|
|
|
|
(1, 1) 4 |
Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael |
(1, 1) 5 |
Llonyddwch. Gwalia sydd, e'rs blwyddi maith |
(1, 1) 6 |
Yn ysglyf wael i'r cledd, a gwaeth na'r cledd, |
(1, 1) 7 |
I frad ei phlant. Ei meibion dewrion hi |
(1, 1) 8 |
Na throent ar faes y gwaed eu cefn ar neb |
(1, 1) 9 |
A chwifio gledd neu anelwaewffon, |
(1, 1) 10 |
Wneir gan eiddigedd yn dylodion llwfr; |
(1, 1) 11 |
Er boddio dig, hwy werthent, ie'r wlad |
(1, 1) 12 |
Ar fronau'r hon eu magwyd; ie'r wlad |
(1, 1) 13 |
I'r hon y rhoisent gynt eu gwaed yn llon, |
(1, 1) 14 |
O! gwae i Gymru, a gwae mwy imi! |
(1, 1) 15 |
Y bradwyr hyn, plant Cymru oeddent hwy. |
(1, 1) 16 |
Ond mwy na hyn,—Plant ty fy nhad o'ent hwy! |
(1, 1) 17 |
Oh! Owen! nesaf frawd imi! Tydi |
(1, 1) 18 |
I'r hwn y rhoddwyd cydgyfartal ran |
(1, 1) 19 |
A mi o'r etifeddiaeth, fynet gael |
(1, 1) 20 |
Yr oll, neu fod heb ddim. Llychwinaist glod |
(1, 1) 21 |
Ac enw ty dy dad trwy droi yn fradwr, |
(1, 1) 22 |
Bradychaist fi, dy frawd; bradychaist wlad |
(1, 1) 23 |
Dy enedigaeth; a bradychu wnest |
(1, 1) 24 |
Ymddiried tad ar wely angeu it. |
(1, 1) 25 |
Do, tynaist i dy lwybrau gwirgam ffol, |
(1, 1) 26 |
Yr hwn fu'n falchder tad a llonder man: |
(1, 1) 27 |
I'm herbyn codaist gleddyf Dafydd lanc, |
(1, 1) 28 |
Yr hwn pan gynt yn blentyn gariais, do, |
(1, 1) 29 |
Ganwaith a mwy mewn mynwes cynes brawd |
(1, 1) 30 |
Fuasai'n falch i farw er ei fwyn! |
(1, 1) 31 |
Oh! Dafydd! Dafydd! tost fu'th anlwc di, |
(1, 1) 32 |
A thostach fyth fy anlwc inau it |
(1, 1) 33 |
Gymeryd felly'th arwain i wneyd cam |
(1, 1) 34 |
A'th wlad, a'th dy, a'th frawd, a thi dy hun! |
(1, 1) 35 |
Gwae, gwae i'r dydd y gorfu i Llewelyn |
(1, 1) 36 |
Ddadweinio cledd i daro brawd mor gu |
(1, 1) 37 |
A Dafydd! Llawer gwell, ie, canmil gwell |
(1, 1) 38 |
Fuasai genyf golli'm gwaed, a'm stad, |
(1, 1) 39 |
A'm bywyd, na'th niweidio di, fy mrawd, |
(1, 1) 40 |
Wrth geisio'u cadw, oni bae er mwyn |
(1, 1) 41 |
Buddianau Cymru;—ond nis gallwn byth |
(1, 1) 42 |
Wel'd Cymru'n cael ei gwerthu i law'r Sais. |
(1, 1) 43 |
Pe costiai cadw Cymru'n rhydd i mi |
(1, 1) 44 |
A'm llaw fy hun d'aberthu di fy mrawd, |
(1, 1) 45 |
Gwnawn hyny hefyd, er y gwybydd Duw |
(1, 1) 46 |
Nod oes ond un anwylach genyf na |
(1, 1) 47 |
Thydi. Ah! Elen hoff, i seren glaer, |
(1, 1) 48 |
Fy ngobaith, cysur, cariad, bywyd, oll, |
(1, 1) 49 |
Yn fuan caf fwynhau dy gwmni hoff! |
(1, 1) 50 |
Ond 'nawr am Dafydd. Yn y carchar mae, |
(1, 1) 51 |
Rwyf finau'n rhydd, yn gryf yn serch fy ngwlad, |
(1, 1) 52 |
A'm holl elynion wedi cilio'n ol. |
(1, 1) 53 |
A gresyn fyddai gadael Dafydd mwy |
(1, 1) 54 |
Un fynyd yn y carchar. Ei ryddhau |
