen un ar ol nawr ond y ddolan. |
| (1, 0) 100 | Odd-a i fod yn barod amsar cino, hefyd; peth od na fysa'r Ficar wedi galw. |
| (1, 0) 103 | 'Rwy'n 'i gwpla fa nawr, Mr. Jones. |
| (1, 0) 104 | Dewch miwn. |
| (1, 0) 113 | Dyna beth wy inna'n wêd hefyd, Mr. Jones; y |fight| ora fuws yn Llanybryn eriod. |
| (1, 0) 114 | Shwt ma'r |Bazaar| yn dod mlân? |
| (1, 0) 118 | Dim ond o bell, Mr. Jones. |
| (1, 0) 120 | Wel, dyna beth yw postar, ontefa! |
| (1, 0) 121 | Os dim un gita chi i spario, Mr. Jones? |
| (1, 0) 124 | Pitwch a sôn, Mr. Jones, pitwch a sôn; a diolch yn fawr i chitha. |
| (1, 0) 125 | Os ôs 'na rwpath y galla-i neud yn fy ffordd fach i, 'dôs gita-chi ddim ond gwêd hannar gair. |
| (1, 0) 127 | Cato'n pawb! |
| (1, 0) 128 | Arglwyddas Llanharan yn dod i acor y |Bazaar|! |
| (1, 0) 129 | |Bazaar| ardderchog fydd hwn, Mr. Jones. |
| (1, 0) 132 | Itha |right| hefyd: ond fe fydd 'na un enw'n isha, ddylsa fod ar y rhestar. |
| (1, 0) 135 | Nathanial Morgan, |Esq|. |
| (1, 0) 136 | Pam na ofynnwch-chi iddo fe gyfrannu rwpath? |
| (1, 0) 145 | Fe wyddoch o'r gora, Mr. Jones, shwt ma'r ffermwyr 'ma: fe gewch fencyd ceffyl a cart am wthnos ne' racor a chroeso, ac os bydd hi'n galad iawn arnoch-chi, 'dôs fawr gwaniath gan amball i ffarmwr i |roi| ceffyl a chart i chi, ond ma'r un man i chi gisho câl wech ne swllt odd'wrthyn-nhw, a chasglu ffigys odd'ar ysgall. |
| (1, 0) 146 | Ma gen-i well syniad na roi pum punt, lawar gwell. |
| (1, 0) 150 | Fysa buwch o rhyw les i chi? |
| (1, 0) 152 | Fysa buwch o ryw ddefnydd i chi? |
| (1, 0) 154 | Ia, buwch. |
| (1, 0) 156 | O ma 'na wmradd o betha y gallach-chi neud â buwch, Mr. Jones. |
| (1, 0) 158 | Beth tsa-chi yn 'i rafflo-hi yn y |Bazaar|? |
| (1, 0) 161 | Allwch-chi ddim doti buwch lawr yn y cyfraniata, falla, ond tsa chi ddim ond hysbysu yn y |Gazette| fod 'na fuwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, idd 'i rafflo yn y |Bazaa|r, tocynna, wech chinog─na, beth wy'n sôn, tocynna, swllt yr un─fe fysa hynny'n ddicon gwell na phum punt i chi. |
| (1, 0) 164 | 'Dos dim raid i chi ofni, Mr. Jones. |
| (1, 0) 166 | 'Rych-chi'n folon roi buwch, on'd ych-chi Nathanial? |
| (1, 0) 170 | A falla byddwch chi cystlad a chyhoeddi 'r un pryd, Mr. Jones, fod y cratur yn cal 'i rhoi gan Nathanial Morgan, |Esq.|, un o ymgeiswyr lecshwn y |Rural District Council|? |
| (1, 0) 175 | Ma'n rhaid i chi gal |handbills|, Mr. Jones,; a'u dosbarthu nhw ym mhobman. |
| (1, 0) 176 | Chwalwch nhw i betwar cwr y byd. |
| (1, 0) 177 | Sôn am |Fazaar|, hwn fydd y mwya fu eriod yng Nghymru; fe newch hannar can-punt o'r fuwch yn y man lleia─tocynna swllt yr un, ddim dima'n llai. |
| (1, 0) 180 | A ma'r un man i chi hysbysu ar y tocynna a'r |handbills| mai rhodd Nathanial Morgan yw y fuwch. |
| (1, 0) 182 | Hannar can punt, yn wir, fe newch gan-punt o heni yn ddidraffarth; nid yn unig y plwyf, fe fydd yr oll shir yn y |Bazaar|. |
| (1, 0) 192 | Dim yn y byd, Mr. Jones, dim o gwbwl; fuas-i ddim tair munad wrtho-fa. |
