| (1, 0) 19 | Ia? |
| (1, 0) 22 | Hei. |
| (1, 0) 25 | Pobol. |
| (1, 0) 27 | Pobol, gormod ohonyn nhw. |
| (1, 0) 28 | Dwi'm yn, y, rhy hoff o bobol. |
| (1, 0) 30 | Ia. |
| (1, 0) 32 | Ddim yn bad de, prysur... |
| (1, 0) 33 | Chditha? |
| (1, 0) 37 | Ddois di fyny'n iawn? |
| (1, 0) 41 | Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di. |
| (1, 0) 44 | Do. |
| (1, 0) 46 | Be? |
| (1, 0) 48 | Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng. |
| (1, 0) 51 | Ia, o'dd 'na olwg wrth eu bodda arnyn nhw doedd. |
| (1, 0) 53 | Wn i. |
| (1, 0) 56 | Ia. |
| (1, 0) 63 | Lisa. |
| (1, 0) 73 | O'dd dy un di yn un dda... Arwel? |
| (1, 0) 87 | Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr. |
| (1, 0) 115 | Lisa. |
| (1, 0) 118 | O'dd 'na restr? |
| (1, 0) 128 | A fi, gwylnos de. |
| (1, 0) 131 | Fydda pobol yn ista efo cyrff 'stalwm, drwy nos ar ôl iddyn nhw farw. |
| (1, 0) 133 | Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw. |
| (1, 0) 135 | Nain o'dd yn sôn, ac am olchi'r corff a ballu, a sut bydda nhw'n gneud sŵn weithia. |
| (1, 0) 136 | Hyd yn oed y meirw ddim yn ddistaw medda hi. |
| (1, 0) 138 | Neith corff ddim byd i chdi. |
| (1, 0) 149 | Dwi'n gêm. |
| (1, 0) 164 | Sori? |
| (1, 0) 166 | O ia, yr un fflat flwyddyn gynta, a'r un cwrs. |
| (1, 0) 168 | Chditha? |
| (1, 0) 180 | Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc? |
| (1, 0) 201 | Honna'n gynghanedd. |
| (1, 0) 205 | Posh/ |
| (1, 0) 216 | Be nawn ni wan? |
| (1, 0) 223 | Deud ti 'tha ni. |
| (1, 0) 229 | Ddim rili. |
| (1, 0) 234 | Doni'm yn weld o'n od fatha chi. |
| (1, 0) 236 | Ddim yn uchal, naddo. |
| (1, 0) 238 | So od di hynna de. |
| (1, 0) 253 | Sut... |
| (1, 0) 254 | Sut nath o? |
| (1, 0) 256 | Sut ddigwyddodd o? |
| (1, 0) 259 | Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw? |
| (1, 0) 261 | Sori. |
| (1, 0) 264 | Wel, dwisio. |
| (1, 0) 289 | Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio. |
| (1, 0) 321 | Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo... |
| (1, 0) 325 | Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd. |
| (1, 0) 326 | Be o'n i'n neud a ballu. |
| (1, 0) 327 | Tywydd, dwni'm. |
| (1, 0) 328 | Nathom ni'm siarad llawar. |
| (1, 0) 330 | O'dd o isio help dachi'n feddwl? |
| (1, 0) 345 | Siop Magi Ann, ma' fatha bochi'n byw mewn rhyw raglan S4C shit ne Midsummer Murders ne wbath. |
| (1, 0) 346 | Magi Ann. |
| (1, 0) 368 | Ia, pitsa di blygu tha pasti. |
| (1, 0) 394 | Be? |
| (1, 0) 399 | /ti'n ei amddiffyn o! |
| (1, 0) 403 | Achos ma'n ffycin hiliol! |
| (1, 0) 405 | Wyt os ti'n iwsio geiria felna! |
| (1, 0) 408 | /So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/ |
| (1, 0) 417 | Fedrai'm coelio fod pobol fel'na'n bodoli. |
| (1, 0) 418 | Be o'dd o'n weld yn rheinia duda? |
| (1, 0) 422 | Be sgin ti griw fel'ma yn y pentra chwaral na nes di adael? |
| (1, 0) 425 | Be? |
| (1, 0) 429 | Naddo. |
| (1, 0) 435 | Sa well taswn i heb aros. |
| (1, 0) 439 | Dos i halio Aaron. |
| (1, 0) 442 | Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu. |
| (1, 0) 445 | Yr un gwreiddiol, nid fersiwn Nic Cage gobeithio. |
| (1, 0) 450 | Rhaid ni gal noson ffilms shit eto. |
| (1, 0) 456 | O'n i'n golchi'n nannadd bora ddoe a nath o jesd dod o nunlla. |
| (1, 0) 457 | O'n i'n llanast. |
| (1, 0) 458 | Gweld fi'n hun yn y drych o'dd o dwi'n meddwl. |
| (1, 0) 459 | Dyna nath y drwg. |
| (1, 0) 463 | Soniodd o am y goedan? |
| (1, 0) 465 | O'dd ganddo fo rhyw goedan yn cefn medda fo lle o'dd o'n gallu gweld y môr, mi alla ni drio ffendio hi. |
| (1, 0) 476 | Do. |
| (1, 0) 509 | 'Di hynna'm yn deg. |
| (1, 0) 532 | Ma'n oce. |
| (1, 0) 535 | Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath? |
| (1, 0) 538 | Be gawn ni 'di peth? |
| (1, 0) 544 | Snakes and ladders. |
| (1, 0) 549 | Dria ni. |
| (1, 0) 551 | Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda. |
| (1, 0) 567 | Shit, neidar eto. |
