|
|
|
|
(1, 0) 622 |
Na, mi ydw' i'n iawn, Helga. |
|
|
(1, 0) 625 |
Rhy hwyr, Mr. Botha. |
|
|
(1, 0) 627 |
Wedi boddi. |
(1, 0) 628 |
Y ddau. |
(1, 0) 629 |
Petawn i bum munud ynghynt... |
(1, 0) 630 |
Pum munud... |
(1, 0) 631 |
Ond 'doedd dim modd mynd atyn' nhw. |
(1, 0) 632 |
'Roeddyn' nhw mewn twnel cul yn arwain o'r brif siafft... |
(1, 0) 633 |
Fe wyddoch amdano? |
|
|
(1, 0) 635 |
Ac ar y munud olaf mi ddiffoddodd y trydan... |
(1, 0) 636 |
Mae'n ddrwg gen' i, Mr. Botha. |
|
|
(1, 0) 639 |
Dim ond pum munud... |
(1, 0) 640 |
Ond fe gododd y dŵr yn rhy gyflym. |
(1, 0) 641 |
A heb drydan 'doedd dim modd cael y pympiau i weithio. |
|
|
(1, 0) 643 |
Ia, damwain. |
(1, 0) 644 |
Ond 'dyw gwybod hynny'n fawr o help... |
(1, 0) 645 |
'Roeddwn i o fewn ugain llath iddyn' nhw. |
(1, 0) 646 |
Eu clywed yn gweiddi, a minnau'n hollol ddiymadferth... |
(1, 0) 647 |
'Alla' i byth anghofio... |
(1, 0) 648 |
Ac yna, y distawrwydd... |
(1, 0) 649 |
Mi wyddoch pa mor ddistaw y gall y pwll fod, Mr. Botha. |
|
|
(1, 0) 653 |
Do, mor sydyn ag y cododd. |
(1, 0) 654 |
Mi fedrais fynd i mewn... |
(1, 0) 655 |
'Roedd y ddau wrth geg y twnel, yn lled-orwedd ar y graig... |
(1, 0) 656 |
Eu breichiau wedi ymestyn... fel petaent wedi eu croeshoelio... |
(1, 0) 657 |
Maddau i mi, Helga. |
|
|
(1, 0) 660 |
'Rwy' i wedi gweld damweiniau o'r blaen... |
(1, 0) 661 |
Fe laddwyd tri y llynedd, os wyt ti'n cofio, pan ddisgynnodd y rwbel... ond 'roedd hynny'n wahanol, rywsut. |
(1, 0) 662 |
Fe'u lladdwyd yn y fan: 'wydden' nhw ddim... |
(1, 0) 663 |
'Roedd eu diwedd yn lân, heb boen, heb ofn... |
(1, 0) 664 |
Nid fel y ddau yma heddiw... angau yn cripian atyn' nhw... fesul modfedd... |
|
|
(1, 0) 667 |
Pum munud...! |
|
|
(1, 0) 670 |
Mi rown i unrhyw beth... |
(1, 0) 671 |
'Roedd eu llygaid yn agored, ac arswyd wedi fferu ynddyn' nhw. |
(1, 0) 672 |
Fe fydd fel hunlle imi ar hyd f'oes. |
|
|
(1, 0) 674 |
Dim ond wythnos yn ôl. |
(1, 0) 675 |
'Welais i ddim allan o'i le ynddo fo. |
|
|
(1, 0) 677 |
Ia, ond yr eironi chwerw ydy'... |
|
|
(1, 0) 679 |
'Roeddwn i wedi rhagweld rhywfaint o beryg' yn y siafft arall. |
(1, 0) 680 |
Dyna pam y symudodd Malán y gweithwyr a gafodd eu... boddi heddiw. |
|
|
(1, 0) 682 |
Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb? |
|
|
(1, 0) 684 |
Dyna a ddywedodd Malán, Helga. |
(1, 0) 685 |
Ond ag ystyr gwahanol. |
(1, 0) 686 |
Mi ddywedodd 'mod i'n ffôl i boeni fy mhen am ddau negro! |
|
|
(1, 0) 688 |
"Wyt ti ddim yn sylweddoli," medda' fo, "mae yna ddau ddwsin yn y Dre-Sianti yn barod i gymryd eu lle. |
(1, 0) 689 |
'Does yna byth brinder ohonyn' nhw. |
(1, 0) 690 |
Mi fyddan' yn heidio o flaen y swyddfa bore fory." |
(1, 0) 691 |
Dyna'i union eiriau. |
(1, 0) 692 |
Fel petai'n sôn am anifeiliaid. |
(1, 0) 693 |
Ond wrth gwrs, dyna ydy'r negrod i Malán, — anifeiliaid mud, Mr. Botha! |
|
|
(1, 0) 695 |
'Dwy'i ddim yn gorliwio. |
|
|
(1, 0) 712 |
Naddo, diolch i'r nefoedd. |
(1, 0) 713 |
Mae hyn yn ddigon. |
|
|
(1, 0) 717 |
Na, dim diolch, Mr. Botha. |
|
|
(1, 0) 719 |
Mae fy nillad yn lleidiog, Helga. |
|
|
(1, 0) 727 |
Peidiwch â thrafferthu, Mr. Botha. |
(1, 0) 728 |
Mi fydda' i'n iawn. |
|
|
(1, 0) 734 |
Oes, mae'r ddau yn briod. |
(1, 0) 735 |
Un â phedwar o blant, a'r llall â dau. |
|
|
(1, 0) 739 |
Maddeuwch imi, Mr. Botha... |
|
|
(1, 0) 741 |
Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi. |
|
|
(1, 0) 743 |
'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw? |
|
|
(1, 0) 745 |
Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd. |
|
|
(1, 0) 747 |
Eich pardwn am y tro, Mr. Botha. |
(1, 0) 748 |
'Rwy'n eich adnabod yn bur dda. |
(1, 0) 749 |
'Oddefwch chi ddim i neb gael cam. |
(1, 0) 750 |
Ond fel y gwyddoch, 'dyw'r Cwmni byth yn talu iawn-dâl i'r negro. |
|
|
(1, 0) 753 |
Mae'r awgrym yna'n ddigon, Mr. Botha... |
(1, 0) 754 |
'Rwy'n fodlon. |
|
|
(1, 0) 757 |
Diolch, Helga. |
|
|
(1, 0) 759 |
Fe fydd yn rhaid cau'r siafft yna rŵan, Mr. Botha. |
|
|
(1, 0) 764 |
Gorffwys? |
|
|
(1, 0) 768 |
Gallaf yn siŵr: mi af ati heno... |
(1, 0) 769 |
Diolch ichi eto. |