|
|
|
|
(1, 0) 102 |
Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi. |
(1, 0) 103 |
Mae pethau wedi mynd yn rhy bell. |
|
|
(1, 0) 105 |
Amser a ddengys. |
(1, 0) 106 |
Fe ddaw'r lleill yma'n y man. |
|
|
(1, 0) 108 |
Ia, y gweddill ohono' ni. |
(1, 0) 109 |
Fy nhad, a Seth fy mrawd, Sioned y forwyn a Doctor Morus. |
(1, 0) 110 |
'Rydych yn eu 'nabod i gyd... |
(1, 0) 111 |
Maddeuwch i mi am eistedd i lawr. |
|
|
(1, 0) 113 |
Fel y gwyddoch chi, 'dydy' fy iechyd i ddim fel y dyla' fo fod. |
(1, 0) 114 |
'Wna' i ddim cweryla efo chi am hynny, er mai chi sy'n gyfrifol. |
(1, 0) 115 |
Y dyfodol sy' gen' i dan sylw, nid y gorffennol. |
|
|
(1, 0) 136 |
Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi. |
|
|
(1, 0) 140 |
Gan bwyll, Seth. |
|
|
(1, 0) 144 |
Gwranda arna' i am funud... |
|
|
(1, 0) 147 |
'Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu'r fath beth. |
(1, 0) 148 |
Ond 'setlwn ni mo'r broblem y naill ffordd na'r llall nes y bydd pawb wedi cyrraedd.... |
(1, 0) 149 |
P'le mae nhad? |
|
|
(1, 0) 154 |
Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu. |
|
|
(1, 0) 157 |
Na, Doctor Morus ydy' hwn. |
|
|
(1, 0) 163 |
O rhywbeth yn debyg, doctor. |
(1, 0) 164 |
Ac wedi blino braidd wrth gwrs. |
|
|
(1, 0) 168 |
Ydy' weithia. |
(1, 0) 169 |
Ac yn ddiffrwyth bob yn ail. |
|
|
(1, 0) 175 |
Dyna'r drwg, gwaetha'r modd, doctor. |
(1, 0) 176 |
'Dydy' o ddim. |
|
|
(1, 0) 183 |
Hanner munud, Seth. |
|
|
(1, 0) 185 |
'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon? |
|
|
(1, 0) 188 |
Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol... |
|
|
(1, 0) 190 |
Ac yna, yn sydyn, dyma saib. |
(1, 0) 191 |
'Fedrech chi symud 'run cam ymlaen ond troi yn eich unfan. |
(1, 0) 192 |
Pam? |
|
|
(1, 0) 197 |
Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm. |
(1, 0) 198 |
'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'. |
|
|
(1, 0) 213 |
Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn. |
(1, 0) 214 |
Mae'r hyn a ddywedodd Doctor Morus yn berffaith wir. |
(1, 0) 215 |
'Roedde' ni'n ddigon bodlon cyd-gerdded â chi ar y cychwyn. |
(1, 0) 216 |
Roedd popeth mewn cytgord, a datblygiad naturiol ymhob cymeriad. |
(1, 0) 217 |
Ond yn y man, dyma ni'n cyrraedd y groesffordd. |
(1, 0) 218 |
'Roedde' ni'n hollol sicr pa lwybr i' ddewis. |
(1, 0) 219 |
Ond 'fynnech chi ddim gadael i ni fynd. |
(1, 0) 220 |
Roeddech yn benderfynol o'n hudo ar eich ôl i gyfeiriad arall. |
(1, 0) 221 |
O ganlyniad, ar y groesffordd 'rydy' ni o hyd, a chwithau efo ni. |
|
|
(1, 0) 248 |
Seth! |
|
|
(1, 0) 252 |
Nid mater o asgwrn-cefn ydy' o. |
(1, 0) 253 |
Beth wyt ti'n 'i ddisgwyl i mi 'i wneud. |
|
|
(1, 0) 256 |
Paid â siarad yn wirion, Seth. |
(1, 0) 257 |
'Fedrwn ni ddim. |
|
|
(1, 0) 275 |
Dyma fi, 'nhad. |
|
|
(1, 0) 328 |
Cymaint â chwithau. |