(1, 1) 55 |
A wnaf y fynyd hon! |
|
|
(1, 1) 58 |
Cymer y fodrwy yma, dos at geidwad y carchar; par iddo ollwng Dafydd fy mrawd allan, a dwg ef yma. |
|
|
(1, 1) 60 |
Mae'n ddoeth i mi wrandaw ar alwadau uchel natur yn fy mynwes. Mae Cymru 'nawr yn rhydd; caiff Dafydd hefyd fod yn rhydd. |
(1, 1) 61 |
Dos, brysia. |
|
|
(1, 1) 63 |
Rhaid i mi wneyd cam â mi fy hun, trwy guddio oddiwrth Dafydd y cariad brwd sy'n llenwi'm calon ato. |
|
|
(1, 1) 65 |
Wel! |
|
|
(1, 1) 68 |
Os daw Griffith fewn, nis gallaf weled Dafydd. |
(1, 1) 69 |
Ac, O, mae'm calon yn hiraethu am y llanc. |
(1, 1) 70 |
Rhaid i Griffith aros. |
|
|
(1, 1) 72 |
Hysbysu'r penaeth Ap Gwenwynwyn nas gallaf ei weled heddyw. |
|
|
(1, 1) 74 |
Ie, rhaid imi guddio fy nghalon oddiwrth Dafydd. |
(1, 1) 75 |
Rhaid gwisgo gwg lle mynwn wisgo gwên. |
(1, 1) 76 |
Rhaid bod yn swrth lle'r hoffwn fod yn llon. |
(1, 1) 77 |
Ust! |
(1, 1) 78 |
Dyma fe yn d'od. |
|
|
(1, 1) 83 |
Dy frawd? Dy D'wysog hytrach d'wed! |
(1, 1) 84 |
Ti gollaist bob rhyw hawl i'm galw'n frawd. |
(1, 1) 85 |
Y dydd dadweiniaist gledd i'm herbyn i. |
|
|
(1, 1) 87 |
Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol. |
|
|
(1, 1) 93 |
'Rwy'n rhoddi mantais iti wella'th ffyrdd, |
(1, 1) 94 |
Ceir gwel'd os yw gwenwynig wreiddyn brad, |
(1, 1) 95 |
Fynwesaist yn dy galon, eto'n fyw, |
(1, 1) 96 |
Neu os yw'r carchar wedi ei ladd yn llwyr, |
(1, 1) 97 |
Ac os tyf pren gwladgarwch yn ei le, |
(1, 1) 98 |
Gad im' wel'd ffrwythau |gwladgar| genyt cyn |
(1, 1) 99 |
Y soni am |frawdgarwch| yn fy ngwydd. |
(1, 1) 100 |
Nid brawd imi y neb gasâ ei wlad, |
(1, 1) 101 |
Nid o'r un gwaed a mi y neb wna frad, |
(1, 1) 102 |
A Chymru hoff! Dos bellach i dy dŷ. |
|
|
(1, 1) 104 |
O Dafydd! Dafydd! O fy mrawd! fy mrawd! |
(1, 1) 105 |
Gwae fi na feiddiwn roddi ffordd im' serch, |
(1, 1) 106 |
Trwy syrthio ar ây wddf, a golchi ffwrdd |
(1, 1) 107 |
A'm dagrau dy ofidiau un ac oll, |
(1, 1) 108 |
A'th gadw'n ganwyll llygad im' fel cynt! |
(1, 1) 109 |
Ond gwell iti gael profi chwerwedd oer |
(1, 1) 110 |
Dygasedd, enyd fer, yr hwn, fel gwna |
(1, 1) 111 |
Cyffeiriau chwerwon meddyg yru ffwrdd |
(1, 1) 112 |
O'r gwaed y gwenwyn a berygla oes, |
(1, 1) 113 |
A bura'th galon dithau, ac a'th wna |
(1, 1) 114 |
Yn holliach Gymro gwladgar unwaith eto. |
|
|
(1, 3) 168 |
Dacw'r castell yn y golwg. |
(1, 3) 169 |
Dacw ffenestr ystafell #Elen |
(1, 3) 170 |
Braidd na thybiwn y gallwn oddiyma ganfod fy angyles ei hun. |
|
|
(1, 3) 175 |
Y dyn! |
(1, 3) 176 |
Ystyria beth wyt yn ddweyd! |
(1, 3) 177 |
Oni bae dy fod yn hen gyfaill profedig, torwn dy dafod di allan am y fath sarhad ar Elen. |
|
|
(1, 3) 179 |
I mi? |
|
