| (1, 0) 38 | Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno? |
| (1, 0) 39 | Dewch, ma-hi'n mhell wedi'r amsar yn barod. |
| (1, 0) 51 | Oti, fe 'llwch fentro; fe gelswn-i fynd heb scitsha cyn y plygsa Sarah o mlan i felna. |
| (1, 0) 53 | Pitwch a wilia yn fach am y twbin, Mari; llestar o barch yw hwnna cofiwch. |
| (1, 0) 54 | Ma 'na lawar i hen goliar yn wara'r delyn yn fendigetic yng ngogoniant heno, olchws 'i grôn du filodd o witha miwn twbin fel hwnna. |
| (1, 0) 71 | Ma'n well i ni fynd. |
| (1, 0) 76 | Clwad beth? |
| (1, 0) 84 | Pwy isha bwtwn arall sy? |
| (1, 0) 85 | Dewch fel 'r ych-chi nawr. |
| (1, 0) 86 | Fe naiff un bwtwn y tro am heno. |
| (1, 0) 93 | Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i. |
| (1, 0) 96 | Gwetwch chi beth fynnwch-chi, par o galasis pert yn-nhw. |
| (1, 0) 100 | Falla nag ych-chi ddim wedi dod i ddeall y wheels bach 'na eto. |
| (1, 0) 101 | Synnwn i damad nawr nad rai felna ma proffeswrs y coleg yn wishgo. |
| (1, 0) 116 | Pitwch chi gofitio dim am y twbin, Mari, fe ddota-i bobpath yn daclus i chi. |
| (1, 0) 117 | Obadiah, cymerwch afal yn hwn gita fi. |
| (1, 0) 119 | Matthew, dewch chitha a'r ffetan a'r box sepon 'na mas. |
| (1, 0) 120 | (MATTHEW yn ufuddhau ac yn canlyn.) |
| (1, 0) 129 | Wel byddwn, yn enw pob synnwyr. |
| (1, 0) 131 | A pheth arall, 'dyw dyn ddim yn licio poeri yn y rwm genol. |
| (1, 0) 134 | 'D ôs dim isha i chi fynd i unman. |
| (1, 0) 135 | 'Rwy-i yn dymuno cynnyg yn ffurfiol fod Mrs. Williams yn aelod o'r pwyllgor yma i bartoi program ar gyfar eisteddfod fawreddog capal Pisgah. |
| (1, 0) 140 | Wedi gynnyg a'i eilio, pob un sy dros y cynyciad? |
| (1, 0) 144 | Ma gen-i welliant: 'r wy-i yn cynnyg fod gwr-y-ty, Malachi Williams, yn cymeryd y gatar. |
| (1, 0) 146 | Pob un o'r un farn?— |
| (1, 0) 148 | Nawr dyma'r man gora i chi ishta. |
| (1, 0) 150 | Fe af finna man hyn. |
| (1, 0) 159 | Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith. |
| (1, 0) 169 | Ordor Mari! |
| (1, 0) 197 | Ordor, Mari. |
| (1, 0) 205 | Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd. |
| (1, 0) 206 | Fel ych chi gyd yn gwpod, fe benderfynws eclws Pisgah, fishodd ynol, i gynnal 'steddfod dydd Calan nesa. |
| (1, 0) 212 | Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall— |
| (1, 0) 216 | Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni. |
| (1, 0) 221 | Malachi... |
| (1, 0) 222 | Mr. Cadeirydd, glwsoch-chi? |
| (1, 0) 223 | Os nag yw Mari yn tynnu 'i gira nol ar unwaith dyma fi yn ymddiswyddo o'r pwyllgor, a mwy na hynny, fe af fi a'i hachos hi o flaen y seiat,—ma gen i ddicon o witneson. |
| (1, 0) 234 | Do, fe benderfynson fynd yn grôs i ni, fe benderfynson gynnal 'steddfod yn Salam ar yr un dwarnod a ninna. |
| (1, 0) 237 | Nawr, 'dwy-i ddim am wêd dim byd yn gas, "Parhaed brawdgarwch" weta i. |
| (1, 0) 239 | Ond 'r'yn-ni gyd yn gwpod shwt dacla sy yn eclws Salam. |
| (1, 0) 242 | 'D yn-ni ddim yn mynd i ffraeo â aelota Salam. |
