| (1, 0) 30 | Palas, ar fenaid i!... |
| (1, 0) 31 | Be wyt ti'n 'i ddweud?... |
| (1, 0) 32 | E? |
| (1, 0) 36 | Agos atat ti. |
| (1, 0) 38 | Ia, dyna'r gair,─cartrefol. |
| (1, 0) 39 | Fel tae o wedi'i wneud inni. |
| (1, 0) 40 | A'r dodrefn─edrych ar y dodrefn. |
| (1, 0) 42 | Dyma iti goedyn! |
| (1, 0) 43 | E? |
| (1, 0) 44 | Coedyn gwerth chweil. |
| (1, 0) 45 | Heb gainc na thwll pry. |
| (1, 0) 46 | Mae o fel melfed. |
| (1, 0) 47 | A graen arno fo fel be-wyt-ti'n-alw, fel cefn macrell. |
| (1, 0) 49 | Gwaith llaw, 'sti. |
| (1, 0) 50 | Llafur cariad. |
| (1, 0) 51 | Crefftwr. |
| (1, 0) 52 | 'Dydyn nhw ddim yn gwneud dodrefn fel hyn heddiw. |
| (1, 0) 54 | Cadeiria reit solet hefyd. |
| (1, 0) 56 | Ia, solet iawn. |
| (1, 0) 59 | Eisio hoelen neu ddwy efalla. |
| (1, 0) 60 | Ond pethma bach ydy hynny─ |
| (1, 0) 62 | E? |
| (1, 0) 64 | Fel sipsiwn, ia. |
| (1, 0) 66 | Cartre am y tro cynta... |
| (1, 0) 67 | Sut mae deall y Drefn, sgwn i! |
| (1, 0) 69 | Ia, wyddost ti─petha. |
| (1, 0) 70 | Sut mae deall petha? |
| (1, 0) 75 | E? |
| (1, 0) 76 | Wyt ti'n meddwl?... |
| (1, 0) 77 | Ia, dodrefn gwerth chweil. |
| (1, 0) 78 | Gwaith crefftwr, digon hawdd gweld. |
| (1, 0) 79 | A dyna iti beth arall... |
| (1, 0) 81 | Dewcs annwyl! |
| (1, 0) 84 | Dewcs annwyl! |
| (1, 0) 89 | Dewcs, wyddwn i ddim 'chi. |
| (1, 0) 90 | Hynny ydy 'doeddwn i ddim wedi'ch gweld chi yn fan'na. |
| (1, 0) 91 | E? |
| (1, 0) 92 | 'Doeddwn i ddim yn meddwl... |
| (1, 0) 93 | O'r Swyddfa 'rydych chi, decini?... |
| (1, 0) 94 | Hynny ydy, wedi dwad yma i be-ydach-chi'n alw? |
| (1, 0) 96 | Mi ddywedodd y dyn rywbeth, wyt ti'n cofio? |
| (1, 0) 98 | Wel, mae'n dda gen i'ch cyfarfod chi... |
| (1, 0) 99 | Mac ydy'r enw. |
| (1, 0) 100 | A dyma'r wraig, Sadi. |
| (1, 0) 101 | Mae'n siŵr iddyn nhw sôn wrthych chi amdanom ni. |
| (1, 0) 102 | Hynny ydy, yn y Swyddfa yna? |
| (1, 0) 105 | Pwy,─dyn y Swyddfa? |
| (1, 0) 107 | E? |
| (1, 0) 108 | Wel, dweud wnaeth o. |
| (1, 0) 109 | Hynny ydy... |
| (1, 0) 111 | Ia, eistedd di i lawr. |
| (1, 0) 112 | Mae'n siŵr dy fod ti wedi blino... |
| (1, 0) 113 | Heb gael gorffwys yn iawn ers tro byd, wyddoch chi, Mr...? |
| (1, 0) 114 | Mr...? |
| (1, 0) 115 | Wel, mi wyddoch fel mae hi wedi bod arnom ni yn y wlad yma. |
| (1, 0) 116 | Yr holl drybini a'r tryblith a─ |
| (1, 0) 118 | E? |
| (1, 0) 120 | O, ia?... |
| (1, 0) 121 | Dewcs! |
| (1, 0) 122 | Ond fel roeddwn i'n dweud Mr. Martin, digwydd troi i'r Swyddfa wnes i, y bore yma. |
| (1, 0) 123 | Busnes preifat. |
| (1, 0) 124 | Hynny ydy, wel, newid ein cardia. |
| (1, 0) 125 | Mi wyddoch mor bwysig ydy cael eich cardia'n iawn. |
| (1, 0) 126 | A dyma'r dyn yn gofyn imi, hynny ydy, cynnig swydd imi. |
