|
|
|
|
(0, 2) 43 |
Mae'r byd – y ddaear – yn bodoli o fewn cysawd yr haul – un o biliynau o systemau solar sydd yn bodoli yng ngalaeth y Milky Way – sydd yn un o biliynau o galaxies sydd yn bodoli o fewn ein bydysawd. |
(0, 2) 44 |
~ |
(0, 2) 45 |
Mae'r tebygolrwydd o fywyd yn y bydysawd hwn yn finiscwl. |
(0, 2) 46 |
~ |
(0, 2) 47 |
Ni ddylai bywyd fodoli. |
(0, 2) 48 |
~ |
(0, 2) 49 |
Er bod bron dim siawns ystadegol o unrhyw fywyd yma o gwbl, mae'r bydysawd yn llawn bywyd. |
(0, 2) 50 |
Bywyd yn ffynnu ar ddaear y solar system hon, ac ar blanedau eraill ar hyd y biliynau o solar systems o fewn y biliynau o galaxies yn ein bydysawd. |
(0, 2) 51 |
~ |
(0, 2) 52 |
Mae'r bydysawd yn fyw, a phob un darn o fywyd yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth. |
(0, 2) 53 |
~ |
(0, 2) 54 |
Pob un bod dynol. |
|
|
(0, 7) 829 |
Datganiad... |
(0, 7) 830 |
~ |
(0, 7) 831 |
Ar y blaned hon, mae'r tebygolrwydd o fywyd dynol yn agos at ddim. |
(0, 7) 832 |
~ |
(0, 7) 833 |
Mae'r tebygolrwydd bod dyn a menyw yn cwrdd, yn teimlo atyniad, yn aros gyda'i gilydd ac yn penderfynu ceisio am blentyn yn un mewn pedwar deg miliwn. |
(0, 7) 834 |
~ |
(0, 7) 835 |
O ganlyniad, mae'r tebygolrwydd bod un o wyau'r fenyw yn dod i gysylltiad gydag un o sbermau'r dyn yn un mewn pedwar can cwadriliwn. |
(0, 7) 836 |
~ |
(0, 7) 837 |
Mae tebygolrwydd bywyd y dyn a'r fenyw yn dibynnu ar bob un o'r cenedlaethau cynt yn atgenhedlu ac yn cael plentyn hefyd – can pum deg mil o genedlaethau o'u blaenau, ac un wy yn dod i gysylltiad gydag un sberm bob tro nes iddyn nhw greu ein menyw a'n dyn ni. |
(0, 7) 838 |
~ |
(0, 7) 839 |
Mae'r tebygolrwydd o fodolaeth, felly, i bob person ar y ddaear heddiw yn un mewn deg i'r pŵer o ddwy filiwn, chwe chant ac wythdeg pum mil. |
(0, 7) 840 |
~ |
(0, 7) 841 |
Sydd, mewn termau cyffredinol, yn zero. |
(0, 7) 842 |
~ |
(0, 7) 843 |
A dyw hynny'n ddim o'i gymharu â thebygolrwydd y blaned ei hun o gynnal bywyd yn y lle cyntaf dros bedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl. |
|
|
(0, 7) 845 |
Mae bywyd yn wyrthiol. |
(0, 7) 846 |
~ |
(0, 7) 847 |
Yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth. |
|
|
(0, 9) 1124 |
Rydw i yma, Alun. |
|
|
(0, 10) 1133 |
Ymhle? |
|
|
(0, 10) 1135 |
O ganlyniad i'r ergyd. |
|
|
(0, 10) 1137 |
Yr ergyd wrth lanio. |
|
|
(0, 10) 1139 |
Nid yw pod fel hyn yn trosglwyddo teimladau ffisegol. |
|
|
(0, 10) 1141 |
Mae'n ymddangos nad yw'r anaf wedi effeithio ar weithrediad y pod. |
(0, 10) 1142 |
Rydw i'n ddiolchgar i ti am sylwi. |
|
|
(0, 10) 1144 |
Ym mha gyd-destun? |
|
|
(0, 10) 1148 |
Ydw. |
|
|
(0, 10) 1150 |
O'r chwe emosiwn sylfaenol, rydw i'n medru teimlo pob un ohonynt. |
|
|
(0, 10) 1152 |
Mae gan fodau datblygedig y gallu i deimlo emosiynau sydd yn dod dan chwe changen sylfaenol. |
(0, 10) 1153 |
Gellir dosbarthu pob emosiwn posib i'r chwe chategori hyn. |
|
|
(0, 10) 1155 |
Ond mae'r canghennau sydd yn deillio o'r chwe emosiwn sylfaenol yn gymhleth tu hwnt. |
(0, 10) 1156 |
Yn ddiddiwedd. |
|
|
(0, 10) 1158 |
Sut wyt ti'n gallu teimlo? |