| (1, 0) 200 | Dyna ni wedi 'i gneud-hi, Nathanial: 'ryn-ni wedi ennill y lecshwn acha un ercyd! |
| (1, 0) 201 | Be'chi'n feddwl amdano i nawr? |
| (1, 0) 202 | Ond wetas-i wrthoch-chi─yn y byd politicadd, ma'n rhaid i ddyn feddwl a chysitro. |
| (1, 0) 204 | Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann. |
| (1, 0) 210 | Alla-i ddim help, Nathanial. |
| (1, 0) 211 | 'Rwy'n gryf ymhob ffordd arall, ond os caiff cariad afal ar ddyn, 'dyw-a damad gwell, ys gwetws yr Ysgrythur, o wingo yn erbyn y symbyla. |
| (1, 0) 212 | 'Rwy wedi achub yn dda iawn ar hyd y blynydda, hyd yn hyn, ond 'nawr, dim ond i fi feddwl am Marged Ann, ne weld 'i shôl hi'n hongian ar y lein, 'rwy'n teimlo mod-i'n mynd yn yffion. |
| (1, 0) 214 | Gwetwch air bach drosto-i, Nathanial, 'rwy wedi ennill y lecshwn i chi. |
| (1, 0) 216 | 'Rwy'n siwr o hynny. |
| (1, 0) 217 | Pwy fuwch roiwch-chi? |
| (1, 0) 219 | Pwy fuwch roiwch-chi? |
| (1, 0) 222 | Do, do; odd yn rhaid i fi wêd rwpath. |
| (1, 0) 223 | Ond fysach chi byth o'r gydwypod i roi hen fuwch â thair côs iddi yn y bedd i |Fazaar| yr Eclws! |
| (1, 0) 226 | Ddim eriod. |
| (1, 0) 228 | Dim enad byw. |
| (1, 0) 230 | Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na! |
| (1, 0) 234 | Os gita-chi ddim un Castall Martin arall? |
| (1, 0) 236 | Na wyddwn-i. |
| (1, 0) 237 | Beth os bydd hon farw? |
| (1, 0) 241 | Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn. |
| (1, 0) 244 | O'r gora, o'r gora; dim gair arall! |
| (1, 0) 245 | Fe af-fi ar ol y Ficar nawr cyn cyraeddiff-a'r printar, a fe esbonia-i bopath wrtho-fa. |
| (1, 0) 246 | Fe gaiff ynta esbonio wrth wŷr yr Eclws, shwt o'ch-chi'n bwriatu roi hen fuwch afiach iddyn-nhw, a wetyn, fe gewn weld faint o fôts gewch chi. |
| (1, 0) 247 | Y gwir ag e yw hyn: 'dych-chi ddim yn moyn maeddu Siencyn Bifan. |
| (1, 0) 249 | Nagych; 'rych-chi'n folon i gôr Carmal i glochtar drosto-ni tra bo ni byw. |
| (1, 0) 250 | Dyma fi'n mynd! |
| (1, 0) 261 | Dyna chi eto, wastod miwn brys, yn poenia gofitio. |
| (1, 0) 262 | Ma 'na ddicon o amsar, llawn dicon. |
| (1, 0) 263 | Wel, gyfeillion, 'rwy wedi gofyn i chi ddod yma i fod yn bwyllgor i Nathanial Morgan. |
| (1, 0) 264 | Y fi yw 'i agant-a, chi'n gweld. |
| (1, 0) 265 | Fuas-i wthnos gyfan, ar dro, yn meddwl pwy i ddoti ar y pwyllgor, a 'rwy'n cretu mod-i wedi dewis y tri gora yn Llanybryn. |
| (1, 0) 274 | Dynon o farn a syniata, 'lwch-chi. |
| (1, 0) 276 | Dyma restar y pleidleiswyr: fuas-i oria maith nithwr yn 'u rannu a'u dethol nhw: a ma-hi'n dod i hyn: ma 'na 372 o bleidleiswyr ar y restar, yn mynychu capeli fel y canlyn: Seion, capal Nathanial a finna, 94; Carmal, capal Siencyn Bifan, a wth gwrs, ych capal chitha, Tomos Jones, 87; Nebo, ych capal chi, Rhys Pritchard, 62; Pisgah, ych capal chi, Dafydd Peters, 57; 61 yn mynd i'r Eclws; cyfanswm 361. |
| (1, 0) 278 | 372. |
| (1, 0) 280 | Pump gwrthgiliwr, petwar ddim yn cretu, a ma 'na ddou, wn-i ddim beth i wêd am danyn-nhw. |