| (1, 0) 127 | 'Wel', medda finna, 'mae'n dibynnu', medda fi. |
| (1, 0) 128 | 'Ar natur y gwaith', medda fi. |
| (1, 0) 129 | 'Hynny ydy', medda fi, 'be fyddwn i'n 'i wneud?', medda fi. |
| (1, 0) 131 | E?... |
| (1, 0) 132 | Tybed? |
| (1, 0) 135 | Reit. |
| (1, 0) 136 | Ble 'roeddwn i? |
| (1, 0) 137 | O ia. |
| (1, 0) 138 | 'Dim ond byw mewn tŷ', medda fo. |
| (1, 0) 139 | 'Tŷ sy'n perthyn i'r Swyddfa yma. |
| (1, 0) 140 | Byw ynddo fo, a'i gadw fo'n dwt ac yn lân. |
| (1, 0) 141 | Gwneud eich cartre ynddo fo. |
| (1, 0) 142 | Ei ddefnyddio fo'n ôl eich doethineb', medda fo. |
| (1, 0) 146 | 'Am amser amhenodol', medda fo wedyn. |
| (1, 0) 147 | Mae'n debyg bod arnyn nhw eisio'i gadw fo'n barod rhag ofn,─wel, ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd. |
| (1, 0) 148 | Er na ddwedodd o ddim am hynny, cofiwch. |
| (1, 0) 150 | Wel nid pob dydd y cewch chi gynnig fel yna. |
| (1, 0) 151 | A rydyn ni wedi blino crwydro. |
| (1, 0) 152 | Mae ar bawb eisio rhoi gwreiddia i lawr yn y diwedd. |
| (1, 0) 153 | Hynny ydy, gwneud cartre, ac ati. |
| (1, 0) 155 | Y cynta erioed. |
| (1, 0) 156 | Wel, fel y dwedais i, mi wyddoch fel y mae wedi bod arnon ni yn y wlad yma. |
| (1, 0) 157 | Chawson ni ddim cyfle o gwbwl... |
| (1, 0) 158 | Wnewch chi ddim eistedd am funud, Mr. Martin? |
| (1, 0) 160 | Go brin y medrwn ni gynnig paned o dê ichi. |
| (1, 0) 161 | Hynny ydy, wyddon ni ddim ple mae'r gegin eto! |
| (1, 0) 167 | Maen debyg y byddwch chi'n dwad i'n gweld ni o bryd i'w gilydd, Mr. Martin? |
| (1, 0) 170 | E? |
| (1, 0) 174 | O? |
| (1, 0) 175 | Ia wel, dyna ni. |
| (1, 0) 176 | Mae hynna'n ddigon teg... |
| (1, 0) 177 | Ac wrth gwrs, mi wnawn ein gora glas, fel y dywedais i wrth y dyn... |
| (1, 0) 179 | Mae modd ei wneud o'n lle bach digon be-ydach-chi'n-alw... |
| (1, 0) 180 | Beth oedd o, dwedwch─hen stordy neu rywbeth? |
| (1, 0) 181 | Ac eto mi fuo fo'n dŷ i fyw ynddo fo unwaith. |
| (1, 0) 182 | Mi welais i'r enw wrth ochr y drws. |
| (1, 0) 183 | Enw digon od ydy o hefyd,─ Pros... Pros... |
| (1, 0) 185 | Ia, dyna fo. |
| (1, 0) 186 | Pa iaith ydy honno, sgwn i?... |
| (1, 0) 187 | Wrth gwrs, mi fydd yma ddigon i' wneud. |
| (1, 0) 188 | Yn ara deg y daw o a─ |
| (1, 0) 190 | E? |
| (1, 0) 193 | O? |
| (1, 0) 194 | Dewcs!... |
| (1, 0) 195 | Be mae on 'i feddwl, sgwn i? |
| (1, 0) 196 | Mae yna ryw ystyr iddo fo, decini?... |
| (1, 0) 197 | Peth rhyfedd ydy enw 'te! |
| (1, 0) 198 | Unwaith rydych chi'n rhoi enw i rywun ne rywbeth mae ganddo fo afael arnoch chi, rywsut. |
| (1, 0) 200 | E? |
| (1, 0) 202 | Naddo, 'chi. |
| (1, 0) 203 | Dim o gwbl. |
| (1, 0) 204 | Wnaeth y dyn ddim gofyn imi... |
| (1, 0) 205 | Ydych chi am imi arwyddo rhywbeth? |
