Cuesheet

Cyfyng-Gyngor

Lines spoken by Mabli (Total: 47)

 
(1, 0) 367 Mae'n ddrwg gen' i mod i'n hwyr.
(1, 0) 368 Taith go bell, a bu bron i mi a cholli'r ffordd.
 
(1, 0) 372 Neges?
 
(1, 0) 376 Dim o gwbwl.
 
(1, 0) 380 "Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd.
(1, 0) 381 'Dydy' o wedi newid dim.
 
(1, 0) 383 Mae'n well i chi ofyn hynna i Seth.
 
(1, 0) 394 Ond datblygu wnes i heb yn wybod i chi.
(1, 0) 395 Os hauwch chi hedyn peidiwch â synnu ei weld o'n tyfu.
 
(1, 0) 402 Ydw' braidd...
(1, 0) 403 Diolch i chi.
 
(1, 0) 409 Wel, Sioned.
 
(1, 0) 423 Popeth yn iawn, Doctor.
(1, 0) 424 'Rwy'n deall.
(1, 0) 425 Peth digon naturiol ydy' celu sgandal mewn teulu—y sgerbwd yn y cwpwrdd chwedl y Sais.
(1, 0) 426 Ond mae'r sgerbwd yn mynnu dwad allan weithia'.
(1, 0) 427 'Hoffech chi wybod yr helynt?
 
(1, 0) 430 'Does gen'i ddim achos i deimlo cywilydd, Seth.
(1, 0) 431 A pheth arall, fe dâl ei atgoffa fo {cyfeirio af yr AWDUR} o'i gyfrifoldeb am y trybini.
 
(1, 0) 434 Rhy gyffredin efallai.
(1, 0) 435 Pâr ifanc yn cyfarfod yn ystod y rhyfel; carwriaeth wyllt ynghanol y tryblith; priodi a byw o ddydd i ddydd heb hidio am yfory.
(1, 0) 436 Yna corn heddwch yn eu deffro o freuddwyd rhamant i wynebu ffeithia'.
(1, 0) 437 A hwythau, wrth gwrs, yn methu.
(1, 0) 438 Yr hen, hen stori!
 
(1, 0) 445 'Roeddwn i, wrth gwrs, i fod i farw mewn damwain ar y ffordd.
(1, 0) 446 Hwylus dros ben!
(1, 0) 447 Er bod Seth, efallai, yn cytuno â chi yn hynna o beth.
 
(1, 0) 450 Wel, 'dderbynia' i mo'r fath ddiwedd ystrydebol.
(1, 0) 451 'Rwy'n mynnu byw.
(1, 0) 452 'Fynna'i ddim marw i siwtio plot dramodydd anghelfydd!
 
(1, 0) 552 Diolch. Dyma'r tro cyntaf ers 'wn i ddim pa bryd.
 
(1, 0) 577 Na, dim diolch.
(1, 0) 578 Rhaid i minna' feddwl am fynd.
 
(1, 0) 580 Wel, does dim diben aros yma rwan.
 
(1, 0) 582 Peidiwch â phryderu.
(1, 0) 583 Mi fydda' i'n iawn...
(1, 0) 584 Seth, mi hoffwn i gael gair efo ti cyn i mi fynd.
 
(1, 0) 586 Fe wyddost yn iawn i beth.
 
(1, 0) 588 Nac oes, ond i ti fod yn rhesymol.
 
(1, 0) 590 Dyna dd'wedi di fory a'r flwyddyn nesa'.
(1, 0) 591 Dyma fy unig gyfle.
(1, 0) 592 Mae gan ryddid ystyr ychwanegol i mi fel y gwyddost.
 
(1, 0) 596 Mae'n debyg bod hyn yn ffarwel...
 
(1, 0) 598 Pwy a ŵyr?
(1, 0) 599 'Rwy'n gobeithio y gwnawn ni...
(1, 0) 600 Tan hynny, pob dymuniad da i chi...
(1, 0) 601 Brysiwch wella, Lewis.