|
|
|
|
(1, 1) 11 |
Do, mam; ond alla i ddim godde pethe fel ma nhw bŵer yn rhagor. |
|
|
(1, 1) 16 |
Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion. |
|
|
(1, 1) 19 |
Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn |gneud| rhwbeth. |
|
|
(1, 1) 23 |
Wel, dyma beth sy'n bod, mam. |
(1, 1) 24 |
Ych chi'n y 'ngweld i newydd ddod 'n ol â'r llwyth glo 'ma. |
(1, 1) 25 |
Dyna fe wedi costi bron cymint i fi yn y gâts âg ar ben y lefel. |
|
|
(1, 1) 27 |
Wyth gwaith y tales i heddy, a grot bob tro! |
(1, 1) 28 |
'Dôs dim sens yn y peth. |
(1, 1) 29 |
Doi ag wyth am werth triswllt o lo! |
(1, 1) 30 |
A neb yma'n gweyd dim. |
(1, 1) 31 |
Neb trwy blwyf Llannon yn gneud dim i gâl gwared o'r gâts y felltith 'ma! |
(1, 1) 32 |
Ma pob man arall, mam, yn codi fel un gwr. |
(1, 1) 33 |
Ma shir Gâr i gyd ar ddihun─a Llannon yn cysgu. |
(1, 1) 34 |
Fe fydd raid i rwun gynnu'r tân yma hefyd, ag wrth i fi dalu'r rot ddiwetha yng ngât Llether Mawr, gynne, ôn i'n shwr pwy ôdd i ddechre. |
|
|
(1, 1) 45 |
Os, ma whant tipyn o gino arna i, hefyd, mam. |
(1, 1) 46 |
Ond fydda i fawr dishtawach ar ol i gâl e. |
(1, 1) 47 |
Pwy dŵel all dyn fod? |
(1, 1) 48 |
Rhy dŵel ŷn ni yma. |
(1, 1) 49 |
Pan bo fi'n meddwl am yr Eglwys Wen ag ochre Castell Newydd Emlyn, w i'n timlo'n bod ni'n fwy nag ôs ar ol. |
(1, 1) 50 |
Ble ŷn |ni| yn ochor gwŷr Cynwil, ne wŷr Llansadwrn, ne wŷr Llandybie? |
(1, 1) 51 |
Dŷn ni ddim yn werth yn seiffro. |
(1, 1) 52 |
Ma 'ngwâd i'n berwi at y dynon côd sy yn Llannon a Llanedi 'ma. |
(1, 1) 53 |
Dôs 'ma neb â thipyn o asgwrn cefen 'dag e. |
(1, 1) 54 |
Dynon godde popeth sy'n Llannon, mam. |
|
|
(1, 1) 56 |
Daw, mam fach, fe ddaw amser gwell, ond ddaw e ddim heb i rwun i brynu fe, a'i brynu fe'n brud, f'alle. |
(1, 1) 57 |
Ddaw e byth, mwy na theyrnas nefodd, wrth ddishgwl, a godde, godde o hyd. |
|
|
(1, 1) 73 |
A dyma'r degwm 'ma, nhad! |
(1, 1) 74 |
Ma Goring wedi brynu fe, ag wedi godi e deirgwaith y peth ôdd e. |
|
|
(1, 1) 76 |
A dyma'r dreth eglws yn dala fel âg ôdd hi. |
(1, 1) 77 |
Ddaw honno ddim lawr, nhad, tra bo cloch mwn clochty. |
|
|
(1, 1) 82 |
Fe gewn dalu popeth ŷn ni'n gweyd dim yn erbyn u talu nhw, nhad. |
(1, 1) 83 |
Dir yn helpo ni, dyma i chi ddeddf newydd y tlodion 'ma. |
(1, 1) 84 |
'Dyw hi ddim hanner cystled â'r hen. |
(1, 1) 85 |
Ond ma cefne dynon sy'n folon i'r dreth eglws, ag yn folon i'r degwm 'ma ma Goring yn i hala ar i rasis, yn ddigon llydan. |
(1, 1) 86 |
A dyma i chi'r cwnstablied newydd 'ma sy'n byta'r wlad, a'r dyn 'ma sy'n ben arnyn nhw â'i arian mawr. |
(1, 1) 87 |
A dyma i chi'r haid 'ma o swyddogion y dreth. |
(1, 1) 88 |
Ma nhw'n wâth na locustiaid Joel, 'slwer dydd. |
|
|
(1, 1) 90 |
Alla i ddim credu dim o'r short, nhad, esguswch fi'n gweyd tho chi. |
(1, 1) 91 |
Plygwch chi, a fe gewch blygu nes bo'ch pen chi yn y baw, a fe ddaw'r gyfreth â'i cheffyle drwstoch chi wedyn. |
|
|
(1, 1) 97 |
W i'n meddwl gneud mwy na chodi 'nghloch, nhad. |
(1, 1) 98 |
Ddŵa i ddim i glôs Tyisha to, a thalu doi ag wyth i'r gâts am werth triswllt o lo, fentra i chi. |
|
|
(1, 1) 118 |
Itha gwaith âg e. |
|
|
(1, 1) 122 |
Ma 'ngwâd i wedi twymo, ys cetyn, mam. |
(1, 1) 123 |
Shwd ma godde'r pethe 'ma'n rhagor? |
|
|
(1, 1) 139 |
Ie'n wir, mam. |
(1, 1) 140 |
Odd gen i olwg ar John. |
(1, 1) 141 |
Bachgen trwyddo yw John Morgan. |
(1, 1) 142 |
A drychwch ar Bontarddyles. |
(1, 1) 143 |
Ma hi fel dinas girog o'r Hen Destament, yn byrth o bob pen, heb sôn am i chenol hi. |
(1, 1) 144 |
Grindwch chi arna i─fe glywwn ni rwbeth am Gât y Bont, ag am Gât yr Hendy, cyn bo hir, er gwitha'r Capten Napier 'na a'i griw. |
(1, 1) 145 |
A falle clywwn ni rwbeth am le sy'n nes na'r Bont, na'r Hendy. |
|
|
(1, 1) 149 |
O wel, ma'r ffermwyr 'ma fel côd! |
(1, 1) 150 |
Ond pwy ŵyr? |
(1, 1) 151 |
Ma rhai ohenyn nhw yn dechre dod mas o'u plishg, a ma 'ngobeth i'n gryf mwn tri neu bedwar ohenyn nhw. |
(1, 1) 152 |
Fe gwrddes â Dai'r Cantwr a Shoni Sgubor Fawr heddy, a mi ddŵa nhw i gwrdd nesa'r Allt Fawr. |
(1, 1) 153 |
Yn ni wedi cwrdda 'no droeon─odyn─a gneud dim. |
(1, 1) 154 |
Ond ma'r byd i wella rwbryd, er gwitha nhad, a phan ddaw'r tân o'r diwedd, dros Fynydd Bach Llannon, w i'n meddwl y bydd 'no ffagal gwerth i gweld. |