Cuesheet

Ei Seren Tan Gwmwl

Lines spoken by Janet (Total: 126)

 
(1, 0) 520 O... esgusodwch fi, Mr. Huw, 'wyddwn i ddim fod yma neb dieithr, a mi ddois i mewn heb gnocio fel arfer.
 
(1, 0) 532 Yn dda iawn diolch, Mr.... Mr. Williams, yntê?
 
(1, 0) 538 Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl.
(1, 0) 539 Galw i weld Mrs. Huw wnes i, ond gan nad yw yma...
 
(1, 0) 550 Hen lanc ydych chwi, mae'n amlwg, Mr. Williams.
 
(1, 0) 560 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams?
 
(1, 0) 570 O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw.
 
(1, 0) 575 Rhyw |flying visit|, fel pe tae...
 
(1, 0) 580 Mae'n amlwg nad ydych yn gadael i'r hen ryfel 'ma effeithio rhyw lawer arnoch, Mr. Williams.
(1, 0) 581 Gwneud y gorau o'r gwaethaf?
 
(1, 0) 583 Gallai yn siŵr.
(1, 0) 584 Mae hi'n amser cyfyng arnom.
(1, 0) 585 Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau a oes rhaid i ddynion ryfela?
 
(1, 0) 589 Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela.
 
(1, 0) 592 Jac Glan-y-Gors.
 
(1, 0) 597 Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 598 Mi glywsoch sôn amdano yn siŵr, Mr. Williams?
 
(1, 0) 601 Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|?
 
(1, 0) 603 Llyfr eithaf diddorol, wrth gwrs, er nad oes rhyw lawer o |polish| yn perthyn iddo.
 
(1, 0) 606 Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus?
 
(1, 0) 608 Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny.
 
(1, 0) 610 Ond cofiwch, ar y cyfan 'r wy'n cyd-weld â syniadau'r awdur.
 
(1, 0) 614 Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol.
 
(1, 0) 616 Yn hynod felly.
(1, 0) 617 Dweud llawer peth digon chwerw ac annheg, yn enwedig am yr offeiriaid.
 
(1, 0) 621 Ond y mae hi ar ben arno, druan.
 
(1, 0) 623 Clywais yn y pentref heno iddo orfod dianc yn ddi-seremoni o Lundain, a chyrraedd Cymru.
(1, 0) 624 Mae cryn gyffro yma ynghylch y peth.
 
(1, 0) 626 Gobeithio'n wir.
(1, 0) 627 Hei lwc na chaiff yr un offeiriad afael ynddo.
 
(1, 0) 633 Felly'n wir!
 
(1, 0) 636 Wel, synnwn i ddim, wyddoch.
 
(1, 0) 638 Trueni fyddai i Jac Glan-y-Gors fynd i afael dyn felly, onid e?
 
(1, 0) 640 Mae'n rhaid imi fynd adre'n ôl, wyddoch.
(1, 0) 641 Esgusodwch fi, Mr. Huw, ydi'r pecyn yr addawodd Mrs. Huw ei adael imi wrth law?
(1, 0) 642 Dillad, 'r wy'n credu.
 
(1, 0) 644 Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall.
 
(1, 0) 648 Wel, Mr. Williams, 'r wy'n falch imi gael sgwrs â chwi, er nad ydym yn cyd-weld yn hollol ynglŷn â'r gwalch Jac Glan-y-Gors yna.
 
(1, 0) 650 Efallai na welaf mohonoch eto.
(1, 0) 651 Byddwch yn ein gadael yn lled fuan, mae'n siŵr.
 
(1, 0) 654 |Flying visit| i ryw bentref arall efallai, pwy a ŵyr?
 
(1, 0) 658 O?
(1, 0) 659 Dyna beth od.
(1, 0) 660 Efallai iddi ei adael yn y llofft, Mr. Huw.
(1, 0) 661 A fyddai'n ormod gennych fynd i chwilio yno?
(1, 0) 662 Os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 667 Wel... JAC GLAN-Y-GORS!
 
(1, 0) 673 O'r dechrau cyntaf.
(1, 0) 674 'R wy'n cofio eich gweld un tro yn rhywle.
(1, 0) 675 Nid ydych yn ddyn hawdd ei anghofio...
 
(1, 0) 678 Gwrandewch!
(1, 0) 679 'D oes dim moment i'w golli... 'r ydych mewn perygl dybryd.
(1, 0) 680 Ewch ar unwaith!
(1, 0) 681 Er mwyn Rolant Huw a'i wraig... ac er eich mwyn chwithau.
(1, 0) 682 Peidiwch oedi... 'r wy'n crefu arnoch...
 
(1, 0) 684 Mae gennyf ormod o feddwl ohonoch... fel dyngarwr... i'ch gweld yn mynd i'r ddalfa... yma o bob man...
(1, 0) 685 Daw Mr. Huw yn ôl toc heb ei becyn.
(1, 0) 686 Rhaid oedd cael gwared ohono er mwyn eich rhybuddio.
(1, 0) 687 Ond ewch ar unwaith!
(1, 0) 688 Mae gennyf ofn amdanoch... ofn.
 