| (1, 0) 282 | Ia, ia, ond cofiwch fod gan bob un ohonyn nhw fôt. |
| (1, 0) 286 | Ma nhw lawar mwy tepyg o foto drosto-chi na thros Siencyn. |
| (1, 0) 287 | Ta pun, fe gymrwn y capeli nawr bob yn un: Carmal gynta, capal Siencyn Bifan. |
| (1, 0) 288 | Chewn-ni fawr os dim fôts o Garmal. |
| (1, 0) 297 | Da iawn. |
| (1, 0) 298 | Capal ni nesa, Seion, 94 o fôts. |
| (1, 0) 299 | Fe ddylsan gal rheina i gyd ond rhyw ddwy ne dair. |
| (1, 0) 302 | Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|. |
| (1, 0) 304 | 'Dwy-i ddim yn gwêd 'i fod-a, ond fe 'llwch fentro hyn; yn ol barn Hugh Parry, fyddwch-chi ddim yn deilwng i fod yn |Rural District Councillor|. |
| (1, 0) 305 | Dyna un arall, Moses Griffith, fe'i troisoch-a mâs o'r Rechabiaid. |
| (1, 0) 307 | 'Dwy-i ddim yn gwêd llai, ond fydd dim fôt i chi manna. |
| (1, 0) 308 | Nawr, os dotwn-i Seion a Charmal gita'i gilydd, 'rwy'n barnu fod 'na fajority o ryw ucian ar ochor Nathanial. |
| (1, 0) 311 | Beth am ych capal chi, Rhys─Nebo, 62 o fôts? |
| (1, 0) 313 | 'Dwy-i ddim yn meddwl y caiff-a 40, gwetwch 35. |
| (1, 0) 314 | Chi nesa, Dafydd─Pisgah, 57 o fôts. |
| (1, 0) 315 | DAFYDD |
| (1, 0) 317 | Wel a gwêd y gwir, ma hi dicyn yn lletwith. |
| (1, 0) 318 | Chi'n gweld, ma-hi'n sefyll fel hyn: ma gwraig Siencyn Bifan yn gnithar i fam-yng-nghyfraith whâr gwraig yn gwinitog ni. |
| (1, 0) 319 | Ia, dyna'r gwaetha o-heni. |
| (1, 0) 320 | Otych-chi'n cretu y caiff-a ddeg o fôts? |
| (1, 0) 324 | Fe wetwn bymthag. |
| (1, 0) 325 | Nawr, a chymryd y petwar capal gita'i gilydd, 'dos 'na fawr o waniath rhwng un a'r llall; falla fod gen Nathanial fantas o rhyw ddeg ne racor o fôts. |
| (1, 0) 326 | Fe welwch felny fod y lecshwn yn troi ar fôts yr Eclws, a ma'n hyfrydwch mawr gen-i i hysbysu i chi fel pwyligor y bydd gwŷr yr Eclws o'n hochor ni bron bob un. |
| (1, 0) 327 | Ma Nathanial wedi addo buwch i'r Ficar, idd 'i rafflo yr wthnos nesa. |
| (1, 0) 330 | Ia, buwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd. |
| (1, 0) 331 | Dyna 'ngwaith i 'lwchi, tocynna swllt yr un. |
| (1, 0) 348 | |Political Economy|. |
| (1, 0) 352 | Gallwn, yn enw'r bendith. |
| (1, 0) 353 | 'Ryn-ni wedi ennill y lecshwn; fe ddylsan ofalu i bito 'i cholli hi eto. |
| (1, 0) 354 | Os gen un o chi awgrym? |
| (1, 0) 367 | Os. |
| (1, 0) 374 | Wath yn y byd am y trethi, dim ond i ni gâl cyfla i faclu Siencyn ynglŷn â'i dai. |
| (1, 0) 378 | Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod. |
| (1, 0) 394 | Naddo; 'dyw hi ddim mas eto. |
| (1, 0) 433 | Y chi a'ch "itha right"; enillwch chi byth os na newch-chi. |
| (1, 0) 437 | O'r gora ta! |
| (1, 0) 438 | Dyma fi yn ymddiswyddo. |
| (1, 0) 440 | Dyna'ch agant-chi o hyn i mâs. |
| (1, 0) 441 | Rwy'n ymddiswyddo! |
| (1, 0) 443 | Otw, Mr. Bifan, dewch miwn. |
| (1, 0) 488 | Y fi! |
| (1, 0) 489 | Gofalwch be 'chi'n wêd, Mr. Bifan, ne fe fynna'r gyfrath arnoch-chi, am slander a |damages|. |