(1, 0) 329 |
'Does dim ystyr iddo y tu allan i brofiad unigol. |
|
|
(1, 0) 416 |
Seth? |
|
|
(1, 0) 418 |
O wel... |
(1, 0) 419 |
Mabli, 'ga'i gyflwyno Dr. Morus?... |
(1, 0) 420 |
Gwraig Seth ydy' Mabli, Doctor. |
|
|
(1, 0) 457 |
Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain. |
|
|
(1, 0) 495 |
'Ydy' o wedi mynd o ddifri'? |
(1, 0) 496 |
Doctor, edrychwch rhag ofn. |
|
|
(1, 0) 535 |
Ond 'rydych yn falch 'i fod o wedi mynd, Sioned? |
|
|
(1, 0) 560 |
Beth am air gennych chi, 'nhad? |
|
|
(1, 0) 574 |
'Dydy' hyn yn golygu fawr o ddim i 'nhad, mae arna'i ofn. |
|
|
(1, 0) 606 |
Ia,—pwl sydyn. |
|
|
(1, 0) 612 |
'Does gen' i fawr o awydd eu cymryd nhw—y tabledi yna 'rwy'n 'i feddwl. |
|
|
(1, 0) 615 |
Hwyrach eich bod yn iawn. |
(1, 0) 616 |
Ac eto, 'dyw poen ddim heb ei fantais. |
|
|
(1, 0) 618 |
Mae o wedi cryfhau fy ffydd i yn ystod y misoedd diwetha' yma, yn un peth. |
(1, 0) 619 |
'Fedra'i ddim esbonio pam, ond mae'n ffaith. |
|
|
(1, 0) 621 |
P'run bynnag, 'rwy'n hyderus y ca' fi ymwared o'r aflwydd ar ôl heno. |
|
|
(1, 0) 624 |
la? |
|
|
(1, 0) 626 |
Dyna'r prif reswm, yn naturiol... |
(1, 0) 627 |
Wrth gwrs 'dydw' i ddim yn disgwyl gwyrth. |
(1, 0) 628 |
Mae o'n siŵr o gymryd tipyn o amser. |
(1, 0) 629 |
Ond mae'r ansicrwydd wedi mynd rwan. |
(1, 0) 630 |
'Roedd hwnnw'n waeth na'r poen os rhywbeth... |
(1, 0) 631 |
Ar be 'rydych chi'n edrych. |
(1, 0) 632 |
Ann? |
|
|
(1, 0) 637 |
Dyna sy'n achosi poen yn fy nghoes, hwyrach... |
(1, 0) 638 |
Ond mae hi'n 'stwythach 'rwan. |
|
|
(1, 0) 640 |
Yr hen simdde fawr!... |
(1, 0) 641 |
'Rwan 'rwy'n sylweddoli,─ 'dydw' i ddim wedi llosgi f'enw ar y pren yma eto. |
(1, 0) 642 |
Wel, pa well achlysur na heno i ddathlu'n rhyddid? |
(1, 0) 643 |
Ple mae'r procer? |
|
|
(1, 0) 645 |
Mae'r hen ŵr wedi f'atgoffa fi lawer tro am hyn. |
(1, 0) 646 |
Fe fydd yn falch pan glyw o fory... |
(1, 0) 647 |
Mae Seth wedi gwneud ers talwm. |
|
|
(1, 0) 649 |
'Does yna ond un lle,—yn y fan yma, o dan enw 'nhad. |
|
|
(1, 0) 651 |
Dyna fo... |
|
|
(1, 0) 653 |
O,—'fuoch chi ddim yn hir iawn, Doctor. |
|
|
(1, 0) 658 |
Ia, mi ydw' i ar gychwyn... |
(1, 0) 659 |
'Fydda' i'n hir, ydych chi'n meddwl, cyn adfer fy iechyd? |
|
|
(1, 0) 661 |
Ond mae gennych ryw syniad? |
|
|
(1, 0) 663 |
Cymaint â hynny? |
(1, 0) 664 |
O, wel, mae Adran Hanes y Brifysgol yn siŵr o fynd ymlaen heb un darlithydd! |
(1, 0) 665 |
A mi fedra' i fanteisio ar y seibiant i orffen fy ngwaith ymchwil. |
(1, 0) 666 |
Dim gwrthwynebiad gobeithio? |
|
|
(1, 0) 670 |
Ia, rhaid i mi gofio. |
|
|
(1, 0) 672 |
Hanes yr Eglwys Geltaidd. |
|
|
(1, 0) 674 |
Mae o'n hynod o ddiddorol. |
(1, 0) 675 |
'Hoffech chi gael benthyg llyfr? |
|
|
(1, 0) 677 |
Gweniaith! |
|
|
(1, 0) 679 |
Diolch yn fawr i chi am bopeth, Doctor... |
(1, 0) 680 |
Nos dawch. |