|
|
|
|
(3, 0) 587 |
"Llongddrylliad am y ffydd"—ai hwnna sy gen ti eisio? |
|
|
(3, 0) 590 |
Ydw o'r gore, a noson enbyd oedd hi,—y gwynt yn rhuo'n drwm, a'r môr a'r tonnau'n taflu bron i strŷd y pentre. |
|
|
(3, 0) 593 |
Wyt ti'n meddwl, Eifion, fod yn bosib i ddyn da fynd yn ddrylliau fel yna cyn marw? |
(3, 0) 594 |
Dydw i ddim yn leicio meddwl y gall dyn da droi yn ddyn drwg a marw allan ar y creigiau. |
|
|
(3, 0) 596 |
Pregethwyr mawr efallai, ond oedde nhw'n ddynion da? |
|
|
(3, 0) 600 |
Dda gen i ddim meddwl fod yn bosib i bregethwr sy'n ddyn da fynd yn |wreck|. |
|
|
(3, 0) 606 |
Fydd ofn syrthio o'r pulpud arnat ti weithiau, Eifion? |
|
|
(3, 0) 610 |
Dim, hyd y gwn i. |
|
|
(3, 0) 613 |
Os dymunet ti wybod y gwir, Nel Davis, merch y portsiar, sy rhyngom ni. |
|
|
(3, 0) 616 |
Mae'r peth yn fwy nag awel, mae'n wynt cryf sy'n chwythu drwy'r ardal. |
|
|
(3, 0) 618 |
Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo. |
|
|
(3, 0) 620 |
Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl. |
|
|
(3, 0) 622 |
Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog. |
|
|
(3, 0) 624 |
Onibae fod yr eneth na wedi dy witsio—witsio ydi'r gair gore am y peth—fe welest tithau nad ydi hi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog; dyna fel mae pawb yn siarad sy'n gwybod am dani. |
(3, 0) 625 |
Wn i ddim am dani a does gen i byth eisiau gwybod am dani. |
|
|
(3, 0) 628 |
Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond {Yn benisel.} fûm innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith, ac mae'n iawn i mi gael gwybod wyt ti o ddifri hefo'r eneth yna. |
|
|
(3, 0) 630 |
Eifion bach, wyddost ti beth fydd y canlyniadau o'i phriodi hi? |
(3, 0) 631 |
Wyt ti wedi bwrw'r draul? |
(3, 0) 632 |
Gad i mi neud y bil i ti. |
(3, 0) 633 |
Yn gyntaf i gyd, fe fydda i'n pacio mhethau a d'adael. |
|
|
(3, 0) 635 |
Ond hwyrach nad ydi hynny yn cyfri fawr yn d'olwg di heddiw ar ol i'r eneth ma groesi dy lwybr. |
|
|
(3, 0) 638 |
O, Eifion, ddylswn i ddim fod wedi deyd y gair cas na, ond anghofia fi am funud, mae na bethau pwysicach na fi yn y bil os priodi di Nel Davis. |
(3, 0) 639 |
Wyt ti wedi meddwl o gwbl dy fod y dyddiau yma ar groesffordd, a dau lwybr—a dim ond dau—yn agor o dy flaen? |
|
|
(3, 0) 641 |
Un llwybr ydi Nel Davis, merch y portsiar; y llwybr arall ydi'r Eglwys, yr Eglwys y cefaist ti a finnau'n magu ynddi er yn blant, yr Eglwys y bu'n tad a'n mam a'n teulu o hil gerdd yn aelodau ffyddlon ohoni. |
(3, 0) 642 |
Prun o'r ddau lwybr ddewisi di? |
|
|
(3, 0) 645 |
Cred fi, dyna'r groesffordd rwyt ti arni heddiw—Nel, merch Dic Betsi, neu'r Eglwys Gristnogol. |
(3, 0) 646 |
Os Nel ddewisi di, mi fydd ar ben arnat am byth fel gweinidog yr Efengyl, nid yn unig yma'n Seilo ond ymhobman arall. |
|
|
(3, 0) 648 |
Ac mi wyddost fel roedd nhad a mam wedi rhoi eu bryd ar i ti fod yn weinidog yr Efengyl: roedd yn well ganddyn nhw dy weld yn fachgen tlawd yn y pulpud nag yn y swydd fwya enillgar yn y wlad, a dyma ti ar fin gneud llongddrylliad o dy ffydd. |
|
|
(3, 0) 653 |