| (1, 0) 244 | Ma'n well i ni gymryd popath yn dawal, miwn ysbryd cariad. |
| (1, 0) 246 | Ond 'r un pryd, 'dos dim isha i ni ildo iddyn nhw! |
| (1, 0) 248 | 'Dos dim isha i ni fynd o dan 'u trad nhw! |
| (1, 0) 250 | C'uwch cwd a ffetan, myn brain-i! |
| (1, 0) 252 | 'Ryn-ni wedi cwrdd ma heno i nithir program. |
| (1, 0) 253 | Fe gaiff y program fynd at y printar fory, fe fydd yn barod idd 'i ddosbarthu dydd Sul, ac os bydd aelota Salam o'r wynab i gynnal 'steddfod 'r un dwarnod a ni, ar ol i ni ddod a'n program mas o'u blan nhw, wel—'dwy-i ddim am weld un o honyn nhw byth, yn y byd yma na'r byd a ddaw. |
| (1, 0) 261 | Nagyw, nagyw, |point of ordor| bachan, |point of ordo|r—wastod miwn pwyllgor, |
| (1, 0) 268 | 'Steddfod fach! |
| (1, 0) 276 | Consart! talu arian mawr i ferched hannar nôth i ganu yn nhy Dduw! |
| (1, 0) 287 | Pwy isha i chi 'mhela â'r hen grachan yna nawr sy? |
| (1, 0) 288 | Fel gwetas-i, "Parhaed brawdgarwch." |
| (1, 0) 310 | Falla 'u bod nhw wedi meddwl, ond ôn-nhw ddim wedi penderfynu dim. |
| (1, 0) 311 | Os gita chi ddim hawl i wêd yn bod ni wei mynd yn grôs iddyn nhw. |
| (1, 0) 318 | Nagw inna chwaith. |
| (1, 0) 322 | Mlan â'r program, mlan â'r program. |
| (1, 0) 344 | 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program. |
| (1, 0) 346 | "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." |
| (1, 0) 350 | Cofio, wel am otw. |
| (1, 0) 353 | A thwisan ofnatw och chitha, Mari. |
| (1, 0) 358 | Malachi bach, plant ôn-ni. |
| (1, 0) 364 | A finna'n sychu'ch gwynab chi â nishad bocad! |
| (1, 0) 370 | 'R wy inna yn 'i eilio fa. |
| (1, 0) 371 | Fe ddaw'r hen amsar'n ol mor felys. |
| (1, 0) 387 | Shwt ddernyn yw dernyn—beth och-chi yn 'i alw fa, Matthew? |
| (1, 0) 389 | Ia, dyna fe, shwt beth yw-a? |
| (1, 0) 398 | Allwch chi ddim roi engraifft i ni, pwy ddernyn ôdd ar ych meddwl chi? |
| (1, 0) 407 | Ia,ia,—ia. |
| (1, 0) 421 | Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanas caru Malachi Williams? |
| (1, 0) 425 | |Classical|, nag yw! |
| (1, 0) 442 | Ishteddwch i lawr, Matthew, a pitwch a bod shwt fabi. |
| (1, 0) 443 | 'R wy'-i'n cynnyg "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." |
| (1, 0) 447 | 'Nawr, Mr. Cadeirydd, whara teg, lan âg ê, lan âg ê. |
| (1, 0) 490 | Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru. |
| (1, 0) 500 | Dewch mlan, Malachi, ne man hyn y byddwn-ni. |
| (1, 0) 501 | Barddoniath a ryddiath. |
| (1, 0) 510 | Ordor, ordor. |
| (1, 0) 516 | Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y |New Theology| 'na. |
| (1, 0) 523 | Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora. |
| (1, 0) 527 | "Noah yn mynd miwn i'r Arch." |
| (1, 0) 533 | Gobitho, Mari, nag ych-chi ddim yn wherthin ar ym mhen i. |
| (1, 0) 537 | O, felna iefa? |
| (1, 0) 554 | Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch." |
| (1, 0) 570 | Ma reswm yn 'yna hefyd. |
| (1, 0) 582 | Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i. |
| (1, 0) 604 | Matthew! |