|
|
(0, 10) 1160 |
Dyna yn union sut yr wyf i'n teimlo hefyd, er mai geiriau yw fy unig ffordd i o fynegiant. |
(0, 10) 1161 |
Mae geiriau yn wyddonol, rhesymegol, ffeithiol. |
|
|
(0, 10) 1164 |
Nid yw gweithredoedd ffisegol yn rhan o'n hunaniaeth. |
|
|
(0, 10) 1167 |
Mae fy nghronfa ddata yn egluro mai coflaid yw cwtsh. |
(0, 10) 1168 |
Nid yw cofleidio yn rhan o'n hunaniaeth. |
|
|
(0, 10) 1172 |
Rydw i eisiau profi cwtsh. |
|
|
(0, 10) 1174 |
Hoffwn deimlo cwtsh os gweli di'n dda. |
|
|
(0, 10) 1179 |
Na. |
|
|
(0, 10) 1181 |
Ni allaf deimlo un o'r emosiynau y soniaist amdanynt. |
|
|
(0, 10) 1183 |
Mae fy synwyryddion allanol yn darllen gwasgedd a gwres uchel. |
|
|
(0, 10) 1185 |
Pam wyt ti'n ymddiheuro? |
|
|
(0, 10) 1187 |
Nid yw fy iaith raglenni yn galluogi hynny. |
|
|
(0, 10) 1190 |
Rwyt ti eisiau cwtsh gan dy fam. |
|
|
(0, 10) 1192 |
Mae'r blaned hon yn teimlo ac yn mynegi cariad mewn ffordd arbennig. |
(0, 10) 1193 |
Gwahanol. |
(0, 10) 1194 |
Mae'n brydferth. |
|
|
(0, 10) 1196 |
Nid ar lefel ddynol. |
|
|
(0, 10) 1198 |
Ydy. |
(0, 10) 1199 |
Mae'r cariad ar draws y ddaear hon yn eithriadol. |
(0, 10) 1200 |
Y cysylltiad rhwng bodau dynol. |
(0, 10) 1201 |
Perthyn. |
(0, 10) 1202 |
Perthynas. |
(0, 10) 1203 |
Deuthum i'r blaned er mwyn gweld. |
(0, 10) 1204 |
Er mwyn deall beth sydd yma. |
|
|
(0, 10) 1206 |
Ar ôl colli. |
(0, 10) 1207 |
Er mwyn gwella mewn byd iach. |
|
|
(0, 10) 1209 |
Mae'n llawn lliw. |
(0, 10) 1210 |
Yn llythrennol ac yn emosiynol. |
(0, 10) 1211 |
Mae'n fyd lle mae emosiwn yn gyrru popeth. |
(0, 10) 1212 |
Mae hi'n fyd sydd yn wirioneddol fyw. |
|
|
(0, 10) 1216 |
Mae'n rhaid dysgu i fyw gyda'r boen. |
(0, 10) 1217 |
Fydd e byth yn diflannu. |
|
|
(0, 10) 1220 |
Does dim i ddeall. |
|
|
(0, 10) 1222 |
Mae'n rhan o fywyd. |
(0, 10) 1223 |
Yn y diwedd, mi fyddi di'n gweld... 'Per ardua ad astra'. |
|
|
(0, 10) 1226 |
Cyfieithiad... "Through adversity to the stars." |
|
|
(0, 15) 1463 |
O eni'r blaned pedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl, rwyt ti wedi bod yno. |
(0, 15) 1464 |
O'r dechrau. |
(0, 15) 1465 |
Rwyt ti yma. |
(0, 15) 1466 |
Rwyt ti wedi byw'r daith ac wedi goroesi. |
(0, 15) 1467 |
~ |
(0, 15) 1468 |
Rwyt ti wedi dysgu i siarad. |
(0, 15) 1469 |
I ymladd. |
(0, 15) 1470 |
I garu. |
(0, 15) 1471 |
Galaru. |
(0, 15) 1472 |
~ |
(0, 15) 1473 |
Rwyt ti wedi newid. |
(0, 15) 1474 |
Rwyt ti wedi esblygu. |
(0, 15) 1475 |
Fyddi di'n berson gwahanol ar ôl hwn, ac mae hynny'n iawn. |
(0, 15) 1476 |
Mae'n naturiol. |
(0, 15) 1477 |
Rhaid derbyn y newid a symud ymlaen. |
(0, 15) 1478 |
Derbyn y person yr wyt ti nawr gan gofio'r person oedd yno ddoe. |
(0, 15) 1479 |
Peidio anghofio. |
(0, 15) 1480 |
Paid byth ag anghofio. |
(0, 15) 1481 |
Bydd hynny'n aros gyda ti am oes. |
(0, 15) 1482 |
~ |
(0, 15) 1483 |
Y profiadau hyn sydd wedi ein llunio dros miloedd ar filoedd ar filiynau ar biliynau o flynyddoedd. |
(0, 15) 1484 |
Y profiadau hyn fydd yn parhau i dy lunio di yfory... |
|
|
(0, 15) 1486 |
Ac yfory... |
|
|
(0, 15) 1488 |
Ac ymlaen i'r sêr. |