Mi fydd llawn cynddrwg a hynny, achos pa eglwys ar wyneb daear all odde'r syniad o gael y fath eneth yn wraig i'w gweinidog; geneth na fu rioed yn twllu drws y capel nac eglwys, geneth sydd wedi tyfu'n wyllt fel petrisen y mynydd, heb wybod y gwahaniaeth sy rhwng da a drwg, geneth sy'n llawn o ofergoelion ac arferion teulu'r sipsiwn. |
(3, 0) 654 |
O, Eifion bach, rwyt ti'n mynd ar dy ben i lawr y clogwyn—Nel Davis yn wraig gweinidog, a Dic Betsi'r portsiar yn dad-yng-nghyfraith i ti; wyt ti wedi bwrw'r draul? |
|
|
(3, 0) 657 |
Rwyn meddwl digon ohonot i gredu i bod hi mor bur a finnau, ond—grug y mynydd! |
(3, 0) 658 |
Ddaw grug y mynydd byth yn flodyn gardd tŷ gweinidog, a beth am Dic Betsi? |
(3, 0) 659 |
Wyt ti am blannu'r sgallen hefyd yn d'ardd? |
(3, 0) 660 |
Waeth i ti hynny na rhagor, rwyt ti ar y groesffordd rhwng Nel Davis a'r Eglwys. |
|
|
(3, 0) 662 |
Nel Davis fydd dy ddewis, felly? |
|
|
(3, 0) 665 |
Dyma fi'n cau'r Beibl a'r "Concordance" iti; fydd dim rhagor o eisiau rhain arnat; dyma ddiwedd ar dy gôt ddu a'th gadach gwyn a dy bregethu. |
|
|
(3, 0) 693 |
Ga i ddod a diferyn o ddŵr neu rywbeth i chi? |
|
|
(3, 0) 695 |
Peidiwch mollwng rwan, hwyrach nad ydi'ch tad ddim wedi ei nafyd mor ddrwg wedi'r cwbl. |
(3, 0) 696 |
Ga i'ch helpu i godi? |
(3, 0) 697 |
Mi fyddwch yn smwythach ar y soffa. |
|
|
(3, 0) 700 |
Mi fyddwch yn gweddïo weithiau? |
|
|
(3, 0) 706 |
Ie, deydwch o rwan, mi fydd yn siwr o fod yn help i chi. |
|
|
(3, 0) 713 |
Na, chi sy'n dychmygu. |
|
|
(3, 0) 716 |
Steddwch ar y soffa ma, mi ddowch yn well yn y munud. |
|
|
(3, 0) 722 |
Na wir, peidiwch a mynd. |
(3, 0) 723 |
Mi fydd Eifion yn ol rwan jest. |
(3, 0) 724 |
Ymhle roedd eich tad pan ddigwyddodd hyn? |
|
|
(3, 0) 726 |
O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol! |
|
|
(3, 0) 728 |
Wel, meddwl fod hyn wedi digwydd ac yntau'n—{Petrusa.}. |
|
|
(3, 0) 731 |
Ydi, mi wn, ond─ |
|
|
(3, 0) 741 |
Rhag cwilidd i chi'r eneth annuwiol, rydach chi'n waeth na phagan. |
|
|
(3, 0) 868 |
Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti. |
|
|
(3, 0) 870 |
Mae mwy o gur yn dy galon di, Eifion bach. |
(3, 0) 871 |
Dywed beth yw'r mater. |
|
|
(3, 0) 874 |
Ac wedi dewis llwybr yr Eglwys? |
|
|
(3, 0) 877 |
Nel Davis! |
(3, 0) 878 |
Rydach chi wedi mynd a mrawd oddiarnaf, ac wedi dwyn y gweinidog oddiar Eglwys Seilo. |
|
|
(3, 0) 882 |
Mae Eifion newydd ddeyd wrth flaenoriaid Seilo ei fod am eich priodi, er y gŵyr o o'r goreu beth fydd y canlyniad; y funud y priodith o chi, mi fydd yn rhaid iddo godi ei bac oddiyma. |
(3, 0) 883 |
Mi ddylech fod yn falch o'ch diwrnod gwaith. |
|
|
(3, 0) 888 |
Gofynnwch iddo fo. |
(3, 0) 889 |
Mae newydd rybuddio'r blaenoriaid o'i fwriad i'ch priodi er y gŵyr o y digia fo bawb drwy'r lle wrth neud hynny. |
|
|
(3, 0) 892 |
Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pulpud i bregethu'r Efengyl, a dyma'u tâl. |
|
|
(4, 0) 1162 |
Eifion! mi alwodd y Doctor acw rwan i ddeyd fod arnat eisia ngweld i. |
|
|
(4, 0) 1168 |
Nel Davis! |
|
|
(4, 0) 1170 |
Newch chi ysgwyd llaw â fi ac anghofio? |