| (1, 0) 208 | Dewcs, tybed? |
| (1, 0) 210 | 'Rydych chi'n iawn ar f'engoch i. |
| (1, 0) 211 | Ond mater bach fydd setlo hynny. |
| (1, 0) 213 | Mae yna gytia defnyddiol i lawr acw. |
| (1, 0) 214 | Rhai mawr hefyd. |
| (1, 0) 215 | Hen stablau ac ati, mae'n debyg. |
| (1, 0) 216 | Mi fedra i wneud defnydd o'r rheina. |
| (1, 0) 217 | Hynny ydy, mi fydda'n bechod eu cadw nhw'n wag... |
| (1, 0) 218 | Ydych chi'n siŵr na wnewch chi ddim eistedd, Mr. Martin? |
| (1, 0) 221 | E? |
| (1, 0) 223 | O ia, yn hollol. |
| (1, 0) 224 | Ei gadw fo mewn trefn. |
| (1, 0) 225 | A mi fyddwn ni'n siŵr o wneud, peidiwch â phryderu! |
| (1, 0) 226 | Mi fydd y wraig wrthi, gyda hyn, fel mam y cnafon. |
| (1, 0) 227 | A minna'r ochr arall fel dyn yn lladd nadrodd! |
| (1, 0) 228 | O, mi edrychwn ni ar 'i ôl o!... |
| (1, 0) 229 | Mae croeso ichi eistedd, Mr. Martin. |
| (1, 0) 230 | Ond mae'n debyg eich bod yn ddyn prysur ac eisio mynd, ac ati. |
| (1, 0) 232 | E? |
| (1, 0) 234 | Na, dydy o ddim, 'rydych chi yn llygad eich lle... |
| (1, 0) 235 | Y peth cynta fyddwn ni'n 'i wneud rŵan fydd dadbacio. |
| (1, 0) 236 | Dyma hynny sydd gennym ar ein helw, Mr. Martin. |
| (1, 0) 237 | Yn yr hen gas yma. |
| (1, 0) 238 | Y cyfan o'n heiddo yn y byd mawr yma'n grwn. |
| (1, 0) 240 | E? |
| (1, 0) 241 | Na fydd, digon gwir. |
| (1, 0) 242 | Hynny ydy, 'rydyn ni wedi bod yn hynod o lwcus... |
| (1, 0) 243 | Arhoswch am funud, Mr. Martin, imi alw ar y wraig. |
| (1, 0) 245 | Sadi! |
| (1, 0) 246 | Sadi! |
| (1, 0) 247 | Tyrd, mae Mr. Martin ar fynd... |
| (1, 0) 249 | Fydda yna ddim tewi arni tawn i'n gadael ichi fynd â hitha ddim yma... |
| (1, 0) 250 | Petha od ydy merched. |
| (1, 0) 251 | Hynny ydy, 'dydyn nhw ddim 'run fath â ni, ddynion. |
| (1, 0) 252 | Mae nhw mor be-ydych-chi'n-alw a chyfnewidiol. |
| (1, 0) 253 | Fel ceiliogod-gwynt, neu ieir-gwynt yn hytrach! |
| (1, 0) 254 | Rhaid bod yn ofalus sut 'rydych chi'n eu trin nhw, ne mae hi'n siop-siafins ar unwaith! |
| (1, 0) 256 | Mr. Martin, Sadi─mae o ar gychwyn. |
| (1, 0) 258 | Ia, wel, fedrwn ni wneud dim ond diolch ichi, Mr. Martin. |
| (1, 0) 260 | Ac os digwydd ichi ddwad i'r cyffinia yma, dowch i'n gweld ni. |
| (1, 0) 261 | Mi gewch paned bryd hynny, reit siŵr. |
| (1, 0) 265 | Ia wel, chi sy'n gwybod, Mr. Martin. |
| (1, 0) 266 | Hynny ydy... ac fel dywedais inna o'r blaen, diolch o galon ichi. |
| (1, 0) 268 | A phob hwyl ichi. |
| (1, 0) 273 | E? |
| (1, 0) 274 | Wel ia. |
| (1, 0) 275 | Ond eto'n ddigon tawel; digon di-ffwdan. |
| (1, 0) 277 | Twt, ti syn dychmygu petha'... |
| (1, 0) 278 | Tae waeth, mae o wedi mynd. |
| (1, 0) 279 | Welwn ni mono fo eto... |
| (1, 0) 280 | Wel, be wyt ti'n feddwl o'r lle. |
