|
|
|
|
(1, 1) 103 |
Yli, Jonah, does gen i ddim ond dwy law. |
(1, 1) 104 |
A fedra i ddim bod mewn dau le ar unwaith. |
|
|
(1, 1) 106 |
Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn? |
|
|
(1, 1) 109 |
Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf. |
|
|
(1, 1) 114 |
Twt, chdi a dy ddrama! |
(1, 1) 115 |
Dwyt ti'n meddwl am ddim arall. |
(1, 1) 116 |
Dy ben yn y gwynt, a rhywun arall yn gorfod gwneud y gwaith i gyd. |
|
|
(1, 1) 119 |
A'r busnas yn mynd yn llai bob dydd. |
(1, 1) 120 |
Siop wir! |
(1, 1) 121 |
Mi fydd yr hwch drwyddi gyda hyn. |
|
|
(1, 1) 133 |
Dim eisio i ti fynd rwan. |
(1, 1) 134 |
Mi ydw i wedi gofalu amdano fo. |
|
|
(1, 1) 137 |
Tomos Morgan, Ocsiwniar. |
(1, 1) 138 |
Mi wyddost mor groen-dena ydi o. |
(1, 1) 139 |
Mi fuaset yn dy golled o werthu crys gwlanan. |
|
|
(1, 1) 155 |
Digon gwir. |
(1, 1) 156 |
Mi ydw i wedi dal heb gwyno'n rhy hir, fel roeddwn i wiriona. |
(1, 1) 157 |
Ond mae yna derfyn ar amynedd y gora. |
(1, 1) 158 |
A ma' hi wedi dwad i'r pen. |
|
|
(1, 1) 160 |
Bob dim ar draws ei gilydd─busnas yn mynd i lawr a John Defi efo'r frech goch. |
(1, 1) 161 |
Sut mae modd i neb ddal? |
|
|
(1, 1) 170 |
Dydio ddim yn beth naturiol iddo fo golli ei lais yn llwyr. |
(1, 1) 171 |
A dyna'r Steddfod Genedlaethol ymhen pythefnos. |
(1, 1) 172 |
Cam cyntaf ei yrfa fo. |
(1, 1) 173 |
'Roedd o mor saff o'r wobr gynta ar yr unawd soprano â mod in' sefyll yn fan'ma. |
(1, 1) 174 |
Ond dyna fo, be ydi'r iws siarad? |
(1, 1) 175 |
Does gen ti ddim mymryn o ddiddordeb ond yn dy betha dy hun. |
|
|
(1, 1) 183 |
Digon gwir. |
(1, 1) 184 |
Fydd yna ddim cerpyn ar y silff i werthu gyda hyn. |
|
|
(1, 1) 192 |
Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma! |
|
|
(1, 1) 199 |
Tawn i wedi swnian dipyn mwy mi fuaswn yn fwy fy mharch. |
(1, 1) 200 |
Dydi o ddim yn sylweddoli bod yn rhaid i wraig siopwr fyw i fyny i'w safle. |
(1, 1) 201 |
Mi ydw i'n teimlo fy hun yn flerach na neb yn y lle yma. |
(1, 1) 202 |
Mae gen i gywilydd mynd allan bron. |
|
|
(1, 1) 207 |
Pwy sy'n mynd i dalu? |
|
|
(1, 1) 209 |
Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti. |
|
|
(1, 1) 211 |
Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti. |
|
|
(1, 1) 214 |
Wel? |
|
|
(1, 1) 216 |
Lle mae'r arian? |
|
|
(1, 1) 219 |
Be! |
(1, 1) 220 |
Dim o gwbwl. |
(1, 1) 221 |
Dydw i ddim am brynu dillad ar lab yn siwr i ti! |
|
|
(1, 1) 226 |
Wyt ti'n meddwl am funud y buaswn i'n mynd at Lloyd o bawb heb arian parod? |
(1, 1) 227 |
Yr hen siswrn mwya' crintachlyd yn yn y lle yma! |
(1, 1) 228 |
A'i wraig o sy' gymaint o ledi fawr! |
(1, 1) 229 |
Mi fuasa' sôn amdana i drwy'r sir cyn pen wythnos. |
|
|
(1, 1) 232 |
Mi fuasa'n well gen i fynd o gwmpas mewn barclod brâs a chlocsia na gofyn am hances-boced am ddim ganddyn nhw! |
|
|
(1, 1) 234 |
Sut y medri di feddwl am y fath beth? |
(1, 1) 235 |
Oes gen ti ddim teimlad o gwbwl, dwad? |
|
|
(1, 1) 238 |
Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i. |
|
|
(1, 1) 243 |
John Defi reit siwr. |
|
|
(1, 1) 245 |
Beth sydd arno fo eisio sgwn i? |
|
|
(1, 1) 249 |
Edrychwch yma, Lusa Defis, mi ydw i'n gwybod sut i fagu fy mhlant heb gyngor neb, diolch yn fawr! |
(1, 1) 250 |
Mi ydw i wedi llwyddo'n o lew hyd yn hyn rydw i'n meddwl. |
(1, 1) 251 |
Mae Dilys wedi cychwyn ar ei gyrfa. |
(1, 1) 252 |
A fydda i ddim yn fodlon nes y bydd John Defi hefyd â'i ddyfodol yn ddiogel. |
|
|
(1, 1) 258 |
Fuost ti erioed â dy ddau droed ar y ddaear, Jonah. |
(1, 1) 259 |
'Rwyt ti'n llawn o ryw blania mawr niwlog bob amser. |
(1, 1) 260 |
Ond fi sydd wedi edrych ar ffeithia wyneb yn wyneb, a rhoi nod i'r plant y medran' nhw gyrraedd ato fo. |
|
|
(1, 1) 285 |
O! |
|
|
(1, 1) 293 |
Wel sôn amdanaf fi'n tafodi! |
|
|
(1, 1) 307 |
Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly? |
|
|
(1, 1) 313 |
Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud. |
|
|
(1, 1) 318 |
John Defi! |
(1, 1) 319 |
'Roeddwn i wedi anghofio. |
(1, 1) 320 |
A does gen y peth bach ddim llais i weiddi. |
|
|
(1, 1) 322 |
Mi ydw i'n poeni nes 'rydw i bron â drysu yn ei gownt o. |
|
|
(1, 1) 325 |
Mi wna i'n hollol fel 'rydw i'n leicio, Lusa Defis. |