(1, 0) 692 Peidiwch â thrafferthu, Mr. Huw.
(1, 0) 693 Gallaf alw eto, efallai.
(1, 0) 694 Diolch yn fawr.
 
(1, 0) 696 Wel, noson dda, eich dau.
(1, 0) 697 Efallai na chewch amser i alw acw, Mr. Williams.
(1, 0) 698 Gresyn!
(1, 0) 699 Byddai fy nhad yn falch o'ch cael dan ei do.
(1, 0) 700 Ond os ydych am alw, cofiwch yr address...
(1, 0) 701 Y Vicarage!
 
(1, 0) 901 Y fi sydd i benderfynu hynny.
(1, 0) 902 Deuthum i wybod fod rhywbeth ar droed yma.
(1, 0) 903 Beth ydyw?
 
(1, 0) 905 Pa waith?
 
(1, 0) 908 Ni symudaf gam nes cael gwybod beth sy'n digwydd yma.
 
(1, 0) 914 Ac yr ydych am ei daflu i garchar?
 
(1, 0) 916 Y mae rhywun wedi ei fradychu.
(1, 0) 917 Pwy?
 
(1, 0) 921 Ifor?
 
(1, 0) 927 O Ifor, Ifor, yn bradychu ffrind eich tad... a'ch teulu...
 
(1, 0) 932 Er fy mwyn i, Ifor?
(1, 0) 933 Bradychu...
 
(1, 0) 951 Arhoswch!
 
(1, 0) 954 Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych.
 
(1, 0) 956 Ond nid o flaen Capten Rogers.
 
(1, 0) 958 Yr wyf o ddifrif.
(1, 0) 959 Capten Rogers, a fyddwch chwi cystal â mynd allan am funud neu ddau?
 
(1, 0) 965 Dim ond hyn.
(1, 0) 966 Os ewch â'r dyn hwn i garchar, rhaid i chwi f'anfon innau hefyd.
 
(1, 0) 968 Ni fum erioed mor sicr.
 
(1, 0) 971 Am fy mod o'i blaid, yn coleddu yr un syniadau am ryddid a chyfiawnder...
 
(1, 0) 976 Efallai yn wir.
(1, 0) 977 Ond nid fy nghrefydd a'm cydwybod.
 
(1, 0) 982 Ie.
(1, 0) 983 Ac os anfonwch ef i garchar, rhoddaf finnau fy hun i fyny i'r awdurdodau yn Rhuthun fel dilynydd Jac Glan-y-Gors.
 
(1, 0) 989 'R wy'n benderfynol!
(1, 0) 990 Gollyngwch ef, a 'r wy'n addo na fydd yn aros o fewn y plwy hwn.
(1, 0) 991 Ond os anfonwch ef i Ruthun...
 
(1, 0) 994 Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel...
 
(1, 0) 996 Nid y chwi sydd i benderfynu bellach.
 
(1, 0) 999 Efallai.
(1, 0) 1000 Ond hefyd peth bendigedig a hyfryd.
 
(1, 0) 1002 Ond a ellwch chwi oddef gweld eich unig ferch... cannwyll eich llygad... yn mynd i garchar?
(1, 0) 1003 Yn syrthio i ddwylo Milishia Sir Ddinbych?
 
(1, 0) 1007 Dyna'r dewis.
 
(1, 0) 1009 Ac nid oes symud arno!
 
(1, 0) 1018 Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau.
 
(1, 0) 1022 Dywedwch a fynnwch wrtho.
(1, 0) 1023 Yr ydych yn ŵr o ddylanwad ac awdurdod.
(1, 0) 1024 Ond anfonwch y Milishia i ffwrdd yn ddioed.
 
(1, 0) 1040 Cewch... Jac.
 
(1, 0) 1042 Oedd.
(1, 0) 1043 Y mae gennyf gymaint o feddwl o...
 
(1, 0) 1045 Efallai'n wir!
 
(1, 0) 1051 Na, Jac.
(1, 0) 1052 'R wyf wedi addo mai fel arall y mae hi i fod.
(1, 0) 1053 Yma y mae fy lle i.
(1, 0) 1054 Gallaf wneud llawer... dylanwadu ar fy nhad, a cheisio dod â rhyw gymaint o heulwen i drueiniaid tlawd y pentref hwn.
 
(1, 0) 1056 Ac Ifor, druan.
(1, 0) 1057 Rhaid ceisio'i helpu yntau.
(1, 0) 1058 Yma y mae'n rhaid imi aros.
 
(1, 0) 1060 Ond daliwch i ymladd, Jac.
(1, 0) 1061 Byddaf gyda chwi yn y frwydr.
(1, 0) 1062 Cadwch eich golwg ar y Seren...
(1, 0) 1063 Wel, dyma fi'n mynd...
 
(1, 0) 1068 Nos da, Jac.
(1, 0) 1069 Cofiwch am y |Seren|.