| (1, 0) 281 | Ydy o'n plesio? |
| (1, 0) 282 | E? |
| (1, 0) 283 | E? |
| (1, 0) 288 | Toc. |
| (1, 0) 290 | Toc. |
| (1, 0) 291 | Tamaid o fwyd yn gynta. |
| (1, 0) 292 | Fedra i ddim symud heb damaid o fwyd. |
| (1, 0) 293 | Bron llwgu. |
| (1, 0) 294 | Fy stumog i,─mae hi fel crempog ar fas cefn i. |
| (1, 0) 300 | A photel o win, 'rhen chwaer! |
| (1, 0) 306 | Hidia di befo ble ges i hi. |
| (1, 0) 307 | Mae hi yma. |
| (1, 0) 308 | Aros. |
| (1, 0) 311 | E? |
| (1, 0) 312 | Dim ond am funud. |
| (1, 0) 315 | Hwyrach y cawn ni gyfle rŵan i wisgo rhai o'r rhain. |
| (1, 0) 316 | E? |
| (1, 0) 317 | Wedi'r cyfan, rhaid inni drio byw yn ôl ein safle newydd. |
| (1, 0) 336 | Wel, mae'n rhaid inni drio bod yn barchus rŵan, fel pawb arall... |
| (1, 0) 337 | Mae'r hen gloc yma wedi mesur dipyn go lew o'n hoes ni. |
| (1, 0) 338 | E? |
| (1, 0) 339 | A hynny heb nogio unwaith. |
| (1, 0) 343 | Ffyddlon, a be-wyt-ti'n-alw, didrugaredd... |
| (1, 0) 344 | Sôn am grefydd, dim ond tri chwestiwn sylfaenol sydd yna, 'sti. |
| (1, 0) 345 | O ble y daethon ni? |
| (1, 0) 346 | Be ydyn ni'n i wneud yma? |
| (1, 0) 347 | A, i ble rydyn ni'n mynd? |
| (1, 0) 349 | E? |
| (1, 0) 352 | Ia, fel ro'n i'n dweud, chwilio am ateb i'r tri chwestiwn yna ydy swm a sylwedd pob crefydd ac athroniaeth, 'sti. |
| (1, 0) 353 | Ffaith iti... |
| (1, 0) 354 | Duwcs, mae'r corcyn yma'n be-wyt-ti'n-alw... |
| (1, 0) 355 | A, dyna fo!... |
| (1, 0) 356 | Rŵan... |
| (1, 0) 358 | Gwaed a gwlith a chusan yr haul! |
| (1, 0) 360 | Hidia befo. |
| (1, 0) 362 | Yr un ydy'r awch. |
| (1, 0) 365 | Does yna ddim tebyg i gaws i ddenu'r blas o'r gwin! |
| (1, 0) 367 | Dweud roeddwn i─dim tebyg i─ |
| (1, 0) 369 | E? |
| (1, 0) 371 | Caws,─dim tebyg iddo fo i hudo'r blas o hanfod y gwin. |
| (1, 0) 373 | Ia, rwyt ti yn llygad dy le. |
| (1, 0) 374 | Dwy ochor i'r un gwirionedd... |
| (1, 0) 379 | Taw â sôn! |
| (1, 0) 380 | Twt twt! |
| (1, 0) 381 | E? |
| (1, 0) 383 | Ia, mae'n anodd credu. |
| (1, 0) 384 | Ond fel y dwedaist ti gynna, pa ddiben dyfalu?... |
| (1, 0) 385 | Chwaneg o win? |
| (1, 0) 388 | Melys moes mwy! |
| (1, 0) 390 | Wyt ti wedi edrych allan yna?... |
| (1, 0) 391 | Tyrd at y ffenast am funud. |
| (1, 0) 393 | Tyrd. |
| (1, 0) 396 | Weli di? |
| (1, 0) 397 | Gardd! |
| (1, 0) 398 | Chwarter acer os ydy hi lathen sgwâr. |
| (1, 0) 401 | Eitha da... |
| (1, 0) 402 | Hynny ydy, go lew. |
| (1, 0) 403 | Ond mae yna bosibiliadau dirifedi. |
| (1, 0) 404 | O, mi ydw i'n ysu i fynd ati! |
| (1, 0) 405 | Ffaith iti,─ysu. |
| (1, 0) 406 | Wyt ti'n gweld lawnt yna, ryw ddiwrnod? |
| (1, 0) 407 | Lawnt fel─fel darn o felfed gwyrdd! |
| (1, 0) 409 | Rhosynnau a pherlysiau! |