| (1, 0) 582 | Be 'di honno? |
| (1, 0) 588 | /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/ |
| (1, 0) 593 | Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de. |
| (1, 0) 612 | Ia, a fi, odd Chernobyl yn hysh hysh am fisoedd doedd. |
| (1, 0) 624 | Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo. |
| (1, 0) 628 | Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd. |
| (1, 0) 631 | Dodda nhw ddim, ddim bob tro. |
| (1, 0) 634 | /mi driodd o o'r blaen. |
| (1, 0) 636 | I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna. |
| (1, 0) 640 | O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin. |
| (1, 0) 641 | Flwyddyn gynta odda ni, odda ni'n blant o hyd ne'n bobol ifanc be bynnag ffwc o'dd hynny. |
| (1, 0) 642 | Dodd yn hannar ni ddim yn gwbod pwy, ne be odda ni, ond mi oedd o. |
| (1, 0) 643 | Dwi'n meddwl fod o di ca'l ei eni yn gwbod be'n union oedd o a be o'dd am ddigwydd iddo fo. |
| (1, 0) 644 | Diawl o beth 'di nabod chdi dy hun, ddigon a dy ddychryn di. |
| (1, 0) 645 | R'adag honno oedd bob dim yn newydd, a chyfla i fod yn pwy bynnag odda chdisio a rhyddid ond mi oedd 'na ochor arall hefyd. |
| (1, 0) 646 | Y gwaith, y stre, y ffraeo sdiwpid rhwng criwia a'r pwysa i fod yn rwbath, i fwynhau, i fynd allan, i fynd yn ffycd. |
| (1, 0) 647 | Dodd hynna'm yn siwtio pawb ac yn washing mashîn y strydoedd lliw chwd na mi gafodd y ddau ohona ni'n taflu at ein gilydd, dwy hosan o'dd ddim yn matsio. |
| (1, 0) 648 | Iawn de. |
| (1, 0) 649 | Oddi'n braf gallu deud na wrth griw y drydedd pan odda nhw'n coinio dy beint di yn gwbod fod na oleia un person arall fasa'm yn meddwl bo chdi'n jibar. |
| (1, 0) 650 | Felly ddaetho'n ni'n ffrindia. |
| (1, 0) 652 | Naethon ni rioed, dwi'm yn meddwl. |
| (1, 0) 653 | Ond mi o'dd o yno i fi pan gafodd n'chwaer ddamwain ac oni... jesd yno. |
| (1, 0) 654 | Do'dd o byth ddim byd penodol rili, jesd rhyw syniad fod 'na wal ynddo fo'n rwla neu garpad lle odd petha'n cael eu stwffio. |
| (1, 0) 656 | Un peth fedra ni gytuno arno fo. |
| (1, 0) 661 | Ond fuodd na bwl lle o'dd o'n hyd'n oed gwaeth... a... |
| (1, 0) 662 | O'dd o'm di bod yn y darlithoedd, ddim di bod yn dangos llawar ar ei wynab rili o gwbwl. |
| (1, 0) 663 | Nes i gynnig siarad droeon ond ches i'm atab. |
| (1, 0) 664 | Iawn de. |
| (1, 0) 665 | Ffain. |
| (1, 0) 666 | Ond un noson dyma fo'n gweiddi'n enw fi. |
| (1, 0) 667 | Odd o'n gwaedu, ond heb neud job iawn ohonni. |
| (1, 0) 668 | Ac, odd o'n ofn dwi'n meddwl? |
| (1, 0) 669 | Ne yn difaru? |
| (1, 0) 670 | Dwi'm yn gwbod. |
| (1, 0) 671 | Ond gorish i gwffio am y rasal efo fo. |
| (1, 0) 672 | Gorish i thynnu hi o'i ddwylo fo. |
| (1, 0) 673 | Nes o'n i'n goch i gyd. |
| (1, 0) 675 | Ges i hi, a mynd a hi i'm mathrwm a'u rhoi hi yn y bin tampons. |
| (1, 0) 676 | Wedyn nes i llnau'i waed o o'n nwylo fi ar ôl ca'l warden ato fo. |
| (1, 0) 677 | Pam nes i'm hynny'n gynt, dwi'm yn gwbod. |
| (1, 0) 678 | Panic. |
| (1, 0) 679 | O'dd rhaid mi ll'nau... |
| (1, 0) 680 | Wedyn es i i shower a chrio am awr. |
| (1, 0) 681 | Jesd toriada bach odda nhw, ond o'dd o'n deud fod o am neud mwy. |
| (1, 0) 682 | Ma' toriada bach yn gwaedu lot. |
| (1, 0) 684 | Doni'm yn gwbod be'i neud. |
| (1, 0) 685 | Na wedyn chwaith, ond ma'n rhaid mi goelio fod o'm isio gneud go iawn. |
| (1, 0) 686 | No we swni di gallu tynnu nhw o'i fysadd o sa fo 'di trio cwffio'n iawn. |
| (1, 0) 687 | Ond naethon ni rioed sôn am y peth wedyn. |
| (1, 0) 688 | A dwi 'di bod yn meddwl, am y ffordd nes i ymatab a taswn i di bod yn gallach ella fasa hyn ddim 'di digwydd, ella basa fo 'di gweiddi arna'i eto. |
| (1, 0) 690 | Sa fo hefyd. |
| (1, 0) 692 | Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia. |
| (1, 0) 694 | Faint o gloch di? |
| (1, 0) 695 | Dwi am fynd i biso. |
| (1, 0) 798 | Bob dim yn iawn 'ma? |
| (1, 0) 876 | Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel? |
| (1, 0) 898 | Ni 'di... |