| (1, 0) 101 | Mae meistr yn dyfod. |
| (1, 0) 106 | Mae un ewyrth cefnog marw werth dau filiwnydd byw. |
| (1, 0) 109 | I ŵr ym mlodau'i gryfder |
| (1, 0) 110 | mae marw braidd yn ddiflas: |
| (1, 0) 112 | Pa eneth landeg hoenus syber |
| (1, 0) 113 | a gymer benglog yn gyweithas? |
| (1, 0) 114 | Ond rhyfedd sôn fod hen ŵr gwargam |
| (1, 0) 115 | trigain oed a'i ddaint yn melynnu, |
| (1, 0) 116 | a'i ên yn gwynnu, |
| (1, 0) 117 | yntau fel hogen sionc ei cham |
| (1, 0) 118 | rhag llam yr angau yn dychrynu! |
| (1, 0) 119 | I ferch ym mlodau'i hienctyd |
| (1, 0) 120 | nid dawnsiwr pert mo'r angau: |
| (1, 0) 121 | On'd cerrig beddau swrth eu symud |
| (1, 0) 122 | yw traed y dawnsiwr, a'i grafangau |
| (1, 0) 123 | yn oedi'r miwsig, yn tarfu'r miri? |
| (1, 0) 124 | Dewised bartner trigain mlynedd, |
| (1, 0) 125 | a'i aur yn wmbredd, |
| (1, 0) 126 | siawns na bydd hwnnw rhag ei sbri |
| (1, 0) 127 | yn clywed oerni a chrynfa dannedd. |
| (1, 0) 144 | Meistr, dyma ddawns y cynhaea, |
| (1, 0) 145 | ni ellir gwahardd neb o'r plwy. |
| (1, 0) 152 | Petai gennych chi ddwy, |
| (1, 0) 153 | be' fyddai hynny rhwng cynifer â'r plwy? |