| (1, 0) 411 | A Thresi Aur! |
| (1, 0) 412 | A Blodau'r Cledd! |
| (1, 0) 414 | Dyn yn ei ardd,─pinacl gwareiddiad! |
| (1, 0) 416 | Cytia,─hen stablau ac ati. |
| (1, 0) 417 | Digon o le... |
| (1, 0) 418 | Wyddost ti be ddwedais i o dan fy ngwynt pan welais i nhw gynna efo Mr. Martin? |
| (1, 0) 420 | Ieir! |
| (1, 0) 421 | Dyna be ddwedais i,─Ieir! |
| (1, 0) 425 | Ia, cadw ieir. |
| (1, 0) 426 | Bugeilio da-pluog. |
| (1, 0) 427 | Cyfuno proffid a phleser. |
| (1, 0) 428 | 'Defnyddio'r lle yn ôl ein doethineb', ─dyna ddwedodd o. |
| (1, 0) 429 | Dyna'r amod. |
| (1, 0) 430 | Fedra i feddwl am ddim gwell, fedri di? |
| (1, 0) 432 | Pleser a phroffid! |
| (1, 0) 433 | Wya a chig a phlu i'r gobennydd! |
| (1, 0) 434 | Heb sôn am eu cwmni tra byddan nhw'n fyw... |
| (1, 0) 435 | Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad? |
| (1, 0) 443 | A'r ceiliog? |
| (1, 0) 445 | O? |
| (1, 0) 450 | Wya, a chig a phlu i'r gobennydd. |
| (1, 0) 455 | Twt, twt! |
| (1, 0) 457 | E? |
| (1, 0) 458 | Mae gen ti ormod o be-wyt-ti'n-alw dychymyg, 'sti. |
| (1, 0) 459 | Hynny ydy... ia, wel... rhaid imi fynd i weld y stafelloedd eraill yna rŵan. |
| (1, 0) 461 | E?... |
| (1, 0) 462 | Pam? |
| (1, 0) 464 | Be wyt ti'n 'i feddwl, 'tywyll'? |
| (1, 0) 466 | Ond mae yna ola yma! |
| (1, 0) 468 | Dewcs! |
| (1, 0) 469 | Dim bylbia, mae'n debyg... |
| (1, 0) 470 | O wel, mi ga i eu setlo nhw fory. |
| (1, 0) 471 | Haws gwneud yng ngola dydd... |
| (1, 0) 472 | A pheth arall, mi ydw i wedi hen flino heno. |
| (1, 0) 474 | E? |
| (1, 0) 475 | Ia, hwnnw hefyd... |
| (1, 0) 476 | O wel, gorffwys amdani. |
| (1, 0) 478 | Be wyt ti'n 'i feddwl? |
| (1, 0) 481 | Hidia befo. |
| (1, 0) 482 | Esmwyth cwsg potas maip. |
| (1, 0) 484 | Os na fyddwn ni, wnawn ni ddim poeni rhyw lawer! |
| (1, 0) 486 | Pa gadair gymeri di? |
| (1, 0) 489 | Ia, digon gwir. |
| (1, 0) 490 | Mi gymera i hon felly... |
| (1, 0) 492 | Dewcs, mae hi'n oer! |
| (1, 0) 494 | Syniad da. |
| (1, 0) 499 | Fedra i ddim cysgu efo nhw am fy nhraed. |
| (1, 0) 500 | Mi wyddost ti hynny'n iawn. |
| (1, 0) 506 | Gwynt oer ar fy mhen i. |
| (1, 0) 508 | A, dyna welliant! |
| (1, 0) 510 | Wyt ti ddim wedi blino, dwed? |
| (1, 0) 514 | Cyffyrddus? |
| (1, 0) 516 | Mi newidiwn ni gadeiria os mynni di. |
| (1, 0) 518 | Ia, wel, ti sydd i ddweud. |
| (1, 0) 520 | Mi gei di newid toc os byddi di'n teimlo felly. |
| (1, 0) 522 | Dim ond iti wybod,─dyna oedd gen i. |
| (1, 0) 524 | Nos dawch. |
| (1, 0) 528 | Ia? |
| (1, 0) 530 | E? |
| (1, 0) 548 | Reit... |
| (1, 0) 549 | Wel, nos dawch eto. |
| (1, 0) 552 | Wyddost ti be, tawn i'n ddyn crefyddol... |
| (1, 0) 554 | Tawn i'n ddyn crefyddol, diawch synnwn i flewyn na fyddwn i'n gweddïo heno! |