|
(1, 3) 182 |
Mae digon o delynorion yn Nghymru. |
|
|
(1, 3) 190 |
Boddlon wyf i hyny, a gwystlaf fy mywyd ar ffyddlondeb Elen. |
|
|
(1, 4) 205 |
Nid yw yn gwybod dim am y newyddion diweddaf, fy mod wedi arwyddo cytundeb heddwch a Harri brenin Lloegr, trwy yr hwn y mae ef yn ymrwymo fy nghydnabod dros ei oes yn Dywysog Cymru; ac am ymyriad caredig Obollonus a rwymodd y Saeson i heddwch hollol a'r Cymry dros deyrnasiad Harri. |
|
|
(1, 4) 213 |
Dyna i ti, Meredith! |
|
|
(1, 4) 246 |
O fy Elen anwylaf! |
(1, 4) 247 |
Adwaenwn ei llais yn mhlith mil! |
(1, 4) 248 |
Yr oedd pob nodyn ganai yn taro tant atebol yn fy nghalon. |
|
|
(1, 4) 250 |
Ni fu melusach tonc erioed gan eos. |
(1, 4) 251 |
Ac a sylwaist ti, Meredith ar ei chyfeiriadau ataf fi, a'r ffydd oedd ganddi ynof? |
|
|
(1, 4) 254 |
Yr wyf yn rhwym o fyn'd ati. |
(1, 4) 255 |
Ac eto mae arnaf ofn ei dychrynu wrth ymddangos yn rhy sydyn. |
(1, 4) 256 |
Ni fynwn chwaeth iddi gredu fy mod wedi clywed ei chân. |
(1, 4) 257 |
Gwn beth a wnaf. |
(1, 4) 258 |
Cymeraf eto ffug-farf y crythwr, a chanaf dôn dan y ffenestr. |
(1, 4) 259 |
Cawn weled sut y try pethau allan. |
|
|
(1, 4) 271 |
Mae'n dda gan rai am wychder byd, |
(1, 4) 272 |
Anedd-dai clyd, a chysur: |
(1, 4) 273 |
Y marchog fyn rhyfelfarch chwim, |
(1, 4) 274 |
Ond rhoddwch i'm fy meinir. |
(1, 4) 275 |
Fe gara'r gwenyn flodau hardd, |
(1, 4) 276 |
Fe gara'r morwr tonog li', |
(1, 4) 277 |
Mi garaf finau—rhywun. |
(1, 4) 278 |
~ |
(1, 4) 279 |
I glustiau'r bardd peroriaeth yw |
(1, 4) 280 |
Y miwsig gana Anian, |
(1, 4) 281 |
Telynau'r wig, yr awel gref, |
(1, 4) 282 |
Ac uchel lef y daran, |
(1, 4) 283 |
A churiad ysgain tòn ar dòn, |
(1, 4) 284 |
A chaniad llon aderyn; |
(1, 4) 285 |
Melusach, mwynach imi'n wir |
(1, 4) 286 |
Llais clir soniarus—rhywun. |
|
|
(1, 4) 296 |
Os cryf yw'r castell, cryfach yw |
(1, 4) 297 |
Y cariad byw'n fy nghalon; |
(1, 4) 298 |
Os eiddo'r Iarll yw'r castell hwn |
(1, 4) 299 |
Mi wn pwy bia'r Fanon. |
|
|
(1, 4) 301 |
O tyred mwy yn eiddo i mi |
(1, 4) 302 |
Tydi yn wir rwy'n garu; |
(1, 4) 303 |
Cei goron Cymru ar dy ben |
(1, 4) 304 |
A Gwalia Wen i'th foli. |
|
|
(1, 4) 313 |
Oh f'anwylyd, mor hyfryd yw cael bod gyda thi drachefn! |
(1, 4) 314 |
Bum yn mron digaloni wrth weled y rhwystrau oedd ar fy ffordd, ond diolch fo i Dduw, y maent wedi diflanu. |
|
|
(1, 4) 317 |
Ond yn awr gallwn ganu ar ol cael heulwen glir uwchben. |
|
|
(1, 4) 345 |
Ië, diolch i Dduw, gallwn obeithio bellach am flynyddau o heddwch; yna caf gyfle i ddwyn pethau i drefn yn Nghymru, a gall y wlad edrych am fwy o ddedwyddwch ynddynt nag a gawsom er's hir amser. |
|
|
(1, 4) 347 |
Cawn ddechreu yma ynte. |